Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
ABERGWYNFI A'R CYLCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ABERGWYNFI A'R CYLCH. Glofaol.-Niid oes yr un gobaith. am i un o'r gweithfeydd yn y lie hWll i gycliwyu. Y mae tua dwy fil o weitliwyr allan o waith er's mis- oedd bellacli, ac hyderaf y daw pethau eto i'w cwrs arferol yn fuau, am y rheswm llac1 oes yr lln anghydwelediad rliwixg y meistri a'r gweith- Wyr, ond yn unig nad yw y gweithfeydd yn talu i'w gweithio. T-, isteddiod.-Nos Weiier y Groglith, yn Neuadd y Gweithwvr, cawsom eisteddfod ar raddfa fechan ond llwyddianus liollol, ynglyn a porthi Plant anghenus y lie, y rhai sydd yn cael boreu- fwyd a chiniaw bob dydd. Daeth tyrfa yn nghyd, a Ilywyddwyd gan y Parch J. Williams. Ar- weinydd, Llwcliarian, wrth gwrs. Beirniad y canu, Mr John Evans (M.C.) Yr adroddiadau a'r farddoniaetli, Mr Wm. Edwards, llyfr- Werthydd. Cafwyd cystadleuaeth dda o'r dech- reu i'r diwedd. Bnillwyd y prif wobrau gan Gor y Wesleyaid a Chor Plant Soar. Cymanfa Ganu.—Liu 11 y Pasg, cynaliwyd Cy- 111anfa Gerddorol y Cylch hwn yn Nebo, Glyn- Corwg. Llywyddwyd yn nghyfarfod y plant all1 10.30 gan y Parch J. Williams, Abergwynii, 1 a chafwyd. gwledd o'r fath oreu wrth wrando arnynt yn canu y tonau canlynol :—' Agor i'r Goleuni Glan Coron i'r Plant Paid a ('vrthod; '0 Iesu, 'rwy'n Dy garu; Haul 7 Cyfiawnder goda 'Mi garwn fod yn Grist- !on Dyddiau Hyfryd Ewch dros yr Hen, IIen Hanes a Diod Duw.' Llywyddwyd yn y prydnawn gan y Parch D. Jones, Hebron, pymer, pryd yr aed drwy y rhaglen a ganlyn Aylesbury Moliant; Machynlleth Chant Mornington;' Castell Emlyn;' Tyred, Ysbryd, yn Arweinydd '—ton fuddugol Cyman- ^a 1908 Tangnefedd a'r anthem—' Huna, 131eiltyii Iesu' (J. Williams). Llywyddwyd yn Nghyfarfod yr hwyr gan y Parch W. R. Lloyd; ebo, Glyncorwg. Canwyd y tonau a ganlyn :— Rernlein Stella Rhoslan Cwrn- afon Emyn y Pasg Propior Deo Ileriiloii; a'r anthem, Wylwn (Dr Parry). Yr arweinydd y tro yma oedd yr hen gerddor a'lnabyddus—Mr D. W. Lewis, Brynaman, a gwnaeth ei waith yn ganmoladwy—dyna yw ei arfer. Cyfarfodydd Pregethu.—Cynaliodd Tabor ei S^yfarfodydd blynyddol Ebrill i8fed a'r igeg. regethwyd yn rymus ac yn effeithiol iawn gan y Parchn Gwilym S. Rees, B.A., Llandysul, a li. T. Jacob, Peniel, Caerfyrddin ni raid i'r brodyr wrth ganmoliaeth. Cafwyd casgliadau rhagorol o dan amgylchiadau y lie. Nebo, Glyncorwg. -Da genym glywed fod y Parch W. R. Lloyd wedi penderfynu aros yn Qihlith ei braidd a phobl ei ofal, ar ol yr alwad ^aer ac unfrydol a gafodd o eglwysi Seisonig Florence a Manorbier, Penfro. Llwyddiant tt°Uol j?w gweinidogaeth Mr Lloyd oddiar y Jftae yn Nebo. Llawenydd oedd genyni glyAved od yr egiWyS wedi datgan yn unfrydol ya erbyn 5"io syrnud o'u plith, ac y maent wedi cario'r Ydd. Da iawn, Nebo. T. W.
