Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMREIG.

COHFANYDD AT ROBIN SPONC.

HYRDDIO DYN ALLAN O'R GERBYDRES.

LLOFRUDDIAETH YN ST. HELENS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFRUDDIAETH YN ST. HELENS. Yn St. Helens ddydd Llivi cyhuddwyd tri glowr, o'r enwau Henry. Twist, James Leyland a Peter Webb, 0 lofruddio hen wr, o'r enw Peter Leicester, y nos Sadwrn blaenoroi. Ynddengys fod y carcharorion wedi prynu potelaid o wirod pan ydoedd y tafarndai yn cau nos Sadwrn, gyda'r invriad o'i yfed yn nhy y trangcedig. Pan gyrhae-ddasant y drws, yr oedd y teulu yn myned i'w gwelyau, a gwrthodwyd i'r carcharorion ddyfod i mewn. Gan eu bod yn parhau yn eu taerineb i ddyfod i mewn, aeth yr hen wr allan attynt i geisio eu I heddychu. Wedi peth ymddyddan rhodd- odd Twist ddyrnod i'r trangcedig nes ei fwrw i'r llawr. Yna rhedodd y tri carch- aror ymaith, ond dilynwyd Twist gan Mrs Leicester, hyd onis bygythiodd wneud yr nn peth a hithau. Yna dychwelodd, pan gafodd ei phriod yn gorwedd ar lawr yn 3wbl farw. Llwyddodd yr heddgeidwaid i gymmeryd y carcharorion i'r ddalfa yn fuan wedi hyny. Pan 0 flaen yr ynadon, cyhuddai Twist y carcharor Webb 0 roddi y dyrnod. Gohiriwyd y prawf hyd ar ol y trengholiad ar y corph.

[No title]