Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
UNDERTAKERS' OPPORTUNITY.—30 Modern Hearses Washington Cars, Clarences, Landaus, Brakes' Hansoms ,£10, some equal new. Low Prices and great Bargains. Easy terms. Descriptive priced Catalogue.—MARSTON'S 24, Bradford-street, Bir- mingham.
POB OCHR I'R HEOL,
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
POB OCHR I'R HEOL, (1) Mae Annibyniaeth wedi cael dyrn- odiau go gelyd yn Meirion yn ddiweddar yn symudiad lleygwyr atnlwg. Anaml y ceir gwr mor hynaws a dylanwadol mewn eglwys a'r diweddar Mr Foulkes Jones, Corwen, a bydd yn dra chwith ar ei ol. Yr oedd yn wr llygadog a chyfarwydd a busnes, ac hefyd o ysbryd dymunol asyml. Syrthiodd i'r bedd yn gynar iawn-dim ond ssain J-pan y mae gwr fel efe yn ei flyn- yddau goreu yn ddios cyn i'r ias am ym- ddatod o'r harness dd'od a chyn i'r gwaith fyn'd yn dim tebyg i faich. Mae arnom bryder wrth wel'd y t6 hwn o leygwyr amlwg yn myn'd, rhag ofn na welwn eu tebyg eto. Dylanwadau ereill sydd yn
ANHAWSDERAU Y WEINIDOGAETH.*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
idog yw gallu arwain ei eglwys yn llwydd- ianus* drwy y fath gyfnewidiadau, gan gadw yr oerni allan o'r cysegr, a rhwystro y llwydrew marwol rhag disgyn ar ardd yr Arglwydd. Mae'r dynion oeddynt ddoe yn tori allan i addoli ar draws eu gilydd, heddyw yn gwawdio addolwyr ar gongl heol a pen lips Onid profiad yr Apostol Paul mewn perthynas a'n fterihynascia y Galatiaid yw profiad gweinidogion yn Morganwg heddyw 'Y mae yn rhyfedd genyf eich symud mor fuan oddiwrth yr Hwn a'ch galwodd i ras Crist'—a gallwn ychwanegu am rai ohonynt,at efengyl arall, yr hon nid yw arall, ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwenych datdroi Efengyl Crist' ? Deil Dameg yr Hauwr gan yr Arglwydd lesu Grist o hyd yn ddarlun cywir o gynulleidfaoedd Cymru. Er ein holl ffydd- londeb a'n gofal gyda'r hau, a llawer ohono yn fwyd i adar ar ymylon y ffordd, neu i egino a gwywo ar greigleoedd, neu i dyfu a ffrwytho yn ofer rhwng y drain ond diolchwn i Dduw fod peth o hyd yn syrthio mewn tir da ac yn dwyn ffrwyth gogoneddus. Cyfyd anhawsderau y weinidogaeth ar lwybr y gweinidog yn ei holl gylchoedd a chofier fod cylch gwasanaeth gweinidog yn dra eang, fel rheol. Onid yw cylch ei wasanaeth wedi bod yn oreang drwy alwadau parhaus arno i fyned tu allan i derfynau y weinidogaeth ? Y gweinidog, yn yr hen amser gynt'—ac eto i raddau gormodol mewn rhai ardaloedd-oedd cyfreithiwr, a clerk, a meddyg, a 'gwas bach' pawb a phob peth, a hyny yn 'rhad ac am ddim; ac yn fynych drwy fod ar ei golled mewn amser, arian, parch, a dylan- wad da, er yn ddidwyll yn mhob trafod- aeth ac yn gywir yn ei holl amcanion. Mewn cyfnod pryd y mae cyfreithwyr bron mor ami a brain, a chlercod yn dyrfa- oedd fel gwybed, a galwadau hanfodol y weinidogaeth mor bwysig, priodol ddigon fyddai ateb cais caredig ambell frawd drwy ofyn cwestiwn yn ngeiriau'r lesu, Y dyn, pwy am gosododd i yn farnwr neu yn rhanwr arnoch chwi ? Rhoddwn drem dros faes y weinidogaeth yn nghwmni'r gweinidog, ac fe sylweddolir yr anhawsderau yn mhob cyfeiriad. (I'w bar hau.) Abercanaid. J. D. JONES.
