Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
HELYNTION CAERNARFON.
HELYNTION CAERNARFON. FONEDDIGION,-Afae yn fy mryd er cy- chwyuiad eich papyr clodwiw (ys dywed gohebwyr penfeddal) scriblio ychydig c ddigwyddiadau wythnosol o'r dref henafol hon, rhywbeth ar ddullwedd eich goheb- ydd doniol Robin Spone,"gyda'r eithriad o ddonioldeb cynhenid eich gobebydd talentog. ac hefyd na bydd a wnelwyf ag unrhyw dref na phei-son arall tuallan i "boundaries" y fwrdeisdref hon. Nid fy amcan ychwaith, fydd diraddio unrhyw b :H''301 neu sefydiiad, ond os gorfodir fi i fod yn halit wrth ambell un, gobeithiaf y bydd hyny yn ogystal a dose o physig i ly 0. dynu chwydd ambell i frawd a chwaer i iawr. Gan fod genyf special detectives yn ngliapelydd, eglwysydd, eymdeithas- au, a themlau y dref, dymunwyf yn os- tyngedig amgryma i drigolion Caernarfon fod ar eu gwyliadwriaeth yn y misoedd dyfodol, gan y bydd eu hysgogiadau yn cael eu gwylio bron iberffeithrwydd. Gyda hynyna o ragymadrodd awn ymlaen. Blaenor Newydd -Sibry(lir fod y frawd- olia,eth flaenoraidd ymgynulledig yn un o demlau y dref, wedi dwys ystyriaeth, yn ymdeimlo a gorbwysigrwydd eu swydd, a bod eu gorchwylion y fath fel nas gallant weinyddu eu swyddogaeth i foddlonrwydd heb gynnorthwy, ac yn unol a'r argy- hoeddiad hwn o'u hanallu, gwahoddir dyn pwysig i'w cynnorthwyo, a thebygol mai y rhan neillduol a ddisgyna ar ei ysgwydd- au ef fydd gwylio y Farm Yard-swydd anrbydeddus ac urddasol iawn, a sicrheir ni os ymgymmera y brawd hwn a'r swydd y cyflawnir hi i foddlonrwydd, ac ys dywed ein brodyr y Saeson y bydd yn "right man in the right place." Duffer Llwyd a'i Fjirm.—Mae y brawd hwn a ymgyfenwa ei hunan yn Ephraim Llwyd y Blagiard Bach (ond o hyn allan a gyfenwir genym yn ol teitl mwy cyd- naws a'i alluoedd yn Duffer Llwyd) drwy ddigio y "Ffirm," wedi tynu "nyth cacwn" yn ei ben. Gwarchod ni! dylai y trychfilyn llenyddol fod yn orofalus am ei dippyn corpws yn Eisteddfod Bangor. Cynghorem y foreman yn y lie cyntaf i wisgo ei "silk hat" a'i frock coat," hefyd i fenthyca "moustache" W—m, H—s (G—w—1—m A—r—f—n) ac Imperial J-.h-n-y J-n-e-,s, ynghyda chorpws yr hen gysgadur Tich- 9 t, borne," yna bydd gwedd go ddynol arno i wynebu y "Duffer." Dybygem mai y Bombadier, a'r purion W—m Parry a ddeelireua y "performance yn y "catch- him style a'r noeth arf ddygir yn ei erbyn fydd cricket bat W—s—t—w—d. Pa lun fydd ar y Duffer" ar ol bod dan yr orucbwyliaeth hon ni cheisiwn bro- phwydo, ond sicrhawn y bydd gofyn mawr M* pllls, drugs, a phlasteri am un flwydd- yn, beth bynag, j Cymdeithas Ryddfrydig y Giveithivyr.