Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y DEHEUDIR*

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DEHEUDIR* (ODMWRTH EIN GOHEBYDjDi) Un o'r eglwysi mwyaf hynafol yn Ngwent, cafodd ei hadeiladu tua'r cyfnod Normanaidd. Gwelodd yr hen eglwys friglwyd lawer tro ar fyd, ond y mae yn sefyllyr un heddyw; ond bod ol dwylaw haiarnaidd amser arni. Yn amser Crom- well Sant, pan oedd annbrefn mewn llan a llys, trowyd yr offeiriad allan i gardotta hen newynu, yr un a fynai. Cymmerodd un Watcin Jones, o Fynyddislwyn, ffana- tic anwybodus, feddiant o'r pwlpud; cariodd yrhenfedyddfaenallan, acheisiodd ei tbori. Wedi iddo fethu, defnyddiodd hi i ddyfrhau ceffylau. Y mae i'w gweled yma heddyw. Daliodd esgobion Llan- daff y fywioliaeth honyn eu dwylaw am oesau, hyd amser yr Esgob Coplestone. Ni ddarfu iddynt dalu dim llawer o sylw i sefylifa yr eglwys; canys gorchuddiwyd y bwaau ardderchog 4 morter gwyngalch. Y mae y periglor, y Parch. William Wil- liams, yu awr yn casglu arian i'w hadferu. Cyfranodd David Morgan, Ysw., Bedwas, Ymneillduwr o'r hen ysgol, gan punt at ei hadferu. Gyda llaw, hoffwn yn fawr gael gwybod beth yw tarddiad yr enw; yr wyf wedi methu yn lan loyw a chael fy moddloni. Yr wyf yn cofio i'r Parch. J. Harries Jones (Quellyn), awgrymu un- waith mewn llythyr mae Bedw Faes oedd yr enw. Pa le mae yr hen gyfaill Cyn- ddelw, a all ef roddi esboniad i mi ? Adgot uwch angof.Tua chwe' mill- dir o Gaerdydd saif pentref bychan gwas- garedig, ac iachus Cadoxton, Tregattwg, ymdrochle tlws. Y mae y lie yn llawn o ddieithriaid eleni. Yn mhob gwlad y megir glew. Ganwyd o leiaf un enwog yma, dim llai na'r Hybarch Archddiacon Jones, o Fangor, "Cattwgan" manyl- graff y Cymro, ac Essyllydd." Y mae y ty lie gwelodd oleuni haul gyntaf yn sefyll heddyw; ond y mae y pren afalau, a'r pren ceiros a blanodd efe yn lluniaidd a'i law wedi cael eu tori i lawr ers blyn- yddoedd. Ysgrifenodd eich gohebydd, ar gais Cattwgan, hanes y lie a'r tjT, a'r hen bobl. Y mae y llythyr a ysgrifenodd attaf ar ei dderbyniad, yn un hynod o ddyddor- ol, ac yr wyf yn ei ddarllen yn ami; ac yn gorfod chwareu y plentyn weithiau wrth feddwl fod y llawa'i hysgrifenodd yn mhriddellau oer y glyn. Os cyhoeddir gohebiaethau yr enwog Cattwgan, un- rhyw bryd, mi garwn weled y llytbyrau hyn yn gyhoeddedig. Yr oeddwn yn meddwl fod yr undebau yma yn myned i barhau am byth, ond y mae eu cyfansoddiadau yn llaccau ac yn ymollwng. Dywedir fod y gwahanol en- wadau Ymneillduedig yn Aberdar yn defnyddio eu dylanwadau i'w dadym- chwelyd. Daeth Undeb y Llafurwyr Amaethyddol i ben yn annisgwyliadwy. Gorfu i'r Undeb addef iddynt gael eu curo; ac nad oeddynt yn alluog i gario y strike ymlaen. Byddant yn rhwym o fudo, ym- fudo i America, neu fyned i weithio a chyttuno a'u meistri goreu gallant. Y mae cywilydd ar