Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
CANAAN, ABERTAWE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CANAAN, ABERTAWE. Blwyddyn i Sul cyntaf Ionawr y daeth y Parch Llynfi Davies, B. A, i'n plith fel gweinidog, ac y mae wedi bod yn flwyddyn hynod o lwyddianus. Penderfynwyd adnewyddu tufewn y capel, a chael organ, a da genym fod y cyfan wedi ei wneyd i foddlonrwydd pawb. Mae Canaan heddyw yn un o'r capelau tlysaf yn y dref. Nos Iau, Rhagfyr 9fed, agorwyd yr organ gan Mrs Williams, gweddw Williams, Canaan,' gynt. Cyflwynwyd yr allwedd iddi, ar ran Meistri Conacher, gan Mrs Llynfi Davies, ac nid anghofir yn fuan dlysni'r olygfa, Cadeiriwyd gan Mr Richard Martin, Y.H., gwron y frwydr ar Addysg. Cnwareuwyd yr organ gan Mr Caradog Roberts, Mus Bac., ac yr oedd y dorf fawr yn synu at ei fedr. Mae Mr Roberts yn ddiau yn athrylith gerddorol. Canodd y cor gyda chymerad- wyaeth uchel, gorawdau o'r Messiah,' &c., o dan arweiniad Mr Havard Davies a mwynhawyd yn fawr unawdau cysegredig gan Miss May Roberts, un o gantoresau mwyaf swynol y genedl. Cyngerdd ardderchog, oedd teimlad pawb wrth fyned allan. Y Sul canlynol, Rhagfyr i2fed, pregethwyd i gynulleidfaoedd mawrion gan Proff Joseph Jores, B.A., B.D. Bu llawer o ddysgwyl am agoriad y capel, ac ni chafodd neb eu siomi. Yr oedd bendith yn mhob oedfa, a'r arddeliad yn amlwg. Chwareuwyd yn fedrus gan Miss Wmnie Lloyd, organyddes yr eglwys. Golygfa hardd oedd capel gorlawn nos Sul. Er mai yn Saesoneg y cynelir y gwasanaeth, mae ysbryd y dyddiau fu yn aros, ac y mae Canaan heddyw yn Ilewyrchus ei gwedd. Agorwyd yr organ yn rhydd o ddyled telir yr haner gan Mr Carnegie. Nawdd y Nef fo ar yr hen achos parchus hwn. B. S.
SARDIS, WAUNARLWYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SARDIS, WAUNARLWYDD. Agoriad y Capel N ewydd. Oddiar pan yr ysgrifenais o'r blaen, yr ydym wedi myned drwy lawer o gyfnewidiadau yn nglyn a'r capel. Teimlad yr eglwys er's rhai blynyddau oedd, fod y capel wedi myned allan o'r ffasiwn, fel y dywedir, ac yn anghysurus i addoli ynddo, ac fod eisieu ei wneyd yn fwy, i fyny a'r oes. I gwrdd a'r hyn oedd yn angenrheidiol, pender- fynodd yr eglwys yn unfrydol i fyned yn nghyd a'r gwelliant yn ddiymdroi. Etholwyd pwyllgor gweithiol ar unwaith, ac aed yn mlaen a'r gwaith gyda brwdfrydedd mawr. Gan nad allem helaethu dim ar y capel, pender fynwyd ei ail-wneyd o'r newyddoddimewn yn hollol. fel y mae yn newydd i gyd ond y mur. iau. Y cynllunydd oedd Mr W. David, Aber- tawe, a'r argymerwyr oeddynt y Brodyr Lloyd, Abertawe, ac y maent wedi gwneyd eu gwaith yn ardderchog, ac i foddlonrwydd cyffredinol. Y mae y capel wedi ei gynesu a pheiriant cynesu, ac y mae hyny yn welliant anmhris- iadwy i'w wn,eyd yn gysurus. Penderfynwyd hefyd cael organ newydd, a chaed un ysblen- ydd, o waith Mri Blackett a Howden, Newcastle- on-Tyne, gwerth dros dri chant o bunau. Felly, trwy y cyfan, y mae yn un o'r capelau harddaf a chysurus yn y wlad. Y Parch J. Bevan, ein hen weinidog, gafodd yr anrhydedd o bregethu gyntaf yn y capel newydd, a'n