POB OCHR I'R HEOL,
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
d'od i mewn i'r eglwysi weithion, nodwedd- ion ereill sydd i'r rhai a argoelant fod yn arweinwyr. Llawn cymaint o graffder ag a fu genym erioed yn ein heglwysi, efallai; ond llai o rywbeth arall oedd yn gwneyd yr hen arweinwyr yn barchedig ac anwyl. (2) Mae eglwys Elechryd wedi dathlu ei dau canmlwyddiant er's tro bellach ond y mae'r llyfryn a gyhoeddwyd o hanes yr eglwys yn llawn o ddyddordeb heddyw. Fel person fydd oddeutu can' mlwydd oed, a rhyw ddyeithrwch pell o'i gylch, a rhyw awyrgylch o eiddo oes o'r blaen-felly y mae hen eglwysi hefyd llawer o fyn'd a d'od, llawer o stormydd ac o hindda cen- edlaethau o hen arweinwyr wedi gadael eu hoi arnynt; ac anmhosibl edrych ar achos oedranus iawn fel eiddo Elechryd, heb ymwyleiddio a phlygu pen a meddwl- Cymaint wyr yr hen goed a cheryg hyn, pes medrent siarad Cymaint briodwyd ac a gladdwyd, ac a dderbyniwyd at Grist, ac a diarddelwyd yma Cymaint o symledd welwyd yn y lie unwaith. Pwy fu yn y pwlpud hwn i gyd ? Pa beth au a deimlwyd yn y lie ? Sawl tynged seliwyd yma yn dragywyddol ? Diolch i Hermonydd, a'r hen swyddog John Thomas, am y llyf- ryn bach hwn ar hanes Capel Isaf, Llechryd. (3) Dyma bentwr o gylchgronau Eiddo mwy nac un enwad a chymdeithas. Wrth droi eu dail, a thori ambell un a'r gyllell bapyr, y mae'n d'od i'n meddwl mae'r swyn mwyaf yn nglyn a'r cyhoeddiadau hyn i gyd fydd pan y delont yn ol adref o dy y llyfr-rwymydd. A oes genyt ti, ddar- llenydd, lawer o gylchgronau yn dy dy ? Wel, os wyt am gael y goreu ohonynt, anfon hwynt i'wrhwymo gynted ag y gelli. Dychwelant atat gyda chyfaredd newydd wed'yn. Byddant fel bwyd wedi ei lawn goginio, a'i ddodi ar dysglau trwsiedig. Derbyniasom yr wythnos diweddaf un ar- ddeg o gyfrolau o law y rhwymydd-a chawsom oriau o bleser yn handlo' y llyfrau newydd. « < < (4) Y Geninen. Byddai yn chwith genym weled dim yn dygwydd i'r eyfaill aflonydd ac anwyl Eifionydd, pes er mwyn dim ond y Geninen. Ychydig bobl sydd yn ystyried y fath gamp a gyflawnodd y Cofiadur' enwog hwn wrth sylfaenu a sefydlu, a chadw'n fyw, a gwneyd yn llwyddiant gylchgrawn fel y Geninen. Y mae Eifionydd yn fardd, yn bregethwr, yn llenor, yn gerddwr, yn weithiwr caled, yn ysgrifenwr postcards aneirif, ac yn olygydd diguro; ond y prif waith a wnaeth hyd yn nod Eifionydd amlochrog, yw gwneyd y Geninen yn gyhoeddiad mor ardderchog am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Ac nid yw damaid gwaeth na llai ei werth a'i dyddordeb heddyw nag oedd ugain mlynedd yn ol. Mae sicrhau ysgrifau yn y wedd hon yn orchest nas gall yr anghyfarwydd a gwaith o'r fath ei ddirnad yn ddiddadl. Dyma rifyn lonawr -un rhagorol. Mae mwy ynddo nag y gellir ei grybwyll. Ysgrifau o eiddo Syr S. T. Evans; Alawn; Deon Bangor; D. M. Rees, Madagascar (dyma beth newydd yn hanes y Geninen, llith Cenadol); Dr Pan Jones Pedr Hir; David Griffiths, Bethel; J. Lewis Williams Cynonfardd ac ereill. Rhagorol yn wir! Dechreu da am 1910. (5) Llawer o ganmolir hyd yn nod yn nhai yr enwadau ereill ar Drysorfa y Plant, ac yr wyf yn ei gwel'd bob mis. Rywfodd y mae wedi cael cychwyn da, ac enw da; ac hefyd waeth dyweyd y gwir, y mae rhyw si neu syniad ar led fod yr hyn a wneir ac a gyhoeddir gan y Corff yn meddu 1 urddas a gwerth a theilyngdod. Nid oes amheuaeth