Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
ANWYI, A FFYDDLON GYFEILUON,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ANWYI, A FFYDDLON GYFEILUON, Yr ydym yn nesu at derfyn blwyddyn sydd wedi bod yn un dra chyffrous ac wrth fwrw golwg yn ol drosti, teimlaf na fuom ni yn ol o gymeryd ein rhan yn aiddgar yn ei llafur a'i dygwyddiadau, yn grefyddol ac yn wleid- yddol, gan ymdrechu bob amser gymeradwyo a chefnogi yr hyn a farnem yn dda, a chondemnio a gwrthod yr hyn a ystyrieni yn ddrwg. Yn Wleidyddol, tra siomedig y profodd y flwyddyn i ni fel Ymneillduwyr Cymreig. Pan yn eich cyfarch ar ei dechreu, anturiais ysgrif- enu Y mae o gylch cwestiwn Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru ryw ansicrwydd poenus iawn. Yn fy myw nis gallaf weled rheswm digonol dros hyny, yn enwedig yn awr pan yr ydym yn nesu at y Senedd-dymhor yn mha un yr addawodd y Weinyddiaeth ei gymeryd i fyny. Dichon y bydd yn angenrheidiol cy- meryd cwrs cryf iawn yn glyn a'r mater hwn a byddaf fi ac ereill yn barod i wneyd hyny, os bydd rhaid.' Yn gygon a'r mynegiad yna, anturiais roi cyfle o dro i dro i'r rhai a fynent feirniadu ymddygiad y Weinyddiaeth yn nglyn a'r mater hwn, yn ogystal ag i'r rhai a deimlejit y dylent amddiffyn. Rhyngddynt yr ydych chwi wedi cael y ddwy ochr yn bur lawn, ac wedi bod yn alluog i ffurfio eich barn eich hunain ar y mater pwysig hwn. Credaf eich bod yn cymer- adwyo y cwrs a gymerwyd genyf ar hyn. Yn nglyn a Thy yr Arglwyddi ysgrifenais ar ddechreu y flwyddyn: Y mae haerllugrwydd Ty yr Arglwyddi wedi myned yn annyoddefol, a gwn na fydd un cwrs a gymer y TYST i ymladd brwydr y bobl yn ei erbyn yn rhy gryf yn ngolwg y darllenwyr. Y mae ei ymddygiad trahaus yn nglyn a'r Mesur Trwyddedol wedi difetha pob gronyn o ymddiried oedd genym ynddo fel Ty i arolygu mewn ysbryd teg fesurau a anfonid i fyny iddo o Dy y Cyffredin. Dichon mai un o'r dyledswyddau penaf yn ystod 1909 fydd ceisio dangos y Ty hwn yn ei wir gymer- iad, ac ni fydd y TYST yn ol o wneyd ei oreu.' Trodd allanyn waeth hyd yn nod nag yr ofnwn pan yn ysgrifenu felly. Bu Ty yr Arglwyddi yn fwy beiddgar nag y mae wedi bod er's ugeiniau o flynyddoedd, canys gwrthododd Fesur Arianol y flwyddyn, er iddo gael chwe' mis o ystyriaeth ddifrifolaf y Ty isaf a'i basio gydag agos ddau cant a haner o fwyafrif. Gwnaethom ein goreu i fwrw goleu llawn o wythnos i wythnos ar ei ymddygiad, a dysgwyliaf fod darllenwyr y TYST yn mysg y rhai cryfaf eu penderfyniad i ymladdL. yn erbyn gormes y Ty anhymig hwn. Oblegid ymddygiad yr Arglwyddi agorir y Flwyddyn Newydd gan Etholiad Cyffredinol eto, er nad yw y presenol wedi rhedeg ond ychydig gyda haner ei gwrs. Cwestiwn mawr yr etholiad fydd y berthynas rhwng y ddau Dy. A y blaid Ryddfrydol i'r frwydr gyda phender- fyniad i gwtogi llawer ar hawl yr Arglwyddi i wrthod Mesurau Ty y Cyffredin ar bob mater, ac i wneyd i ffwrdd yn llwyr a'u hawl i ymryyd a'r Mesur Arianol o flwyddyn i flwyddyn. Dyna bwnc mawr yr etholiad, ac yr wyf yn awyddus iawn am i ni i gyd-gynorthwyo y bobl yn yr ymgyrch hon. Y mae hi eisoes wedi dechreu, a swn cyflegrau y ddwy ochr yn lledu drwy yr oil o'r deyrnas.' Gobeithiaf y dychwelir y blaid Ryddfrydol eto, ac y rhoddir iddi fwyaf- rif a'i galluoga i gario allan ei bwriad o roi terfyn ar ormes