Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD FREINIOL BANGOR

AWDL Y GAD AIR.

I.BEIRNIADAETH AR Y CYFANSODDIADAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEIRNIADAETH AR Y CYFANSODDIADAU AR Y BEIBL. TESTYN CADAIR GWYNEDD YN EISTEDDFOD FREINIOL BANGCR, 1874. Nis gallasai Pwyllgor Eisteddfod Frein- iol Bangor ddewis testyn mwy teilwng o fyfyrdod dyfnaf dyn, a mwy cydnaws a chwaeth a theimlad meithrinwyr yr Awen Gymreig na'r Beibl sanctaidd; ac nid 0 ihyfedd genym ei fod wedi tynu allan i faes yr ynicircclifa ymgeiswyr o'r gallu- oedd uchai, a'r talentau mwyaf disglaer. A thybiem, ie, dilys genym, fod ymhlith cyiinyrchion yr ymdrechfa hon rai cyfan- soddiadau ag a fyddent yn anrhydedd i unrhyw genedl. Dengys yr holl gyfan- soddiadau arwyddion amlwg o ymchwiliad manwl, darlleniad helaeth, achydnabydd- iaeth drwyadl a'r Beibl, accymegniad i 0 gyfansoddi rhywbeth a fyddai yn deilwng o'r testyn gogoiieddus. Cynwysa y gystadleuaeth gynnyrcliion naw o 3-ingeiswyr, y rhai er mwyn cyfleus- dra a elUr en rhanu yn dri dosbarth fel y caclyn, gan ddeqhreu yn yr isaf. )1I<J:J -Sr ■> f< T. •• ,■ r.1 I III. DOSBARTH. "Dafydd," Darllenydd," ac Ap Mor- gan." > II. DDOSBARTH. r v Timotheus." 1. DOSBARTH. "Tyndal," Cristion," loan," Ed- mund Prys," a Phascal." v. HI. Dafydd.Rhaid i "Dafydd"ym- foddloni i gymmeryd ei safle yn isaf yn y gystadleuaeth hon, er fod ei awdl yn meddu llawer o deilyngdod. Y mae ei gynghaneddion yn fynych yn rymus a gafaelgar, ei iaith yn bur, ac eglur, a'r delweddiad o'i feddylddrychau yn bryd- ferth; ond y mae iddo lawer o wendidau, Teimlem fod y rhagarweiniad i mewn yn rhy faith a cliwmpasog rhanau helaeth o'i awdl yn amherthynasol a'r testyn, ? rhai llinellau lied blentynaidd ynddi. DarUenydd.Pryddest a anfonodd Darllenydd i'r gystadleuaeth. Y mae y cyfansoddiad hwn yn faith. Amlyga, lawer o grebwyll fywiog, galiu darluniadot cryf, a gwybodaeth helaeth. Dwg yr awdwr i mewn i beirianwaith ei bryddest gymmeriadau amrywiol o blith angylion da a drwg, ond gwallus iawn y gweithia allan ei gynllun, ac nid yw y syniadaua'r iaith a ddyry yn ngeneuau ei angel-lefar- wyr yn deilwng o'r nodweddiad a ddyry y Beibl iddynt. Y mae'r awdwr yn bradychu llawer o ddiffyg chwaeth yn yr ymddiddan a ddyry yn ngenau Satan a'r Pab o Ru- fain. Ond er ein bod yn cael llawer i'w gondemnio yn y bryddest hon, ceir ynddi lawer iawn i'w ganmol. Ab Morgan.Rhy fychan o Feibl fel cyfanbeth sydd yn awdl deilwng Ab Morgan;" a gormod o bethau amgylchiad- ol y testyn. Yn lie bod y Beibl yn brif bwngc yr holl gyfansoddiad, nid yw yn llenwi ond ystlysgap (episode) ynddo. Teimlir hefyd fod yr awdwr yn ymdroi gormod o gylch yr un meddylddrychau, gan ail adrodd yr un syniadau mewn am- rywiaeth geiriau. Arwynebol ydyw yr ymdriniaeth o'r testyn yn y cyffredin, ac annhosbarthus. Etto y mae i awdl Ab Morgan lawer o ragorion mewn mydrau cryfion, meddylddrychau prydferth, a chynghaneddion tlysion. 