Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NODION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ddeuswllt y dydd o ddeuddeg a phedair- ar-ddeg o oriau. Tybed fod ein gwerin heddyw am fyned yn ol i gaethiwed Aifft- aidd felly eto, a'r cyfan i gyfoethogi poced a brashau cylla arglwyddi a trusts didru- garedd a chreulawn ? Ceir gweled cyn y bydd Ionawr, 1910, wedi rhedeg ei yrfa. Gall, felly, 1910 fod y flwyddyn oren yn hanes Prydain a gall, hefyd, fod yn flwyddyn o felldith a malldod y cymer fwy nag un genedlaeth i ddadwneyd ei drygioni a'i phechod. Pa un o'r ddau a fydd a ddibyna yn unig ar weithwyr a gwerin y deyrnas. Fy nymuniad a'm gweddi yw, ar iddi fod yn Flwyddyn newydd dda; os na fydd felly, byddai yn well i ni fod heb ei gweled. Cofied Ymneillduwyr hyny, yn anad neb. Y Canghellydd a'r Gynadledd. CEFAIS y fraint o fod yn bresenol yn y brif neuadd yn Nghynadl- ledd fawr Cymru a gynaliwyd yn Nghaerdydd ddydd Mawrth diweddaf. Y Cynghor Rhyddfrydig Cymreig a'i galwodd yn nghyd, a daeth cynrychiolwyr yno o bob parth o'r Dywys- ogaeth. Yr oedd y brif neuadd yn orlawn awr a haner cyn dechreu'r cyfarfod llanwyd mewn ychydig fynydau y neuadd nesaf ei maint ati yn y ddinas, ac yn union wed'yn llanwyd y Tabernael-capel eang y Bedyddwyr Cymreig—a chynulleidfa- oedd gorlawnion. A'r oil, cofier, yn gynrychiolwyr a chyfeillion yr achos mawr Rhyddfrydig a chenedlaethol Cymreig. Yr wyf wedi bod yn mhob cynadledd gyffelyb yn Nghaerdydd a manau ereill yn ystod y pymtheg mlynedd diweddaf, ac yr oedd rhai o'r rhei'ny yn fythgof- iadwy, ac yn ddwfn eu teimlad a'u dylan- wad; eithr dywedaf yn ddibetrus na bum yn yr un erioed oedd mor oddeithiol ei brwdfrydedd, mor unol ei barn, mor ddofn ei theimlad, mor wrol a grymus ei phenderfyniad, ac mor ofnadwy ddifrifol ei hysbryd a'i hamcan, a Chynadledd fawr yr wythnos ddiweddaf. Mae'n wir fod a fyno presenoldeb dyn y dydd, a'r addewid i siarad wrth Gymru gyfan, a thynu'r miloedd at eu gilydd; ond nis gwiw gwadu mai ffynonell a tharddiad yr holl sel a grym a than oedd y ffaith fod Cymru o'r diwedd yn gallu canu mewn ystyr wleidyddol a chendlaethol- Wele'r dydd yn gwawrio draw, Amser hyfryd sydd ger Haw.' Mae'r hyn a fawr obeithiai'r tadau o bell o'r diwedd ger llaw, a'r cyfle i daro ergyd farwol ar eu gelyn traddodiadol ac anghy- modlawn wedi d'od. Bron na floeddid Haleliwia' wrth drefnu y rhengoedd ar gyfer y gad. Yr oedd y cadfridog ei hun mewn ysbryd rhagorol, a thraddod- odd araeth lawn o dan a bywyd, ond ar yr un pryd lawn o bwyll a rhesymeg a gariai argyhoeddiad i bob calon a'i clybu. Nid wyf am fanylu ami. Clywsom rai ineithach, ac efallai mwy gorchestol gan- ddo, ond dim un erioed oedd yn fwy ym- arferol, dewr, a dyfnach ei dylanwad. Tynodd y gorchudd oddiar ragrith yr Arglwyddi, ac nid anghofir byth ei gyf- eiriad at yr angen am ail Dy o Senedd i amddiffyn y tlawd a'r gwan a'r angenus, a'i ddadleniad deifiol ac ysgornllyd o raib a hunan-gais a gorthrwm yr Ar- glwyddi a'u Ty. Rhoddodd engreifftiau o ystranciau ysbeilgar tirlwyddi, gan nodi llecyn -yn ymyl y neuadd ar yr hwn y telid bedair blynedd yn ol dreth ar rent o £ 8 yr enw, ond wedi i gwmni adeiladu chwareudy arno mynodd y perchenog ground rent blynyddol o £ 1,200. Dim ond gwerth £ 56 oedd y tir i gyd pan oedd eisieu talu treth, ond aeth yn werth £ 1,200 yn flynyddol pan oedd eisieu derbyn ar- dreth. Nid anghofir ychwaith y gurfa drom roddodd i Arglwydd Milner, meth- iant mwyaf y ganrif hon a'r ddiweddaf, yn ogystal ag i'r gelyn gwaethaf fedd Cymru, sef Iarll Cawdor, yr hwn yn ei ddyddiau boreuol a wrthododd sir Gaer- fyrddin gyda dirmyg effpithiol a therfynol. Yr oedd swn rhyfel yn 'yr araeth, ac aeth pawb adref i wisgo'n dawel ei gleddyf ar ei glun. Celwyddau'r Gelyn A rwydd Dda. NID oes ragorach na sicrach arwydd o gyflwr truenus y gelyn na'r ystranciau dirmygus yr ymostynga id d y n t i geisio taflu llwch i lygad y werin, a thynu ei sylw at bobpeth ond at wir bwnc yr etholiad. Mae'n amlwg fod y Toriaid yn crynu yn eu calon wrth weled y bobl yn sylweddoli fwy-fwy bob dydd mai'r unig achos sydd i'w setlo yn y frwydr hon yw achos yr Arglwyddi. Yr unig fater sydd ger bron y wlad yw rhaib Ty'r Arglwyddi, a'i feiddgarwch ofnadwy yn ceisio troi cloc gwareiddiad Prydain yn ol dri chan' mlynedd. Ac mae ystrywiau'r gelyn i hudo y bobl i dybio mai rhywbeth arall ydyw mor blentynaidd neu ddibris neu wallgof nes eu gwneyd yn wrthrych tosturi. Treiwyd gwneyd y ddadl yn un rhwng Masnach Rydd a Diffyniaeth, ond gwelwyd nad oedd hyny yn tycio. Yna llogwyd Blatchford, y Sosialydd adna- byddus, i regi fel Balaam rengoedd y Rhyddfrydwyr, ac i geisio'i gwneiyd yn ddrwg rhyngom a Germani. Ond yr oil a lwyddodd i'w wneyd ydoedd profi fod y Daily Mail yn bwyta penau ei fysedd, ac yn tynu gwallt ei ben wrth weled y werin yn para i ymdeithio tua Thy'r Arglwyddi, gan benderfynu ei gael i lawr. Gyda llaw, hefyd, profodd Blatch- ford ei hun yn arch-jingo o'r fath waethaf, ac yn dwlyn hollol yn llaw'r Toriaid. Yna, wrth weled hyn yn methu, dechreuwyd eilwaith ar y gorchwyl o lefain fod ein llynges yn ddiwerth; ond dadlenodd McKenna eu ffwlbri gau, a chwarddodd am eu penau. Wed'yn, darganfyddodd y Daily Mail, yn ystordy ei ddychymyg afiach, fod cordite y fyddin ar ben, ond rhoddodd prif awdurdodau'r fyddin eu troed yn ddiatreg ar y squib hono, a diffoddodd yn y fan. Yn awr, mae National Society yr Eglwys Wladol, a'r Esgobion Pabyddol, wedi eu llusgo i'r helynt, i geisio dangos mai yr unig beth sydd mewn perygl yn yr etholiad yw sectariaeth yn yr ysgolion, a galwant ar eu deadelloedd i gau eu llygaid i bob reality, a chau eu clustiau i bob cri, ond eiddo'r ysgolion sectaraidd. Yn wir, mae llythyr Esgo b Henffordd yn profi tuhwnt i bob dadl fod yr Eglwys wedi ymwerthu i un blaid wleidyddol, ac, i gefnogi'r Lords yn erbyn y bobl. Ar- wydd ardderchog yw hyn i gyd. Newid- iant eu tir a'u bloedd bob dydd. Ond i ddim pwrpas. Mae'r werin wedi gweled mai mater bywyd rhyngddi hi a'r Ar- glwyddi ydyw un pwnc yr etholiad, a pha beth bynag fydd y canlyniad y waith