Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cofiwn yn ngeiriau Blfed Ni ddaw'r Golomen wen Trwy drochion crychfor trystfawr nwydau 'r cnawd, Ond dros furmurol lif o arian donau :— O Gymru fach, gosteged yr ystorm, Er mwyn it' glywed hyfryd lais y nef c Sul y Cyfandir—gochel gochel ef Pel damniol sarff: nid oes un Kden ddrud All ddaliTielldithion y fath elyn coegwych, Heb droi ei phyrth yn ffiamiau-Cofia'r farn.' Bin gweddi o hyd fyddo,— Gwna'n Sabbathau'n ddyddiau'r nef- oedd, Yn ngoleuni'th ddeddfau glan.' Bedlinog. E. OWERN EVANS.
BANGOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BANGOR. Marwolaeth Cadben R. Edwards.—Dydd Sul, Rhagfyr 12fed, yn ei breswylfod, Bron Heli, Bangor, bu farw y gwr da a thawel ac addfwyn uchod yn 66 mlwydd oed, ar ol cystudd trwm a maith am thua thair blynedd, ac wedi bod yn orweddiog am tuag wyth mis. Gadawodd weddw a thri o blant ar ei ol; un o ba rai yw Mrs Gwylfa Roberts, Llanelli—ei unig ferch ac y mae iddo ddau fab, yr hynaf yn beirian- ydd ar y môr, ac ar hyn o bryd yn India, a'r Hall yn masnachdy Mri Owen Owens, Lerpwl. Adwaenid Cadben Edwards gan lu mawr o gyfeillion yn Nghymru, ac yn eu plith nifer dda o weinidogion. Yr oedd yn gymeriad anwyl dros ben, a gwnai gyfeillion o bawb y delai efe i gyffyrddiad a hwy. Bu ar y m6r am dros haner can' mlynedd, ac am 35 yn gadben ar nifer o longau yn hwylio i borthladdoedd pell y byd. Dair blynedd yn ol, cyrhaeddodd i Valparaiso yn ei long yn adeg y ddaeargryn fawr,fac effeithiodd hyny ar ei iechyd, fel na fu byth yr un dyn wed'yn. Brodor o Gaernarfon ydoedd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Salem gan Dr Herber Evans. Yn Mangor, gwnai efe a'r l teulu oil eu cartref yn eglwys Ebenezer. l
GOGLEDD CEREDIGION. ----
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOGLEDD CEREDIGION. Cyfarfod Dauflsol.—Cynaliwyd hwn ddydd Mercher, Rhagfyr 15fed, yn Soar, Llanbadarn, pryd y pregethwyd gan y Parchn E. Wnion Evans, Derwenlas J. Llewelyn, Borth R. E. Jones, Talybont; a D. G. Lewis, Salem. Caed cyfarfod dymunol a chynulliadau lluosog yn y prydnawn a'r hwyr. Llywyddwyd gan y Parch G. Parry, ac yr oedd yn dda genym ei weled wedi ei adferyd cystal o'i afiechyd diweddaf. Estynwyd ganddo ef a'r cyfeillion yn Llan- badarn dderbyniad croesawgar i'r cyfarfod hwn i'w plith; ac ar gynygiad y Parch J. Miles, yn cael ei gefnogi gan y Parch R. E. Jones, cyflwynwyd diolchgarwch cynes i Mr a Mrs Benjamin Jones, Pendref, a'r teulu oil, am eu caredigrwydd. Trefnwyd i'r cyfarfod nesaf i fyned i Cwmerfyn. Aberystwyth.