Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
----.----.------EBENEZER,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EBENEZER, ARFON. CYFARFOD SEFYDUT. Nos Iau a dydd Gwener y Groglith, cynal- iwyd cyfarfod sefydlu y Parch E. Wynn Jones, gyiit o Salem, Rhos, yn weinidog ar yr eglwys uehod. Y gweinidogion a alwyd i bregethu ar yr achlysur oeddynt y Parclin J. Charles, Dinbych, a J. Dyfnallt Owen, Pontypridd, cyn- weinidog yr eglwys. Cafwyd ganddynt bregethau grymus ac adeiladol. Yn y prydnawn, o dan lywyddiaeth y Parch I. I. Jones, Maesydref, cynaliwyd y cyfarfod sefydlu, a chymerwyd rhan ynddo gan y Parchn Griffiths (hyn.), Griffiths (ieu.), a Richards, Bethel Teynon, Cwmvglo; Williams, Croes- oswallt Charles, Dinbych; Owen, Pont- ypridd Jones, Dysgwylfa (M.C.) Jones (M.C.), Cefnywaun Roberts (W.), Pen- isa'rwaun a Deiniolfryn, un o'r diaconiaid, a chan Mr Jones ei hun. Cafwyd hefyd unawd gan Miss Lewis, Llythyrdy, Ebenezer, a deuawd gan Misses Maggie a Lizzie Jones, Ebenezer. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y Parchn Evans- Owen, Llanberis Owen, Bontnewydd Roberts, Rhos a Thomas, Johnstown, yn gofidio oherwydd en hanallu i fod yn bresenol, ac yn dymuno llwyddiant Mr Jones a'r eglwys yn Ebenezer. Treuliwyd dwy awr gysurus, a dywedwyd pethau gwir angenrheidiol gan y brodyr, a chafwyd lianes cychwyniad yr achos yn y lie yn ei ddull dyddorol ei hun gan yr hybarch dad o Fetliel. Y mae Mr Jones yn frawd anwyl iawn. Hir fyddo ei arosiad yn y lie, a llwyddiant fyddo ar ei waith yn yr eglwys sydd o dan ei ofal ac yn y gymydogaetli yn gyff- redinol. R! CYMYDOG.
GOGLEDD CEREDIGION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOGLEDD CEREDIGION. pr Llcinbadar,),t. -Y gwahoddedigion i wasan- aethu yn nghyfarfod y Pasg yma eleni oeddynt y Parchn. R. G. Roberts, Llanelli; T. E. James, Maesteg a B. Davies, D.D., Castellnewydd- Emlyn. Ond methodd Mr Gwylfa Roberts a chyflawni ei addewid, a chymerwyd ei le gan y Parch E. Keri Evans, M.A., Caerfyrddin. Dymunol oedd gwrandaw ar y cenadon da hyn, am fod yr Efengyl o'u genau yn eglurhad yr Ysbryd a chyda nerth mawr. Talybont.Deil cyfarfod y Pasg yn ei fri yma drwy y blynyddoedd, ac yr oedd yn eithriadol felly eleni, pryd y cafwyd mwynhau gweinidog- aeth y Parchn J. L. Williams, M.A., B.Sc., Lerpwl E. Keri Evans, M.A., Caerfyrddin ac H. Elvet Lewis, M.A., Llundain. Gwnaed argraffiadau dyfniou, a chofir am y cyfarfod da hwn am amser hir i cldyfod gan laweroedd oedd yn bresenol. Da oedd genym weled y Parch R. E. Jones, y gweinidog, yn bresenol, wedi bod yn neillduedig am wythnsoau gan afiechyd blin. Boed iddo Iwyr adferiad yn fllan. Ponterwyd.