Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
SADWRN TAL MR UNION, NEU DDY'GWYL…
SADWRN TAL MR UNION, NEU DDY'GWYL DOMAS YOUNG WALES. FONEDDIGION,Mae Mr Union yn fCJeddwr digon adnabyddus fel nas rhaid treulio amser i olrhain ei linell na'i achau. Yr oedd ei ystad yn Lloegr, y cyfandir, a'r l'meric yn un lied eang er ys talm, ac yn dGiweddar fe ddaeth cyfran lied helaeth o siroedd Arfon a Meirion i'w feddiant. Mae rhai miloedd yn y siroedd hyn yn arddel ei arglwyddiaeth a'i lywodraeth arnynt. Mae ganddo rai cannoedd o bobl yn ei wasanaeth yn dangos mawr sel a lkfur dros eu mheistr. Yr oedd tir- feddianwyr aceiddofeddianwyr, ac ambell i hen greadur lied hirben, llygadog, a chraff, y teimlo yn lied annewyllysgar i Mr Union roi ei draed i lawr yn ein mysg, a bu rhai yn ddigon gonest i draethu eu barn mewn pryd ynghylch y boneddwr estronol, ac i rybuddio eu cyd-ddynion rhag ymddiried gormod i'w addewidion, na'i egwyddorion, na'i swyddogion, na'i gyfoeth, na'i haelioni. Rhoddodd rhai o hen fonedd y wlad rybudd prydlawn i'w holl weision, &c., nad oedd yn bossibl gv asanaethu dau arglwydd gwrthwynebol gilydd fod rhaid dewis rhyngddynt hwy a Mr Union. Cynnygiodd un o'r hen fonedd wella sefyllfa ei weision, a dileu pob camwri ond iddynt aros yn ei was- anaeth a throi cefn ar Mr Union, cyn- nygiodd yr hyn oil oeddynt yn ei geisio o fewn terfynau rheswm a chyfiawnder, ond yr oedd y bobl wedi dechreu hoffi Mr Union. Wedi hir ymddadleu ym- foddlonodd y bobl i beidio gadal i Mr Union ddyfod yn ago8 iawn attynt, ond i'w wasanaethu o bell. Rhaid oedd ei was- a- aethu er na chant weled ei wyneb mwy. Yr oedd rhywbeth mor ddeniadol yn ei enw a'i deitl, rhywbeth mor swynol yn ei wynebpryd, rhywbeth mor ddoniol yn ei six yddogion, rhywbeth mor urddasol yn ei 'jrif oruchwylwyr, rhywbeth mor obeith- ioi ac addawol yn rhagolygon ei ystad--yr oedd ei etifeddiaeth yn un mor eang a goludog, ei ddeiliaid mor lluosog, a'i addewidion mor haelionus, nes yr oedd yn anmhosibl o'r bron beidio ei hoffi, a rhoddi pob ymddiried ynddo. Gan mai unwaith yn y mis y byddai yr hen feistr- ac oedd yn talu, addawodd Mr Union ddily-n yr un rheol. Tua dechreu mis Gorphenaf, cyflogodd rhai miloedd yn ngwasanaeth Mr Union, a chludasant eu harfau o feusydd eu hen arglwyddi-a dcchreuasant ar eu gorchwyl ar etifedd- iaethau Mr Union. Daeth pen y mis- mis pump fel ei gelwir, a Sadwrn diwedd- af oedd Sadwrn tal cyntaf Mr Union yn Ngogledd Cymru. Trwy fod ei ystad dippyn yn wasgaredig, barnwyd yn bri- 6 Zf odol sefydlu pedair neu bump o branch orikes i dalu. Ar yr awr bennodedig wde'r prif oruchwyliwr yn marchogaeth mewn cerbyd rhwysgfawr yn arrivio, yn cludo gydag ef ran o leiaf o drysorau an- hyspydd Mr Union. Yr oeddid wedi cyhoeddi fod naw mil o bunnau mewn 11aw gan brif oruchwylwyr yr ystad. Yr oedd bechgyn eraff E I yri wedi gosod eu galluoedd rhifyddol ar waith, a daethant i'r penderlyniad y caffai pob aelod 4p. neu Sp. o gyflog am ei fawr ofal calon yn ystod y mis pump. Ni chawsai fawrfivy gan ei hen feistr, ac yr oedd yn foddlon i rl,,Ierbyn IlLti, y cynnyg cyntaf gan Mr Union. Gwyddai, os oedd y goruchwyl- w/r yn dyweud y gwir y deuai y tal yn well yn barhaus ond bod yn ffyddlon i Mr Union. Rhoddid ar ddeall fod aelod- au Seneddol, y fu ac y sydd, yn b-vrw