-Nos Fercher, Rhagfyr 15fed, bu y Parch J. T. Parry, Cilcenin, yn traddodi anerchiad i'r Gymdeithas Gymreig sydd yn y dref. Testyn yr anerchiad ydoedd 'Roger Williams, apostol heddwch.' Gwnaeth Mr Parry chwareu teg da a'r hen wron, fel y bydd llawer yn meddwl yn well ac yn uwch ohono ar ol y noson hon. Da y gwneir dwyn cymeriadau o'r nodwedd yma i sylw ieuenctyd yr oes gall y bydd i hyny eu sefydlu yn fwy nag ydynt. Llywyddwyd gan Syr John Williams; ac ar gynygiad Mr J. H. Davies, ac eiliad Proff. Lewis, cyflwynwyd diolchgarwch cynes i'r darlithydd a'r llywydd. Y mae nifer aelodau y gymdeithas yn cynyddu. Dirwest.-Yehydig ddyddiau yn ol, cynaliodd Undeb Dirwestol Gogledd Ceredigion ei gyfar- fod haner-blynyddol yn y Borth. Yn y pryd- nawn, yn nghapel yr Annibynwyr, pregethwyd yn nodedig o effeithiol gan y Parch J. Edwards, B.A. (B), Aberystwyth. Yn yr hwyr, yn nghapel y Methodistiaid, traddodwyd anerch- iadau grymus gan Mrs Evans, Mr R. Jones, Parchn J. Miles, Aberystwyth, ac E. Jones (W.), Tre'rddol Y mae'r cyfarfod eisoes wedi gadael effaith er daioni ar ei ol. Y mae yr wyl flynyddol nesaf wedi ei threfnu i fod yn Llan- ilar, dechreu Mehefin, pryd y dysgwylir y Parch D Stanley Jones, Caernarfon, ac ereill i gymeryd rhan. MOCHNO.
GRAIG, RHYMNI. -
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GRAIG, RHYMNI. Y Gymdeithas Ddiwylliadol.-Mae hon wed' ymaflyd yn ei gwaith gydag yni ac asbri newydd y tymhor hwn eto. LIoniant yw meddwl ei bod yn gallu hwylio ei ffordd mor gysurus, ac yn cael y fath gefnogaeth, yn ngwyneb y ffaith fod llawer o atdyniadau ereill o'n cwmpas. Credwn mai nid yr aelodau sydd yn cydio ynddi hi yn awr i'w harwain yn ofalus, ond mai hi sydd erbyn hyn yn cydio yn yr aelodau, ac yn eu dwyn yn ei braich yn galonog. Yr ydym wedi cael rhestr o bapyrau rhagorol yn barod, yn dwyn olion Ilawer o lafur, yn arddangos chwaeth sydd yn haeddu pob canmoliaeth, ac yn llwythog o wersi buddiol ac adeiladol. Hwn yw y pedwerydd dymhor i'r gymdeithas hon. Mae ei gwasanaeth i'w wel'd a'i deimlo yn yr adrodd, y canu, a'r papyrau, yn ogystal a'r addfedrwydd meddwl amlygir wrth siarad. Y Dosbarth Beiblaidd.-Mae y Dosbarth Beiblaidd yntau wedi gafaelyd mewn maes dy- ddorol o dan arweiniad y gweinidog. Taith y genedl o'r Aifft i Ganaan, a hanes y tabernacl yn yr anialwch, yn fwyaf arbenig, a gymerir i fyny yn yr ymchwiliad. Rhyfedd y newydd deb sydd yn perthyn i'r Hen, hen Hanes heddyw, fel yn y dydd- iau gynt, a rhyfedd y prydferthwch sydd wedi ei wau ynddo, a'r meddyliau goludog sydd wedi eu plygu o'i fewn. Mae awr y dosbarth hwn fel pe yn feddianol ar ryw adenydd sydd yn ehedeg yn gynt nag un awr at all. Pan fyddom yn nghanoj y mwynhad a'r dysgwyliad, mae'r cloc yn eithaf awd urdodol yn ein rhybuddio a'i ergyd ei fod wedi cyflawni y cylchdro. Dysgwyliwn allu casglu llawer o wybodaeth yn y maes hwn erbyn diwedd y tymhor, a sicr yw y bydd wedi eangu a goleuo ein meddyliau yn y cyfamser. Cyfarfod Haner-blynyddol.-Y Parch D. G Williams, St. Clears, fu yn gwasanaethu yn y cyfarfod hwn. Cawsom ganddo gyfres o bregethau gwerthfawr iawn Yr oedd ei genadwri yn hynod amserol a tharawudol.