— Cwynid wrthyf heddyw fod yr erthyles lion ar fin tynu ei thraed atti a threngu, ac fod y cosimissiwn o ddarllen y'gwas- apaeth claddu yn medd ebargofiant, wedi ei gynyg i J-- W—, T-r-ff-y-n-o-n. Sibrydir fod Ll-w P-b-l-g wedicyfansoddi pryddest farwnadol iddi yr hon a dde- chreun, fel liyn;- (Mesur—Dm'iweidrwydcQ. 4.' Blitiais ar ben Radicaliaeth, Nid nes yno ond bara a dwr Llrtis telyuau Ilon Toryaeth, Sydd fix swyno chwaeth pob gwr," &c. Gwelwch £ i fod wedi anghofio ei destyn. Cleddir mewn dinodedd o dan lawr Chapel of Ease S-t P-w. Heddwch i'w llwch." Adroddiad Special Detective C(1)1<Z E-. —Daeth adroddiad fytffyddlon wyliedydd yn y.capel^ichod i'm Haw, ar fin cau fy llythyr i'%ny, a dyma fe i chwi yn verba- tim :—u Y 'rhinwedd^g.. brydlondeb yn dyfod i'r moddion ymjbrin iawn. yma amryw o fechgyn merged ieuaingc vi-i. drwm iawn yn y camwedd. Cynghorvvn i hen langc o flaenor bwrcasu jug galwyn, a'i lenwi o gwrw i'w ddal o flaen. trwyn un brawd, er ceisio ti gadw yn effro yn y moddion. Cewch adroddiad m ach yr wythnos nesaf.—Eich ufudd was- aethydd J. R., Gwyliedydd. Gobeithiwn y caiff annogaethalu ein gwyliedydd ffyddlon le dyladwy yn meddwl y gwein idog, ac y bydd effeithiau daionus yn dilyn hyn. 01 Man inn.—Clywed fod R- H—, (M-f-dd) ar fin ymullo a'r Conservative Working Men's Association ac nid oes ryfedd, gan ei fod wedi cael Kick out mor annheilwng o'r Liberal (?) camp. Gobeithio fod sail i'r ystori gan y caiff y brawd well porfa yn ein maes ni.—Yr eiddoch, SHON DAFYDD. O.Y.—Gyda chynnorthwy ein detectives Temlyddol, hwyrach y ceisiwn yn ein llith nesaf, roddi bras-ddarlun o swyddogion newydd y gwahanol gyfrinfaoedd. Pob gohebiaeth ilw hanfon i "Shon Dafydd," Ltais y Wlad Office, Bangor.—Sh. D.
HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.
HYN A'R LLALL, YMA AC ACW. MEISTRI GYLGWRS.- Y cantorion ma sy'n ffreuo efo i gilydd ar ol 'Steddfod Coedpoeth. Ryw un yn deud wrtha i ma clecbra dysgu oddi wrth y beirdd rna nhw. gan fod y rhan fwya o'r boys rheini wrthi hi bob amsar. Un arall yn meddw] ma gwrando ar ganu bwledi byth a hyfyd sy wedi gneud i chwaeth nhw dippyn yn isal, o gylyniad ma nhw yn mynd dippyn yn blagiardlyd. Ma gin i air i ddeud wrth yr holl lot o honoch chi, a dyma fo :-Tydi colli'n anrhydeddus yn ddim disgres i run o honoch chi, ac 6 gylyniad toes dim isio hel run esgus am hyny, na ffendio bai ar neb; a chofiwch chi fod ymddwyn yn fyneddigadd a theilwng ai ol cael i guro yn dangos true courage. Ellwn i feddwl yn ol rhai llythyra sy'n ymddangos yn y pypyra ma ma bwytta, yfad, a