lawer i fyned yn ol; ond y mae y rhan fwyaf wedi dycbwelyd at-ou A gwaith. Y mae yn gas ganddynt glywed am eu taith fegeraidd. Dywedodd un fod cig eidior. a chwrw o'r goreu, ond nid peth pleserus iawn oedd dal y bocs i dderbyn ceiniogau, a phobl yn" dannod iddynt paham nad ewch chwi i weithio, chwi segurwyr Yn awr y mae yr Undeb yn fankrupt, a'r gweithwyr wedi myned yn ol yn ddoethach nag oeddynt, feddvliwn. Nid yw America yn He da iddynt ymfudo yn awr. Y mae cannoedd o ymfudwyr yn awr yn America yn gorfod byw ar glystiau sychion. Nid oes dim a rydd gymmaint o fodd- lonrwydd i'r cyhoedd mewn newyddiadur a hanes treial torri ammodpriodas. Cym- merodd un o'r treialon hyn le yn Mrawd- lys Caerdydd, o flaen y Barnwr Quaim Miss Theophilus, merch o gymmeriad dichlynaidd a pharchus o Lanymddyfri, oedd yr erlynes, a'r Parch. John David Havard, curad Greenfield, Sir Fflint, oedd y diffynydd. Cwympodd mewn cariad a hi pan oedd ef yn ieuangc a hithau yn wyth ar hugain oed. Dywedir fod absenoldeb yn peru i'r galon garu yn gynnesach. Felly y bu hi gyda Mr Havard; cynnyddodd ei serch fel yr oedd ef yn tyfu i fyny; ond yn ddisym- towth cafodd allan nad oedd y ferch oedd ef wedi ei harwain i gredu y buasai iddo ef wneud gwraig ohoni ddim yn addas i lanw He gwraig offeiriad; a rhoddodd ei serch ar un Miss Jones, boneddigesarian- og. Dyfarnwyd Mr Havard i dalu 250d. am dori ei ammod. Nid oes gan un dyn, Hen neu lleyg, ddim busnes twyllo Perched. Gofynodd y Milwriad George Clarke o I)dowlais, un o dywysogion yr haiarn, thy", gymmwynas boliticaidd oddiar law gwr boneddig o Dori yn Abertawe. Dy- wedodd yr olaf mai Tori oedd. Dywedodd 1rr. Clarke nad oedd ef o'r blaen yn gwybod fod un Tori i'w gael yno. Dy- wedodd Mr Henry Richard yr un stori yn y Parliament, na cheid un Tori yn ^eheudir Cymru ar ol cael y ballot; ond ^toaetjn y ddau gamsyniad ofnadwy. M MVYATFRIF B ^HTJWYIR Y YH Geidwadwyr sflog; ac yr oeddynt yn Geidwadwyr o'r blaen; ond nid oed gan- ddynt un amddinynfa rhag y scriw sant- aidd. Yr oedd Abertawe yn cael ei hys- tyried yn hollol Radicalaidd; ond gwnaeth- pwyd prawf o'r diwedd. Daeth y bonedd- wr enwog Mr. Charles Bath i'r maes i ymladd dros y Ceidwadwyr, ac ymladdodd frwydr dda, er iddo golli, a dadblygodd alluoedd y Ceidwadwyr. Pleidiodd tua thair mil ef ar y poll, a hyny ar y tro cyntaf. Y mae y Gymdeithas Gyfan- soddiadol wedi gwneud gwaith mawr yno. Dydd Mawrth cynnaJiodd y Gymdeithas hon ei chyfarfod blynyddol yn y Castle Hotel, Mr. Charles Bath yn y gadair. Darllenwyd yr adroddiad, ac y mae yn dda genyf ddywedyd fod y Gymdeithas mewn sefyllfa foddhaol: ac y mae y pwyligor yn penderfynu ymladd brwydr arall etto. Ac mi ddaliaf fi goroil y ceir gweled Mr. Bath, os byw fydd, yn A.S. dros Abertawe. Mr. Bath yw dyn y bobl. Y mae llythyrau Dafydd Eppynt yn ddoniol