Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

LLOFFI'ON CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFI'ON CYMREIG. Am achub bywydau dau foneddwr yn Llandrillo-yn-Ehos, cfodd Mr Montague AVilliarus ei dystebu â hinfes.urydd gwerth- fawr. Hyfryd genym fod mewn sefyllfai hys- bysu fod yr Anrhydeddus G. S. D. Pen- nant wedi gwellau mor dda fel y mae pob gobaith y bydd yn alluog i dalu y sylw dyladwy i'w orchwylion seneddol wedi y gohiriad agoshaol. Cydnebydd Ficer Llangollen dderbyn- iad tri chant o bunau oddivvrth Mr Wil- liam Griffiths, Llundain, tuag at adeiladu gwisgle (sacristy) goffadwriaethol yn nglyn a'r Eglwys blwyfol. Hysbysir fod Mr Burnett Pring a Mr Humphrey Roberts, dau frodor o Ffestin- iog, wedi eu derbyn yn aelodau o Goleg Meddygol Lloegr. Nos -Sul pregethodd yr Hybarch Arch- ddiacon Ffoulkes yn Eglwys Gadeiriol Bangor, a gwnaed casgliad er cynnorth- wyo clafdy y Rhyl. Deallwn fod y rheilffordd rhwng Bet- tws y Coed a Ffestiniog wedi sefyll dros enyd oherwydd rhyw annghytundeb; ond hyderir y daw Mr Gethin Jones a'r peir- ianydd i gyd-ddealltwriaeth buan. Ymddengys y dathlir genedigaeth aer Llysdulas gyda rhialtwch mawr yn nghymmydogaeth Llanwenllwyfo. Da genym ddeall na fydd angen am is- olgiaeth unrhyw geisbwl llenyddol er symmud y cwmwl a arfaethid i bylu golygon treiddgar Alltud Eifion, gan iod heddwch wedi ei adferu rhyngddo a Chwmni Marchnadfa Newydd Porth- madog. Wedi ymguddio o hono o dan Fwrdd Arthur" dros enyd, sibrydir fod yn mwr- T iad y llenor byd-enwog." y Thesbiad, wneud ei ymddangosiad unwaith yn rhagor, a diamheu y bydd i'r amgylchiad Z, dyddorol gael ei ddathlu gyda daiargryn d,L r; lenyddol yn Mon. Ymddengys fod awdurdodau Pwllheli yn bwriadu cymmeryd yr eisteddfod a fwriedir ei chynnal yno o dan nawdd eu haden ond bydd yn ofynol iddynt fod yn dra phrysur yn nghylch eu parotto- adau, neu bydd Dyiiryn Conwy wedi achub y blaen arnynt. Dywedir fod cwmni Cymreig wedi ei ffurfio yn Lerpwl gyda'r amcan o gy- nyrchu myglys newydd a elwir "Shonibus' Mixture," ond nid oes etto sicrwydd mai i'r ffaith hon y mae y landing stage yn ddyledus am ei dinystr. Y mae y Parch. Venables Williamq daeargrynfawr bwrdd gwarcheidiol Conwy, wedi ei lesteirio i gyflawrii ei orchestion gan afiechyd. Wyth geiniog yn y bunt ydyw treth addysg Pwllheli. Yr englyn canlynol a anfonodd bardd i'w gariad-ferch yn Nglanadda, Bangor, wedi ei wrthod ganddi:— Od oerodd fy ngbysuron-oberwydd Caiia'l at rbyw estron, Gwr^ndaw, fun, yr wy'u anion Yn siwr o feroh yn sir F6u Mr Marcus Louis, Rhuthyn, sydd wedi ei bennodi yn gyfreithiwr i fwrdd ileol y Rhyl. Gwneir ymdrech er ffurfio Cronfa tuag at gyfodi cofgolofn i'r d'iweddar Nicander yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Pennodwyd agoriad Eglwys ad: ywc'r- iedig Cerrig-y-L>ruidion i gymineryd lie ddoe. Cyssegrwyd yr adran newydd o Eglwys y Drindod, Llandudno, gan Esgob Ban- gor, yr wythnos dcliweddaf Wedi'r ymwrthodiad diweddar a'r, Undeb i ba un y perthynent, y mae nifer o weithwyr y Deheudir yn ceisio sefydlu cymdeithas newydd o dan arwydd y Ddraig Goch. Ymofidia un gohebydd oherwydd dys- tawrwydd presennol Trebor Mai, a dywed- I MIWQ rhyw bwnKc maea arw o betb, Trebor, na wnaet ti rywbeth." Yr wythnos ddiweddaf traddododd Mr Brinley Richards ddarlith dra dyddorol i ar gerddoriaeth y Cymry a chenedloedd ereill yn Mhrif ysgol Aberystwyth. Caf- wyd engreifftiau cerddorol gan Miss Mary Davies, R.A.M.; Miss Lizzie Evans, R.A.M.; a Miss Mary Jane Williams, R.A.M. Yn unol a'i haelioni diarhebolrlioddodd y meddyg a'r gwladgarwr enwog Dr. Z!. z;1 Pierce, Dinbych, wledd ardderchog i blant ysgol Sul, Afon Wen, ger Caerwys. Yn etholiad dirprwywyr trefol Llan- dudno, llwyddodd y Ceidwadwyr i ddy- welydpump o'uhymgeiswyr ftr gyfer dau o ddewisolion y blaid Radicalaidd. Dieuog ydoedd dyfarniad y rheithwyr yn achos John Thomas, Llanfairpwll- gwyngyll, yr hwn a safai ei brawf yn Mrawdlys Mon, ar y cyhuddiad o gael arian yn annghyfreithion. Am ladratta cafodd ypersonau canlynol eu dedfrydu i garchariad yn Mrawdlys Mon :—Elizabeth Gray i fis o garchariad; Thomas Rowlands a Jane Roberts i ddeuddeng mis o garchariad; Jane Jones i wyth mis o garchariad, ac Edward Jackson i wyth mis am dderbyn eiddo lladrad.

INEWYDDION CYMREIG.