Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDD GWEN 1m, AWST 28, 1874.

CRYNNODEB WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CRYNNODEB WYTHNOSOL. Gwnaed dinystr dychrynllyd drwy dan ynystod yr ychydig ddyddiau diweddaf. Eoreu Sul torodd tan eehryslon allan 5Xi Wn liaw-weithfa bertbynol i Mr S. Morley, .A.S., yn Nottingham, a chyn Uwyddo i attal en rhwysg yr oedd gwerth tua chan mil o bnniiau o nvvyddau wedi myned yn ebyrth i'r mal11an. Yn ffc) d us i'r perchenog yr oedd yr eiddo wedi ei yswirio mewn arnrywioi swyddteydd. Nos Sadwrn digwj'ddodd daniwain Kyffelyb inelinta Ijapyr herthynol i Meistrt R'chardson, ya SpringweH, Cyfi-ifir fod y golled rhwng deng mil ar hugain a dengain mil o bunnau. Ymddengys nad ydyw chwarelwyr Bethesda ac Arglwydd" Penrhyn wedi llwydclo i ymgymodi a'u gilydd etto, serch fodymgais at hyny wedi ei gwneud ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Cyfarfu Mr Pennant Lloyd bwyllgor y chwarel- wyr, ac eglurodd iddynt gynnygion ei arglwyddiaeth gyda golwg ar y dyfodol, ond hyd yn hyn nid ydyw y eyfryw gyn- nygion wedi cael derbyniad. Wrth egluro syniadau ei arglwyddlaetb, cymmerodd Mr Lloyd fantais i weinyddu cerydd Uym ac haeddianol i ymyrwyr y wasg, pa rai a fynent wneud y rhwyg yn fwy drwy y camliwiadau mwyaf dybryd a'r haeriadau mwyaf disail. Gresynwn fod y wasg Gym- reig wedi diraddio cymmaint ag i gael ei gwneud yn offeryn i elyniaeth bersonol wenwyno teimladau mewn cyfwng mor bwysig. Yr ydym ni yn ystyiied yn ddoeth ymochel rhag^rhuthro yn fyrbwyll i'r adwy, mewn hyder y bydd i'r ddwy blaid ymwueud â'u hachosion personol heb gael chwerwi eu hysbryd gan gabledd newyddiadurol. Dathlwyd dyfodiad larll Grosvenor i'w oed gyda rhialtwch mawr yn Nghaer yn ystod yr wythnos ddiweddaf, pryd y cyf- iwynwyd annerchiadau Ilongyfarchiadol i Duo Westminster ac lai-lf Grosvenor. Cedwid gwyl gyffredin01 drwy yr holl ddinas, a dygwyd y gweithrediadau dy- ddorol i derfyniad ddydd Sadwrn. Yr amgylchiad hwn, fel y gwyr lluaws o'n darllenwyr, a analluogodd y Dac i lyw- yddu Eisteddfod Freiniol Bangor ar ddydd ei hagoriad. N rhyfd 1 > 1 y Maeslywydd Bazaine yn cael y derbyniad mwyaf brwdfrydig vn mhob lie yr ymddangosa, oblegid os coleddwyd amheuaeth am ei wroldeb yn Metz, nid oes dadl na chydnebydd y sawl a ddarllencdd banes ei ddiangfa ddi- weddar ei fod yn feddianol ar ddigonedd o ddewrder. Ysgrifenodd at y Gweinidog Cartrefol 'i'w sicrhau na chynorthwywyd ef i ddiangc gan neb oddigerth ei briod a'i nai, a chyfiawnha ei ymddygiad ar y sail na chondemniwyd ef yn gyfreithlon. Am na chydnabyddir geirwiredd yr hanes yn ol adroddiad Madame Bazaine, tybiodd yr awdurdodau gwladolyn ddoeth wahardd i ii(wyddiadaron gynnwys darlunian, n'v Anfynych y cofnodwyd hanes llofrudd- iaeth mwy erchyll na'r un a ddigwyddodd ychydig amser yn ol yn nghymmydogaeth Llaneurwg, a boreu dydd Llun gweinydd- wyd y gyfraith yn ei boll lymder yn nien- yddiad Gibbs, yr hwn a euogfarnwyd o'r trosedd ysgeler. Parhaodd y dyn truenus i ardystio ei ddiniweidrwydd hyd yr eiliad olaf, ac aeth i dragwyddoldeb heb gyf- addef ei euogrwydd. E dry id gohebydd un o'r newydàiaduron Seisnig foH sibrwd yn cael ei daenu am un Rogers, yr hwn a gafwyd ychydig ddyddiau yn ol wedi cyf- lawni hunanladdiad ger llanerch y llof- ruddiaeth. Ar yr unfed-ar-ddeg cyfisol cychwynodd boneddwr o'r enw Mr Wilton, Llundain, ar ei daith, gyda'r bwriad o esgyn y Wyddfa, ac hyd ddydd LInn methwyd er pob ymchwil i ddylod o hyd. iddo, Modd bynag, yn hwyr ddydd Llun darganfydd- wyd ei gorph ar ochr Capel Curig' i'r Wyddfa. Bernir oddiwrth y llanerch ar ba ufl. y darganfyddwyd y corph ddarfod i'r boneddwr anffodus esgyn y mynydd, a'i fod ar fedr dychwelyd drwy ffordd Capel Curig i Bettws-y-coed pan ddi- gwyddodd y ddamwain ofidus. Crewyd cyffro anarferol yn Manchester ddydd Mawrth drwy hysbysrwydd am lof- ruddiaeth a hunanladdiad arswydus a gyflawnwyd yn y Prince's Club. Ym- ddengys fod dau foneddwr o'r enwau Mi- Herbert Barge, a Mr M'Lean yn aelodau o'r clwb, a thua phump o'r gloch arwein- iwyd Mr Barge i'r ystafell iie yr ydoedd ei gydaelod yn ysgrifenu. Nisgwyddirpa beth a gymmerodd Ie rhyngddynt, ond cyn pen ychydig eiliadau clybuwyd swn ergydion. Rhuthrwyd i mewn yn ebrwydd, pryd y cafwyd y ddau foneddwr yn farw. Yn llaw Mr Barge cafwyd dryll, o ba un yr oedd tair ergyd wedi eu gollwng allan. Yr oedd dwy o r ergydion wedi en gollwng at Mr M Lean, a chyda 'r drydedd saeth- odd Mr Barge ei hun drwy ei ben. Bernir mai cweryl carwriaethol a arwein- iodd i'r gyfiafan eehryslon.

CYFRINION A CHWEDLONIAETH…