Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

r YSGOL SABBATHOL

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

r YSGOL SABBATHOL Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH D. OLIVER, D.D., TREFFYNOJS. L'BRILL 28ain. Joseph ffyddlon ya y Careliar.- Genesis xxxix. 20-xl. 15. Y TESTYN EURAIDD.—* Nac ofna ddim. o'r pethau yr ydwyt i'w dyoddef. Wele, y cyfch- raul a fwrw rai ohonoch chwi i garchar, feI y'ch profer; a chwi a gewch gystudd ddeng niwrnod. Bydd ffyddlawn hyd angeu, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.Da,t. ii. 10. 'RHAGARWEINIOL. WEDI i Joseph gael ei ddwyn i'r Aifft, pryn- "Wyd ef gan Putiphar, tywysog a distain Pharaoh, o law yr Ismaeliaid. Gwelodd Pati- phar yn fuan fod yr Arglwydd gyda Joseph, a bod pob IJeth yn llwyddo yn ei law. Rhoddodd yr oil oedd yn eiddo iddo dan ei law, a gwnaeth ef yn olygwr ar ei dy. Ond yn fnan daeth profedigaeth lem i gyfarfod Joseph. Oherwydd iddo wrthwyuebu hudoliaeth gwraig ei feistr, trodd yn elyn iddo, ac achwynodd arno ar gam. Bwriwyd ef i'r carchar. Ond gan ei fod yn ddiniwed, ysgafnhaodd yr Arglwydd ei faich, trwy roddi ffafr iddo yn ngolwg penaeth. y carchardy. lTIto bu yn rhald iddb ddyoddef yn ehwerw, oblegid dywedir yn Salm ev. 17-19, 'Joseph, yr hwn a werthwyd yn was. Cys- tucldiasant ei draed ef mewn gefyn ei enaid a aeth mewn heiyrn hyd yr amser y daeth Ei air Ef: gair yr Arglwydd a'i profodd ef ESBONIADOL. Adnod 20.—'A meistr Joseph a'i cymherth ef, ae a'i rhoddos yn y carchardy, yn y lie yr oedd earcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.' A meistr Joseph a'i cymherth ef. Putiphar. Efe oedd penaeth y tnilwyr-y body-çjtwrd-oedd yn gofalu am y brenin. A'i rhoddes yn y carchardy. Oarohar- wyd ef heb brawf ar dystiolaeth un oedd wedi methu ei hudo i ddrwg. Adnod 21.—'Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yn ngolwg penaeth y carchardy.' Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseph. Gan fod yr Arglwydd gydag ef, yr oedd yn enill dylanwad a ffafr lie bynag y gosodid ef I'r graddau y mae dyn yn debyg i Grist, y gall enill gwir ddylanwad. Ac? a roddes ffafr iddo. Y mae yn ymddangos fod ei garchariad ar y dechreu yn boenus a chreu- lawn, ond yn raddol ysgafnhawyd ei feichiau trwy ffafr penaeth y carchardy. Y mae Daw yn trefnu cynorthwy i'w bobl o leoedd rhyfedd iawn. Y mae yn debygolfod penaeth y carch- ardy yn adnabod. Joseph pan yn nhy Pntiphar, a'i fod wedi dyfod i greda yn ei ddiniweid- rwydd. Adnod 22.—' A phenaeth y carchardy a Roddes dan law Joseph yr holl garcbarorion, y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynag a Wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur.' A Roddes dan law Joseph yr Holl garcharorion. %n yn dangos ei ymddiriedaeth ynddo. Gwelwn yma nerth dylanwad cyeieriad da. Y Qiae yr hwn sydd yn gweithredu yn uniawn, pddiar deimlad o rwymedigaeth i uuiondeb, ac 1 Dduw, yn slcr o brofl fod Duw gydag ef Adnod 23.—' Nid oedd penaeth y carchardy Yn edrych am ddim oil a'r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gydag ef; a'r hyn a Wtiai efe, yr Arglwydd a'i llwyddai.' Am fod U" A rglwydd gydag ef. Gwelodd penaeth y Carchardy fod Duw gyda Joseph, a bod pob- peth yn llwyddo yn ei law ef, felly, 37-mddir Jedodd iddo holl faterion y carchardy. Period xl. adnod 1.