Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENI, PRIODI, A MARW. DALIER SYLW.-Ein telerau am gyhoeddi Barddoniaeth gysylltiedig a hanes Genedigaeth, Priodas, neu Farwol- •eth, yw tair ceiniog y llinell. Y t&l i'w anfon gyda'r Fardd- oniaeth. MARWOLAETHAU. WiLLiAMS.—HbrHl laf, Mr Robert Williams, Tyddyn Mawr, Chwilog, yn 86 mlwydd oed. Claddwyd ef yn Mynwent Capel Helyg y dydd Gwener canlynol. Yr oedd ei angladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yn y gymydogaeth. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parchn Joseph Evans, B.A., ei weinidog, a H 0 Jones, Brynaman, an a fagwyd yn Chwilog. Dywed wyd ychydig eiriau wrth y bedd gan y Parchn J titans, B.A. H 0 Jones D Jones, Brynllefrith T Williams, Capel Helyg; a Mr E Jones, Plas, Chwilog, a gweddiwyd gydag eneiniad gan y Parch H Davies, Abererch. Yr oedd Robert Williams yn hen ddysgybl.' Daeth at grefydd yn y flwyddyn 1849 i Gapel Helyg. Dewiswyd ef yn ddiacon, yn ysgrifenydd yr eglwys, ac yu ddechreuwr canu yn tuan Symudodd i fyw i Tyddyn Mawr, Chwilog, tua 46 mlynedd yn ol, a daeth yn aelod i Silob. Dewiswyd ef yn ddiacon ac yn flaenor y g&n, ac yn ysgrifenydd yno yn fuan. (Jafodd ugeiniau o gen- adon hedd groesaw mawr yn ei dy. Daliodd yn flyddlon hyd y diwedd. Ei Dduw a fyddo yn gysgod i'w unig ferch a'i ddau fab a adawo .d ar ol, ac a fuont yn dirion iawu wrtho yn ei honaint.Ilen Gyfaill.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CREDIR y bydd i bysgodwyr Newfoundland dda f&O.OOO o forloi (seals) yn ystod y tymhor hwnl ^ewyud da i ferched.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
pHXARCH ER«C«TH HGOLDEM RETURMS 11 REGISTERED 13 -t.IIIIII.I\I"1 IlIt. 'f!; Darlun 0 Pecyn Wns. ARCHER'S GOLDEN RETURNS. PERFFBITHRWYDD MYGLYS PIB.
.SILOH, GLANDWR. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SILOH, GLANDWR. Cyngerddau.-Y mae yr eglwys hsn yn ddiweddar wedi ei breintio ag amryw wleddoedd cerddorol-yn gyntaf gan Obeithlu'r capel, dan arweiniad Mr William Hughes yna gan Obeithlu Cangen Godre'r Pare, dan arweiniad Mr Richard Williams, yn cael eu cynorthwyo gan gerddorfa linynol y lie, dan arweiniad Mr J. E. Gething ac yn olaf, nos Sadwrn, Ebrill 6ed, cafwyd organ recital llwydd- lanus gan Mr Joseph R. Williams, organydd gweithgar a galluog y capel. Chwareuodd Mr Williams amryw ddarnau cerddorol o radd uchel, a dangosodd ei fod yn feistr trwyadl ar ei waith Cynorthwyid ef gydag unawdau gan Mrs D. T. Williams, F. R.C.O., Abertawe; Miss Tilly Richards, R. A.M. a Mr John Lewis, arweinydd cor y capel-yr oil yn blant yr eglwys Daeth cyntfileidfa luosog yn nghyd, a dangosasant drwy arwyddion amlwg a sylweddol eu gwerthfawiogiad o'r arlwy Cadeiriwyd gan y Parch R. Thomas, gweinidog. Da iawn oedd genym weled arwyddion fod Mr Thomas o'r diwedd yn dangos arwyddion fod ei nerth yn dychwelyd ar ol ei gystudd blin, yr hwn a'i hanalluogodd i gyflawni ei waith am bedwar mis. Y mae yn awr er's rhai misoedd yn pregethu yn iheolaidd, ond araf iawn yr adnewyddai ei nerth ond yn y dyddiau diweddaf, dengys arwyddion arnlwg o adnewyddiad, er boddhad mawr i r eglwys a'r ardal yn gyffredinol, a wiloedd ereill drwy bob rhan o Gymru. Tysteb i r Parch R. Tliomas.-Y mae bellach 30 wlynedd i'r mis hwn er pan ddaeth Mr Thomas o r Brithdir, ger llaw Dolgellau, i gymeryd gofal yr eglwys yn Siloh, ac yn y dyddiau hyn y mae yr eglwys a'r gytiulleidfa wrthi yn brysur yn parotoi i Wneuthur tysteb iddo i ddathlu yr amgylchiad, ac i ddangos eu parch iddo, eu hanwyldeb tuag ato, a'u gwerthfawrogiad o'i lafur a'i wasanaeth yn y gor phenol, a'u hyder am barhad o'i weinidogaeth uwchraddol, ei farn addfed, a'i ddylanwad dyrchafol ar yr eglwys a'r ardal am flynyddau etc i dd'od. Cynelir cyfarfod yn Siloh, nos Sadwrn nesaf, yr 20fed cyfisol, i gyflwyno'r dysteb, pryd y bydd yn dda gan yr eglwys, a gwn gan Mr Thomas hefyd, i Weled lluaws o'u cyfeillion yn bresenol. GOHEBYDD.