eu cyfoeth i drysorfa. Mr Union, fod cym- deithasau cyfeillgar yn hael i gynnorthwyo Mr Union, fod meibion llafur ymhob man o'u prinder yn bwrw i mewn gymmaint oil oedd yn weddill ganddynt i goffrau Mr Union, fod y trefydd mawrion yn gwneud aberthau mawrion o blaid Mr Union, fod coffrau y deml at wasanaeth Mr Union, fod prif swyddogion Mr Union mor hunan ymwadol ag i fyned yn mhell ac yn agos i wasanaethu eu meistr ar eu trial eu hunain heb arian ac heb werth. Yr oedd pawb wrth ei fodd yn ngwas- anaeth Mr Union; fe gaent fyd da yn helaethwych beunydd o dan nawdd bon- ^dwr mor urddasol ac haelionus, ond Sfic*vrn tal a ddaeth—a derbyniodd pawb neuo leiaf pawb ddaethant at yr office i ymoijn tal—cawsant bawb y swm an- rl,ydcddUL o BUM SWLLT y pen fel cyflog am y mis Pt-mp a dreuliasant yn ngwas- p anaeth y perdefig ieuangc Mr Union. lechyd i'w galoi. Hir oes gaffo i redeg gyrfa mor ddyngarol a hunan ymwadol. —Yr eiddoch yn gywir, CEFNDES. ROBIN SPONC.
----LLITH MR PUNCH.
LLITH MR PUNCH. FONEDDIGION,—O hyn allan byda fy meistr yn gyfrifol am bob peth a gyn- nwysa ein llithoedd, a dyna y rheswm ein bod yn eu teitlo yn ei enw. Ac os digwydd fcd rhywbeth yn wrong ynddynt, atto ef y rhaid anfon am bob eglurhad yn eu cylch. Ac am hyny dyma ui yn g;ir oddiwrth wared pawb a boenir genym o hyn allan. Ac nid dim byd o beth yw hyny! DIWYCTIADAU YN EISIEU.—Can(t match— Y mae eisieu i flaenoir canu y capel ucbaf ddechreu ychydig yn is i lawr, gan gofio nad yw y gynnulleidfa ddim fel cedrwydd Libanus ac y gall efe fod yn foddion i gracio y nenfwd a'u dychrynu allan o'r lie. Y mae eisieu i flaenor canu capel y B- Caernarfon, gofio fod gwahaniaeth dirfawr rhwng canu da a gwaeddi nerth ceg Ac, yn ganlynol i hyny, astudio y gwahaniaeth sydd rhwng ton "Ion" a thon "leddf," neu, yn hytrach, rhwng ton yn y eywair mwyaf, a thon yn y eywair lleiaf. Hefyd rhwng ton dyner ac esmwyth, a thon fyw- iog a nerthol, &c. Byddai hyny yn help mawr tuag at fod yn flaenor canu cym- mwys. Gyda llaw, dymunwn alw sylw neillduol penaethiaid pob cyfenwad cre- fyddol at y pwysigrwydd o ddewis un cymmwys i flaenori y canu. Nid un a llais da yn unig a wna y tro i fod yn flaen- or canu, ac nid un yn deall y cwbl (ac ychydig ychwaneg) a wna y tro ychwaith. Ond un a all gydymdeimlo ychydig a'r gynnulleidfa-yn gallu rhoi" ychydig, weithiau, pan fyddo teimlad yn ymwthio ei hun yn mlaen. Mae'n wir fod eisieu i flaenor canu fod yn deall yn dda, pa ddn yw y fwyaf priodol ar eiriau, &c. Ond os na fydd ganddo gydymdeimlad a'i gyn- nulleidfa, ni waith rhoddi "Cihela" i ddechreu canu nag yntau. I'),ydloitdeb.-Y mae eisieu i'r rhai sy'n arfer a gwisgo esgidiau "wich wach," a'r rhai fyddo yn arfer curo a laenio eu traed yn erbyn y lloriau, &c., ofalu bod mewn amser prydlon yn y cyrddau crefyddol, yn anad neb, rhag iddynt aflonyddu ar ereill fyddo yn digwydd bod yno ar amser dech- reu. Nid oes dim yn fwy gwrthun na chlywed wich, wach, wich, wach," o un pen i'r Hall o'r addoldy, a hyny ar ol i'r gwlisanaeth crefyddol ddechreu Ac am hyny y mae Mr Punch yn taer-ddymuno am ddiwygiad prydlon yn hyn. Mae rhw'n dyweud fod y pennillion a roddasom mewn llith flaenorol yn ddar- luniad mor odidog o'r gwrthddrychau a nodir ynddynt, fel ag yr aeth dwy fonedd- iges ieuaingc o'r He hwn i dy