—' A darfu wedi y pethau byi?' 1 drulliad brenin yr Aifft a'r pobvdd, echu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft.' p 't-(ll'fu wedi y pethau hyny. Trulliad—butler. -POblidd-ec,ok. Yr oedd Swydd butler yn un ? a° anrll.ydedcl«s yn y Dwyrain, ac felly hvn y Ond yr oedd y ddau swyddog ffaf faoseddu yn erbyn y brenin. Y mae r tywysogion yn ansicr iawn. ddtdnod 2. — A Pharaoh a lidiodd wrth ei Ban11 swyddog, sef wrth y pen-trulliad, a'r Sim ~P?')ydd-' A Pharaoh a lidiodd ivrth ei ddau hJ g- Pharaoh ydoedd enw swyddogol run yr Aifft. Tybir mai Aphophis oedd hwn. Adnod 3. Ac a'u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhy y distain, sef yn y carchardy, y lie yr oedd Joseph yn rhwym.' Ie a'u rhoddes mewn dalfa. Hyd nes y byddai iddynt gael eu profi. Yn nhy y distain. Sef Putiphar. Yr oedd ty y distain yn ngiyn a'r carchardy- Y lie yr oedd Joseph yn rhwym. Yn rhwym o ran ei gorff, ond yr oedd ei ysbryd yn rhydd. Nid ydyw y carchardy yr un peth i'r dyn drwg a'r dyn da. Adnod 4. A'r distain a wnaeth Joseph yn olygwr arnynt hwy ac efe a'u gwaasanaeth odd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.' A'r distain a wnaeth Joseph yn olygwr arnynt hwy. Hyn-yn dangos yr ymddiriedaeth oedd ganddo yn Joseph. Adnod 5. — 'A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ol dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aiffb, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.' A breudd- wydiasant freuddwyd ill dan. Y mae y ddau yn breuddwydio, ond yr oedd eu breuddv/ydion yn wahanol, ac yr oedd ystyr y brenddwydion yn wahanol. Nid breuddwydion cyffredin oeddynt, ond yr oedd yna ystyr broffwydol iddynt. Adnod 6 —' A'r borell y daeth Joseph abynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.' At. boreu y daeth. loseplt atynt. Pan yn cyflawni ei ddyledswyddau, gwelodd Joseph fod golwg athrist ar y trulliad a'r pobydd. Yr oedd eu breuddwydion wedi anesmwytho eu meddyliau, gan y tybient fod ystyr iddynt. Adnod 7. Ae efe a ymofynodd a swyddwyr Pharaoh, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nlly ei arglwydd, gaii ddywedyd, Paham y mae eicli wynebau yn ddrwg beddyw ?' Acefe a ymofynodd a swyddwyr Pharaoh. Yr oedd yn teimlo yn garedig tuag atynt, a gofldiai oher- wydd yr olwg athrist oedd arnynt. Gwyddai ei hun beth oedd dyoddef. Felly y mae yn eu holi hwy yn garedig am yr achos o'u tristwch. Adnod 8. I A dywedasant wrtho; Breudd- wydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseph a dywedodd wrthynt, Onid i Dduw y per thy 11 dehongli ? mynegwch, atolwg i mi.' Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. Nid oedd modd iddynt gael de- honglwr, a dyna oedd yn gwasgu ar eu meddwl Yr oeddynt yn y carchar. A Joseph a ddy- wedodd wrthynt, Onid i Ddmv 11 perthipi dehongli ? Y mae Joseph am eu harwain at Dduw, yn yr Hwn yr oedd efe yn ymddiried. Duw yn unig sydd yn gwybod y dyfodol, ac os parodd iddynt freuddwydio breuddwydion ag ■ystyr neiMuol ynddynt, Ufe yn unig all eu dehongli. Mynegwch, atolwg i lni. Gwyddai fod breuddwydion yn dyfod oddiwrffli Dduw, a'i fod yn rhoddi gallu i'w dehongli. Yr oedd ganddo hyder y buasai Duw yn rhoddi y gall u hwn iddo ef. Yr oedd ynddo rhyw ymwybydd iaefch y buasai Duw yn datguddio iddo eu hystyr. Adnod 9. — 'A'r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseph ac a ddywedodd wrtbo, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele win- wydden o'm blaen.' A'r pen-trulliad' a tynegodd ei freuddwyd. Yr oedd y winwydden yn bren gwerthfawr iawn oherwydd ei ffrwyth, a gofal mawr yn cael ei gymeryd i'w thrin. Adnod 10.—' Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megys yn blaendarddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug r awn win addfed Yn y winwydden yr oedd tair cainc. Tra yr oedd yn edrych, blaendarddodd y ceinciau; daeth arnynt flodau a ffrwythau. addfed. Adnod yr oedd cwpan Pharaoh yn fy Li aw a chymerais y grawnwin, a gwesg- ais hwynt i gwpan Pharaoh; a rhoddais y cwpan yn. Haw Pharaoh.' Chopan Pharaoh. Yr oedd y CWbIyn cael ei wneyd yn agored yn mhresenoldeb Pharaoh. Golchid y cwpan, gwesgid y grawnwin i'r cwpan, yna rhoddid y cwpan i'r brenin. Adnod 12.—' A Joseph a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehong-liad ef. Tri diwrnod yw y tair cainc.' Dyma ei ddehongliad ef. Cafodcl Joseph ddatguddiad o ystyr y breuddwyd. Heb hyn nis gallasai wybod mai tri diwrnod ydoedd y tair cainc. Adnod 0 fewn tri diwrnod eto Pharaoh a ddyrchafa dy ben di, ac a'thrydd di eilwaitli yn dy le a rhoddi gwpan- Pharaoh yn ei law of, fel y buost arfcrol yn y cyntaf, pan oeddyt drulliad iddo.' Pharaoh a ddyrchafa dy ben di. Y mae dyrchafu pen yn golygu ail ystyried yr amgylchiadau yn nglyn ag ef, ac wedi hyny ei ail osod yn y saile yr oedd ynddi o'r blaen. Adnod 14.—' Eto cofia li gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, a mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharaoh, a dwg ft allan o'r ty hwn.' lfJto cojiaf fl gyda thi. Cawn yma olwg ar deimlad Joseph. Yr oedd ei gaethiwed yn gwasgu arno, a hiraetha am ryddhad. Tybia y gall gael cynorthwy gan hwn; Ond nis gwnaeth. Yr oedd DLlW wedi trefnu ymwared i Joseph mewn ffordd arall. Adnod ,5. Oblegid yu lladrad y'm lladra- tawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fely bwrient fi yn ngharchar.' Yn lladrad y'm Uadratawyd. Yr oedd Joseph yn ymwybodol o'i ddiniweidrwydd, a dyna oedd yn ei alluogi i ymfoddloni i'r goruchwyl- iaethau chwerwon yr oedd yn gorfod myned trwyddynt. GWKRSX. I. Joseph, er yn y carchar, eto mewn awdur- dod vno. 1. Er ei fod yn garcharor, daeth yn feistr ar yr oil o'r earcharorion. 2. Yr oedd yn ymwybodol fod yr Arglwydd gydag ef. 3. Yr oedd yn mwynhau ffafr yr Arglwydd. Yu ei foddloarwydd y mae bywyd.' 4. Rhoddodd yr Arglwydd iddo ddyrchaflad. 5. Llwyddodd yr Arglwydd ef. II. Joseph yn dehogli breuddwydion. 1. Adroddiad y breaddwydion. 2. Dehongliad Joseph 3. Dangosodd ei onestrwydd, a'i allu, a'i ddoethineb. 4. Dangosodd dynerweh ei natur a'i gydym- deimlad ag ereiil. 5. Dangosodd ei ymddiriedaeth llwvr yn Nuw. GOFYNJADAII AR Y WERS. 1. Paham y rhoddwyd Joseph yn ngharchar ? 2. Pa fodd y rhoddwyd y fat, ymddiriedaeth ynddo gan geidwad y carchardy '? 3. Beth oedd dirgelwch llwyddiant Joseph yn y carchardy ? 4. Pwy a olygid wrth y brulliac1 a'r pobydd ? 5. Pahall1 y rhoddwyd hwy yn y carchar? 6. Beth oedd salle Joseph yn ei berthynas a hwy ? 7. Beth oedd yr achos o'u tristwch ? 8. Pa fodd yr ymddygodd Joseph atynt ? 9. Beth oedd ei gais neillduol i'r truiliad ?

[No title]

Advertising