EGLWYS GYMREIG WOOLWICH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EGLWYS GYMREIG WOOLWICH. SEFYDLU GWEINIDOG. Hwyrach mai nid annerbyniol gan eglwysi Cymru fydd gair o hanes ac helynt yr eglwys Gymreig yn Woolwich. Fe ddylai'r ffaith syml o fodolaeth eglwys Gymreig yn Woolwich gynhyrfu tipyn ar gywreinrwydd, os nad hefyd ddeffro tipyn ar ddydd ordeb yn y Cymry sydd gartref yn hanes, ac ymdrechion, ac anhawsderau y Cymry oddi artref i gynal achos Cymreig mewn tref Seisonig, a thrwy hyny nodweddion mwyaf canmoladwy y genedl Gymreig. Os oes rhywbeth yn anwylach i'r Cymro na'i gilydd, ei grefydd yw y peth hwnw—ie, ei gref- ydd Gymreig, ei grefydd fel y mae yn dwyn nodweddion yr amgylchoedd roddodd ffuifachym- eriad arbenig iddi. Lie bynag mae'r Cymro-yn y ddinas fawr boblog, ynte ar wastadeddau breision y vjorllewin, ynte ar lechweddau mynyddoedd creigiog I Dehau-ceidw yn ei galon gornel gysegredig i giefydd ei famwlad. Y teimlad crefyddol, cenedl- aethol, yna sy'n cyfrif am gychwyniad a bodolaeth yr eglwys Gymreig yn Woolwich heddyw. Cych- wynwyd yr achos ar y cyntaf, gan nifer o Gymry oedd yn gweithio yn y Government Dockyards-ac y mae dros gan' mlynedd er hyny-ac yn y cyfnod yna^ mae r achos wedi gweled lIawer tro ar fyd. Ni bu yr eglwys ar un adeg yn lluoeog iawn, ond bu yo llewyrchus fwy nag unwaith, a phob amser yn galonog a hyderus.. Yn 1906 adeiladwyd capel newydd,^ dymunol 1 edrych arno, a chysurus i fod ynddo, a r mis diweddaf, cafwyd gweinidog newydd, nnh n, JOD^s-Mfson. o Lansilyn, fel rhwng pob peth, mae rhagolygon dysgleiriach o flaen yr eglwys hon nag a fu er's blynyddoedd lawer. Mae yn awr yn dechreu byd o'r newydd, a ffydd, a phen- dyfoS! yn gynySgaeth ganddi ar gyfer gwaith y Sul, Tachwedd 28ain, a'r nos Lun canlynol, cynaliwyd cyfarfodydd sefydlu y gweinidog. Pregl ethwyd y Sul gan y Parch H. Elvet Lewis, M.A p Llundain; J. Maelor Morgan, Claylands a Mr Meredith Davies, B.A., B.D Haokney; a chafwyd pregethau rhagorol gan bob un o'r brodyr uchod." Nos Lun cafwyd y cyfarfod sefydlu. Yr oedd yn bresenol y Parchn Elvet Lewis, M.A., Machreth Rees, Llywelyn Bowyer, E. Teilo Owen, S Lloyd Davies, B.A ac amryw frodyr o Lundain. Cymer- wy y gadair gan Mr Machreth Rees, a siaradwyd gan yr oil o'r brodyr uchod, yn nghyda Mr Davies, ^ing s Cross; Mr Price, Barrett's Grove: a Mr R. T. Evans, ysgrifenydd gweithgar Bethel, ar ran yr eg wys, ac yn olaf, dywedwyd gair gan y gwein- idog newydd. Hefyd, fel amrywiaeth, cafwyd solos gan Mrs R. Griffith Thomas, Bank House, a Mr R. J. Evans. Cafwyd cyfarfod llawn o ysbrydiaeth ae aeth pawb oddiyno gan deimlo" a mynegu, mae da oedd bod yno. «
