Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
LLENYDDIAETH UNDODAIDD YN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLENYDDIAETH UNDODAIDD YN RHAD. Unitaian Reading Free Pamphlets explanatory of Unitsriaiiism by such able writers as Dr Minot J Savage, Dr Stopford Brooke, &c., may be obtained free on application to- Mrs LEWIS, Tophill, Pontypridd. mai mewn cyfarfod pregethu yn Nghric- cieth y treuliai Mr Lloyd George ei Nadolig. Llam go fawr o gyffro daearol St Stephan i heddwch sanctaidd y cyfarfod pregethu mewn capel Ymneillduol yn Nghymru, onide ? Yr un fath y treuliai un aelod Seneddol arall ei Nadolig, a dyweyd y lleiaf. Yr oedd Mr W. Elewellyn Williams, A.s., a chwmni oedd yn aros gydag ef yn sir Gaerfyrddir-yr oil yn treulio Sul y Nadolig mewn cyfarfod pregethu yn nghapel Jerusalem, Pembre nid codi at yr hwyr, a d'od i un oedfa, ond yno drwy'r dydd-foreu, nawn, a nos-heb neb yn mwynhau'r oedfaon yn well. Gall ein gwlad wir ymfalchio yn mwyafrif ei Sen- eddwyr bellach, a bod yn dawel yn eu cylch. G.
PENYBONT-A R-OGWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENYBONT-A R-OGWY. CYFARFOD SEFYDLU. Dydd Mercher,yr 8fed cynfisol,cynaliwyd cyfarfod sefydlu y Parch W. Evans, B A., diweddar o Rydychain, a chynt o'r eglwys Seisonig Annibynol yn Nolgellau, yn wein- idog i'r eglwys Annibynol Seisonig yn y lie hwn. Yn y prydnawn, cafwyd cyfarfod preg- ethu. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch E Morgan, Castellnedd, a phregeth- wyd gan y Prifathraw T. Rees, M.A., Bangor. Dysgwylid y Proff. Tyssul Evans, M.A., Caerdydd, hefyd, ond rhwystrwyd ef i fod yn bresenol mewn pryd, a bu raid iddo wed'yn ddychwelyd adref cyn cyfarfod yr hwyr, er siomedigaeth gyffred- inol. Ar ol cyfarfod y prydnawn, cafwyd te croesaw yn y festri i'r holl eglwys a'r ym- welwyr, yn cynwys llawer o weinidogion y cylch. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan foneddigesau yr eglwys gyda'r serch- ogrwydd sydd yn eu nodweddu. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod cy- hoeddus, dan lywyddiaeth Mr M. Davies, un o ddiaconiaid yr eglwys, Dechreuwyd gan Mr D. P. Roberts, B.A., B.D,, Rhyd- ychain, un o gydfyfyrwyr Mr Evans. Yna darllenodd Mr McAllister, ysgrifenydd yr eglwys, restr faith o bersonau ysgrifenas- ant i ddatgan eu hanallu i fod yn bresenol. Yr oedd yn ddrwg iawu gan bawb fod Proff Jack, Rhydychain, golygydd yr Hibbert Journal, yn methu d'od, am ei fod yn darlithio yn Ysgotland ar yr adeg. Wedi hyny, cafwyd anerchiadau gan y Parchn W. Glandwr Morgan, Abermaw y Prifathraw Rees E. Morgan, Castellnedd a Dan Evans, D.D., Hawen. Darllenodd y Parch W. Glandwr Morgan benderfyniad unfrydol yr eglwys yn Nol- gellau, yn dwyn y dystiolaeth uchaf i gymeriad a gwasanaeth Mr Evans tra yno, ac yn dymuno pob daioni iddo ef a'r eglwys yn Mhenybont. Ar ol hyn, rhoddodd Mr W. Powell, diacon, hanes yr alwad unfyrdol i Mr Evans, yr hon a ddarllenwyd gan Mr McAllister. Ac yn ddilynol c aed anerch- iadau croesawgar gan weinidogion y dref, a chan Mr Rhys Williams, yn cynrychioli yr eglwys Annibynol Gymreig. Dymunai pawb fendith ar yr undeb. Boed felly. DELTA.