CAERSALEM, PONTYBEREM.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERSALEM, PONTYBEREM. Cyfarfod Aitrhegit.-Nos Wener, Ebrill 16eg, cynaliodd Cymdeithas Pobl leuainc yr eglwys ucliod gyfarfod neillduol i'r amcan o anrhegu eu llywydd a 'a hathraw da, y Parch B. Morris, gweioidog; ac, yn wir, y mae ei ymdrech a'i lafar diiliijo yn ein plith yn ystod y tyinhorau sydd wedi myned heibio yn haw-lio ein cymer- adwyaeth uchaf. Llywyddwyd yn y cyfarfod hwn gan y brawd R G. Grilliths, ac yr oedd ef, fel arfer, yn ei hwyliau goreu Cymerwyd rhan yn y cyfarfod fcrwy ganu, adrodd, a chwarevi. gan y rhai caiilyriol :-Robert E. Carr, Tom Hughes, Mrs Jones (Ardwyn), Letitia Jones, W. D. Griffiths, Joseph Thomas, Oliver Thomas, E. J. Davies, Edwin H. Griffiths, W. D. Griffiths. Wedi anerchiad gan y Cadeirydd ar nodweddion Mr Morris fel athraw, cyflwyn wyd iddo ddau lyfr hardd, yn dwyn yr enw Dictionary of Christ and the Gospels,' a pocketcornrnnnion service. Cyn galw ar ein parchus athraw i ateb, datganodd y brodyr canlynol eu teimladau da tuag ato :-David Jones (New Lodge Cottage), D S Davies, D. Jones (Ardwyn), D. J Thomas, J. Howells, Dan Lewis, a Theophilus James. Yna atebodd Mr Morris mewn modd teimladwy iawn. Diolch- odd yr athraw yn gynes i'r bobl ieuainc am eu teimladau da tuag ato, ac. hyderai y cai fywyd ac iechyd Fw gwasanaethu eto yn well nag erioed. Y11 awr terfynaf, gan ddymuno iddo hir oes a benditb. y Nef yn amlwg ar ei holl weithrediadau yn ein plith. DYSGYBL.
J CYFUNDEB DINBYCH A FFLINT.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
J CYFUNDEB DINBYCH A FFLINT. Cynaliwyd y Cyfarfod Chwarterol diweddaf yn Penypyllau, ar y dyddiau Llun a Mawrth, Ebrill igeg a'r zofed. Pfegethwyd yn y lie nos Lun gan y Parchn. W. Morgan Davies, Aber- gele, a T. Roberts, Wyddgrug. Am 11 yr ail ddydd, cafwyd Cynadledd, dan lywyddiaeth Mr J. Wilcoxon, Coedpoeth, y Cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch W. James, Sarn. Wedi darllen a chadarnhan v pofrmrli^n i. Cyflwynodd y Parch Dr Pan Jones i sylw y Gynaclledd Mr Isaac Williams, o Ffynongroew, fel un sydd wedi dechreu pregethu yn ddiw- eddar yno. Enwyd, dros y Gynadledd, y Parch H. Ivor Jones, at frawd o ddewisiad 'yr eglwys, i fyned i arholi y brawd cyn ei gymeradwyo yn rheolaidd gan y Gynadledd. Hefyd, croesawyd trwy ddeheulaw cymdeithas, fel pregethwr rheol- aidd, Mr Rees Jones, ysgolfeistr yn Treffynon. Croesawyd i gydeistedd a. ni yn y Gynadledd y Parch John Samuel o'r America, yr hwn sydd newydd ddyfod trosodd ar ymweliad. 2. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Graian- rhyd, Llanarmon, yn ol y gylclires. I bregethu ar y pwnc, y Parch J. Howells, Ponciau i bregethu ar Ddirwest, Mr. H. Edwards (Huwco Penmaen), Rhyl; i ddarllen papyr yn y Gynadl- edd, y Parch W. Daniels, Tanyfron. 