Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

MARWNAD I'R DIWEDDAR COLONES.…

Family Notices

[No title]

Advertising

NEWYDDION CYMREIG.I

-----------LLITH 0 LANWRTYD.

I.BEIRNIADAETH AR Y CYFANSODDIADAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ond pan elom i ymdrin ag arddull a chyfansoddiad celfyddydol y bryddest y mae yn dra diffygiol. Llac, gwasgarog, a rhyddieithol yw yr arddull. Gallasai yti, awdwr grynhoi ei holl faterion i gylch llawer iawn llai er mawr welliant i'w gyfansoddiad. Ceir ynddo lawer iawn o odlau cwbl wallus, a chorfanau anystwyth, yr hyn a fawr anurdda waith o deilyngdod mor uchel. loa)t.Y mae pryddest "loan" etto yn wir odidog, yn llawn o farddon- laeth fyw a thanllyd, a'i mydryddiaeth yn llithrig a melus. Cawn ynddi yr athronydd dwfn a'r duweinydd dysgedig yn cydgyfarfod, ond rhy ychydig o'r hanesydd. Nid oes modd traethu yn well ar ragoriaethau, effeithiau, a dylanwadau y Gair Dwyfol nag a wneir yma. Dyma hoff byngciau ymdriniaeth y bardd, ac erys yn ormodol arnynt, gan adael allan lawer o bethau ereill. Y mae'r copi o'r bryddest a anfonodd yr awdwr i'r gystadl- euaeth yn lied afler, ac y mae ynddo amryw wallau. "Edmund Pi-ys.Dyma bryddest o'r teilyngdod uchaf, grymus mewn iaith, a Hawn o farddoniaeth o'r fath oreu. Gafaela yr awdwr yn ei destyn gyda Haw feistrolgar, a dilyna ef yn drwyadl o'r dechreu i'r diwedd. Y mae arddull y bardd yn goeth, syml, eglur, a thlws, a'i holl linellau wedi eu mydru yn gelfydd, seingar, a llithrig, a'r cyfan wedi eu caboli yn y dull mwyaf perffeithiedig. Ni bu darllen y bryddest hon bedair gwaith drosodd ond pleser ini; ac ni welsom waith mwy gorphenol yn yr iaith. Tra yr ydym yn llongyfarch yr awdwr ar gyflawniad gwaith mor deilwng, yr ydym yn gresynu drosom ein hunain nad oes genyrri wobr i'w chyflwyno iddo. Y mae llai o frychau yn y bryddest hon nag yn yr un o'r lleill. Pascal. "-Anfonodd yr awdwr hwn ini awdl wir deilwng o'r arwyddenw a l ddewisodd. Cymmer olwg eang ar ei j; destyn, a sudda i mewn yn ddyfnach iddo, | gan ei ddilyn mewn dull mwy hysbyddol, nag un o'i gydymdrechwyr. Er fod yr awdl odidog hon yn cynwys mil a haner o linellau y mae mor llawn o amrywiaeth denol, ineddylddrychati tlysion, coethder ymadrodd boddhaol, a barddoniaeth aruchel, fel nad, yw ei dyddordeb byth yn pallu. Y mae yr holl gyfansoddiad wedi ei drefnu yn dda a'i addurno a gemwaith mwyaf destlus yr awen Gymreig. Prif 0 nodweddion Pascal y rhai a roddant iddo y flaenoriaeth ydyw ei arddull gryno yn gosod allan lawer mewn ychydig, cyfuniad z;1 \helaeth yn ei awdl ef o ragorion penaf ei fv<:tympe^sw^r' 'defnyddiad dedwydd o wpysgrifeiriau barddonol tarawiadol, ac fpm'der tryloew ei iaith. Ond nid yw fpj^<%l heb rai cynghaneddion gweiniaid, pet^Cymmysgedd, ac ychydig linellau ag y b'uasai yn dda eu chvyynu. Ond y mae y frychau hyn mor ddibwys wrth eu cyfer^nu a'r rhagorion fel nad ydym yn petfusfc rhoddi iddo y flaenoriaeth a deilynga, a'r anrhydedd o eistedd yn Nghadair Gwynedd yn Eisteddfod Frein- iol Bangor. Yn nawdd Duw a'r dangnef. DEWI WYN 0 ESSYLLT. ELIS WIN 0 WYRFAI.