MERTHYR TYDFIL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MERTHYR TYDFIL. YParch D. Enrof Walters, M.A., B.D. —Traddododd y boneddwr hwn ei bregeth ymadawol yn nghapel Market-square nos Sul diweddaf. Eglur oedd fod y pregethwr a'r gynulleidfa o dan deimladau dwys, oblegid y mae y teimladau goreu wedi bodoli o'r ddau tu byth oddiar ei ddyfodiad yma yn haf 1905. Yr wythnos gynt cynaliwyd cyfarfod tystebu, Mr J. M. Berry, Y.H., yn y gadair. Cyflwynodd Mr W. L. Daniel, Y.H., dros yr eglwys i Mr Walters roll-top desk hardd, ac i Mrs Walters silver tea and coffee service, fish carvers, and knives and forks. Cymerodd amryw ran yn y cyfarfod, a datganwyd gofid cyifredinol y trefwyr am ymadawiad Mr Walters. Mae wedi cymeryd gwaith ei swydd newydd i fyny, a symuda yn fuan i Abertawe i fyw. Pob llwyddiant iddo yn y dyfodol. Bydd yn golled i bob symudiad crefyddol a chymdeithasol yma ar ei ol. Ynysgau.-Nos Nadolig, cynaliwyd yma gyfarfod cystadleuol llewyrchus iawn; gwelwyd ffrwyth atnlwg yn ymdrechiadau y plant. Beirniadwyd gan Cynog Mr Tom Evans, Cefn a Mrs D. D. Williams. Colli Hen Drefwyr. —Daeth ton o brudd- der dros y dref, dydd Gwener diweddaf, pan daenwyd y newydd fod y Milwriad D. Rees Lewis wedi marw. Yr oedd wedi bod yn beryglus wael ychydig wythnosau yn ol, ond gorchfygwyd y gelyn y pryd hwnw, a galluogwyd ef i godi o'i wely a d'od i'r llawr. Bu ar y llawr boreu ddydd Gwener, ond daeth gwendid y galon arno, a bu farw yn sydyn iawn yn 65 mlwydd oed. Cy- merai ddyddordeb mawr yn mhob peth berthynai i'w dref enedigol, ac yr oedd yn Wirfoddolwr aiddgar oddiar ei fachgendod. Cyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac efe oedd Cofrestrydd Llys y Man- ddyledion, Clerc yr Ustusiaid, Cadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol Sir, a Thrysor- ydd y Y.M.C.A. Efe oedd wedi cael e ethol (am y drydedd waith, ond nid yn olynol) yn Feistr Cyfrinfa y Meiswniaid Rhydd gwnaed hyny allan o barch iddo gan ei frodyr, gan mai y flwyddyn hon fydd y gan fed o oes Cyfrinfa y Loyal Cambrian. Perchid ef yn gyffredinol, oherwydd yr oedd yn foneddwr perffaith, a gwelir bwich mawr ar ei ol mewn llawer adran o gymdeithas. Cymer ei gladdedig- aeth le dydd Mercher (heddyw). Un arall o frodorion Merthyr a symudwyd megys a dyrnod oedd Mrs Frank James, gweddw y diweddar Mr Frank James, cyfreithiwr, a mam y Maer presenol. Yr oedd yn edrych allan o ffenestr ei thy pan oedd y bobl yn myned i'r cwrdd boreu Sul diweddaf, ond cyn iddynt ddychwelyd yr oedd ei bysbryd hi wedi ehedeg ymaith. Gwelodd 78 o flwyddi, ac yr oedd hi yn foneddiges hawddgar a da. Mae'r dref hon wedi colli llawer un o'i hen frodorion yn ddiweddar.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. PWYSIG Dymunir ar ein Gohebwyr a'r Beirdd i ddal sylw ar y Cyfarwyddiadau can- ynol mewn perthynas a'u cynyrchion. Mae danfon Barddoniaeth i'r Swyddfa yn lie eu danfon i Pedrog, a chyfeirio Oohebiaethau i breswylfod y Golygydd yn lie i'r Swyddfa, yn peri dyryswch ac anghyfleusdra mawr. 1. I anfon eu Gohebiaethau yn uniongyrcho i'r Swyddfa, gyda'u henwau priodol a'u cyf- iiriadau. 2. Rhaid danfon Barddoniaeth yn union- gyrchol i Olygydd y Farddoniaeth—y Parch. J. O. Williams (Pedrog), 30, Stanley-street, Fair. field, Liverpool. 3 Ni ellir sicrhau cyhoeddiad unrhyw oheb- iaeth yn y Rhifyn dyfodol os 11a chyrhaedda y Swyddfa y boreu Gwener blaenorol. 4. Adolygiadau ar Lyfrau, 6-c.—Rhaid danfon i'r Swyddfa gopi o bob Llyfr neu Gyhoeddiad, &c., cyn yr ymddengys Adolygiad arno yn y TYST. Mewn Llaw alynnedd. -Rtiosarnau- POD tl OTYU Yr Arglwyddi-O'r Bedd i'r Pwll-D Jwlais-Oydweli —Aberdar a'r Cyleh-Nodion o Lundain-PeaygrAig- D. Jones—Bethlehem, C ¡erdydd-WhiUand-"a Jrileou Wau»arlwydd|— Treflynon Barn John Joues- Gohebiaethau.