3. Pwyllgorau yr Undeb Dewiswyd ar Bwyllgdr Llenyddiaeth, y Parch J. D. Jones, Brynteg yr Ysgol Sul, y Parch H. Ivor Jones,' Caer y Caniedydd,' y Parch T. Roberts, Wyddgrug Dirwest, Mr D. Jones, Hartsheath y Gronfa, y Parch Dr Oliver ar Fwrdd Cyfar- wyddwyr Cymdeithas Llundain, Mr J. Wil- coxon, Coedpoeth. 4. Gohiriwyd ystyried adroddiad yr is-bwyll- gor ar ran y Cyfundeb hyd rhyw amser arall. 5. Cymeradwywyd cais eglwys Connah's Quay am gymhorth o'r Gronfa at adeiladu capel newydd. Vstyriai y Gynadledd ei fod yn achos gwir deilwng, a mawr hyderai y gallai y Gronfa weled ei ffordd yn glir, nid yn unig i roi benthyg swm ar log isel, ond hefyd i estyn rhodd tuag at brynu tir i adeiladu. 6. Cymeradwywyd yn unfrydol y bwriad i benodi Cymro yn gynrychiolydd dros Gymru i'r Gymdeitahs Genadol, yr hwn fydd yn swyddog yn y Ty Cenadol, ac yn rhoddi ei holl amser i drefnu a hyrwyddo gwaith y Gymdeithas yn Nghymru. 7. Pasiwyd fod llythyr o gydymdeimlad i gael ei anfon at y diacon ffyddlawn, Mr. R. George, Connah's Quay, yn ei brofedigaeth chwerw o golli ei briod. Wedi hyn, galwyd ar y Parch W. M. Jones, Llanelwy, i ddarllen papyr a barotoisid ganddo ar Ffyddlondeb i'n Hymrwymiadau.' Cafwyd papyr byr, ond cynwysfawr, a gwir ragorol. Diolchwyd i Mr Jones am dano, a dymunwyd am iddo gael ei gyhoeddi yn un o gyhoeddiadau yr Enwad. Y MODDION CYHOIvDODS. Pregethwyd yn y lie am ddau gan y Parchn R. Evans, Nant, yr hwn a bregethai y bregeth Genadol, a J. Howells, Mynydd Seion, Poncian. Am 6.30 pregethwyd gan y Parchn T. Ogwell Griffiths, Rhyl, ac H. Ivor Jones, Caer. Y mae gwedd lewyrchus ar yr achos yn Pen- ypyllau, dan ofal y Parch Dr Oliver. Y mae yma gapel hardd, ac newydd orphen talu ei ddyled. Rhoddodd yr eglwys a'r gweinidog dderbyniad croesawgar i'r Cyfarfod Chwarterol, a diolchwyd yn gynes iddynt am y croesaw a'r sirioldeb. Yn absenolcleb y gweinidog, yr hwn oedd dan orfod myned i Fangor, arweiniwyd gan y Parch H. Uwchlyn Jones, Rhesycae. T. ROBERTS, Ysg.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
-I;I' pHTARCHERAG^l PIDEHRETUBHS I BEG1STEHEP _\«|i WM ::i:;¡:n:1nlllll'" II In,, Darlun 0 Pecyn Wns. A R E ¡'i. :\¡ (kj GOLDEN RETURNS \.j ,.H L. [\l.1; -< ¡- PERlfFELTHRWYDDMYGLYS FIB.
CAERNARFON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERNARFON. MARWOI,AETH MR R. R. STYTHE. „ filin genym gofnodi marwolaeth Mr R. R. Stytl-le, Caernarfon, gwr tra adnabyddus niewn ^ylehoedd cylioeddus, ac yn ngwersyll Aimi- j^iaeth yn Ngogledd Cymru. Yr oedd wedi ^y°ddef er's cryn amser oddiwrth ddolur poenus, c aeth yn nghwmni ei wraig, a'i ferch a'i fab- Yll-llghyfraith (Mrs a Mr Jeremiah Williams, KoK°^ Abergele), i Bournemouth, 3m y Daith y caifai yno adferiad ond yn anffor- bu*US' ae^1 yn waeth yno, ac er pob gofal gan v ^P o feddygon blaenaf y wlad, bu farw yno luhell oddicartref. Ca eiQl^r c°Ued fawr ar ei ol yn eglwys Salem, g^aarfon, lie yr oedd yn aelod fiyddlawn a y 5 §ar, ac yn nghynadleddau yr Ernvad yn fa lr, i'r rhai y rhoddodd wasanaeth gwerth- j5 a pharod am hir flynyddoedd. 