—Cynaliwyd cyfarfod hauer-blyu- yddol yn y lie hwn yn nglyn ag Undeb Dirwestol Gogledd Ceredigion y dydd Mercher o'r blaen. Y11 y prydnawn cafwyd pregeth ddirwestol gref gan y Parch J. Miles, yn lie y gynadledd arferol gynelir, a phrofodd yn llwyddiant perffaith. Erys y dylanwad da gyuyreliwyd drwy y bregeth yn hir yn y rhanau hyny o'r wlad. Yn yr hwyr cafwyd cyfarfod cyhoeddus, o dan lywyddiaeth Mr. W. Evans, Ponterwyd a chafwyd anerch- iadau gan y Parchn 1,1. Morgan a R. Jones, Aber- ystwyth, ac amryw frodyr ereill na chawsom en henwau. Daeth cynulliad cryf yn nghyd i'r ddau gyfarfod, a theirnlwyd gan y rhai a ddaeth drwy y ddrycin ei bod yn werth yr aberth a wnaed ganddynt. Bow-street.Daetli cantorion gwahanol eglwysi y cylch yn nghyd yma nos Fercher, er cynal y rehearsal gyffredinol o dan arweiniad Mr Daniel Jones, C.M., Talybont. Caed canu rhagorol o'r darnau.. Salem.Y mae yn chwith genym gofnodi marwolaeth y brawd hoff Mr Morris Morris, Penrhiw, Salem, yr hyn a gymerodd le yr wythnos ddiweddaf, yn ei bedwar ugain mlwydd oed. Mab dyddan oedd efe, a cholofn gref i'r achos goreu yn Salem, lie y gwasanaethodd swydd diacon gyda ffyddlondeb mawr am flyn- yddoedd lawer. Cymerwyd rhan yn ngwasan- aeth ei arwyl gan y Parchn D. G. Lewis, ei
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
— • — ULCERATED STOMACH.- Flughes's STOMACH U HEALER. It has cured hundreds. Sufferers, try it; it will not disappoint you. Post free, 2s. lld.- HueHEStChemist, Nautymoel, Glam,
BETHANIA, TREORCI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETHANIA, TREORCI. Bu'r brawd ieuanc, Mr Tom B. Jones, yina wythnos cyn y Pasg yn pregethu ac yn casglu at Goleg Caerfyrclelin-yn hytrach, yr adran Atmibyiiol sydd yn perthyn i'r Coleg hwnw. Pregethodd yn hynod o gymeradwy i'r cynull- eidfaoedd mawr a'i gwrandawai, ac nid oedd neb yn rhyfeddu fod iddo air da yn yr eglwysi fel pregethwr. Cafwyd gweinidogaetli dyner a chyfeiriadol nodedig ganddo, ac yr oedd yn anwylach yn ngolwg ei gydnabod nag erioecl. Ond fel casglwr y 11lae y11 ddigymhar. Llwydd- odd cyn gadael y lie ar derfyn y gwyliau i gasglu dros f,22--iiid mewn addewidion, ond mewn avian sychion '—a dysgwylia, wedi y daw'r holl addewidion i ben,' y cyrhaedda y casgliad y witi anrhydeddus o £ 25. Dyma beth yw record mewn gwirionedd. Nid wyf yn gwybod am hanes i gasgliad cyffelyb wedijcael ei wneyd mewn un lie ar dudalenau adroddiadau yr un Coles. Cerddodd lawer i'w cael, ond cerddwr diarbed ydyw eto, cafodd hwy yn llawer rhwyddach nag y llwyddasai neb arall i'w cael. Mae yn adnabod pawb, a phawb yn ei adnabod yntau. Mae yn ffrynd i bawb, a phawb yn ffrynd iddo yntau. Pe cynygiasai fyned i fewn ar un o'r cynghorau, nid wyf yn meddwl y buasai gan neb arall rithyn o siawns yn ei erbyn. Mae wedi bod yn un o'r assets gwerthfawrocaf yn nglyn ag eglwys Bethania er yn ieuanc iawn, am flyn- yddoedd a thrwy'r blynyddoedd ac yn y Diwygiad diweddaf cafodd fedydd anilwg o'r Ysbryd Glau trwythwyd ef drwodd a thrwodd, ac eueiuiwyd ei