Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

CADWRAETH Y SABBATH, A CHYFARFODYDD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

na'r ddaear ? Ac wedi ychydig o feddwl, dywedodd yn onest, Nae oes.' Wel, beth am enaid a Duw ? meddwn inau. A bu tawelwch mawr.' Tell me what yw like,' ebe Ruskin, and I will tell you what you are.' Cydnabyddwn fod y cwestiynau, Pa le y trigianwn beth a fwytawn beth a yfwn, ac a pha beth yr ymddilladwn,' yn bwysig, ac yn bwysig iawn; ond y mae digon o amser i'w trafod heblaw ar y dydd Sabbath. Beth am ddyddiau gwyl y flwyddyn? a'r oriau bob dydd yn y flwyddyn ? A phe na bai felly, y mae y ewestiynau hyn yn ddigon pwysig i aberthu cryn dipyn er eu mwyn. Gellir mesur a phwyso mawredd nerth a dylanwad a phwysig- rwydd pob cwestiwn a phob egwyddor wrth faint yr aberth wneir er ei fwyn. Credwn ni fod y ewestiynau hyn yn ddigon pwysig i aberthu cryn lawer er eu mwyn, ond nid yn ddigon pwysig i ysbeilio enaid anfarwol a Duw o'u hawliau a'u braint. Yn sicr, dylid dadleu iawnderau gwladol a I/lafurol heb gyfyngu ar hawliau dydd Duw ac heblaw hyny, anmhosibl ydyw dyogelu yn hir unrhyw hawliau, er pwys- iced y gallant fod, wrth ddiystyru a matliru egwyddorion tragywyddol gwir- ionedd a Duw o dan draed. Peth cy- mharol newydd yn hanes Cymru ydyw cynaliad y cyfarfodydd hyn ar y Sul. Deg neu ddeuddeg mlynedd yn ol, wyddai Sabbath Cymru ddim oddiwrthynt; ac er eu mantais a'u dyrchafiad, nid yw llawer ardal yn gwybod dim oddiwrthynt eto, a gobeithio na ddeuant i wybod ac y mae y materion hyn yn cael eu dadleu a'u penderfynu yn y lleoedd hyny. Beth yw yr achos ohonynt ? A pha fodd y daethant ? Wel, os caf fi ddyweyd fy marn, A theilwng i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar'—un achos ydyw, Undebau Iylafurol, a Saeson anghrefyddol wrth y llyw ac yn eu rheoli. Dynion wedi eu magu a'u meithrin yn awyrgylch yr English Sitnday--cefnder i Sul y Cyfan- dir. Dynion a'u huchelgais yn annuwiol. Clywais am un o fyfyrwyr un o'n Colegau ar y weddi foreuol dro yn ol yn gweddio brawddeg fel hyn, O Lord, keep us from unholy ambition a gall y rhai hyn, gyda phriodoldeb mawr, weddio yr un weddi, oblegid yn rhy ami defnyddiant eu safle yn yr undebau hyn i gyrhaedd eu hamcanion personol eu hunain. Ond cywir neu beidio, o berthynas i un achos eu dyfodiad i'n Sabbath ni, y maent yma gyda ni, ac oni wyliwn ni, wedi d'od yma i aros a'r ewestiwn mawr ydyw, Sut i ,gael gwared ohonynt ? Un ffordd ydyw cael dewrder i gydfyned ag argyhoeddiad yn mhlith arweinwyr crefyddol y wlad yn mhlith y dosbarth gweithiol. Y mae yma ami i hen bererin duwiol a'i galon yn gwaedu oherwydd y pethau hyn, a meddwl eu bod yn cael eu cynal yn ei enw ef ac ereill o gyffelyb feddwl ag ef ond y mae arno ofn y mob i godi ei lef yn eu herbyn. Un engraifft i chwi Mewn tref nid an- enwog yn sir Forganwg yn ddiweddar, yr oedd cyfarfod gan weithwyr y dosbarth ar brydnawn Sadwrn i drafod rhai cwest- iynau arbenig. Methwyd gorphen y gwaith nos Sadwrn, ac ebe un o'r rhai I dibarch i ddydd yr Arglwydd, Yr wyf yn cynyg ein