Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

PONTLOTYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PONTLOTYN. Y Feibl Gymdeithas.-Talwyd ymweliad a'r lie h wn eleni, ar ran y gymdeithas dda uchod, gan y Parch Ward Williams, Gwersyllt, Wrecsam. Cyn- aliwyd y cyfarfod yn Festri Nazareth, o dan lyw- e yddiaeth y gweinidog. Rhoddodd Mr Williams anerchiad dyddorol, a gosododd hawliau y gymdeitha yn glir a theg o flaen y gynulleidfa. Caniadaeth y Cysegy.-Mae eglwys Nazareth wedi dewis Mr Edward Davies, Gwaelodygarth, yn arweinydd y gan, a Mr J. H. Beddoe, Blodeuen, yn organydd. Hir oes i'r ddau frawd teilwng i wasan- aethu eu Duw yn y gangen bwysig yma o waith y cysegr. Syr Alfrtd Thomas.—Mae y gwr da hwn wedi ei fabwysiadu fel Ymgeisydd Seneddol dros Ddwy- rain Morganwg unwaith eto. Da gan lu ei weled yn dyfod allan mor gryf yn erbyn Ty yr Arglwyddi. Ychydig cyn i'r hen fLwyddyn fyned allan, cynaiiodd gyfarfod yn y lie hwn. Taflodd y Bedyddwyr ddrysau eu haddoldy yn agoied i'r cyfarfod. Cad- eiriwyd gan y Parch J. R. Salmon. Traddododd Syr Alfred anerchiad byw, dywedodd ei fod wedi dyheu er's blynyddau i gael brwydr & Thy yr Arglwyddi. Pasiwyd pleidlais gynes o ymddiried- aeth yn yr hen Aelod. Hefyd, pasiwyd penderfyniad cryf yn condemnio ymddygiad Ty yr Arglwyddi tuag at y Llywodraeth ddiweddaf, yn gwrthod mesurau oedd wedi basio gyda mwyafrif mor lluosog —megyo y Mesur Trwyddedol a'r Gyllideb. Cym- erwyd rhan yn y cyfarfod gan Mxi W. Williams (C.S.), John Jones, John Evans, D. Williams, T. C. Thomas, Bedlinog, J. Penri Williams, a'r Cynghor wyr B. Hughes a D. Hopkins. Mae y Toriaid wedi mabwysiadu un Mr Gaskell, Caerdydd, i ddyfod allan yn erbyn Syr Alfred. Hydeiwn yr etholir yr hen Aelod gyda mwy 0 fwyafrif nag erioed. GOHEBYDD.

CAPEL SUL, CYDWELI.

---WHITLAND.

ANWYDWST FFYRNIG.

REHOBOTH, BRYNMAWR. -

WAUNARLWYDD.

BETHANIA RHOSAMAN.

TREFFYNON,