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. JP 151 xc; Dymunir ar ein Gohebwyr a'r Beirdd i ddal sylw ar y Cyfarwyddiadau can- ynol mewn perthynas a'u cynyrchion, Mae danfon Barddoniaeth i'r Swyddfa yn lie eu danfon i Pedrog, a chyfeirio Oohebiaethau i breswylfod y Golygydd yn He i'r Swyddta, yn peri dyryswch ac anghyfieusdra mawr. I, I anfon eu Gohebiaethau yn uniongyrchol i'r Swyddfa, gyda'u henwau priodol a'u cyf eiriadau. 2. Rhaid danfon Barddoniaeth yn union gyrchol i Olygydd y Farddoniaeth y Parch. J, O. Williams (Pedrog), 30, Stanley-sheet, Fair- field, Liverpool 3. Ni ellir sicrhau cyhoeddiad unrhyw oheb- iaeth yn y Rhifyn dyfodol os na chyrhaedda y Iwyddfa y boreu Gwener blaeriorol. 4. Adolygiadau ar Lyfrau, &c.-Rhaid danfon i'r Swyddfa gopi o bob Llyfr neu Gyhoeddiad &c., cyn yr ymddengys Adolygiad arno yn y TYST. -i Mezon Llaw,—'Anhawsderau y Weinidogaeth'- Daniel, y Llwyrymwrthodwr PenderfynolJohn Jones — Ferndale — Dihewyd — Pottycymer — Moel- tryfan—Connah's Quay—Penybont-ar-Ogwy, &c.
CERYGCADARN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CERYGCADARN. Darlitit.-Nom Wener, Tachwedd 26ain, bu yr Athraw Joseph Jones, B.A., B.D., yma yn traddodi ei ddarlith ar gwestiynau'r dydd. Yn Saesoneg y traddododd hi y tro hwn, ac nis gall fod yn llawer gwell ganddo yn Gymraeg. Jesus Christ and Social Problems '-dyna ei destyn, ac nid gormod yw dyweyd fod y ddar- lith hon yn cynwys yr hyn sydd a galwad am ei draetha mewn llawer i eglwys y dyddiau hyn. Yr oedd pawb yn teimlo yn well wedi ei chlywed. Sul Dirwest.-Fel arfer, gwnaed cyfeiriadau lawer yn mis Tachwedd at Ddirwest. Bu y Parch W. Jones, Capelucha, yma un Sal yn rhoi ei farn a'i genadwri ar y mater fel gwein- idog ieuanc, ac ni wnaeth y Parch R. James, yn ei siars dderbyniol i'r ddiaconiaeth, osgoi cymeradwyo y ddyledswydd o lwyrymataliad. Mae yr eglwys hon yn symud yn gyflym yn mhellach oddiwrth y dafarn, ac yn nes at Seion sobr canol y ganrif bresenol. Mae yma nifer foddhaol wedi ardystio. Diacon iaidlN ewyddion.- Yn ddiweddar mae yr eglwys yn Cerygcadarn wedi dewis nifer o ddiaconiaid i wasanaethu gyda'r ddau oedd yn dwyn holl faich y ddiaconiaeth o'r blaen, sef Mri Rees Powell a John Evans, Erwood. Y cyntaf yw y diacon hynaf ar hyn o bryd, ac mae yn parhau hefyd yn ddysgybl ffyddlon i'r TYST, ac wedi bod yn ysgrifenydd yr eglwys er's blynyddoedd. Mae ei dad eto yn fyw, sef Mr R. JPowell, hynaf, Tyisaf, yr hwn fu yn cyflawni y gwaith o'i flaen, a'r hwn sydd ar hyn o bryd yn 92 oed. Nid yn ami y gwelir un o'i oedran yn rhodio oddiamgylch heddyw ag sydd wedi bod o gymaint o wasanaeth ag y mae efe wedi bod i'r eglwys uchod. B.ydded iddo gael llawer o ddyddanwch presenoldeb yr Hwn mae wedi bod yn wasanaethu ar hyd ei oes yn awr pan mae hi yn hwyrhau a'r dydd yn darfod. Sul, Rhagfyr 12fed, bu y Parch R. James, Llanwrtyd, yma yn rhoddi y siars i'r diaconiaid newyddion.