hon, nid oes ronyn o amheuaeth beth fydd terfyn y rhyfel, boed gynar neu hwyr. A barnu oddiwrth driciau egwan y gelyn, mae'r werin yn ymdaith i'r gad yn amlder ei grym, ac yn debyg o ddwyn pethau i derfyn yn y frwydr gyntaf. ti T — r- 1 Caerdydd a Merthyr. iviAis k irwyar yn y ddwy etholaeth enwog hyn yn nodedig o ddy- ddorol, ac yn eithriadol bwysig. Ystyrir Caerdydd erbyn hyn yn brifddinas Cymru, ac mae yn nesaf at fod yn hanfodol i ragolygon Cymru yn y Senedd nesaf ei bod yn cael ei chynrych- ioli gan genedlaetholwr a Rhyddfrydwr. Ac mae wedi bod yn ffodus ryfeddol i sicrhau fel ymgeisydd wr mor fedrus a chadarn ac enwog a Mr D. A. Thomas. Mae ganddo gymhwysder eithriadol i fod yn gynrychiolydd iddi. Mae yn feistr hollol ar bobpeth yn nglyn a. masnach y dref a'r porthladd a'r Deheubarth i gyd. Mae yn amheus genyf a oes neb all dynu'r dorch ag ef yn y mater hwn, oddigerth efallai Syr William Thomas Lewis. Peth arall, nid yw yn afiach ar unrhyw bwnc Rhyddfrydig. Mae yn gryf a phendant ar bob un ohonynt, ac nid oes neb wedi profi ei hun yn well Dadgysylltwr. Erbyn hyn, er ei holl annibyniaeth, mae yn cyd- weithio a'i frodyr, ac efe oedd yn croesawu y Canghellydd yr wythnos ddiweddaf. Mae yn Anghydffurfiwr mewn barn, yn siaradwr da, ac yn ymladdwr diguro. Dywedaf eto, mae yn ideal o ymgeisydd i Gaerdydd. Ac mae yn sicr o lwyddo, debygaf fi, os ca chwareu teg gan ei gyf- eillion. Bydd raid iddo ef ei hun daflu golwg bersonol dros bethau, a gweled fod trefniadau ei etholiad yn sicrhau cefnog- aeth pawb o'r blaid. Mae'r Pabyddion yn gryf yn y dref, ac yn cymeryd arnynt fod yn gyfeillion iddo ond maent mor ansafadwy a dwfr, a byddai yn burion iddo beidio cyfrif arnynt. Nid an- mhosibl fydd cael cymhorth sylweddol y gweithwyr yn awr, gan fod yr Ymgeis- ydd Llafur wedi ymneillduo. A beth am Gymry ac Ymneillduwyr y ddinas ? Nid trwy drefniant y Liberal Association y deuir atynt oreu. Ond wedi cymeryd pobpeth i'r cyfrif, credaf fod D. A.' yn ddyogel, a Chaerdydd yr un modd drwy- ddo.—Beth am Ferthyr ac Aberdar ? Mae yno bedwar ymgeisydd am ddwy sedd —Rhyddfrydwr, Llafurydd, Tori, a Rhyddfrydwr Annibynol. Rhaid cyd- nabod fod y sefyllfa yn bur ddyrus. Ond mae'r argoelion oil yn ffafriol. Mae'r Gymdeithas Ryddfrydig mwydd yn gref ac iach. Mae'r ymgeisydd Rhyddfrydig, Mr Edgar Jones, M.A., wedi ei ddewis gyda brwdfrydedd ac unfrydedd. Ac mae yn wr ieunac hyawdl, dy.- gedig, a chydwybodol, ac yn mhob modd yn gymhwys fel cynrychiolydd hen ethol- aeth Henry Richard. Dylai ef a Keir Hardie yn bendifaddeu fod ar ben y pol. Mae gan y Llafurwyr hawl deg i un cyn- rychiolydd, ac Edgar Jones ddylai fod y llall. Gwastraff ar votes fydd i Ymneill- duwyr, a Rhyddfrydwyr, a Llafurwyr eu rhanu fel arall. Nid oes genyf ddim yn erbyn yr ymgeisydd Annibynol Rhydd- frydig, ond nid yw wedi ei ddewis gan y blaid, a gwrthododd ymostwng i'w dyfarn- iad, ac felly ni ddylai gael cefnogaeth yr un Ymneillduwr egwyddorol. Bydd genyf air yn ei dro am ereill o'r etholaethau Cymreig yr wythnosau dy- fodol. H.