Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CENAD HEDD AM 1910. .

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CENAD HEDD AM 1910. PRIS DWY GEINIOG Y MIS. GOL YGWYR Parchn. J. THOMAS a 1 JONES MERTHYR TYDFIL. ANWYL DDARLLENWYR,- Yn y rhagolwg o groesi gyda'n gilydd o 1909 i 1910, ein gorchwyl cyntaf yw diolch i chwi am eich cefnogaeth werthfawr am un flwyddyn arall. Daeth y Cenad Hedd atoch o fis i fis yn gwbl ddiym- hongar, a gosododd ger eich bron ei arlwy heb honi ei bod yn well nag eiddo ereill, a dangos- asoch chwithau, o dro i dro, eich bod yn ei mwynhau. Yr ydym wedi ceisio gofalu fod yr oil a osodasom ger eich bron yn iachus eiriau y ffydd,' ac yn gyson a'r pethau a gredir yn ddiamheu yn ein plith.' Nid ydym yn credu mewn brysio at y newydd am ei fod felly, eithr hoffwn, yn hytrach, chwilio a yw yn well na'r hen-yn fwy cyson a goleuni nas gellir gyda rhesymoldeb ei wrthod. Un peth yw bod yn wahanol, peth arall yw bod yn well. Bwriadwn y flwyddyn nesaf eto ddilyn yr un prif linellau ag a ddilynasom er's blynyddoedd, gan ein bod wedi cael profion diddadl eu bod yn eich boddloni chwi. Daw DARivtJN bob mis o rywun y bydd am- gylchiadau yn cyfiawnhau galw sylw ato ond nid ymddengys neb yn ein Horiel na fydd yn gymeriad da, ac wedi rhoi gwasanaeth teilwng. Parhawn i dalu sylw i'r AEI/WYD. Yr ydym wedi cael ami brawf fod darnau sydd wedi eu cyhoeddi yn y Cenad Hedd wedi bod yn gy- mhorth mawr i feithrin crefydd ar yr aelwyd. Nis gwyddom am ffurf ar wasanaeth y carem yn fwy ei gyflawni yn efteithiol. Ymdrechwn gadw yr amcan hwn mewn golwg ar hyd y flwyddyn ddyfodol. Rhoddir y flwyddyn ddyfodol eto BREGETHATJ a THRAETHODAU byrion ar destynau o ddyddor- deb, a bwrir golwg dros brif symudiadau y dydd yn y COFNODION MISOL. Adolygir, fel arfer, Lyfrau, Cyfnodolion, &c., a anfonir i'r Swyddfa. Parha EIFIONYDD i ddarparu ARLwy AD- RODDIADOL bob mis ar gyfer ein bechgyn a'n merched sydd yn hoff o adrodd, a gofala am iddynt fod yn gyfaddas i Gyfarfodydd yr Ysgol Sul a Chymdeithasau Llenyddol. Ymddengys y WERS SABBATHOL, hefyd, a gofelir am bersonau cymhwys i'w hysgrifenu. Parha Mr. J. M. WEBBER, G.T.S.C., i ofalu am ein HADRAN GERDDOROI,, a gofala am gadw i fyny ei rhagoriaeth. Anfoner Cyfansoddiadau Cerddorol i Gethin Cottage, Abercanaid, Merthyr Tydfil. Y mae yn adeg pan y mae o'r pwys mwyaf i gadw ein hieuenctyd gyda phethau na fydd perygl iddynt dderbyn niwaid oddiwrthynt; gan hyny, taer erfyniwn am i arweinwyr ein heglwysi roi iddynt bob cefnogaeth yn nglyn a. hyn. Gwnawn ein goreu i ofalu am ddarpar- iaeth deilwng o fis i fis. Yr eiddoch yn ffyddlon, Y CYHOEDDWYR A'R GOLYGWYR. "'l -v.<

Advertising