UNDEB CANU EGLWYSI ANNIBYNOL…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB CANU EGLWYSI ANNI- BYNOL DOWLAIS A PHENYWERN. Beivniadaeth ar y Ftircieloniaeth, sef Deuddeg Llinell eyfaddas i Anthem i Blant. Byialleii-Nid yw'r ymgeisydd wedi nodi el destyn. Y mae yn amlwg mai un yn dechreu ar y gwaith o gyfansoddi ydyw-gwallus yn ei sillebiaeth, vn neillduol yn rheol y Ilythyren h, y mae y cyfan- oddiad, ae annaturiol. Eto na ddigaloned ym- mered at ei ramadeg. ,Ilair.-Y mae Mair yn ymgynyg at symlrwydd, o 1 y mae ganddi rai llinellau cyffredin iawn, ac amlyga anghynefinrwydd a rheolau yr iaith. Hefyd y mae ganddi dor-mesur yn y llinell olaf yr. y penill cyntaf a'r ail. Ond cofied y ddiareb, Ymdrech a drecha.' lolo.—Llinellau amddifad o newydd-deb a gwasg- arog mewn meddyliau. Defnyddir y rhif unigol yn y geiriau I fu farw' yn canlyn yr enw Iluosog merthyron. I Syniad anmhriodol ydyw I gwisg,) arfaeth Duw.' Bwriad ydyw meddwl y gair arfaeth. Credwn mai arfogaeth oedd yn meddwl lolo. Arwisg ydyw arfogaeth. Er ei ddiffygion, y mae gan yr awdwr ambell linell gymeradwy. Cymro,-Y mae ymgais yr awdwr yn edmygol ymegnïa at newydd-deb yn y ddau benill blaenat, ond y mae yn colli ei nod yn y penill diweddaf. Nid ydym yu hoffi ei gynllun o gyfansoddi tri phenill ar fesurau gwahanol. Tuedda mynych newid y mesur mewn unrhyw gyfansoddiad ei wneyd yn ysgafn a diaddurn. Yr ail benill sydd hefyd yn anystwyth. Eto y mae graddau o deilyngdod yn y llinellau. Brython.-Penawd yr awdwr ydyw 'Cymhelliad,' ond ni nodir cymhelliad i beth. Dhubeniiiswyno) a pheraidd ydynt y ddau flaenaf, ac y maent yn ganadwy. Newidir y mesur yn y penill olaf, a fturfia math o gydgan, felly gwna y cyfansoddiad yn fwy cymhwysiadol i ymdeithgan (march) nag i anthem; ac y mae amddifadrwydd o wreiddioldeb yn y penill olaf, sef- Awn yn mlaen, awn yn mlaen yn ddi-ildio,' &c. Cymro Bach.—Llinellau cymeradwy, priodol, a chyfaddas i blant, gyda'r eithriad o fod rhai llineilau ddim mor Ilithrig ag a weddai i blant er eu parablu. Ceir ambell linell hefyd ag sydd mewn gwth o oedran, sef— Coronwn yr lesu yn ben.' Ond y mae teleidrwydd yn nodweddu amryw o'r llinellau. Ymgeisydd.—Nid yw ymgeisydd wedi nodi ei destyn. Ei fater ydyw-Deisyfiad plant am fod o wasanaeth i Grist mewn ffurf o weddi. Y mae y ddwy linell flaenaf ag ychydig o arwyddion henaint arnynt. Yn y drydedd linell cychwyna Ymgeisydd gyda mwy o newydd-deb, a deil yn mlaen felly hyd y diwedd Y mae y cyfansoddiad drwyddo yn fwy cryno na'r un yn y gystadleuaeth ar gyfrif fod yr awdwr yn glynu wrth, ac yn cadw ei olwg ar yr hyn y ceisia ymdrin arno. Y mae y cyfansoddiad yn syml a threfnus. Ymgeisydd a ddyfarnwn yn oreu, ac y mae yn deilwng o'r wobr. Dowlais. EDWARD WILLIAM. —