POB OCHR I'R HEOL.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
bob cyfrif, gobeithio y cedwir gwir bwnc yr etholiad ger bron y wlad—■' Ty'r Ar- I y glwyddi ynte'r Bobl.' Nid oes eisieu gwastraffu amser ar Ddiffyndolliaeth na mesurau addysg a thrwyddedau, nac hyd yn nod y Gyllideb fel y cyfryw; ond Ty'r Arglwyddi ynte'r Bobl.' Y Gor- thrymwyr sydd wrth y frawdle yn y prawf hwn y Tasgfeistri sydd i'w dwyn i gyfrif eleni, ac y mae'n beryglus gadael i ddim arall groesi'r llwybr; oblegid gall fod defnydd ymraniad yn nglyn a phob pwnc heblaw hwn. I lawr a Thy'r Arglwyddi.' (7) Mae gan y Methodistiaid gyhoeddiad Saesoneg yn hollol gyfyngedig i'r enwad yn Nghymru The Monthly Ireasury. Nid yw ond ceiniog yn y mis, a'i olygydd yw y Parch J. Glyn Davies. Mae ysgrifau didderbynwyneb yn hwn o fis i fis, ond yn yr ysbryd mwyaf serchog. Mae'r llith arweiniol yn rhifyn Ionawr y mis hwn yn ymwneyd a dyfodol y Corff, ac y mae ynddo bethau amserol a phlaen yn cael eu dy- weyd am y fugeiliaeth a'r eglwysi Cyd- nebydd yr awdwr fod llu mawr o fugeiliaid y Corff yn anghysurus yn eu cylchoedd, ac mai anhebgorol yw cael rhyw drefniant yn yr enwad i sicrhau fod gweinidogion yn cael newid eu cylchoedd. Dywed fod bod yn hir yn yr un eglwys yn llethu gallu pregethwrol llawer un, &c. Dygir y cwyn- ion hyn ger bron mewn math o ymddyddan doniol a ffraeth rhwng tri Methodist da. Dyma rywbeth up-to-date mewn cyhoedd- iad enwadol; ac y mae llu o faterion fel hyn y dylid eu trin a'u trafod yn ddiau, a pherthynant i bob enwad. w (8) Yn Ysgol Sul y Tabernacl, Llanelli, prydnawn y Sul diweddaf, cyflwynwyd llyfrau heirdd yn wobrwyon am ffyddlon- deb yn yr Ysgol Sul ar hyd 1909 yn ddi- fwlcli i tua haner cant. Nid oeddynt wedi colli cymaint ag un Ysgol Sul drwy y flwyddyn. Cafodd ereill badges am gadw'r Ysgol yn gyfan i gyd hyd o fewn un Sul. Y mae peth fel hyn yn anog i ffyddlondeb. Cyflwynwyd yr her-darian i'r un dosbarth am y bedwaredd waith, ac ni roddir hon ond i'r dosbarth ffyddlonaf yn unig. 4 (9) Clywir dyweyd weithiau yn wyneb tynerwch annaturiol yr hin oddeutu'r adeg hon o'r flwyddyn nad ydym yn cael I gauaf' yn awr. Os na cheir un naturiol, yr ydym, ni a ofnwn, yn cael gauaf ys- brydol go hawdd ei deimlo. Dywedir mai blwyddyn bur farw gyda chrefydd oedd yr un ddiweddaf. Onid yw meddwl am hyn yn creu syndod pan gofir cyn lleied o amser sydd er pan basiai Cymru drwy ei Diwygiad mawr, tanllyd. Yn ei ysgrif ar Ddiwygiad 1859,' dywedai y Parch W. Thomas, Whitland, fod yr Hybarch Joshua Lewis, Henllan gynt, yn siomedig yn y Diwygiadau gaed yn 1840 ac 1850, am na throdd y nifer allan yn ol y dysgwyliadau pan roed deheulaw cymdeithas iddynt, ac. o ganlyniad, gorfu iddo en diarddel, a throdd yr eglwysi yn oer a diymdrech am flynyddoedd.' History repeats itself, onide ? Tybed, pe ceid gwir brofiad llawer un yn awr, ei fod yn mhell oddiwrth Joshua Lewis, Henllan. # (10) Prydferth yw deall fod gan Gymru gynifer o'i haelodau Seneddol yn gapelwyr cyson a dirodres. Wrth gwrs, y maent ar wasgar oil yn awr. Dywedid yn y papyrau