Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

DOWLAIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOWLAIS. Eiste.ddlod.-Fel llawer o eglwysi ereill yn y cylch yn ystod y gwyliau, cynaliwyd eisteddfod lewyrchus yn Bethania ar ddydd Nadolig. pryd y daeth Uuaws ynoji fwynhau eu hunain am y diwrnod arbenig hwn. Llawenydd oedd yn llanw calonau pawb wrth weled cynifer o blant bychain wedi dysgu y darnau cystadleuol; hefyd gwelwyd llawer o rai newyddion yn cipio rhai o'r gwobrwyon, Cafodd un n6d amlwg o deimlad y gynulleidfa ar ei lwyddiant yn enill am gyfansoddi t6a i blant ar eiriau Mr D. W. Edwards, sef Mr W. P. Phillips, Penywern. Dyn ieuaac ydyw, ac o dan ddysgybl- aeth Mr D. W. Davies, yr organydd. Yr arweinydd am y dydd oedd ein parchus weinidog, yr hwn a lanwodd ei swydd fel arfer. Rhoddodd ganmoliaeth uchel i'r ddau feirniad, a darllenodd yr englynion canlynol o waith Dewi Penydaren iddynt. I MR D. W. EDWARDS. D. W. sydd yma'n dawel-i'n barnu Fel beirniad aruchel A heddyw gawn yn ddi-gel 0 lafur bachgen lefel. I MR J. THOMAS, A.C. Ha cerddor o fri ac urddas-yw John Heb joke mewn cymdeithas O'i yni byw gana bas, Wna urddo gorsedd Barddas. Canmolod d Mr Price Mr D. W. Edwards fel dyn ieuanc wedi ymroddi ati o dan anfanteision i fyfyrio er mwyn y weinidogaeth, ac, fel y gwyddom, ei fod wedi llwyddo i fyned i'r Coleg. Bendith y Nef arno. Y swyddogion am y dydd oeddyntLlyw- yddion-boreu, Mr P. H. Thomas; prydnawn, Mr Tom Jones; hwyr, Mr Picton cyfeilydd, Mr D. W. Davies, F.T.S.C., A.R.C.O.; Ilywydd y Pwyllgor, Mr J. Evans; trysorydd, Mr R. Evans: ysgrifen- yddion, Mri Handel Evans a W. P. Phillips. Wele restr y buddugwyr ;-Canu, i rai dan 7 oed, Ar hyd y nos,' I Doris OThomas; 2 Willie J. Rees. Adroddiad, i rai dan 7 oed, 'Seren Fechan,' I Maudie Price 2 Doris Thomas Canu, i rai dan 10 oed heb enill o'r hiaen, Dos ato Ef;' rhanwyd rhwng Elvet a Stanley Lloyd. Adroddiad i rai dan 10 oed, Beth,' Annie Griffiths. Adroddiad i rai dan 10 oed, I Milwyr Dirwest,' I T. H. Evans; 2 J. P. Evans Canu, i rai dan 10 oed, Nos Galan I Mary Thomas 2 Etta Phillips. Canu, i rai dan 10 oed, I Llwyn Onn,' rhanwyd rhwng J. P. Evans, T. H. Evans, ac E. J. Evans. Adroddiad, i rai dan 10 oed, I LI na bo dw'r mae gwynt,' 1 A. M. Owens; 2 May Thomas. Can, i rai dan 10 oed, Gwenith Gwyn,' 1, O. Evans; 2 M. Evans; 3 Bronwen Evans. Adroddiad, i rai dan 10 oed, Fy onawr newydd,' I Eddie Jones; 2 W. LI. Owens. Ir parti o wyth o blant a ganai yn oreu Awn i'r Ysgol Sul,' Bethania Rhif 2. Canu, i rai T TT/ vu 15 °ed' dy dad hydd yn dyner,' I Idns Thomas; 2 Maldwyn Thomas Adroddiad i rai rhwng 10 a 15 oed, Daliwn at yr Iaith Gymraeg,' W. Stanley Evans. Canu, i rai rhwng a lfl- we^gwellt,' 1 M. Morgans 2 S. Tones fdroddiad, Myn'd o hyd,' 1 Phoebe May Owens 2 Olwen Evans. Tenor na enillodd o'r blaen Bwthyn Gwyn Ile-m ganwyd,' Titus Thomas. Bass, Ar Lan Iorddonen ddofn Gwilym Owens. I rai dan 15 oed, cyfieithu o5r rrT ymraeigTar yFryd '> 1 J Evans 5 2 M. Jones 3, J. Jones. Unawd ar y berdoneg