fod Mr Thomas Levi yn olyg- ydd campus ac yn gwybod beth yw cy- hoeddiad plentyn i fod. Ond dyma gopi o Ddysgedydd y Plant wedi ei anfon—copi Ionawr -ac nid oes eisieu dyweyd mai Mr Silyn Evans yw ei olygydd. Mae dy- weyd ei fod yn dal cymhariaeth lawn a'r cyhoeddiad a enwais o'i flaen yn ddyweyd go resymol-mae mwy ynddo y fynyd yma nag sydd yn y Drysorfa-digonedd o ysgrifau da, a phrydferth, a glan Ceir darluniau hefyd o Mr Lloyd George, a Mr W. J. Evans, y cerddor ieuanc diwyd o Aberdar ïe, ac o'r Brenin, heb eisieu eu gwell. Mae yn fwy clos' a thrymaidd ei olwg na'r Drysorfa, ac efallai fod yr ysgrifau dipyn bach yn drymion i blant, rai ohonynt. Camp, a champ go bwysig, yw gallu darpar ac arlwyo mewn ffordd y gall meddwl plentyn gydio yn y cwbl; ac nid yn unig hyny, ond rhaid i'r defnyddiau fod nid yn nghyrhaedd plentyn yn unig, eithr yn reddfol atdyniadol i blentyn. Mae yn ddifyr edrych dros y Dysgedydd bach, a diolch am ei anfon yma. # (6) Wel, beth am y cylchgronau enwad- ol ? Mae'r Dysgedydd a'r Cenad Hedd a'r Diwygiwr yn cychwyn eu taith eto, a'r tri mor hoyw a chyfoethog ag arfer. Mae brodyr llengar yr Enwad yn ffyddlon a charedig odiaeth, ac yn darpar yn hael at raid ein darllenwyr. Yn Nysgedydd lonawr ceir un o bregethau Hiraethog; yn y Diwygiwr pregeth a darlun o Ossian-y Parch J. Ossian Davies, Llundain ac yn y Cenad Hedd bregeth gan y Parch W. Davies, Llandeilo. Yn y Dysgedydd ysgrif- ena Mr Jones, Ty'nycoed, at I Ddiwygiad 1859,' ac yn y Diwygiwr ysgrifena Mr Thomas, Whitland, ei ail ysgrif ar yr un pwnc. Mae'r Wers yn y Cenad Hedd gan Mr Walter Thomas, Tonypandy; yn y Diwygiwr gan Mr George Davies, B.A., Ffestiniog ac yn y Dysgedydd gan Mr J. J.Jones, B.A., Llanelli. Fel hyn rhedant yn gyfochrog mewn amryw bethau. Ereill sydd yn llenwi tudalenau y Cenad Hedd yw Mr J. D Jones, Abercanaid; Mr J. Thomas, Merthyr, &c a cheir darluniau da o Mr Eurof Walters, M.A., B.D., a Mr Morgan Morgans -Cristion ieuanc a fu farw yn Abercanaid-ac ysgrif swynol arno. (7) Mae Mr Charles, Dinbych, yn ysgrif. enu ar < Dduwinyddiaeth yr Efengylau Mr Rhys J. Huws ar 'Ann Griffiths a'i Hemynau;' Mr J. J. Williams ar Parnau Duw;' Mr tenrith Thomas ar 'Helen Keller, y ferch ddall;' Mr Williams, Maen- twrog gynt, ar Ddylanwad Ymneilldu- aeth Bryniog ar Y Genadaeth '—oil i'r Dysgedydd. Mae Mr Rosser Evans yn ysgrifenu ar 'Werth y Cymundeb i'r Eglwys;' Mr Stephen Thomas, Salem, ar Genadaeth y Cymundeb at y byd;' Mr Bowen, Hermon, Llansadwrn, ar 'Werth Cenadol y Cymundeb a Mr Davies, Llan- deilo, ar Ein perthynas fel Cenedl ilr Genadaeth;' a Mr Evans Jones yn I Ad- olygu'r Sefyllfa Wleidyddol,' &c., yn y Diwygiwr. (8) Gwelwn fod y Parch Gwilym Thomas, o Arthog a Elwyngwril, yn debygo symnd i'r eglwys Seisonig yn Mrymbo. Bellach y mae nifer go lew o flynyddau wedi pasio er pan y dechreuodd mewn eglwys Gym- reig ond yr oedd Mr Thomas yn Sais da pan yn y Coleg yn Mangor, ac yn llawn mor hoff o bregethu yn Saesoneg y pryd hwnw ag yn y Gymraeg. Os yw ein cyfaill a'n cydefrydydd wedi dewis gwneyd y symudiad, dymunwn o'n calon yn dda iddo. Dyna nifer ardderchog o ddynion ieuainc o ran oedran sydd yn weinidogion oddeutu cylch Coedpoeth; mae yn ddifyr myn'd am dro i'r ardal er mwyn eu cyf- arfod, a phob un mor siriol a dydd o haf; a'r Parch T. E. Thomas fel ymherawdwr hynaws yn eu mysg. G.