smocio odd busnass pwysica llawer yn y Coedpoeth. Ma petha fel yna yn burion yn i lie, ond tewi pia hi wedyn. Tydw i ddim yn erbyn tippyn o sport mewn 'Steddfod, ond ma isio rwbath blaw hyny i gneud nhw yn ddyfnyddiol in cen- adl ni. Dyha sydd ar ol yn ofnadwy ydi fod cin lleiad o les yn deillio drwyddy nhw. Yn siwr, ma isio iddy nhw iod yn rhwbath blaw pastime, herwy id ma'i machinary yn rhy gostus i hynv yn unig o lawer iawn. Fe ddylyd caul ryw gyn- llyn i gyhoeddi y gora a'r ail u-a o'r holl gyfansoddiada, a hyny miawiJ un volume, ac am bris rhysymol, hyd yn nod ta dippyn o'r surplus yn mynd at hyny. Fe ffurfia hyny miawn amser library go gre o lynyediaeth Gymreig. Doniol o beth, ynte rwan, fasa bod volume brintiedig o gynyrchion pob 'Steddfod o un Caer- fyrddin, ganrifodd yn ol, hyd yn awr ar gof a chadw o fiawn ryw syfydliad cyn- edlaethol yn Nghymru. Pe felly, fasa gynon ni rwbath i'w ddangos ac i'w frolio miawn gwirionadd ac attebith y 'Stedd- foda ma mo'i diban eitha hyd nes y ceir rwbath o'r fath. Ma dda gin i glywad fod rhagolygon 'Steddfod Bangor yn obeithiol iawn. Yn ol pob golwg, hon fydd y 'Steddfod fwya rioed, ac ma un o'r fath miawn blwyddyn yn llawn digon i Oglecld Cymru beth bynnag. Os ceir gormod o'r rhain fe an fel pob peth arall yn ddiflas ac yn fethiant. Ma'r pwyllgor wedi bod yn ddouth yn newisiad yr ar- weinwyr. Bydd Tanymarian a Mynyddog yn cementio i friendship drwy chwerthin am ben jokes i gilydd, synwn i ddim na chwertha nhw fwy na neb arall yn mhoeth- dar yr ail gariad, a ddaeth i rhan nhw yn y Coedpoeth. Ma'n debig yn act yr hyddychiad ma fod ymayw un wedi mynd yn abarth i ddigofaint y boys hyn rhwng y tan a'r pentan. Fe rofir am y pentan a'r gwely yn y Coedpoeth, am byth mwy. ROBIN SPONC.
[No title]
ABERSOCH. Y Gymdeithas Geidit,(idol.- Cynnaliwyd cyfarfod yn nglyn a'r gym- deithas uchod yn y lie hwn yr wythnos ddiweddaf, o dan lywyddiaeth Mr Robert Carreg. Yr oedd y cyfarfod yn un tra Uuosog a dylanwadol, a derbyniwyd ped- war-ar-hugain o aelodau newyddion. Tra- ddodwyd'nifer 0 areithiau gwladgarol, yn nghanol brwdfrydedd anughyffredin. YD mysg ereill, yr oedd yn bresenolMr F. LL Edwards, Mr Lloyd Edwards, Nanhor- on; Cadben Owen, Llanbedrog; Parch. J. Rowlands, Bottwnog Parch. D. Hughes, Llangian Parch. Hopkins Parry, Llan- bedrog Mr W. L. Joiios, Pwllheli; Mr R. H. Owen, Bronphillip; Mr J. F. Roberts, ysgiifenydd, &c. Y mae rhagolygon Ceid- b b wadaeth yn yr rhan hon o'r sir yn dra addawol, ac yn parhau i ymddisgleirio. CAERNARFON.