cymydoges i hysbysu mai hwynt hwy a'u "cariad ydoedd testyn ein myfyrdod pan yn eu cyfansoddi. Y maent yn falch o'r penill- ion. Ond y drwg ydoedd ein bod wedi beiddio eu rhoddi hwy yn y, papyr new- ydd Wel, yn siwr, nid wyddwn i mai iddynt hwy yr oeddym wedi canu, hyd nes clywsom eu bod hwy yn dyweud mai nhw ydy nhw," onide, buaswn yn cym- meryd gofal rhag gwastraffu ein doniau ar ri mor anniolchgar! Mae nhw'n dyweud nad oes "dim byd yn debyg i gig mochyn wedi marw a 'chabaits,' a thatws crynion, a llaeth en- wyn newydd ei gorddi" i ddyn yn dyoddef oddiwrth y clefyd hwnw a elwir eisieu bwyd." Y Catechism.-G. Pa beth yw ystyr, CSLU di b'nil1 mwyn i'th nain Fe gân dy nain i tithau ?" A. Gadewch i'r bobi ddreifio a chael ei gario yn rhad yn y fargen, cewch Chwi- thau arfer cruelty to animals, os mynwch, trwy orlwytho eich Coits, &c., heb fod mewn perygl o gael eich dirwyo. Hym G. Pa beth fydda, nhw'n wneud yn sir Fon pan fo hi'n gwlawio ? A. Gadael llonydd iddi. G. Pa beth yw gwr bon- heddig ?" A. Creadur na wnaeth erioed ddaioni iddo ei hun na neb arall, ebai Gwyddeles. G. Pa beth yw ystyr Cr-ch- 1-f-r-dd. A. Cadach llestri Radicalaidd. G. Pa ddiwrnod yw hwnw, na welodd neb erioed, ac na wel neb byth mohono ? A. Yforu G. Pa beth yw hwnw ag y mae pobl dlodion yn dueddol o gael eu poeni oddiwrtho ? A. Diffyg treuliad (in- digestion). Paham hyny? Am eu bod yn ami heb ddim i'w dreulio. G. Pwy yw yr hwn sy'n cael ei ganmol yn ei gefn ?" A. Y marw. G. Pwy ydynt y dynion g.)reu a fu erioed ar y ddaear ?" A. Gwrthddrychau bywgraffyddol crach-awd- wyr am arian! G. Pwy sy'n cael ei feio am ddyweud y gwir, a'i anmharchu am ei onestrwydd tuag at ei gymmydogion ? A. Gohebydd Mr Punch o'r Bontnewydd. G. I bwy y mae y golled ? A. Nid iddo ef, ond i'r sawl sy'n euog o'r drwg. GWAS MR PUNCH. O.Y.- Y mae rhai pobl yn meddwl cymmaint o ddydd yr Arglwydd, fel ag y maent yn cyfodi yn foreu i fyned i'r "prif- ffyrdd a'r caeau i gasglu (nid pechadur- iaid i dy Dduw, ond) Mushrooms, tuag at eu gwerthu, ddydd Llun! Gwelwyd amryw y Sul diweddaf yn eu casglu tua chymydogaeth y Bontnewydd, a manau ereill! Edifarhewch, chwychwi y rhai sy'n euog o hyn, a pheidiwch gwneud etto ar y Sul, neu rhaid i ni anfon at Mr Punch yn ddioedi. Y mae dau eithafion mawr yn perthyn i ni fel pechaduriaid yr oes hon. Un ydyw yr hyfdra o dori y Sabboth &c. Ar llall ydyw yr hyn a elwir yn ffug- Sancteiddrwydd. Y mae rhai pobl mor afres-ymol o dduwiol ar y Sul, fel nas gallant cmd prin agor drws eu ty Ystyr- iant fod hyd yn nod myned allan o'u tai ar y Sabbothau, ond yn unig i'r addoldy, yn bechod Ond y mae hyny yn ormod o dduwioldeb. Nid yw gWir grefydd yn gynnwys'edig mewn peth Mly. Ac am hyny rhaid mai rhyw eithafion o eiddo y Diafol ydyw pob peth o'r fath. Oher- wydd y mae ef, fel ag y mae y Gwyddel bob amser mewn eithafion. Naill ai yn dda" allan o reswm, neu ynte felly mewn drygioni. Hen gnaf drwg, a thwyllodrus yw y Diafol," meddai yr hen Gatrin Prisiat, Glan-y-gors, er's talm. Byddai y Diafol yn edliw i'r hen wraig hono, ei bod hi yn rhy dduwiol weithiau dro arall, edliwiai iddi nad oedd hi ddim yn ddigon duwiol i'w chadw. Ond y modd yr atebai yr hen wraig ef fyddai trwy ddannod iddo mai hen gnaf drwg a thywyllodrus ydoedd ef. Ac yna hi gai lonydd ganddo. -0. M. P.
