Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

JONATHAN AR OL DAFYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

JONATHAN AR OL DAFYDD. Yn y Beibl, 2 Sam. i. 17, cawn alarnad Dafydd ar ol Jonathan ond, yn yr amgylchiad can- lynol, cawn Jonathan yn gaiaru ar ol Dafydd. Jonathan a Dafydd oeddent ddau frawd, ac efeiliiaid— meibion Francis a Mary Davies, Trefedw, Llanglydwen, gorllewinbarth swydd Gaerfyrddin. Yr oeddynt o'u rnebyd yn hoff iawa o'u gilydd, ac felly drwy eu hoes Treul- iasant lawer o Jlynyddoedd gyda'u gilydd yn Lerpwl. Gelwid hwynt' Y Gefeill feirdd.' Yr oedd talent lenyddol gref yn y ddau. Cyfan- soddai Dafydd ambell benill, ac weithiau englyn ond y mae Jonathan, yr hwn sydd eto yn fyw, yn fardd galluog ac adnabyddus, ac wedi ysgrifenu llawer i'r papyrau a'r cylch- gronau yn y mesurau rhyddion a chaeth, a bob amser yn ddestlus. Bu farw Dafydd Rhagfyr 16eg, 1909, ar ol mis 0 gystudd caled, yn Ysbyty Toxteth, Smithdown-road, Lerpwl, yn 76 mlwydd oed, a gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth y Llun can- lynol, yn Nghladdfa Smithdown-road, gan y Parch John Evans (M.C ), yn Gymraeg yn y capel, ac yn Saesoneg wrth y bedd. Annibyn- wyr oedd y ddau, o Hebron yn wreiddiol. Yr oedd mab i'r diweddar Barch O. R. Owen yn yr angladd. Mwyach, mae Jonathan, adna- byddus wrth enw arall, yn alarus yn ei unigedd. Fel hyn y mae ei alarnad ar ol ei efeill-frawd, Dafydd,- 0 beth wnaf ar ol Dafydd ? Och fyd! fath fywyd a fydd ? Ar ei ol ar fyrder af— O'i golli, byw nis gallaf! Mi deimlais awydd weithiau I fyn'd yn driot fy ngwedd, I chwilio'n mysg y beddau Am fechan fan fy medd. Ond 'nawr mi wn yn eitha' Pa le mae'r fan i fod Wrth ochr fy mrawd anwyla Yn Nghladdfa Smithdown Road. Daeth angel i'm cysuro Un noson, lawr o'r ne', Gan sibrwd, 'Paid ag wylo, Mae Dafydd mewn gwell lie.' Y cwbl 'rwyf yn ddymuno Ar ol y blinder mawr, Ac wedi llwyr ddiffygio- Yw bedd a nef yn awr I JONATHAN. Hunodd Dafydd ddihonol-fy hiraeth, O'i farw sydd lethol: Yma 'rwyf yn drwm ar ol-âto 'r tf, Ei v. eled a wnaf yn y wlad nefol. CLWYDWENFRO. -+-

PESWCH CALED A THAGLYD, A…

NODION.