y Ty Uchaf. Erys ein prif Ysgrifenwyr yr un eleni eto, a gwn y bydd yn dda gan y darllenwyr ddeall hyny. Rhydd GWLEIDYDDWR gyfrif o'r holl Fesurau a ddygir ger bron y Ty, a sicrha ei hir gynefindra a'r gwaith na chyll darllenwyr y TYST ddim a fydd o bwys. Ysgrifena H.' Y NODION fel arfer, a sicr yw y gesyd ein darllenwyr dan fwy o ddyled iddo nag erioed. Gwylia bob symudiad y bydd o bwys galw sylw ato. Nid oes ond un a all ddesgrifio yr hyn a wel wrth deithio 0 FRYN I FRYN fel y gwna yr hwn a ysgrifena dan y penawd hwnw i'n colofnau, a phery ef i wneyd ei waith. Gofala G.' hefyd gadw ei olwg ar BOB OCHR I'R HEOL, a gwneyd sylw byw ar bob peth a wel. Parotoir Y WERS SABBATHOL gan yr un law alluog a chyfarwydd ag sydd wedi ei phar- otoi ar hyd y blynyddoedd ac os gallwn gael y ffordd yn glir, bwriadwn roi cymhorth gyda Gwers YR UN MAES LLAFUR. Clorianir y Beirdd gan ein cyfaill galluog PEDROG, fel arfer, a rhydd GOLOFN FARDD- ONOL flasus i ni yn awr ac yn y man. Gyda'r oil, pery ein Gohebwyr ffyddlon dros y wlad, .heb gymhorth y rhai nis gallem droi allan y TYST o wythnos i wythnos, i anfon i ni bob newyddion enwadol. Gocheler gorfeithder, a danfoner mewn pryd. Mae anfon hanes cwrdd pregethu, neu briodas, neu angladd, yn mhen mis ar ol iddo gymeryd lie allan o bob rheswm, a beiir y Swyddfa yn fynych pan, pe gwyddid yr amgylchiadau i gyd, y gwelid fod y bai ar ereill. Da genyf wybod fod y TYST yn cyrhaedd mwy 0 gartrefi yn awr nag y bu er's blynyddau, a chylch ei ddefnyddioldeb yn araf eangu, a gobeithio y bydd y flwyddyn ddyfodol yn un dra llwyddianus iddo. Gwnaed ymdrech fawr yn y gorphenol i'w gadw yn fyw i fod yn gyfrwng i groniclo dygwyddiadau ein Henwad yn Nghymru, ac i roi cyfarwyddyd, o safbwynt Ymneillduol a Rhyddfrydol, ar faterion cy- hoeddus; ni fyddem, gan hyny, yn ffyddlon i'n tadau heb i ni wneyd ein goreu i helaethu ei gylchrediad a'i ddefnyddioldeb. A gaf fi apelio ar derfyn y flwyddyn hon eto am gy- mhorth ein Dosbarthwyr ffyddlon, a'n Gweinidr ogion a'n Diaconiaid, i wneyd hyn. Gwyr pawb fod cylchrediad Newyddiadur Cymraeg, ac yn enwedig Newyddiadur Enwadol Cymraeg, o angenrheidrwydd yn gyfyng, ac anheg ac angharedig yw cymharu ei ymdrechion i eiddo Newyddiaduron Seisonig, y rhai y mae y mil- iynau yn agored iddynt. Gyda hyn o eiriau, dymunaf o galon i bawb ohonoch unwaith eto FLWVDDVN NEWVDD DDA. Yr eiddoch fyth, JOHN THOMAS. Rhagfyr i9eg, 1909.
PEN CHWARTER.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PEN CHWARTER. AT EIN DOSBARTHWYR AN DERBYNWYR. Gyda'r Parseli am yr wythnos hon yr ydym yn amgau biliau y cyfrifon am y Chwarter sydd yn diweddu gyda'r Rhifyn hwn. Byddwn yn ddiolchgar iawn i chwi os byddwch mor garedig a'u gwastadhau mor gynted ag sydd yn bosibl. Y CYHOEDDWYR.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT SWYDDOGION1 EGLWYSIG. Llythyrau Cymeradwyaeth. WEDI eu hargraffu ag enw yr Eglwys arnynt, ac wedi eu rhwymo yn gryf. Prisoedd am Flaendal, 3s. 6c., 5s., a 6s. 6c.-Cludiad yn rhad. Cynwysa y Llythyr Dair Rhan, sef Un Ran i'w rhoddi i'r Trosglwyddedig Un Ran i'w hanfon i Weinidog, neu Swydd- ogion yr Eglwys i ba un y trosglwyddir yr aelod, yn eu hysbysu o hyny a chedwir y Rhan arall gan yr eglwys ei hun. I'w gael gan JOSEPH WILLIAMS & SONS, Swyddfa'r TYST, Merthyr Tydfil.