—0 flaen yr ynadon bwr* deisiol dydd Llun, cyhuddwyd William Griffith a John Thomas o ddal gleisiaid yn anngliyfreithlon. Dywedai Alexander Steward, prif wyliwr yr afonydd yn y gym- ydogaeth, ei fod yn gwylio Hyn yn afon Seiont, pryd y gwelodd Griffith, yr hwn sydd fab i berchenog gwaith llecbi Pen- morfa, yn dal pysgodyn ac yn ei estyn i Thomas, yr hwn sydd yn weithiwr i'w dad. Ceisiodd y tyst ddal y diffynwyr, ond llwyddasant 1 ;fyiied ymaith. Ceis- iwyd ar ran y diffynwyr dystiolaethu eu [ bod mewn lleoedd ereill ar y pryd y dy-1 wedid i'r trosedd gael ei gyfiawni; oli(I dirwywyd hwynt i 158 yr un. I I
HELYNTION DYFFRYN MADOG.|
HELYNTION DYFFRYN MADOG. (GAN ALLTUD EIFION). Saif y dyffryn hwn yn nghwr de-ddwyr- einiol sir Gaernarfon, yn cael ei derfynu ag afon y Traethmawr rhynddoaMeirion- ydd. Yr oedd y mor unwaith yn ymwthio rhwng y bryniau a'r mynyddoedd hyd Bont Aberglaslyn gan ymleda ar hyd y gwaelodion i ochreu Llanfrothen ar un Haw ac i gesail orllewinol y traeth hyd Benmorfa, yr hwn le y pryd hwnw ydoedd unig gyrchle neu fan cyfarfod trigolion y ddwy sir cyn y llwyddyn 1800. Hynod o anhawdd ydoedd croesi y traeth gan y lli- fogydd o'r Wyddfa a'r cymoedd cylchynol, ynghyd a rhyferthwy y mor. Ynyflvvydd- yn 1569 meddyliai Syr John Wynn o Wydir am gau y mor allan, gan fod ei feddianau y pryd hyny yn terfynu a'r traeth; ond ni ddygwyd hyny i ben y pryd hwnw. Eithr yn niwedd y ganrif j'r blaen penderfynoddymddiriedolwyrMr Price, Rhiwlas, (yr hwn oedd y pryd hwnw dan oed) werthu y tyddynod oeddynt yn terfynu 3,'r traeth mawr. Yr oedd bonedd- wr ieuangc o Lan-y-wern, Dyffryn Clwyd, (dadleuydd cyfreithioloranei alwedigaeth) newydd brynu etifeddiaeth fechan a elwid Dolymelynllyn, rhwng Dolgellau a fhrawsfynydd, wedi darllen yr hysbysiad am yr arwerthiant, Tarawodd y drych- feddwl a ddarllenasai, ac ydoedd gan Syr John Wynn, i'w feddwl. Daeth i weled y de gydag un Mr Parry, cyfreithiwr, o Jdolgellau, a elwid yn gyffredin Parry bach." Prynodd y ffermydd cylchynol; a chan ei fod yn Farchog dros Foston ar y Pryd, parotodd fesur i fyned i'r Senedd er trosglwyddo hawl y Gor.)n iddo ef a'i aerod dros byth, o'r holl draethydd cyffin- iol a'r ffermydd ag y byddai y llanw yn eu gorchuddio, a'r bummed o diroedd ereill a orlifid yn achlysurol, ar yr lunmod iddo ef wneyd morglawdd i gau'r mor illan, gwneuthur ffyrdd, rhigolydd, &c., a'u cadw mewn repair am byth. Gwnaeth y pethau hyn oil mewn tuag wyth mlynedd, yn nghyd a gwnaethur ffordd bost o Capel Curig i Portdinlleyn, yn brif fynedfa i'r fwerddon. Adeiladodd hefyd Dremadog, yr hon a alwyd oddiwrth ei enw ac a yd- oedd i fod yn un o orsafoedd yr