-----------LLANWRTYD A'R ARDDANGOSFA…
LLANWRTYD A'R ARDDANGOSFA FLODAU. FONEDDIGION,—Mae gohebydd o Lwyncus yn yr Herald Cymraeg am yr wythnos ddiweddaf yn gwneud ymosodiad enllibus a brwnt ar y lie hwn ac ar bentref y Bulah (a sillebir ganddo ef yn Beaulah !). Eu pechod ydoedd rhyfygu cael Flower Show heb ofyn cenad i Showman y Garth and Co., ac fe wyr pawb yma pwy ydyw y rhai hyn. Fe allai na wyr pawb ag sydd wedi clywed enw y Garth mai He bychan, gwledig, hollol ddinod ydyw, yn cael ei wneud i fyny o un ty tafarn a dan neu dri o dai gweithwyr. Yr ydoedd rhai o honom ni yma yn bresennol pan gychwyn- wyd y Flower Show hon bum' mlynedd yn ol, ac un o'r rheolau gwreiddiol ydoedd t, y fod yr arddangosfa i gael ei chadw yn gylchynol yn y Garth, Bulah, Llangam- arch,a Llanwrtyd. Ond beth dal siarad ? -ar ol cael bias ar werthu diod fain am bedair ceiniog y peint, dwfr dros ddail am chwech y ddysglaid, &c., mae yn hawdd- ach siarad na 0 symud. Fe fuasai yn ddoethach peth i'r gohebydd yn yr Herald gauad ei ben na gollwng y gath o'r ewd. Rhaid i ni bellach hela y gath trwy hanes rhyfedd yr Irvon Coal Company, Tne Irvon Ploughing Match, Yr Eisteddfod, The Concerts, &c. Mae y gohebydd wedi agor y drws, ac wrth wneud hyny wedi ein gosod o flaen Cymru fel cym- deithas o feddwon ac ar ol yr oes am gan'.mlynedd." Gan na welais yr Herald hyd y boreu hwn, am nad' oes neb trwy wybodaeth i mi yn ei dderbyn, nid oes genyf amser i ychwanegu yn breservnol rhagor na dywedyd mai nid peth i wasan- aethu teulu ydyw Flower Show, Ploughing Match, &c.-Yr eiddocb, Llanwrtyd. MATHEW.