bod yn gohirio y cwrdd hwn hyd brydnawn yfory,' a dyma un arall ar unwaith yn eilio. Gofynwyd am welliant neu gynygiad gwahanol; dim un yn d'od am rai eiliadau, ac yr oedd yn y cyfarfod, cofier, ddiaconaid ac athrawon, ac un arolygwr Ysgol Sul o leiaf ond cyn fod y penderfyniad yn cael ei roi i fyny, cododd un o converts y Diwygiad ar ei draed, ac ebe efe Yr wyf fi wedi arfer myn'd i'r Ysgol Sul er y Diwygiad, a bwriadaf fyned yno yfory hefyd. Y mae genyf deulu trwm fel ereill sydd yma, a bydd y golled i mi yn fwy na llawer; ond gwell genyf golli wythnos o waith, os bydd raid, na cholli yr Ysgol Sul er mwyn cynal cyfarfod o'r fath hyn ar ddydd yr Arglwydd.' Disgyn- odd ei eiriau fel taranfollt yn y dyrfa, ac nid cynt nag yr eisteddodd i lawr nad oedd nifer yn y dorf yn eilio, a thorwyr y Sabbath yn plygu eu penau mewn cywilydd. Gwnaeth waith arwrol, am fod ganddo ddewrder yn cydfyned a'i argyhoeddfad. Cynelir y cyfarfodydd hyn, gan mwyaf, yn enw y gweithwyr, a dyledswydd amlwg gweithwyr cref- yddol yr eglwysi ydyw protestio yn y man a'r lie yn eu herbyn, am eu bod yn halog- iad ar y dydd cysegredig. Dichon y gallwn ninau fel gweinidogion wneyd rhywbeth i r cyfeiriad hwn. Sicr genyf ein bod oil yn falch o'n cyfaill ieuanc, y Parch James Evans, B.A., Aberafon, llythyr pa un a ymddangosodd yn y South Wales Daily News ychydig amser yn ol yn protestio yn erbyn agor campaign y Labour Party yn Aberafon ar y dydd Sabbath. Clod t'w enw caiff deyrnged goreuon gwlad a bendith Duw am a wnaeth. Codwn i'n cyfle a'n dyled- swyddau nid yw yn rhy ddiweddar eto, ond a yn fuan, oni argaeir gwely y llif- eiriant. Nid corff-nid clai yn unig- yw dyn, ond enaid anfarwol, i fyw byth. Cofier, nid codemnio cynaliad y cyfar- fodydd hyn ar y Sul ar achlysurol eithr- iadol yr ydym, ond yn erbyn yr arfer o'u cynal a'r bwriadu a'r trefnu blaenorol i'w cynal ar y dydd Sabbath. 2. Ni ddylid eu cynal ar y Sabbath, am eu bod yn rhwystr i Dduw gael cyfle i siarad i'r dyn sydd ynom. Fel y dywedasom eisoes, un rhan o'r dyn sydd yn perthyn i'r ddaear perthyn y rhan arall ohono i'r ysbrydol a'r Dwyfol; ac y mae y rhan yma ohono mewn angen am fwyd ac ymgeledd fel y corff, neu bydd farw ac y mae Duw yn y Sabbath wedi trefnu ar gyfer yr oil ohono. Gorphwysdra i'r' corff, ac adgyfnerthion i'r enaid a'r ysbryd, trwy gymdeithas a chymundeb ag Ef Ei Hun. Mae y Sabbath wedi ei fwriadu gan Dduw i ni Ei weled Ef, a d'od i gymdeithas ysbrydol ag ef, ac i ni roi cyfle iddo Ef siarad a ni, ein cyfar- wyddo ni, a'n cadw ni. Mae Duw wedi arfer siarad a dyn, a dyweyd Ei gyfrinach wrtho. Ac y mae wedi ordeinio y Sabbath i ni ddyfod i gymundeb ag Ef i ddyweyd ein cwynion a'n cyfrinach wrtho. Ond y mae dynion wrth gynal y cyfarfodydd daearol hyn ar y dydd hwnw, nid yn unig yn gwrthod gwrando ar Dduw pan yn siarad a hwy, ond yn gwrthod rhoi cyfle iddo siarad a hwy o gwbl. Mor hawdd, onide, ydyw anghofio Duw, er i ni fod ar; ein goreu yn cadw Ei ddeddfau ac yn parchu Ei Sabbath mor anhawdd ynte, ie, mor anmhosibl, i ni ydyw Ei gofio a gwrando ar Ei leferydd tra wrthi