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
yn byw wrtho ei litiu yu Penclogwyn, Pentrefelin, ger Porthmadog, yn farw yn y ty. Y tro diweddKf y gwelwyd ef oedd dydd Gwentr pan oedd uewydd ddychwelyd 0 fod yn ceisio ei d&l plwyfol. f——IM—IIIllll illlllilll 1III11 liIWi I IIIMlMlitlMMIIIIIBMIMIl BRYSIWOH 1 I gelso potelaid gan y Fferyllydd nesaf atoch, cyn i'r I Anwyd fyned yn waeth. ■ Coftwcb Gough HUGH DAVIES, MACHYNLLETH. I 131d-a 219 y botel. —«CLJJ DAVIES'S COUGH MIXTURE. At Beswch, DAYIES'S COUGH MIXTURE. /ynwyd, 8 DAVIES'P COUGH MIXTURE. Asthma 1 DAVIES'S COUGH MIXTURE. I D.WIES'S COUGH MIXTURE. Bronchitis, | DAVIES'S COUGH MIXTURE. Pas, Crygni.i COUGH MIXTURE. T"fluenZ9.. momw r MAE POEN AKXYODDEFOL YN FY MHEN, ACBYH. WYF YN TEIMLO A [OR GLAF A BILIOUS FEL NAD WYF YN GWYBOD BEt'ti ] W AVNEYI> Mae miloedd Wyr a Gwragedd, llanciau a Genethod o bob oedran, yn cael eu poetii yr un fath, nes gwneyd bywyd yn bur feichus. Pe bai pawb yn gwybod mor effeithiol yw HUGHES'S BLOOD PILLS Nid oedent lin foment eu cymeryd hwynt. Mae effeithiau y Pills hyn braidd yn wyrthiol. Maent yn rhoddi esmwythad baan a iachad i'r DOLUR PEN BILIOUSNESS DIFFYG TRAUL ISELDER YSBRYD GWYNT PILES CLEFYD YR ARENAU AFU DRWG RHEUMATICS CORFFRWYMEDD POEN CEFN SCURVY CROENDARDDIAD ECZEMA CoOer fod gwreiddyn y drvvg yn y Gwaed, a bod yn rhaid Puro y Gwaed cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. At Buro y Gwaed, Nid oes dim cyffelyb iddynt. Maent yn cael effaith uaio ngyrchol allwyddiauus ar yr holl gyfaiisoddiad. ♦ Y BOBL YN TYSTIO. (DYFYNIAD O'R LLYTHYJTAU.) Syr, -Nis gallaf lefaru yn rny uchel am HUGHES'S BLOGD PILLS. Hwy a'm gwellasanto ymosodiad llym iawn o Ddolnr Pen, Biliousness, a ehvflwr budr y cylla, a hyny mewn byr amser. Wigan. C. JAMRS. Syr,-Yr ydwyf wedi bod mewn cytlwr gwan iawn am flsoedd lawer-poenau enbydus yn fy Arenau a'r Cdn, gyda Rheumatics, Poen yn y Pen, Gwynt, Diffyg Traul, a Chylia drwg. Yr oedd hyn oil yn cael ei achosi gan Waed Drwg yn gwenwyno yr holl gortf. Mi gefais wellliad buan drwy gy- meryd HUGHES'S BLOOD PILLS. WM. JONRS. Pembroke-terrace, Pontypool. Syr,—Yr wyf we ii bed yn ddyoddefydd mawr gan boenau erchyll yn fy Mnen a'm Cefn, Gwynt, a Diffyg Traul. Cefais fy anog i gymeryd HUGHES'S BLOOD PILLS, ae fe wnaethant ddaioni rhyfedd i mi. Vr wyf yn awr yn holliach. Elms street, Ferndale. SARAH PHILLIPS. Mae'r Pills hyn yn gwneyd Daioni bob tro. Wrth brynu, gofynweh 'HUGHES'S BLOOD PILL Mynwch weled y T ade Mark Llull Calon, fel hyn ougomm- bob Box. Heb liAW hyn nid ydynt yn W bur. GWRTHODWCH BOB PETH ARALL. q #,W Ar werth gan bob Chemist a Stores am Is lie a 2s 9c., 4a 0c neu danfoner eu gwerth mewn P. O. neu stamps at Jacob Hughes, M.P.S.L.D.S., Manufacturing Chemist Penarth," Cardiff