-,EHEDIADAU YR ERYR UWCH DYFFRYN…
,EHEDIADAU YR ERYR UWCH DYFFRYN CONWY. Addawais ryw bymthegnos yn ol y buaswn yn rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr LlaiFf y Wlad o'r hyn a welais tra uwch ben y dyffryn hardd hwn; ond collais olwg ar fy hen gyfaill Rhuddlanydd, y gwalch bach; gwelodd yn dda fyned i Manceinion yn lie dyfod yn ol ei addeWId i'r Arwest far lan Llyn Geirionydd, ac ni welais ef nes yr oedd yn rhy hwyr i anfon i'r Llais yr wythnos hono yr hyn a welais yn Trefriw a'r gymydogaeth. Gobeithio fod hynyna o esgusawd yn ddigon i'ch (larlleriwyr" lluosog. Y peth cyntaf a dynodd fy sylw oedd gweled prif ohebydd y Blagiard bach yn ei ddillad swyddogol. Dyn tawel, braf, yn edrych yn foddlon iawu ydoedd ef, ond wrth edrych arno, yr oedd geiriau yr hen fardd Seisnig yn dy- fod i fy meddwl, pan y dywedodd— Roses grow on thorns, And houey wears a sting." Gwelais hefyd y Ilu beirdd ar lan yr hen lyn, ond yr oeddynt yn rhy luosog i mi allu eu henwi, na cheisio dechreu. Gwel- ais un bachgen gobeithiol iawn, sef Dewi Mai, ac y mae ef yn un a ddaw rhyw ddiwrnod yn ddyn a fedr sefyll yn ddgryn ar fryn Parnassus, os ceidw ymlaen. Yr oedd y lie hardd hwn yn bur ilawn o bobl ddieithr, yn yfed gwynt iachusol gwlad y bryniau a'r coedwigoedd, a dyfroedd y ffynnonau iachusol. Gwelais uu hen fardd a honai fod yn perthyn i un o feirdd penaf y Dywysogaeth, yr hwn oedd yn dangos yr Eglwys a'r gwahanol geryg beddau i un o weinidogion y Bedyddwyr. Yr oedd y diweddaf yn ysgrifenu i lawr y gwahanol englynion, ac nis gwn pa un a welodd y gwr parchedig y geiriau hyn ai peidio: Gorweddytna weddillion fy nliad, Pridd ar ei ben a phridd ar ei draed, Pridd ar ei draws a phridd ,ar ei byd, Ao yma y gorwedd hyd ddiwedd y byd. Peth rhyfedd oedd y noson arall i mi weled rhai duwiolion yn cyflogi ceir a cheffylau. Wedi cychwyn o honynt ar eu taith, symudais innau a chanlynais hwynt. Meddyliais fod yma gymanfa neu sassiwn fawr, neu fod Mr Spurgeon neu rbywun mawr wedi dyfod yno ond er fy siomiant, erbyn cyrhaedd Llanrwst, nid oedd yno ond circus, a hono wedi eu llenwi hyd at yr ymylon gyda chrefydd- wyr glan a golygus, ac adnabyddwn rai o honynt yn dda. Byddai gair bychan oddiwrth Robin Sponc o ddirfawr les i'r bobl yma yn ei ddull doniol ei hun. Gefais etto noson gyda Dewi Crwst, ac yr oedd yr hen gyfaill yn ei hwyliau goreti, yn llawn ffraethineb. Dyma Geidwadwr o'r iawn ryw, ac y mae ef yn effro iawn gyda dyfod a claims i fewn i'r rhestr etholiadol. Mae y Blagiard a'i gysgod newyddanedig ac eiddil, yn dyweud tippyn gormod am- bell dro am eu hennillion yn yr ethol- restr, er ceisio cyffroi y Ceidwadwyr ond gall y ddau gysgu yn dawel dan ddydd y prawf. Ymwelais hefyd a Bettws-y-coed, lie y gwelais y bardd Rhychwyn. Cefais ddau air neu dri gydag ef. Yr oedd yn fachgen doniol a llawen ond gorfu arnaf fyned gyda fy hen gyfaill Mr John Pierce, o'r Valiey, Mon, tua Dolwyddelen. Yno cefais olygfa y byddai yn werth i drigol- ion pob gwlad ddyfod i'w gweled-y myn- yddau yn codi ar bob llaw-creigiau yn crogi uwch ein penau ar un llaw, a'r coed- wigoedd yn ymdoni ar y llaw arall, tra yr ymddolenai yr afon yn freuddwydiol hyd y dyffryn. Llangefni. ERYR PUMLUMON.