Irish mail; ond yn anffodus i arian y llywod- raeth ac i gyfleustra y byd yn gystal ag i'r anturiaethwr hwn, enilloddCaergybi y dydd jr Portdinlleyn. Cariodd yr hyglod Mr Madocks ei gynlluniau yn mlaen yn rhy- feddol, dan anfanteision mawrion; mewn adeg gythyblus ar y deyrnas ac isel ar 6y fasnach. Adeiladodd Eglwys fechan yn Tremadog, rhoddodd le i adeiladu Cwrdcl- zll dy neu Gapel hefyd yn y He, cododd fane, gwnaeth chwareudy, ynghyd a rhodfeydd z;1 11 cyhoedd a elwir Nurseries. Adeiladodd hefyd, rectory house a elwir Tynaney. Pasiodd Act of Parliament ar yr Eglwys, a gwaddolodd hi a thir; ond yn anffodus cymmerodd camddealltwriaeth le rhyng- ddo a'r esgob ar y pryd, fel nachyssegrwyd ac na unwyd yr Eglwys fechan brydferth oyth a'r Esgobaeth, ac er iddi gael ei gwneyd fel cyflenwad (chapel of ease) i'r Eglwys blwyfol, collodd trigolion Cymreig y lie bob mantais oddiwrthi, fel na chyn- nelir ynddi mwyach ond dau wasanaeth, mewn laith estronol. Y mae y clochdy wedi ei gyfaddasu i gyfres (peal) o glych- au ond cyn iddynt gael eu gosod dyrys- odd y Priciaid, ac aeth y perchenog a'r clychai^pdref gydag efo Ac am flynydd- oecld i'rysgrifenydd gofio, nid oedd ond cloch y criwr yn tincian yn y porth, lles, y bu i Mr J. Williams, tu hwnt i Bwllheli, (o anwyl goffa) osod cloch ardderchog i fynu. Ymhen blynyddoedd wedyn gos- od wyd town clock i fynu yn y clochdy, drwy ymdrech ysgrifenydd hyn oil nellau, a haelioni'r ardal yn tanysgnfio. Yr ydym yn cofio amgylchiad lied ddigrif pan yn gosod y cloc i fynu, dan arolygiad yr enwog fardd Clwydfardd. Yr oedd hen wr yn canlyn trol a mul, anifail ag oedd yn meddu y tueddiad ciaidd o frathu. Pan oedd yr hen wr yn troi drwy'r adwy gyferbyn a'r porth, aChlwydfardd ary stage uwch ei ben yn edrych arno, ymaflodd. yr asyn yn nhewder dun ei feistr a'i bar dannneud yn filain. Ar hyn dyina'r hen yn ei gosod hi ar gefn ei ful yn an- nhrugarog; ac ar y foment, wrth weled yr olygfa, gwaeddai Clwydfardd yn ei ddull doniol a'i lais cryf- Ei frathu drwy'i frethyn oedd sydyn ciro sal, Am Lyny wac'r asyn yn derbyn ti dSl Nis gwyddem pa un ai'r pill ai'r dannedd oedd yn poeni fwyaf ar yr hen law. I ddychwelyd, yr oedd Mr Madocks yn achlesydd mawr i feirdd a llenorion. Ni bydclai wrth ei fodd heb i Twm o'r Nant J fod yn yr arcial. Gyda Haw, y mae dar- lun cywrain o hono yn yr ardal etto. Yr oedd Twm yn wastad mewn rhyw drybini. Daeth un Llwyd y Twrnai i roi gwrit ar Twm, ac wedi clywed ei fod yn yr Union Tavern, ac heb ei nabod, gofynai a oedd Tonios Edwards, neu Twm y Nant, yno ? Yr oedd Twm yn eistedd wrth y tan, a