11. Timotheus—Pryddest faith, lafar- fawr, ar y mesur diodl yw'r eiddo Timo- theus. Medda gynllun eang, ac amgy- ffrediaeth gyrhaeddfawr.. Y mae y cynnadleddau a'r cydymgynghoriadau angylaidd a Satanaidd a ddesgrifir ynddi yn gwisgo llawer o naturioldeb; ac yn dangos fod yr awdwr yn meddu barn gywirbwyll, yn gystal a dychymyg ffrwythlawn. Ond y mae yntau, fel llawer o'i gydymgeiswyr wedi aros yn rhy hir uwchben rhai o byngciau athrawiaethol y Beibl. Ymestyna rhai o'i ystlysganiadau i feithder gormodol. Llac, diafael, a gwasgarog yw'r syniadaeth hefyd yn ami; ac y mae gwendid mawr yn ei weithiad allan o'r mesur diodl. Ond gwedi sylwi ar wendidau Timotheus iawn yw dy- weyd fod yn ei bryddest lawer iawn o farddoniaeth o'r fath oreu, a mwyaf ar- uchel, wedi ei gwisgo mewn iaith bur, a mydryddiaeth felus. Cyrhaedda y cyf- ansoddiad hwn safon uchel o deilyngdod. L Y mae y pump cyfansoddiad a osodir yn y dosbarth hwn yn rhestru ymysg goreuon cynnyrch yr Awen Gymreig. Nid yw y gwendidau ag y mae'n rhaid i ni eu nodi ond brychau man yn llychwinio mil o ragorion. Rhaid fu wrth feirniadaeth lem i ddethol yr aur mwyaf gwerthfawr lie y ceir cymmaint o hono. Tyndal."—Y mae awdl Tyndal" ar yr adranau hyny o'r testyn ag y mae yr awdwr wedi eu cymmeryd i fyny yn un orchestol dros ben. Y mae yn llawn o'r meddylddrychau mwyaf gogoneddus, y cynghaneddion mwyaf grymus, a'r fydr- yddiaeth fwyaf esmwyth, seingar, a melus. Ond nid yw yr awdwr wedi trin ei destyn mor gyflawn a'i gydymgeiswyr goreu. Cymmer yr awdwr arno ormod o swydd ac awdurdod yr athraw. Math ó bregeth uchel-farddonol ydyw rhanau helaeth o'r awdl, ynyrhon yr ymd rechir ein haddysgu c yn mhyngciau sylfaenol crefydd, a'n dwyn i brohad gwirioneddol o'i dylanwad a'i chysuron. Cristion."—Pryddest lafurfawr, ddys- glaer, a theiiwng iawn yw'r eiddo Cristion. Trinia yr awdwr ei destyn mewn dull eang, hysbyddol, a threfnus. Arddengys .s allu creadigol o'r radd uchaf, ac adnabyad- iaeth helaeth a gwyddc iiiaeth, athroniaeth foesol gwahanol oesoedd a, chenhedloedd daear, a duwinyddiaech a beirniadaeth Feiblaidd. (Jydmerir a gwrthgyferbynir damcanion a dysgeidiaeth ffaeledig dyn a gwirionedd arjffaeledig y Beibl mewn dull grymus yn y bryddest. Y mae y bardd hwn hefyd yn dra lioif o gytfelyDiaethau ar dduil yr lien feirdd cenhedlig, a gweithia hvvynt allan yn dra manwl; ond nid ydynt bob amser yn seiliedig ar debygolrwydd a chydweddiad or polid. 1'-i 1 j !# r. V