yn; halogi y dydd ddarparwyd ganddo ol bwrpas i'r cyfryw amcan, Canlyniad diorsedduDuw, ebe Dr Campbell Morgan, ydyw halogi y S-al ac unwaith y collir Duw o'i orsedd y mae yr ymdeimlad o ymddibyniad arno, o rwymedigaeth iddo, ac o'i hawliau Ef arnom yn myned i golli yn llwyr. Nid oes grym yn Ei Air, na nerth yn Ei ewyllys, nac awdurdod yn Ei gyfraith, mwy a chanlyniad hyny ydyw cyflawni pechodau yn un chwant. Helped Duw ni i gadw y Sabbath yn bur ac yn Ian a chysegredig. Hwn ydyw brenin y dyddiau-hwn ydyw sylfaen bywyd da pob diwrnod arall. 0 am glywed Duw yn siarad a ni arno a thrwyddo. Mae Cymru wedi bod yn enwog am ei Sabbath glan, wedi ymladd yn galed am Sabbath tawel, cysegredig, wedi gweddio ar ei foreuau ganoedd o weithiau, '0 dystewch, derfysglyd donau, Tra b'wy'n gwrando llais y nef.' Ac, yn sicr, rhai o'r tonau terfysglyd y rhaid eu dystewi, os am Ei glywed Ef yn siarad, ydyw y cyfarfodydd hyn. Dichon y dywed rhywrai, gan gyfeirio atom ni y gweinidogion Ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr Arglwydd;' ac yn sicr, nid oes gan bawb ohonom ddwylaw glan yn y peth hwn. Onid oes rhai ohonom wedi bod yn euog o droi ambell oedfa nos Sul yn rhywbeth tebyg iawn i gwrdd politicaidd, yn enwedig ar adeg etholiad ? Yn sicr, y mae gwneyd hyny yn ymylu ar fod yn gysegr-ysbeiliad, a rhaid i mi ddyweyd mai tecach a gonest- ach ydyw cyfarfod gwleidyddol neu weith- faol ar y Sul wedi ei fwriadu a'i gyhoeddi felly, nag oedfa mewn capel wedi ei chy- hoeddi. felly, a chael yno araeth wleidyddol yn enw pregeth. Ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr Arglwydd.' Dar- llenais yn ddiweddar am weinidog yn Lloegr yn dyweyd fel hyn Sociological subjects must come to the front in our pulpit discussions.' Mae yn debyg mai un o'r dynion anffaeledig hyny alwant eu hunain yn Progressives mewn crefydd a gwleidyddiaeth oedd ef; sut bynag, credwn ni mai Efengyl, ac nid Sociology, ddylai fod yn y front. Mae perygl i'r pwlpud fyn'd yn blatfform i ymdrin a chwest- iynau y dydd, ac nid i bregethu Crist. Nid i wrando ar wleidyddiaeth,ond Efengyl Iesu Grist, y daw pobl i'r capel ac nid gwneyd dynion yn Rhyddfrydwyr, Ceid- wadwyr, na Sosialwyr ydyw amcan preg- ethu, ond eu gwneyd yn Gristionogion- a'u hachub i fywyd tragywyddol. Trwy ffolineb pregethu,' meddai Paul, y mae Duw yn myned i gadw y byd. The centre of thought,' ebe un, has in fact been shifted from eternity to time, from the worship of God to the service of man.' Pwy mor bell, tybed, y mae hynyna yn wir am bwlpud ac eglwysi Cymru ? Gwyliwn, mae perygl y ffordd yna. The Sabbath,' ebe Robertson, Brighton, 'is the bulwark of moral purity ie, trwy gadw hwn yn sanctaidd y gwneir cymer- iadau cyrfion a nerth a dyogelwch pob gwlad ydyw cymeriad ei phobl. Nid oes cryfder mewn person, na dyogelwch iddo ef, na theulu, nac ardal, na gwlad, ond ar lwybr cadw yn sanctaidd y dydd Sabbath. Ac y mae y feddyginiaeth yn ain dwylaw-yn ein dwylaw ni, eglwysi crefyddol y wlad a'r genedl. I'r gad gyda'n'gilydd, rhag i waed y cenedlaethau sy'n dyfod fod ar ein dwylaw.