berson a'i dalentau naturiol i waith y weinidogaeth mewn modd rhyfedd yn y misoedd rhyfedd hyny. Ond i ddychwelyd ato fel casglwr. Medr dynu arian oddiwrth bawb, heb fod neb yn digio wrtho. Dygodd Iuddewon a Cheuedloedd dan deyrnged. Pe gwelech ei lyfr, byddai yn ddatguddiad. Gwnaeth wrhydri yn sir For y cofir am dauo hyd y genedlaeth nesaf. Swynodd bapyr pumpunt oddiwrth Eglwyswraig barchus cyn pen ychydig fynydau wedi liiyned i'w chymdeithas. Ystyrid hyny yn cyfranogi o natur gwyrth ond yr oedd cael chweugain gan Fethodist yn sir For yn wyrth nacl oedd gwadu i fod ami, a gydnabyddid gaii dduwinyddion hen a diweddar. Cyflawnodcl orchestion tebyg yn sir Aberteifi, a chwyddodd gyfraniad sirol y ddwy y tu liwiit i ddim a ddychymygodd calon 11a chasglwr na rhoddwr erioed. Un o ddiffygion mawr y Pwyllgor Annibynol yn nglyn a. Choleg Caerfyrddin yw, peidio trefnu i'r bechgyn gasglu eu heglwysi eu hunain. Nid oes unrhyw drefliiai-it o com- pensation all gyfiawnhau dallineb o'r natur yma. Pe deuai rhywun arall yma, ni chawasi bum- punt ond dyma fachgen o'r eglwys yn cael pumgwaith pumpunt. A diau taw cyffelyb fyddai hanes y mwyafrif. Byddai yn ddoethach i Athrofa Caerfyrddin, yn anad un o'n Colegau, i astudio ei thrysorfa yn y goleu mwyaf ffafriol ag sydd yn bosibl iddi, oblegid y mae yn sicr o fod yn ddydd y prawf arni heddyw. Rhwydd liynt i'r bechgyn oil i hogi en cryuianau ar gyfer cynhauaf y dyfodol. D. RHAGFYK JONES. -==-=.==
MERTHYR VALE.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MERTHYR VALE. Llwyddiant Cerddorol.—Gorcliwyl pleserus i ni unwaith eto yw cofnodi llwyddiant y Cor Plant sydd wedi bod mor llwyddianus yn ystod y pum' mlynedd diweddaf. Cychwynasant o gartref boreu ddydd Mawrth y Pasg a daeth y newydd yn ol eu bod wedi llwyddo i gipio y wobr yn Llan- bradach, a chafodd ganmoliaeth eithriadol gan y beirniaid. Yna aethant i Bontypool. Aeth y son am eu llwyddiant yn y boreu drwy yr eisteddfod, a chafodd y cor dderbyniad gwreso gan y dorf aruthrol oedd yno, a chanmoliaetl unol y tri beirniad am eu datganiad gwir alluog cywir, a glan. Yr oedd y cor yn bwriadr cystadlu wed'yn yn Penybont, ond gan iddynl gipio y wobr, gorfu iddynt aros yn Pontypool ganu yn y gyngerdd yn yr hwyr. Canasant ddwy waith ar y llwyfan yna yniadawsant yn nghano: banllefau uchel o gymeradwyaeth. Bu'r cot mewn chwech-a-deugain o gystadleuaethau yn ystod y pum' mlynedd diweddaf, a chipiasanl bymtheg-a-rhugain o wobrwyon a thrysoran gwerthfawr ereill. Y mae Mr Idris J. Jenkins. A.C., yr arweiniydd, i'w longyfarch a'i gaumol yn fawr am ei ddiwydrwydd a'i amynedd. Rhifa y Cor Merched tua thriugain o leisiau, a'r Cot Bechgyn tua pliump-a-deugain ac, yn sicr, nid gwaith esmwyth yw dysgyblu dros gant o gor yn amrywio o uu-ar-ddeg i bymtheg oed. I fyny bo'r nod, yw dymuniad llawer heblaw EWYIJ.YSIWR DA.