_.--_..____--AT DDIRWESTWYR…
AT DDIRWESTWYR BLAENAU FFESTINIOG. ANWYL FRODYR,—Goddefwch i mi, fel un o honoch, geisio eich cyffroi i weithgarwch adnewyddol ar gyfer yr es- tyniad amser a ganiatteir yn mesur y trwyddedau. Y mae yn ddrwg genyf ddyweud nafyrld estyniad o awr yn amser y tafarnau yn gwneud un gwahaniaeth yn nhrefn bresennol ein tai ni yn yr ardal, canys y mae ein tai fel rheol yn agored hyd oriau hwyrol iawn. Y mae y tafarnau yn cael eu cau, fel nad oes yn y tai hyny ond y teuluoedd perthynol iddynt; ond am ein tai ni y maent yn agored am oriau ar eu hoi yn llety dieithriaid ac yn dderbynfa i wrthodedigion y dafarn pa wedd bynag a fydd arnynt. Y mae yn ddrwg genym orfod cyfaddef am danom, rai o honom fu yn gwneud ymdrech er cael cau y tafarnau ar awr gynarol, ein bod yn hollol ddifater am reolaeth ein tai ein hunain. Pe ceid trefniant yn Ffestiu- iog i bob teulu fod yn eu tai eu hunain ar awr resymol o'r nos, dyweder deg o'r gloch, buan y gwelid y diwygiad a geisir, a'r hwn yr appelir yn ofer am dano at yr awdurdodau gwladol. Er caelhyn oddi- amgylch cynnygir y cynllun canlynol- Fod cymdeithas i gael ei ffurfio mewn cy- sylltiad S, phob cynnulleidfa grefyddol, ac mewn cysylltiad A phob cangen Demi yn y plwyf, i gael eu galw Cymdeithas er Cydreoleiddiad Teuluol" yn y plwyf, a bod i benau teuluol crefyddol a dirwestol, neu demlvddol,arwyddoeuhenwau. Ceid felly brawf o ddidwylledd-a chywirdeb cri barhaus penau teuluoedd am gwtogiad oriau y dafarn, a cheid y diwygiad a geisir, a llawer mwy oblegyd yn ychwa- negol at gadw o'r dafarn, ceid hefyd y fantais o drigiad y teulu wrthynt eu hun- ain am lawer o amser a werir yn awr yn nhai cymmydogion, yr hyn, mewn cannoedd o engreifftiau, fyddai yn lies dirfawr. BRON GORDDINAN.
ANGLADD FFUGIOL.
ANGLADD FFUGIOL. FONEDDIGION,—Ymddangosodd yn y Newtown and iVelshpool Express, am yr 21ain cynfisol, ychydig sylwadau eiddil a bustlaidd, o dan y penawd A novel burial at Builth," Mehefin 27ain, gan un a gyfenwodd ei hunan, An Eye Witness," yn ceisio difrio a sarhau ficer parchus y plwyf oherwydd iddo wrthod darllen y gwasanaeth claddu uwchben bedd plentyn difedydd Mr T. Francis, draper, o'r lie; ac mewn canlyniad i hyny i'r Parch. J. G. Phillips, gweinidog y Bedyddwyr, ddarllen, gweddio, a dyweud ychydig ar yr achos o'r tu allan i wal y fynwent. Synclod aruthrol, onide ? A dios fod y weithred hono o eiddo y gwein- idog Ymneillduol yn un wyrthiol a chan- moladwy yn ngolwg yr Eye Witness." Rhyfedd fel y darfu i'r ansawd bychan ac anwybodus, (canys mi a'i hadwaen yn dda), gynyg diraddio ac anmharchu y ficer anrhydeddus, a hyny am gyflawni ei ddyledswydd. Yn gymmaint nad ydyw erthyglau yr Eglwys Lan Gatholig yn caniattau darllen y gwasanaeth claddu uwchben y dienwaededig, sef y difedydd, fe ddarfu i'r clerigwr parchus ymddwyn yn synwyrol a gwneud yr hyn ddylasai, yn hytrach na thori rheolau yr Eglwys a gosod ei hun yn agored i oddef y canlyn- iadau o hyny. Y mae dwy irawddeg led ryfedd yn nodion sarhaol An Eye Wit- ness," sef yn iaf, I should consider my child, my common sense, and the Bible Insulted," &c., ac yn 2il ebai, "For my own part, I wonder that any should ask for the burial service to be read over their children's graves, knowing that it is the same as is read over thieves, drunkards,n &c. Ni fydd i mi ychwanegu yn bresennol, amgen na dyweud fod sylwad- au egwan ac ammwys y sylwedydd yn ddangoseg amlwg ol anwybodaeth o'r Eglwys a'i deddfau, yn nghyda'i gulni atti, &c.—Ydwyf, foneddigion, yr eiddoch yn ddiffuant, Mylffordd. Siox GdMEH.
[No title]
Hysbysir fod Due Westminster a Mr Gladstone ar fedr ymweled dros ychydig wythnosau a Phenmaenmawr.