ofnadwy fel arferol. Yr wyf wedi darllen ei gynnyrchion er's blynyddoedd, yn y gwahanol gylchgronau. Y mae I' eisieu mwy o ffyddioniaid i'r wasg Geid- wadol yn y Deheudir yma fel eich Goheb- ydd. Dos ymlaen yr hen law, ac os caf hamdden mi ddeuaf un o'r dyddiau nesaf yma, i weled Eppynt i siglo pawb ei baw- en. Anfarwolodd Brutus Fynydd Eppynt, os oes modd anfarwoli mynydd. Ie, yr hen Frutus athrylithgar, doniol, a difyr. He ivas a felloiv of infinite ivit, he (would set a table in a roar." Y mae ef yn huno yn dawel yn mynwent Llywel ac Nis gall nag awel ber ybore Najjwaedd ceiiiog uchel gâv," ei ddihuno mwy nis gall un gelyn ei niweidio bellach. Yr wyf yn bwriadu ail gyhoeddi yn eich colofnau rai darnau o waith Brutus er budd y to sydd yn codi. Dinoethodd Brutus dwyll a hocced grefydd- ol a gwleidyddol yr oes i berffeithrwydd. Cyn gorphen y mae yn rhaid i ni adrodd un stori am dano. Cyn i'r haul godi yn Llanymddyfri, yr oedd gwr o Gonsarwr, darllenwr tesni, o'r enw Harries yn byw yn Nghwrt y Cadno ger Llanymddyfri. Yr oedd pawb yn cyrchu atto o bell ac agos, os collai ffermwr un o'i anifeiliaid ffwrdd ag ef i Gwrt y Cadno. Yr oedd Dr. Harries yn cario masnach lewyrchus yn mlaen ar gefn hygoeledd y werin. Ymosododd Brutus ar dwyll y Cadno hwn yn ddiseremoni. Un diwrnod marchnad yn Llanymddyfri, yr oedd Harries yn y Clarence, yn chwythu allan ei fygythion yn erbyn yr Haul a Brutus. Bygythiai droi yr olaf yn anghenfil, a'r amaethwyr I yn syllu arno mewn dychryn. Gofynodd dyn dyeithr oedd yn y ty i'r Doctor a oedd I yn adnabod Brutus ? Attebodd yn nac- caol. Wel ebai y gwr dyeithr, yr ydych chwi yn prolfesu gwybod pob peth, chwi ddylech adnabod Brutus, hefyd. Ar ol i -Harries, arllwys allan ei holl fygythion a'i felldithion ar Brutus, cododd y gwr dyeithr ar ei draed, a dywedodd. H Fi yw Brutus; gwnewch eich gwaethaf yn awr." Aeth Harries yn fud, a cherddodd allan fel ci a phadell ffrio wrth ei gynffon. Lladdodd Brutus fasnach swyngyfareddol Cwrt y Cadno. Agorir brawdlys Trefynwy y foru. Y prif dreial, treial ag sydd yn tynu sylw y wlad yn gyffredinol yw cyflafan Llan- eurwg. Dywedir fod gan yr heddgeidwaid lawer o dystiolaethau newyddion, a bod y got oedd Gibbs yn wisgo ar noson y llofruddiaeth wedi cael ei analizio a bod gwaed dynol ar-ni.-Cyhoeddodd yr Even- ing Telegram, papyr Radicalaidd a I gyhoeddir yn Nghasnewydd, luaws o erthyglau sensational am y carcharor, wrth gwrs, er cael gwerthu y papyr ond nid oedd dim gwirionedd yn yr hanesion a gyhoeddwyd; deorwyd hwynt yn mhenglog ysgrifenwyr y papyr dan sylw, fel y credir i Mr. Greenwood commissioner y Tele- graph wneud efo ymladdfa y corach a'r bulldog yn Hanley. Yr wyf yn bwriadu myned i Dref Fynwy. Cewch adroddiad cyflawn o'r treial pwysig hwn yn y Llais nesaf. CRAIG Y FOELALLT.

-----------------LLITH DAFYDD…