Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MOUNTAIN ASH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MOUNTAIN ASH. CYFARPOD YMADAWOL Y PARCH O. JONES. (Parhad o'r Rhifyn diwedaf). Daethpwyd yn awr at waith tra dyddorol arall o'r un nodwedd. Yr oedd gwragedd a merched Bethania yn teimlo nas gellid gadael y cyfle fyned heibio heb iddynt hwythau ddangos eu gwerthfawrogiad o wasanaeth Mrs Jones. Daeth Mrs Harris yn mlaen i gyf- lwyno dressing bag hardd a chostus dros yr eglwys, yr hyn a wnaeth mewn ychydig eiriau tyner iawn. Yna cyflwynodd Mrs Morgan, dros Gyfarfod y Chwiorydd, Feibl hardd, a llyfr hymnau, a spectacle case arian. Yr oedd Mrs Jones a hwythau fel chwiorydd yn gyfeill- ion mawr, ond nid cyfeillgarwch yn ffaglu am saith niwrnod ydoedd ychwaith. Ni bu y llinyn erioed mor dyn nes tori. Fe fyddai chwiorydd Bethania yn hir cyn y caent neb cyffelyb i'w chwaer oeddynt y nos hono yn golli; nid oedd wrth eu penau fel rhyw superior person, ond wrth eu hysgwydd yn eu gwthio yn mlaen. Cafwyd araeth ddoniol gan Mrs Morgan. Yna daeth Mrs Jones yn mlaen i dderbyn yr anrhegion teilwng hyn. Ystyriai yr anrheg- ion ynddynt eu hunain yn rhai gwerthfawr, ond mwy gwerthfawr ganddi hi y teimladau cynes gynrychiolid ganddynt. Nis gallai byth anghofio y teimladau angerddol ffynai yn nghyf- arfod diweddaf y chwiorydd a chofiai yn hir y ffarwel roddasai plant Bethania iddi y nos o'r blaen pan ganent mor swynol, Ni gawn gwrdd tu draw i'r afon.' Hyderai mai felly y byddai mewn gwirionedd. Dymunai ddyweyd wrth y chwiorydd am iddynt barhau yn ffydd- lon ac wrth y plant dywedodd, Trust in God, and do the right.' Gan ei bod yn myn'd yn mhell, galwyd ar yr Hybarch H. A. Davies, Cwmaman gynt, i ddyweyd gair. Llawenhai fod yno gyda hwy ar yr achlysur dyddorol. Yr oedd ef yn wahanol i bawb oedd yn y cwrdd, oblegid yr oedd yn bresenol, ragor na 43 mlynedd yn ol, yn nghwrdd ordeinio ei gyfaill yn Ystalyfera a dyma fe eto yn bresenol yn nghwrdd ei ymddeoliad. Am yr ugain mlynedd diweddaf, yr oedd wedi cael pob cyfle i adnabod Mr a Mrs Jones. Yr oedd wedi derbyn llawer o garedigrwydd ar eu haelwyd gynes a phan y delai heibio iddynt yn y Gogledd, hyderai y gofalai Mrs Jones am dipyn o gawl y South iddo ef. Cofiai am oedfa fawr gyda Mr Jones yn Cendl flynyddau yn ol. Yr oedd yn cofio bod yn Bethania, 43 mlynedd yn ol, pan yn casglu dros Goleg Aberhonddu, ac iddo fyn'd oddiyno gyda chodaid reit dda o aur a chafodd lawer gwen siriol yno wedi hyny. Hyderai na wnai yr eglwys adael i bethau wywo yn eu plith. Yna galwyd ar Miss George i gyflwyno anrheg o fodrwy aur hardd i Miss G. R. Jones, B.A., unig ferch y Parch Owen Jones a Mrs Jones. Cyflwynid yr anrheg dros yr eglwys. Ac mewn ychydig eiriau hynod bwrpasol diolchodd hithau i'r eglwys am yr anrheg, ac yn enwedig am garedigrwydd yr eglwys i'w thad a'i mam, oblegid ebai hi, Nid oes neb tebyg i fy nhad a'm mam i, nac eglwys fel Bethania.' Eistedd- odd i lawr yn nghanol cymeradwyaeth uchel y gynulleidfa, pryd y canwyd yn swynol dros ben, In the sweet by and bye,' gan gor o fechgyn dan ugain oed, dan arweiniad Mr Albert Jones. Ar alwad y llywydd, daeth Miss Jones, yn mlaen-ysgolfeistres o'r Porth, a merch i'r diweddar Mr J. W. Jones, Y.H., un o ddiacon- iaid ymadawedig Bethania. Dywedodd fod ei diweddar dad yn meddwl yn uchel o Mr Jones fel pregethwr ac arferai hithau fod o'r un feddwl a'i thad. Yr oedd pregethau Mr Jones wedi helpu llawer arni hithau mewn blynyddoedd diweddarach yn ei gweitligarwch gydag achos Iesu Grist. Yr oedd Mrs Jones hefyd yn wraig gweinidog heb ei chyffelyb. Y Parch Bowen Davies, Abercwmboi, a deimlai anhawsder i wybod beth i'w ddyweyd. Iddo ef Cae-go-deg ydoedd y Cae-garw.' Yr oedd yno dair personoliaeth led enwog, sef Mr Jones y gweinidog, Glyndwr yr arweinydd canu, a Mrs Jones y weinidoges. Yn Bethania y cafodd ef y rhodd benaf gafodd yn ei oes, oblegid un o blant Bethania gafodd yn wraig ac yn syniad hono, Mr Jones, Bethania, ydoedd y pregethwr goreu yn yr Enwad. Gofidiai ef golli Mr Jones —

SCRANTON, PA., U.D.A.

Advertising

Advertising

MOUNTAIN ASH.