0c^ atlai o ochr ei fam o deulu Cymreig, ac o ^arl-*21 0 *^eum ddaeth i'r wlad hon o Den- yu J" ers dros ddwy ganrif yn ol. Ganwyd ef y& yn 1853, ac. yr oedd ei dad a'i daid CI ^inwyr (Freemen) o'r ddinas hono. ItllwvdHW^ ei dad pan nad oedd efe ond chwe' PUf-rtu oec*> a symudwyd yntau i fyw gyda °s0^d ?aasau ei fam yn Bethesda, Arfon. Dang- Pu-bu -r arl:ienig 7" ieuanc, a gwnaed ef yn 0 dan yn Ysgol Prytanaidd Caraeddi, yr eiiv. og Garmonydd. Wedi treulio chvy flynedd yn Ngholeg Bangor, penodwyd ef yn 1873, pan nad oedd ond ,;20 ¿oed, yn'brifathraw Ysgol Prytaiiaidd Caernarfon, yr hon yn fuau wed'yn a drosglwyddwyd i'r Bwrdd'f.Ysgol. fe felly oedd prifathraw cyntaf Vsgol y Bwrdd yn Nghaernarfon. Ymneillduodd o'r alwedigaeth hono, ac ym- gymerodd a'r gwaith o accountant ac estate agent, gan sefydlu busnes llwyddianus a llew- yrchus, yr hwn a gariwyd yn mlaen ganddo hyd ddydd ei farwolaeth. lVIewn gwleidyddiaeth yr oedd yn Rhyddfryclwr argyhoeddedig a selog, ac yn llawn o'r ysbryd Cymreig. Mewn cylchoedd Eistecldfodol mae ei enw yn adnabyddus am ei wasanaeth fel Ysgrifenydd Histeddfoclau Cenedlaethol Caemar.fon yn 1886 ac 1894. At wasanaeth y gyntaf o'r ddwy wyl fawreddog hyn yr adeiladwyd Pafilion Mawr Caernarfon, a gwnaed yr ail yn hanesyddol am ymweliad rhwysgfawr y Brenin a'r Prenines bresenol. Trodd y ddwy allan yn llwyddiant arianol mawr, a phriodolir hyn i ymdrech a medr arbenig Mr Stythe. Nid oedd ei wasanaeth i'w Enwad yn llai amlwg. Am y cyfnod hir o 17 mlynedd gwas- anaethodd fel Ysgrifenydd i Gytndeitlias yr Achosion Gweiniaid yn y sir, ac nid oes neb ond y sawl oedd a wnelent a'r Gymdeithas hono fedr werthfawrogi yn iawn faint y gwasanaeth a roddodd yn llawen, distaw, diymhongar, a rhad i'r mudiad. Pan ymwelodd yr Undeb a Chaernarfon yn 1902, gwasanaetliodd fel ysgrifenydd lleol, a thalodd y ddwy eglwys, Pendref a Salem, iddo y deyrnged anarferol o roddi anrheg hardd iddo mewn cydnabyddiaeth am ei wasanaeth, ac fel coffadwriaeth o'r amgylchiad. Yr oedd eglwys Salem yn arbenig o dan rwymau iddo am was- anaeth blaenorol yn nglyn ag ail-adeiladu'r capel pan oedd y diweddar Dr Herber Evans yn wein- idog. Yr oedd gan Dr Herber Evans syniad uchel am allu a ffyddlondeb Mr Stythe. Bu Mr Stythe yn arolygwr Ysgol Sul Salem am bedair blynedd, ac yn Athraw ynddi am 30 mlynedd, ac ar ddau amgylchiad anrhegwyd ef gan ei ddysgyblion. Crynhoir barn y rhai a'i hadwaenent i'r englyn canlynol a gyfansoddwyd iddo gan gyfaill a chyd-aelod :— Mwyn oeswr cymwynasol—oedd Stythe, Was dyddan a siriol; Fe fydd mwy gryii rwyg ar ol Marw gwr mor ragorol. Cafodd gladdedigaeth barchus dydd Gwener, Ebrill 23am, yn Mynwent Llanbeblig. Daeth torf o wyr cyhoeddus y dref a'r sir i dalu iddo eu teyrnged olaf o barch. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch Ll. Bryniog Roberts, Pendref, ac yn y fynwent gan ei weinidog, y Parch D. Stanley Jones, Salem. Amlygir cydymdeimlad cyffredinol a'i weddw a'i blaiiit--tair ilierch a mab.