i rai dan 17 oed; rhanwyd rhwng H. Griffiths a J. Edwards. Corau plant Pant a Phenyrincline gyda'u gilydd dan arweinyddiaeth Mr E. Thomas Ynnghyfarfod Thomft'' W™, ¥* Hen D6a San Mr Th°mas Thomas. Hoff Wlad fy Ngenedigaeth,* Mr Jenkin Joneo. Plentyn Amddifad.'Miss Jones. • But the r°f n S T5ful °J Hfs °wn'' Master Id«* Thomas i Kit ° £ Cni11 chwe* IIineI1» Emyn Hwyrol P BK .'I- Penydaren. Ton i blant; Mr W. Penywem. Traethawd, «Y Moddion t^f-1 i Ysgol Sulrhanwyd rhwng J*lams». J* Jones> a D. J. Thomas (Dewi) Araeth Llywelyn Mr Evan Thomas. Lord God rriffifj? ™ h rhaunwyd rhwng E. Jones a R. J, ThfnSS' r> fy hen GymraegMaster Maldwyn Thomas. Deuawd, Cymru'n BarodT. Davies a ,Van Pedwarawd, < OrielJohn Davies a 1 gyfeillion. Corau mawr, < Er i'r Ffigysbren cor rhif I, dan arweinyddiaeth Mr W. H. Morgan Yn y prydnawn, cawsom ymwelydd eithriadol, sef un o'n haelodau Seneddol, Mr Keir Hardie. Fe gafodd dderbyniad gwresog, a chawsom ychydig o eiriau pwrpasol ganddo. Dywedodd ei fod vn awyddusfam ysgwyd Haw a Mr Price ei fod wedi clywed ltawer am dano, nes codi yr awydd yma. Canmolodd ein cenedl am ei brwdfrydedd yn nglyn a r Eisteddfod, ac yn gofidio na allasai ddeall yr iaith er mwyn iddo fedru mwynhau ei hun. Yr Ysgol Sul.-Prydnawn Sul, cydgyfarfydd- odd y eangenau yn nghapel Bethania i adrodd y pwnc, ac yn sicr, dyma un o'f cyfarfodydd sydd yn gosod gwerth ar yr Ysgol Sul Yr oedd y gwein- idog wrth ei fodd yn holi, ac wedi ei foddloni gyda'r atebion. Yr oedd y pnmp cangen wedi meistroh eu gwaith yn dda iawn. Dechreuwyd y cyfarfod drwy ganu, Cysegrwn flaenffrwyth,' a chawsom adrodd- iad godidog o Matt. ii. gan Master J. H. Jones, Walter street. Yn dilyn, cawsom Weddi yr Ar- glwydd ar gan. Teifynwyd trwy ganu, Cartref,' gwaith Mr T. Evans, Caeharis. Y nos Fercher canlynol, cafwyd pipyr godidog ar Hanes William Carey,' y cenadwr enwog, gan y brawd ieuanc, T. Bateman. Yr oedd yn wledd odiaethol i wrando arno. BEIRNIADAETH Y DON I BLANT, CYSTADLEUOL YN EISTEDDFOD BETHANIA, NADOLIG, 1909. Darbyniwyd 13 o d6aau, yn dwyn y ffugenwau canlynol. Sylwir arnynt fel y daethant i'm llaw, ac nid yn ol teilyngdod. Danyfaner.—(Ymdeithdon.) Nid da yw t a curiad yr un pryd mewngwahanol leisiau, y diwedd- ebau yn unrhywiog, dilyniadau pumedawl gwallus, symudiadau garw yma a thraw. Cludydd Arfau.—(Ymdeithdon.) Dim llawer o newydd-deb, y diweddebau yn unrhywiog. Gormod o gordiau mynedol, nes ei gwneyd yn drom. Corda.-Alaw symi, mewn amser six-eight Gwallau gramadegol. Nid dymunol yw y modd- newidiad i'r lleiaf psrthynasol ar y geiriau Nes denu serch pob calon.' Yr Hen Gerddor.—Canu'n rhwydd ac ysgafn, ond nid oes dealldwriaeth rhwng aceniad y gair a'r gerddoriaeth, 7fed anghywir yn ei adferiad. Brython.—(Ymdeithdon.) Ton gref, yr alaw yn gyffredin mewn manau, eisieu mwy o newydd deb yn y gwahanol ddiweddebau. Ni ddylid dyblu'r 4ydd yn y cord De neu six four. Marcato.-Nid da yw y symudiad i'r 1st flat minor yn y frawddeg gyntaf, cyn braidd sefydlu'r cyweirnod gwreiddiol, ac heb fod mewn cydymdeim- lad a'r gair, yr aceniad yn anghywir. I'r Gad.—(Ymdeithdon.) Alaw rwydd, nid yw yr anticipations yn ddymunol wrth gael eu defn- yddio yn rhy fynych, nes colli eu heffaith a'u hamcan; y diweddebau yn aneffeithiol, megys:— I f: d | d:—|| s d | d:—|| t,: d | d:—|| y seiniau mynedol yn cael eu trin yn wallus. Bartholdy.-Alaw a gryn dipyn o newydd deb ynidi, wedi ei chynganeddu mewn modd meistrol- gar; er nad yn rhydd oddiwrth wallau, eto, mai yn gyfansoddiad da a newydd. Pererin.-Alaw syml a naturiol; rhai gwallau cynghaneddol, yr aceniad yn anghywir mewn dau fan yn y cydgan, ac wrth hyny, yn tori ar y cynllun. Sebastian.—(Ymdeithdon.J Dim newydd deb, a thueddu bod yn anmherthynasol yw y gwahanol thueddu bod yn anmherthynasol yw y gwahanol ranau mewn mydr, nes ei gwneyd yn ddibwynt. Ceiticus.-Dim newydd deb yr alaw heb fod yn afaelgar, cynghanedd wael mewn manau, ac yn dor- edig o ran cynllun. Cludydd Baner.-Yr alaw yn canu'n drom, er o gynllun dymunol, symudiadau cordawl gwan mewn manau, eto yn drom o ran symudiad drwyddi. Cymro.-(Vmdeithdon.) Nid ydyw'r T" yma yn nodweddiadol o'r ymdeithgin. Mae y gynghanedd yn ddyeithr, ac yn deneu mewn amryw 0 f anau. Ceir ynddi wallau gramadegol. Y goreu yw eiddo Bartholdy.' Ar air a chydwybod, Penywern. JOHN THOMAS. BEIRNIADAETH AR YR 'EMVN HWVROL I BLANT. Dau gyfansoddi -d yn unig ddaeth i law, sef eiddo Eos Ieuanc,' ac ( Un o'r Ileiaf ac er nad yw y safon yn uchel, y maent ya weddol agos i'w gilydd o ran teilyngdod. Eos Ieuano. -Dau benill gweddol gywir a llithrig, Nid da son am sanctaidd loer,' nac ychwaith am gario hedd,' a thuhwnt i amgyffrediad plentyn yw son am nos ddigan.' Prif ddiffyg yr emyn yw, nad yw yn dyfod yn ddigon agos Bt blant. Un o'r Lleiaf.-Penill da iawn yw penill cyntaf yr emyn hwn, ac yn hollol gyfaddas i blentyn. Nid cystal yr ail benill, hytrach yn gyffredin a rhydd ieithiol ydyw. Eto, ar y' cyfan, credwn fod Un o'r Lleiaf' yn rhagori o ryw ychydig ar 'Eos Ieuanc,' ac iddo ef y dyfernir y wobr. Ar air a chydwybod, D. W. EDWARDS. BEIRNIADAETH AR Y TRAETHAWD, 'Y MODDION MWYAF EFFEITHIOL I WELLA'R YSGOL SUL.' Dieth chwech o gyfansoddiadau i law yn dwyn y ffugenwau canlynol1 Llaw yr Hwn sy'n caru Llwydd,' Un o'r Dosbarth,' Carwr o'i Llwydd- iant,' 'Tro CyDtaf,' 'Ap loan,' ac Un o'i Phlant.' Wrth fwrw golwg gyffredinol ar y traethodau, rhaid i ni gael cydnabod ein bod yn dra siomedig. Amcan y pwyllgor, dybygwn, wrth roddi y fath destyn oedd ceisio am gynllun i wella sefydliad sydd, yn ol barn un o'r cystadleuwyr, yn dlawd ei iedhyd Mawr ofnwn mai yn dlawd y bydd hi hefyd, o ran nad oes llawer o foddion' ar gyfer ei selni yn y traethodau hyn. Gormod o bregethu, a rhy fach o gynllunio, sydd ynddynt. Fodd bynag, rhanwn y traethodau i ddau ddosbarth yn ol eu teilyngdod, a cheir gair arnynt bob yn un ac un. Dosbarth II. Tro Cyntaf, (i). -Traethawd byr gan un ieuanc, gallem feddwl, yw hwn. Trwy gar- edigrwydd y bwriada hwn wella'r ysgol. Nid yw 'Tro Cyntaf' yn cyffwrdd Aor ymyl gwisg y testyn. V mae y cyfansoddiad hwn ya weddol rydd o feiau gramadegol, ond fod y treigliadau fel arfer yn faen tramgwydd.' Apj loan (2.)-Traethawd byr yw hwn eto, ac heb tad nepell oddiwrth 'Tro Cyntaf' mewn teilyng- dod. Pregethu y mae Ap loan,' ac yn troi weith- tau at ei waith priodol, sef awgrymu a chynllunio gwelliantau yn nglyn a'r Ysgol Sul. Anhrefnus iawn hefyd yw y traethawd hwn, ac y mae ei arddull yn neillduol lipa. Carwr o'i Llwyddiant.—Fel y gwelir, y mae awdwr y traethawd hwn yn troseddu priod-ddull (idiom), y Gymraeg yn ei ffugenw, ac nid yw ei bechodau gramadegol yn gorphen gyda'r ffugenw, oblegid ceir yn y traethawd lawer o frychau a braw- ddegau clogyrnog ac Anghymreig. 0 ran sylwedd, yr oedd gan yr ysgrifenydd hwn well syniad am y, hyn oedd yn eisieu na rhai o'i gyd-gystadieuwyr, ond syrthiodd yn isel yn y gystadleuaeth, oherwydd diofalwch a diffyg manylrwydd a threfn wrth weithio y traethawd alian. Dosbarth I,—Yn y dosbarth hwnceir tri thraeth- awd, a chryn bellder rhyngddynt a'r traethodau yn y dosbarth arall oran maint, cywirdeb, a ffyddlondeb i'r testyn. Llaw yr hwn sy'n caru 'i llwydd.—Ysgrifenodd perchenog y ffugenw hir hwn draethawd tebyg i'r ffugenw o ran hyd, ac y mae ganddo syniad da iawn am yr hyn oedd yn angeurheidiol. Ond cyff- redin iawn yw ei arddull; o'r braidd na ddywedem, ei fod yn ystrydebol, er fod y papyr yn weddol rydd u ffrychau. sillebol. Dylai y cystadleuydd hwn hefyd wylied rhag gwneyd cyfeiriadau personol at rywrai o fewn cylch ei adnabyddiaeth, pan yr ysgrifena draethawd. Llithrodd hefyd ambell dudalen o fater anmherthynasol i fewn i'r traethawd, megys y ceir ar ei ddechreu, ac hefyd tua'r diwedd. Un o'i Phiant.-Traethawd da iawn yw hwn o ran trefn a thaclusrwydd, ond gallai fod yn fwy testynol, yn enwedig ar ei ddechreu. Gwendid arall yn y traethawd hwn yw defnyddio geiriau an- JJ a dye^hr* Dichon y dywed yr ysgrif- enydd eu bod yn y geiriaduron, ond nid doeth defnyddio pob gair geir mewn lleoedd mor barchus a geiriaduron. Eto rhaid yw dyweyd fod yr ysgrifenydd hwn wedi bod yn weddol ffyddlon i'r testyn, er fod rhai gwallau wedi dianc ei sylw Un o'r Dosbarth.-Dyma'r ysgrifenwr mwyaf gofalus a chywir yn y gystadleuaeth hon. Ond nac arosed yr ysgrifenydd hwn hyd nes y delo i draethu ei feddwl mewn llai 0 eiriau. Ac er i ni hoffi cywir- deb y traethawd hwn, rhaid i ni gael cwyno nad yw y papyr yn yimrfeiol. Eisieu bywhau yr hen gyn- lluniau sydd, ac nid creu rhai newydd, medd Un o'r dosbarth- hyn sydd yn cyfrif ei fod mor an- ymarferol. Y mae y traethawd hwn yn rhy breg- ethwrol hefyd, ac nid digon dyfynu adnodau i ddiwygio'r Ysgol Sul. Amlwg yw fod y wobr yn sefyll rhwng y tri hyn, ac anhawdd yw dyweyd pwy o'r rhai hyn sydd deilyngaf. Dilys yw genym nad oes un o'r tri yn dellwng o'r wobr yn llawn. Eto nid teg fyddai peidio rhoddi'r wobr, oblegid y mae y traethodau yn dangos llafur mawr. Felly barnwn mai teg fydd rhanu y wobr yn gyfartal rhwng Llaw yr hwn sy'n caru'i llwydd,' Un o'i phlant,' ac 'Un o'r Dosbarth.' Ar air a chydwybod, D W. EDWARDS.

Advertising