Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ABERDAR A'R CYLCH.

Advertising

BARN JOHN JONES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BARN JOHN JONES. • II. Rhoisoch awgrymiad i mi i ofyn am y man- ylion yn nghylch y cwrdd gweddi gynaliwyd yn nhy Evan Siams i Ellen y ferch. Pe bai hi yn hollol ddyeithr i mi, synwn i ddim at yr awgrym o gwbl, ond yr wyf yn ei hadwaen, a rhydd y ffaith fach yna dipyn o oleuni i mi ar rediad eich meddyliau chwi, John.' I Wel.' meddai yntau, 1 yr ydych yn adwaen y fenyw fwyaf dalentog yn ein plwyf ni, yn ol fy marn i.' Chip of the old block," yn sicr i chwi. Ydwy i ddim am gelu y ffaith, hi ddy wedodd helynt y cwrdd gweddi wrtho i, a mwy na hyny, y cwrdd gweddi oedd y cyntaf o lawer o bethau ddygwyddodd yn ei chysylltiad hi a'r Eglwys Wladol ar ol hyny. Ac mae gwerth anhraethol mewn peth ddywed menyw fel hyn. Mi allaf wrando ar hon yn siarad, nid yn unig am ei bod yn dyweyd ei meddwl yn rhwydd ac yn rhydd, ond mae cymaint o gydwybod yn yr hyn mae yn ddyweyd; mae yn onest, ac wedi arfer meddwl yn dda yr hyn mae yn ddy- weyd cyn ei fynegi. Y gwir mae yn ddyweyd, ac mae yn ei draethu mewn gwirionedd.' Cot genyf, John, gwrdd ag Ellen; yr oedd hyny cyn marwolaeth ei thad, ac yn rhyw fodd neu gilydd, trodd y siarad rhyngom ar yr Eglwys. Ac yn wir, yr argraff adawodd ar fy meddwl i oedd, fod gan yr hen Eglwys un gol- ofn gadarn yn y plwyf.' cO, Ïe, cyn y cwrdd gweddi oedd hyny,' meddai John, ac wrth ysgogiad ei ben yn lied awgrymu, ei fod yn hollol gyfarwydd a'r hyn y cyfeiriwn ato. I'r Eglwys yr ai hi i addoli 0 y pryd hyny, a dim ond yno, a mawr fel y ceis- iai ddigaloni ei thad i fyned i gyfarfodydd bach yr Ymneillduwyr. Dywedodd Evan wrthyf fwy nag unwaith mai gweinidogaeth deneu iawn i ddilyn arni oedd gan yr offeiriad, "ond pan fyddai i yn absenol y mae e' yn preg- ethu." Yr own yn deall yn dda beth feddyliai.' Wedi clywed yr hen frodyr yn gweddio, y dechreuodd hi farnu, mesur, a phwyso pethau, a pheth anffodus iawn yw peth felly i'r Eglwys, Mae'r hen sefydliad wedi dysgu cymaint i wrando heb feddwl; ond unwaith y dechreuant feddwl, nid yn hir y parhant i wrando yno wed'yn. Rhesymu ei hun i'r un cyfeiriad a'i thad o'i blaen wnaeth hi. Pa fodd y daeth hen bobl syml, ei chymydogion cyffredin hi, mor nerthol mewn gweddi ? Ni chredai fod y fath beth yn bosibl, oni bai ei fod yn ffaith yn ei hanes, ac yn gysegredig yn ei chof. Daeth i'r penderfyniad hyn yn union-fod ei sel at yr Eglwys wedi ei dallu i'r hyn allasai fod yn gymeradwy ac yn ddigon priodol yn rhagor- iaeth yn y capeli. A'r tro cyntaf yr aeth i gapel Ymneillduol oedd y noson hono pan oedd y Dr pregethwr mawr yr Anni- bynwyr, yn gweini yno. Ac wedi yr oedfa, gelwais heibio i wel'd yr argraff. O druan ohoni, yr oedd mewn cornel yn deg. 'Doedd ganddi ddim i'w ddyweyd. Pregeth Pedr ar Ddydd y Pentecost oedd testyn y Dr. Glyw- soch chwi rywbeth fel yna gan yr offeiriad rywbryd ? Edrychodd arnaf, a dy wed- odd, 'Clywed fel yna! ydwy i ddim yn meddwl i Pedr ei hun bregethu yn well na y pregethodd y dyn yna heno; chlywais i erioed ei bath o'r blaen." Ac meddwn inau, Cewch ei thebyg, os ewch i gapel y Method- istiaid ar y cyfarfod blynyddol." 'Doedd dim eisieu ei chymhell; yr oedd yno, ac oedfa nad aiff byth yn anghof oedd hono. Mater y bregeth oedd Paul o flaen Ffestus.' Bu yn fanwl yn dangos culni a gelyniaeth yr Iudd- ewon, a sefyllfa galed yr apestol yn gacharor am dros ddwy flynedd. Cariai ei bortreiad gorchestol argyhoeddiad i ysbryd y dorf. Ar 01 yr oedfa hono, dyna ddywedodd Ellen wrthyf—ei bod yn gwel'd yr hen frodyr fu yn gweddio yn en ty hwy yn union fel yr Apostol Paul, a hithau fel yr Iuddewon yn eu dirmygu. Ni fu arni gymaint o gywilydd o'i hun erioed o'r blaen. Hefyd aeth i gapel y Bedyddwyr pan oedd y dyn poblogaidd yna yn pregethu ar • Stephan o flaen y Cynghor.' Wrth sylwi ar ei amddiffyniad gwych, nodai mai nid ei ddar- llen o bapyr yr oedd, ond ei draddodi yn ferw o'i ysbryd. Pwy bregethu wna dyn a'i drwyn mewn papyr!—y pregethau oedd yn byw ac yn peri i ereill eu teimlo oedd y rhai oedd wedi eu meistroli a'u deall." Fel yna, pob ergyd yn

O'R BE DO I'R PWLL.

BARN JOHN JONES.