gwelodd nad oedd modd ysgoi, a dywed- odd yn y fan— "lYtle Twin o'r Nant yn NySYyu Chvvd, Rhwug Mr Llwyd a'r Hudw." Cynnaliwyd eisteddfod ragorol yno dan o lywyddiaeth Mr Madocks yn 1811, lie yr ennillodd Dewi Wyn ei awdl rymus ar Amaethyddiaeth, ac yr ennillodd y gwpan arian, yr hon a lynodd (meddynt)yn rhywle yn yr ardal fel na chafwyd hi gan ei hen- nillydd, yr hyn a achosodd iddo ddy" weud- Pan yro gwpan ansa Imiam ragori &'r gip, Dysgl fawr 'rwy'o dysifwyl fvdd, Nu bad ell i drin bwydydd." Achlysur yr eisteddfod hon oeddgorphen- iad y morglawdd cerrig, yr hwn sydd gaffaeliad gwerthfawr i'r rhan hon o'r wlad. Dywedir ei fod yn gan' troedfedd o ddyfn, a chyrhaedda ar draws y culfor rhwng y ddwy sir, yn filltir a chwarter o hyd, a rhed yn ddwys arhyd-ddo gerbyd- au a chledrgeir. Gwneir porthladd cys- godol yn ei gesail, ac a'i fraich amddiflfyna ddarn helaeth o filoedd o. erwau o dir, yr hwn sydd yn llosgi yn awr gan nerth y pupur sydd ar ei groen. Bu gwledd am wythnos ar yr achlysur hwnw. n Cychwvn- wyd rhedegfeydd yn y Morfa Eyehan, lle daeth mawr a bychan, boneddig a gwreng, o bob parth iddynt. Yr oedd hefyd hen wylmabsant, sef sassiwn Sant Beuno, wedi troi yn llygredigaeth. Cedwid hon er's oesoedd yn Mhenmorfa, y pentref cyfagos. Tynodd Madocks hon i lawr i'r dref, a throes hi'n ffair. Cynnelid y wyl- mabsant ar ddydd Llun y Pasg, a chvi-n- maint oedd ymlyniad pobl yr ardal yn y llygredig, fel y cadwent Llun y Pasg yn fwy gofalus na Gwener y Groglith. Ofnid wrth weithio y morglawdd cerrig draws y md/, fel yr oeddy ddau ben In nesh m a'r weilgi yn cryfhau, nas gellid ei orchfygu. Teflid cerrig tunelli o bwysau i'w grombil, Z, ond chwydai Dafydd Jones hwy "off" fel plu. Ond .hen wr o'r enw Shon Cae lago, yr hwn oedd yn byw lie mae cei cwmni y Welsh SttLte yn awr, a chanddo hen shop, a ddywedodd wrth Mr Madocks, "Meisl-ar, mi cauaf fl o, os caf ugain punt." "Dc-tie, John," meddai'r boneddwr. Aeth Shon a'r sloop at y graig gerllaw, gan ei llwytho a cherrig nes bron a suddo, hwyliodd hi i'r bwlch, a suddodd hi yno gyda'i llwytli! Dyna ddechreuad gorchfygu'r mor. Clyw- ais am yr hen batriarch o'r Waenfawr ei fod yn yr eisteddfod yn fachgen ieuangc gyda Dafydd Ddu Eryri, ac i rywun ddy- weud ein bod yn Nhremadog chwe' troed- fedd islawr mor ar lanw. I ffwrdd a'r ddau hen fardd i fyny i Benmorfa, rhag ofn y gwaethaf. Cewch chwaneg o hen gofion yn y nesaf os yw'r rhai hyn yn dderbyniol. (I barhau). [Diamheu genym y bydd yr hen gofion hyn yn dameidiau blasus i'r darllenydd, a bydd yn hyfryd genym gyhoeddi par- had o honynt.—GOL.]
ARLUN COFFADWRIAETHOL O'R…
ARLUN COFFADWRIAETHOL O'R FUDDUGOLIAETH GERDDOROI YN Y PALAS GRISIAL, YN 1873. Yr oedd y fuddugoliaeth hono yn un a gofir yn hir gan bob Cymro cenedlgaroi gyda llawenydd a boddhad, ac y mae yu ddiau y bydd yn llawenydd gan bawb gael ar cldeall fod y Parchn. Rees E. Lewis, Columbus, 0., wedi cynllunio arlun ar- clderchogr coffadwriaeth am y fuddqgol- iaeth hono. Gwneir i fyny y pen uchaf o'r tai&flte&n W?WW Gymreig, yn cael eu hamddiffyn gà yr arwyddlun Prydeinig, yr unicorn a'r Hew. Islaw y mae y faner Gymreig, ar ba un mae y Ddraig Goch, a'r arwyddair "Y ddraig goch a ddyry gychwyn." 0 bob tu i'r faner y mae dwy delyn Gymreig, ac o bob tu i'r telynau arluniau tarawiadoi o Dywysog a Thywysoges Cymru. Yn y canol y mae y prif ddarlun, sef y cwpan aur, o gwmpas pa un y mae dwy geninen ar lawryf o dderw, yngymhlethedigagwa- hanol offerynau cerdd. 0 bob tu i'r llaw- ryf y mae arluniau cyfrinol, au hudgyrn yn cyhoeddi y fuddugoliaeth. Ar un ochr gyferbyn a gwaelod y cwpan aur, y mae darlun campus o Brinley Richards, ac yn gyferbyniol ar yr ochr arall, arlun da o Canon Jenkins, dau o gefnogwyr mwyaf brwdfrydig y Cor Cymreig. '0 dan y cwpan y mae darlun cywir o Garadoc, ar- weinydd y cor, yn cael ei gylchynu gan y geiriau, "Crystal Palace Prize Cup," yn nghyd a'r arwyddair, Tra mor, tra Brython." Ar bob tu i ddarlun Caradoc portreiadir meibion llafur gan weithiwr haiarn a mwnwr, a'u hofferynau gwaith. Y mae ar ffurf colofn fawreddog yn a0rl wedd ar sail gadarn, ar waelod^pa un v mae y geiriau canlynol yn argraphedi" •—- Respectfully dedicated to those noble sons of toil, the Cambrian 500, by the publisher, Rees E. Lewis." Y mae yr oil oddieithr arluniau y per- sonau sydd ynddo, yn waith peri ac ink ac wedi cael ei dynu drachefn ar gardiau o wahanol faintioli yn photograph. Y mae Mr Lewis wedi myned i lafur a thraul fawr i gael y gwaith hwn allan, ac y mae wedi llwyddo tu hwnt i bob disgwyliad i wneyd arlun a fydd yn enw iddo ei bun fel cynlluniwr celiyddydol o'r radd flaenaf. Y JVasJ Amcrieanaidd.
[No title]
Ymddengys maigolwg eiddil sydd ar yr ydau via nghymydogaeth Conwy.
BALA.—HELYNTION Y BWRDD YSGOL.I
Pa fodd yr ydych chwi, drethdalwyr Llan- ycil, yn foddlon i dalu trethi trymion dros blant plwyf Llanfor ? Mae llawer o blant Yn ysgol y bwrdd o Llanfcr a Rhosygwalia. Pa reswm, pa gyfiawnder, ydyw i chwi daIn arian sychion o'cli llogellau dros y rhai byn ? Heblaw hyn hefyd, y mae bwrdd ysgol Llanfor yn myned i adeiladu ys^oldy yn Rhosygwalia, ac fe fydd 20 o leiaf o blant yn llai yn ysgolion y Bala. Ac fel hyn, drethdalwyr, nid fel y mae'r plant yn cynnyddu, ond fel y maent yn lleihau mewn nifer, y mae'n rhaid i'r bwrdd helaethu eu hysgol yn y dref. Blwyfolion Llanycil, ystyriwch y ffeithiau hyn, gwelwch wastraff y bwrdd ysgol a deffrowch o'ch cysgadrwydd cywilyddus. Mae cymdeithas a chyfiawnder, ie, a'r plant a anwyd i chwi, yn gofyn ac yn hawlio hyn genych. Asgre lan, diogel ei pherchen." ù. 1. CARWR Y GWIR.