Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

.Y DEHEUDIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DEHEUDIR. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD). Y mae Llaneurwg baradwysaidd-- Sweet Auburn, loveliest village of the plaiD) Where peace and plenty cheer the labouring swain," yn dyfod yn hynod am ei throseddau. Dydd Mercher aeth amaethwr o'r enw David Richards yn byw yn y Pwllcoch, allan o'i dy a phan awd i chwilio am dano cafwyd ef yn nghrog mewn coed gerllaw. Yr oedd y dyn anffodus wedi bod yn di- oddef oddiwrth iselder yspryd am amser. Yr oedd ef yn ddiacon yn nghapel y Trochwyr, Casbach, am flynyddoedd; ac yr oedd yn ddyn parchus. Cyhuddwyd ef o droi ei gaseg i gae cymmydog, a gorfu iddo dalu /s. roc., am i'r gaseg fyned i'r cae. Trowyd ef allan o'i swydd fel diacon, ac effeithiodd hyn yn fawr arno, canys nid oedd dim sicrwydd am y peth. Cym- merodd rhaithchwiliad ar y corph le dydd Iau o flaen Mr Brewer, a dygodd y rheith- wyr eu dyfarniad o wallgofrwydd am- serol." Ar y pymthegfed o'r mis trywanodd un Joseph Trott, o Gaerdydd, fab i ffermwr o'r enw Phylip Morgan, yn Llaneurwg, a chyllell. