Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
♦Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Chwar-; terol Gogledd Morganwg, a gynaliwyd yn Tabor, Cefncoed, Hydref igeg, 1909.
CADWRAETH Y SABBATH, A CHYFARFODYDD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CADWRAETH Y SABBATH, A CHYFARFODYDD GWLEIDYDDOL A GWEITHFAOL* MR CADEIRYDD A Chyfehxion OI.L,- Er mor amwys, ac, ar ryw ystyr, mor aneglur ydyw geiriad y testyn liwn rodd- wyd i mi wneyd ychydig arno, tybiaf mai yr hyn ddysgwylir genych oddiwrthyf ydyw ymdriniaeth syml, ond pendant, ar Gadwraeth y Sabbath a gwaith dosbarth- iadau neillduol o bobl yn cynal cyfarfod- ydd gwleidyddol a gweithfaol ar y dydd cysegredig liwn hyny yw, A ydyw eu cynaliad yn niweidiol i sancteiddrwydd y dydd ? Ac os ydyw, sut, ac i ba raddau ? Credwn nad oes dwy farn yn ein plith ni fel pobl grefyddol o berthynas i hawliau y Sabbath arnom, ac am yr angen- rheidrwydd i ni roddi ufudd-dod llwyr a hollol i alwadau y pedwerydd gorchy- myn Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath.' Chwe' diwrnod y gweithi ac y gwneir dy holl waith.' Er hyny, dichon y gwahaniaethwn ni yn ein barn a'n golygiadau o berthynas i'r hyn ddylid a'r hyn na ddylid i beth sydd gyfreith- lawn a beth sydd anghyfreithlawn i'w wneuthur a'i ganiatau ar Ddydd yr Ar- glwydd. O'm rhan fy hun, credaf am holl galon na ddylid gwneuthur na chaniatau gwneuthur, ie, ei fod yn foesol anghyf- reithlawn gwneuthur dim, ar y dydd Sabbath ellid fod wedi ei gyflawni y dydd blaenorol, neu a ellid, heb niweidio neb, ei adael heb ei gyflawni hyd y dydd dilynol. Saif y mynegiad yna yn ei gysylltiad a chadwraeth y Sabbath yn ei wedd gyffredinol; a phe mai hyny fyddai ein pwnc, buasai yn rheidrwydd arnom enwi gweithio, masnachu, teithio, ymblesera, rhodiana, gorwedd, diogi, &c., fel pethau sydd yn tueddu i lygru y dydd ond cyfyngir arnom gan ein testyn, fel mai y cwestiwn nesaf yn ngwyneb y gosodiad yna ydyw, A ydyw cynaliad y cyfarfodydd hyn yn angenrheidiol ar y dydd Sabbath ? neu, A ydyw y dydd Sabbath yn anhebgorol i'w cynaliad ? Cyn ateb y cwestiwn yna yr un ffordd lla'r Hall, caniatewch i ni gyfeirio at rai cwestiynau ereill sydd yn dal perthynas ag ef, megys, A oes perthynas cydrhwng pynciau gwleidyddol a gweithfaol a Christ- ionogaeth ? Os oes, pwy ran ddylai Eglwys Iesu Grist gymeryd y dyddiau hyn yn nglyn a chwestiynau y dydd ? Beth, -I
CADWRAETH Y SABBATH, A CHYFARFODYDD…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ydyw perthynas y pwlpud a Gwleid- yddiaeth a Iylafur ? Perthyn i wleidyddiaeth egwyddorion moesol, ae weithiau y maent mewn perygl o gael eu sarnu dan draed y gelyn. Perthyn i lafur egwyddorion dyngarol, megys hawliau dyn i weithio, i gyflog teg a theilwng am ei waith, i'r dyogelwch mwyaf posibl iddo pan wrth ei waith, &e. A ddylai Eglwys Iesu Grist fel y cyfryw ddyfod allan i'w hamddiffyn a'u gwaredu ? A ddylai y pwlpud godi ei lef o'u plaid ? Y mae yr Eglwys a'r pwlpud wedi arfer gwneyd hyny, ac wedi cymeryd rhan amlwg a blaenllaw o blaid moesoldeb, rhyddid, a chyfiawnder ar hyd yr oesau; a dywedwn ragor, y mae cyflwr iachusol gwleidyddiaeth heddyw, a'r graddau hel- aeth o ryddid a fwynheir genym, i'w briodoli, i raddau pell iawn, i ddylanwad Eglwys Iesu Grist yn y byd, ac i'r rhan flaenllaw gymerodd ac a gymer arweinwyr crefyddol ein gwlad yn nglyn a'r cwest- iynau pwysig hyn. Ond y mae pethau, yn newid. A ddylai yrEglwys a'r pwlpud gymeryd rhan amlwg yn nglyn a'r cwestiynau hyn heddyw ? Na ddylent, ebe un dosbarth yn groew ddigon, yn enwedig ni ddylai y pwlpud gymeryd rhan ynddynt a phardduo ei ddwylaw glan yn nghrochanau duon gwleidydd- iaeth, a llychwino ei wisgoedd sanctaidd yn mwg afiach ffactrioedd a gweithiau glo. Dosbarth arall, yn enwedig yn nglyn a Llafur, waeddant heddyw, Dylent, yfory, Na ddylent, bron fel ybydd yn eu siwtio hwy. Heddyw, bloeddiant arnom i dd'od maes i'r gad, a difriant ni y gweinid- ogion yn enwedig am na fuasem yn gwneyd rhagor. Yfory, os dygwydd i un ohonom dd'od i'r maes, a meiddio argymhell pwyll a rhoddi cynghor, a floeddiant yr un mor uchel, Hands off nid yw yn perthyn dim i chwi.' Dylent ar bobl cyfrif, ebe dosbarth arall, a dygwyddaf fod yn perthyn i'r dosbarth hwn. Credwn ni mai dinystr gwlad fyddai gwahanu ei chrefydd a'i gwleidyddiaeth a du fydd y diwrnod y peidia dylanwad crefydd gwlad i gael ei deimlo ganddi, ac y peidia godi ei lief o blaid iawnder gwladol, o blaid sobrwydd a dyngarwch, o blaid pob mesur fyddo yn hawlio rhyddid a chwareu teg i bob dinesydd, ac a dueddo i ddyrchafu a moesoli dosbarth iselaf ein tir. Ond wedi dyweyd cymaint a hynyna mor eglur a phendant ag y gallwn, y mae y cwestiwn arall, sef, A ddylai Gwleidydd- 1 iaeth a Llafur gael sylw ar y dydd i Sabbath ? A ddylai cyfarfodydd gwleid- ] yddol a gweithfaol gael eu cynai ar Ddydd yr Arglwydd ? yn aros heb ei ateb eto. A'n hatebiad difloesgni ni i hwn, a hyny oddiar argyhoeddiad, ydyw, Na ddylent ar un cyfrif. Yn awr, rliaid i ni geisio amddiffyn ein safle. Faham ? I i. Am fod gwneyd hyny yn cadw meddwl, syniad, a delfryd dyn wrth y ddaear o hyd. Chyfododd neb erioed, ac ni chyfyd neb byth, yn uwch na'iVldelfryd methodd miloedd dd'od i fyny a hi, A gwell,' ebe nn, anelu yn uchel a methu nag anelu yn isel a llwyddo.' Gwir fod un rhan o ddyn yn perthyn yn agos iawn I i'r ddaear, ie, yn rhan ohoni, o'r ddaear yn ddaearol; ond dim ond rhan ohono sydd felly perthyna rhan neu y rhanau ereill ohono i fyd uweh a gwell—i nefoedd a Duw; ac nis gallwn ddyweyd, er stretchio ein goreu, fod Gwleidyddiaeth a Iylafur yn perthyn i'r byd yna; na, perthyn i'r rhan ddaearol o ddyn y maent. Ac wrth i ddynion ddefnyddio oriau y dydd Sabbath i ymdrin a'r cwestiynau hyn, cyfyngant eu huuain yn gyfangwbl i fyd y gweithio, y bwyta, yr yfed, a'r ymddilladu, a llesteiriant y dydd i gyf- lawni amcan ei sefydliad ar y cyntaf. Bwriadwyd y Sabbath i gyfarfod a'r dyn yn yr oil ag ydyw, a hyny gan yr Hwn wyddai oreu am danom, ie, yr Hwn sydd wedi astudio ein holl eisieu ni. Mae yr Arglwydd wedi pwyso a mesur ein natur ni, yn hyd a lied, uchder a dyfnder, ein hangen a'n heisieu, ac wedi darparu yn rhagorol ar ein cyfer mewn neillduo nos i orphwys ar ol lludded gwaith y dydd, a Sabbath ar ol wythnos o waith. Gwyddai allu y corff i ddal dan bwysau gorchwyl- ion bywyd. Gwaria y gweithiwr ei nerth yn ystod oreu a gwaith y dydd, a chyf- lenwa y nos beth o'r diffyg i fyny, 0nd nid yn gwbl, fel y mae y Duw caredig wedi trefnu trysordy o supply ychwanegol mewn Sabbath, fel ag i'w alluogi ar gyfer wyth- nos o waith ychwanegol. Ac nid oes neb wedi galw mwy ac yn uwch am dano na'r gweithiwr ei hun ond wrth droi y dydd Sabbath yn gyfle i ddadleu hawliau y gweithiwr, a chynal cyfarfodydd gwleid- yddol, gwrthoda i'w gorlf yr hyn y mae y Duw mawr yn Ei drugaredd a'i ofal- wedi drefnu ar ei gyfer, oblegid y mae yn ei waith er nad yw wrtho. Canlyniad naturiol byw i'r pethau hyn ydyw daearoli pethau cysegredig myn'd i fethu gwa- haniaethu cydrhwng yr hyn sydd gysegr- edig a'r hyn nid yw felly. Gwneyd pob- peth yn gysegredig, ebynt hwy. Gwneyd pobpeth yn anghysegredig, meddwn ninau. Dygwyddais dro yn ol gael ymgoui ag un ar y mater hwn, a gofynais iddo, Ai iawn ynoch ydyw cynal y cyfarfodydd hyn ar y Sul ? A'r ateb a gefais oedd lawn,' oblegid dyma ein crefydd ni.' c O'r goreu,' ebe minau, a oes rhywbeth yn eich crefydd chwi ynte sydd yn codi yn uwch ac yn cyrhaedd yn mhellach