EBBW VALE. -----.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EBBW VALE. The Ebbiv Vale and District Free Church- man.'—Dyna enw cyhoeddiad sydd yn cylch- redeg, yn benaf, yn mhlith aelodau eglwysi Cynghor Eglwysi Rhyddion EbbwVale a'r Cylch, ac y mae yn nodedig o lwyddianus. Nid bob amser y mae anturiaeth o'r fath yn un lwydd- ianus mewn ystyr arianol ond y mae hon felly. Ond tybiwn, a barnu oddiwrth y rhifynau ydym wedi eu gweled, mai ei gynwysiad gwerthfawr sydd yn peri iddo fyn'd. Y mae ei gynwysiad yn neillduol o bur. Ceir ynddo ysgrifau byw a glan ar faterion o bwysigrwydd ymarferol, gan rai fel J. H. Jowett, T. E. Ruth, y Prif- athraw Garvie, H. Jeffs, J. D. Jones, ac ereill, heblaw rhai gwerthfawr gan ohebwyr lleol. Elfen enillgar iawn ynddo yw y manylion geir yn ei dudalenau am eglwysi y cylch, a nodion dyddorol gan y golygydd, sef y Parch T. Tudor. Y mae yn siwr o fod yn costio cryn lafur ac amser i Mr Tudor ond y mae yn amlwg ei fod yn llafur llwyddianus mewn rhagor nag uti ystyr. Y mae y cyhoeddiad yn gyfrwng tra effeithiol i gario pethau da iawn, ac i ddylan- wadu yn ddyrchafol, yn arbenig ar bobl ieuainc yr eglwysi, y rhai sydd, yn anffortunus, yn myned yn Saeson bron i gyd yn yr holl ardal boblog hon. Yr ydym yn galw sylw at y cyhoeddiad, gan obeithio y gwna cynghorau eglwysig mewn ardaloedd poblog ereill ddilyn esiampl Cynghor Eglwysi Rhyddion Ebbw Vale, sydd yn cyf- lawni gwaith mor effeitliiol yn y ffordd hoii yn ogystal ag mewn ffyrdd ereill. R.P.
CYDWELI
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYDWELI Eisteddfod.-Nos Sad writ, Ebrill iofed, cynaliwyd eisteddfod fechan gan Ysgol Sul Gwendraeth (A.), yn Neuadd y Dref, pan y gwobrwywyd amryw am ganu un- awdau a deuawdau, ac am traethodau. Beirniad y canu oedd y brawd hylaw Mr King, o Jerusalem, Pembre y traethodau a'r adroddiadau. y Parch W. C. Jenkins. Cadeiriwyd yn fedrus gau yr Henadur W. Wilkins. Trodd pobpeth allan yn ffafriol, er yn llai llwyddianus nag arfer. Cymanfa Ysgo lion. Y Sabbath, Ebrill 1 ieg, cafwyd y gymanfa hon, pan y cyfar- fyddodd y pedair ysgol arferol i adrodd penodau, a chanu, am dau a chwech o'r gloch. Wedi agor y cyfarfod gan y gwein- idog, holwyd Ysgol Soar gan Mr D. H. Davies, o Goleg Caerfyrddin, yn y benod olaf o'r Galatiaid ac Ysgol Gwendraeth yn y burned benod o'r Rhufeiniaid, gan y gweinidog. Am chwech, gweddiodd Mr Davies, ac holwyd Ysgol Tabor gan Y gweinidog yn i loan, a'r drydedd benod, ac Ysgol Capel Sul, gan Mr D ivies, yn 2 Timotheus, a'r ail benod. Casglwyd fel arfef at y Coleg, a chanwyd yn swynol gan yr ysgolion.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
THREAD or SEAT WORMS.-Hughea's THREAD WORM LOZENGES are the only cure for tbesfl pests. Safe aud sure. Pos free, Is. Chemist, Nantymoel,
GOGLEDD CEREDIGION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
weinidog; D. Lewis (M.C.), Capel Dewi ac H. Evans, (B.), Penrhyncoch. Cafodd gladdedig- aeth tywysog gan wyr buclieddol. Safai Morris Morris yn y rhes flaenaf Y11 ei ardal mewn gwybodaeth Ysgrythyrol, ac yn ddios yr oedd yn dywysog fel duwinydd, ac fel gwr da a duwiol; yr oedd ei gymeriad yn ddifrycheulyd ac anrhydeddus, a medrai yn ei weddi y ffordd at Dduw. Ymlwybrodd hyd y gallodd i gysegr Duw ond yr oedd y cam yn awr er's rhai blynyddau wedi myn'd yn rhy fyr, a'r nerth i gyrhaedd yiio wedi pallu eto, sugnai gysur o"r gwleddoedd yr oedd wedi gael yno, a thynai yn y gornel wrtho ei hunan lawenydd o ffynonan yr iachawdwriaeth. Cysnred yr Arglwydd y rhai galarns. MOCHNO. _n_