gweinidog presenol yn ail. Felly, chwi welwch fod y ddau weinidog yn rhanu eu llawenydd cydrhyngddynt yn y capel newydd. I ddathlu agoriad yr organ newydd, dios, cynaliwyd cyngerdd ardderchog nos Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, pryd y cafodd ei hagor gan Mr Caradog Roberts, Mus. Bac., yr hwn sydd mor enwog drwy Gymru benbaladr. Dangosodd Mr Roberts ei fod yn feistr ar y gwaith, a phrof- odd drwy hyny fod yr offeryn yn un da drwyddoi gyd. Yr oedd Mr Roberts yn arllwys y miwsig allan, nes gwefreiddo y gynulleidfa. Chwareuodd Yr Ystorm,' nes yr oedd y bobl yn credu ei bod hi yn ystorm o ddifrif oddi allan, gan gymaint cffaith y chwareu. Ac felly ar bob darn, nes teimlem fod yr hyn a chwar- euid ganddo yn bod yn wirioneddol Canodd Llinos Arlwydd, a Glyn Walters hefyd, nes synu pawb a'u nodau swynol. Canodd y cor, o dan arweiniad medrus Mr John Griffiths, ddwy anthem, sef, Worthy is the Lamb (Handel), a Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu' (J. Thomas, Llanwrtyd), yn effeithiol dros ben. Daeth torf anferth yn nghyd, nes llanw y lie yn mhell cyn yr amser penodedig. Felly, chwi welwch ein bod wedi cael gwledd yn yr ystyr gerddorol. Y cadeirydd oedd, Mr D. E. Williams, M.A., Prifathraw Ysgol Ganolraddol Gowerton, yr hwn a lanwodd y gadair yn ddoeth a phwr j pasol. Cynygiwydfy diolchgarwch arferol gan y Parch D. M. Davies (gweinidog), ac eiliwyd gan y Parch Towyn Jones, mewn ffordd hynod o ddoniol, fel y gall efe wneyd. Sabbath, Rhagfyr 5ed, cynaliwyd cyfarfodydd agoriadol, pryd y pregethwyd gan y Parchn Towyn Jones; G. Penar Griffiths, Pentre Estyll; a J C. Lloyd, Crwys. Daeth tyrfa fawr yn nghyd i wrando'r Efengyl yn cael ei thraddodi gyda nerth ac arddeliad. Cafwyd gwasanaeth Mr Caradog Roberts wrth yr organ, ac yr oedd y canu hefyd yn ardderchog, a theimlad pawb oedd, 1 Mai da oedd i fod yno.' Nos Lun, pregethodd y Parch W. Salmon, Treforis, a D. O. Davies, Gowerton Nos Fawrth, y Parchn Gwylfa Roberts, Llanelli, a D G. Williams, St Clears. Nos Fercher, y Parchn J. John, Llanstephan, a D. H. Thomas, Gorseinon. Prydnawn a nos Iau y Parch H. Elvet Lewis, M.A., Llundain. Y Sabbath canlynol, pregethodd y Parchn D M. Davies, Llyfrfa, Abertawe; J. Davies, B.A., Mynyddbach; a J. Jones (B), Waunarlwydd. Nos Lun, y Parchn T. Bryn Thomas, Ferndale, a A. T. Jenkins, Penclawdd. Nos Fawrth, y Parchn L. Richards (M.C ), Gowerton, a Gomer Lewis, D.D., Abertawe. Nos Fercher, y Parchn S. Williams, Penrhiwceibr, a R. Rees, Alltwen. Prydnawn a nos Iau, y Parchn Peter Price, B.A., Dowlais, a D. Davies, Felindre. Cafwyd cynulliadau da, ac ystyried fod y tyw- ydd wedi bod mor anffafriol. Cafwyd pregethu grymus ac effeithiol, ac amlygrwydd o wenau Duw gyda'r cenadon. Gobeithio y bydd i'r gyfres gyfarfodydd i droi allan i fod yn fendith ysbrydol i'r eglwys, ac i'r gymydogaeth, ac y bydd i'r capel newydd fod yn ysbrydiaeth new- ydd i'r eglwys i fagu dynion ag y byddont o wasanaeth i'r Achos mawr a goreu, ac i gym- deithas, ac yn benaf oil yn ogoniant i'r Arglwydd. Casglwyd tua £350. ARLWYDDIAN.