NODION.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION. Blwyddyn Newydd Dda. DYMUNAF o galon bur yn helaeth Flwyddyn newydd dda' i'm dar- llenwyr oil. Da yn mhob ystyr-yn bersonol, teuluol, a chymdeithasol, yn dymhorol, gwleidyddol, ac yn benaf oil yn grefyddol. Pe ceid yr olaf, byddai y rhan fwyaf o'r gweddill yn dilyn, os nad yn wir yr oil. Bydd 1910 y flwyddyn bwysicaf yn hanes pawb Prydeinwyr sydd heddyw'n fyw. Gor- fodir ni ynddi i ail-ymladd mewn mwy nag un ystyr bob brwydr fawr sydd wedi ei henill gan y werin a'r miloedd yn ystod y tri chan' mlynedd diweddaf. Collodd ein tadau eu gwaed yn aberoedd er sicrhau uchafiaeth y bobl yn Senedd Prydain, ond heddyw mae'r Arglwyddi yn gwneyd cynyg beiddgar i'w diorseddu, ac i osod eu hunain i dra-arglwyddiaethu arnom, a tharewir yr ergyd gyntaf yn y frwydr orbwysig hon yn 1910, a hyderaf y bydd yr oruchafiaeth mor llwyr o blaid y. bobl fel na bydd eisieu taro eilwaith. Sicr- hawyd i Brydain yn 1642 a 1688 gyfan- soddiad a ystyrid yn odidog gan y gweddill o wledydd cred; ond mae'r Arglwyddi wedi ei daflu i'r pair berwedig, a gwel 1910 beth ddaw allan, ai llo ai Hew o gyfansoddiad newydd. Hyd yn hyn, y Ty Cyffredin a setlai'r tollau a'r taloedd, ond yn awr hawlia'r Arglwyddi ymyryd yn derfynol hyd yn nod a'r Gyllideb, a cheir gweled yn mis cyntaf 1910 a lwydd- ant yn eu haerllugrwydd ai peidio. Gan y Brenin a'r Prifweinidog yn imig yr oedd yr hawl gydnabyddedig i dori'r x Senedd ac i orfodi Etholiad Cyffredinol hyd y mis diweddaf, ond mae'r Arglwyddi eisoes wedi cipio'r hawl hon i'w llaw eu hunain, a Balfour wedi dyweyd y bwr- iadant ei ddefnyddio bellach bob tair neu bedair blynedd, os bydd Llywodraeth Ryddfrydig mewn swydd, a phob saith, mae'n debyg, bob tro y llywodraetha'r Toriaid, a cheir gweled cyn pen mis a oddefa'r bobl y fath ormes ddigywilydd a digydwybod. Yr ydym ni 'fel Ym- neillduwyr wedi arfer meddwl fod ein tadau trwy wialenodiau a charcharau, trwy grogbrenau ac ystanciau, trwy waradwydd ac erledigaethau, fil a mwy, wedi sicrhau yn derfynol ryddid i ni addoli a bodoli fel dineswyr goddefedig, a dyweyd y lleiaf ond os caiff yr Arglwyddi eu ffordd, fe wel 1910 ddechreuad ein tranc, ac mae clerigiaid eisoes yn tynu allan gynllun o addysg i'n plant sydd yn ganmil gwaeth nac hyd yn nod Deddf ofnadwy Balfour. Ac i roi coron ar y cwbl, maent am fyn'd a ni fel gwerin yn ol i gadwynau a hualau Diffyndolliaeth, a dwyn drachefn i Brydain flynyddau newynllyd a du y tymhor barfiaraidd cyn dyddiau Cobden a Bright, pan yr oedd gwerin Lloegr a Chymru yn bwyta gwair wedi ei ferwi, ac yn ceisio dal enaid a chorff wrth eu gilydd ar fara du afiach o rug a haidd, ac y gweithiai'r miloedd am