BLAENRHONDDA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BLAENRHONDDA. Cyfarfod Anrhegu y Parch W. A. Jenkins a'i Briod.-Diau y bydd yn dda gan lawer o ddarllen- wyr y TYST, i gael ar ddeall, fod Mr Jenkins yn llwyddo yn ardderchog yn ei faes gweinidogaethol. Mae yn Blaenrhondda le rhagorol i weithio, ac i wneyd gwaith dros y Gwaredwr. Gwisga yr eglwys agwedd lewyrchus iawn ar hyn o bryd, Mae yn yr eglwys hon nifer o frodyr rhagorol, rhai sydd yn llosgi gan sel i weithio yn ngwinllan eu Harglwydd. Amlwg oedd canfod yn y cyfarfod anrhegu, fod Mr Jenkins wedi suddo yn ddwfn yn eu serch, ac hefyd eu bod yn ei garu yn wirioneddol. Gwyr pawb sydd yn adtvaen Mr Jenkins, fod ynddo allu, a thalentau, i wneyd pregethwr dysglaer, a gweinidog da i Iesu Grist. Daeth tyrfa o bobl a phlant yn nghyd i'r cyfarfod. Llywyddwyd yn ddeheuig iawn gan Mr J. Evans, un o ddiaconiald yr eglwys. Cymerwyd rhan gan y brodyr a'r chwiorydd canlynol:—Canwyd gan J. Lewis, Jane Lewis, W. J. Davies, Mary Lizzie Davies, Mary Jones, Annie Thomas, Tillie Jones. a David Davies. Adroddwyd yn ardderchog gan Iago. Hefyd, siaradodd amryw ar ran yr eglvys a Chymdeithas y Bobl leuainc Y rhai siar- adodd ar ran yr eglwys ydoedd Mri D. Morgan a John James. Mynegasant eu teimlad o werth gwas- anaeth Mr Jenkins, er pan oedd wedi ymsefydlu yn eu plith. Dymunasant ar ran yr eglwys bob llwyddiant i'w gweinidog, a'i anwyl briod. Siarad. wyd ar ran y bobl ieuainc gan Mr Joseph Phillips a Miss Phillips. Dywedasant eu bod wedi cael cyfaill ac arweinydd iddynt yn Mr Jenkins, ac fod eu byd meddyliol yn llawer cyfoethocach nag oedd trwy ei lafur yn eu plith hwy fel cymdeithas. Cymerodd brodyr ereill ran yn y cyfarfod,—Mr John Gilby, un o ddiaconiaid y Methodistiaid yn y lie, ac hefyd y Parch T. Morris, Clydach Vale. Dymunent iddynt bob llwyddiant yn eu bywyd priodasol, ac oddiar adnabyddiaeth agos a Mr Jenkins, teimlent yn dra sicr fod iddo ddyfodol dysglaer. Cyflwynwyd yr anrhegion gan Mr Timothy Davies, diacon, ac yn ei ddull doniol a gwreiddiol dywedodd fod yn llawen ganddo ar ran yr eglwys gyflwyno iddynt y marble clock a'r ddau ornament. Dywedodd nad oeddynt ond dangoseg gwan o deimlad yr eglwys tuag atynt Diolchodd Mr Jenkins iddynt yn gynes ar ran ei hun a'i briod. Dywedodd na fuasal byth yn anghofio eu caredigrwydd a'u eydymdeimlad Ag ef yn ei waith yn eu plith. Teimlai pawb oedd yn bresenol, eu bod wedi cael cyfarfod wrth fodd eu calon. Canwyd yn dda, adroddwyd yn dda, a siaradwyd yn dda. Boed i fendith gyfoethog Duw i wenu arnynt a'u llwyddo yn y dyfodol ydyw dymuniad UN OEDD YNO.
GWYDDGRUG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWYDDGRUG. Y Parch P. H. Lewis.—Gwrthod cyd- synio a cbais taer Bethania, Abercynon, i ddyfod i'w bugeilio, wna y Parch Peter Hugh Lewis, F.T.S.C. Mae yn fawr ei barch yn ei hen gylch, ac y maent wedi Ilwyddo i'w gadw rhag myned i Forganwg. Llwyddiant mawr iddo. CVFAILL.
DOWLAIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DOWLAIS. Darlith,-Nos Iau, Tachwedd 25am, cafwyd y ddarhth gyhoeddus gyntaf o'r tymhor dan nawdd Cymdeithas y Cymreigyddion, pryd y cafwyd cynulliad da i wrando ar y Parch Mafonwy Davies, Solfach, yn traddodi ei ddarlith odidog ar Watcyn Wyn. Gwelwyd yn union ei fod yn feistr ar ei destyn, ac yn adwaen y gwrthrych yn dda, ac oherwydd hyny llwyr feddianodd y gynulleidfa o'r dechreu i'r diwedd. Llywyddwyd yn ddeheuig gan lywydd y Gymdeithas, sef y Parch P. Price, B.A. Pasiwyd y bleidlais arferol i'r darlithydd. Yr ydym yn dysgwyl am ddarlithiau godidog eto gyda Chymry enwog ein gwlad. Bethania.-Nos Fercher, Rhagfyr isfed, cafwyd cyfarfod godidog dan nawdd Cymdeithas y Bobl Ieuainc, pryd y cymerwyd rhan gan ddwy chwaer ar A ddylai y merched gael yr Hawlfraint Bleid- leisiol ?' Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Miss Jones, Walter-street, a'r nacaol gan Miss Rees, South-street. Yn wir, yr oedd yn wledd odiaethol i'w gwrando. Yr oedd yn gyfarfod addysgiadol yn mhob agwedd, a chlywsom resymau newyddion o blaid y ddwy ochr. Pasiwyd y bleidlais arferol i'r ddwy chwaer am fentro ar gwestiwn sy'n llosgi yn fflam y dyddiau hyn. Hwy oedd y rhai cyntaf i agor y tymhor wedi anerchiad ein Llywydd bythefnos yn ol.
SEION, PONTYPRIDD. -",.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
SEION, PONTYPRIDD. Fe ddichon y bydd gair o'r lie hwn yn dderbyniol gan ddarllenwyr y TYST, ac yn enwedig gan yr Annibynwyr sydd wedi ymfudo i'r parth hwn o'r dref o wahanol fanau o'r cymydogaethau gweithfaol. Cynaliasdm ein cyfarfod haner-blynyddol ar yr 21ain a'r 22ain o Dachwedd, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn T. Hughes, Briton Ferry, a W. A. Williams (B), Taber- nacl. Cawsom weinidogaeth rymus ac ymarferol dros ben gan y ddau. Yr ydym wedi cychwyn ar waith y gauaf er's wythnosau bellach. Mae'r Gobeithlu i'r plant yn cael ei gynal nos Lun, o dan ofal y brawd R. Evans a'r chwaer Miss Williams, Pentrebach, ac y mae addysg y plant yn ddyogel o dan eu gofal hwy. Y mae genym hefyd gyfarfod diwylliadol y bobl ieuainc, yr hwn a gynelir nos Fawrth, cadeirydd yr hwn yw ein parchus weinidog, Mr D. Tegfan Davies, yr hwn yn nghyda'i briod sydd yn ffyddlon gyda phob cangen o waith yr eglwys. Mae y cyfarfodydd hyn yn ddyddorol dros ben, ac mae'n hyfrydwch o'r mwyaf genym weled y brodyr a'r chwiorydd ieuainc yn cymeryd mewn llaw i ddarllen a siarad ar destynau mor sylweddol. Yr ydym yn hyderus gredu y daw ffrwyth a daioni o hyn yn feddyliol, moesol, ac ysbrydol. Annibyn- wyr Trallwm a Choedoenmaen, cofiwch fod Seion yn yr ymyl, a bod croesaw calon i bawb sy'n caru heddwch Seion i droi atom. T. T.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
P^archerac^TJ JGDM RETURNS i -1- II!I Darlun o Pecyn Wns. ARCHER'S GOLDEN RETURNS PERFFEITHRWYDD MYGLYS FIB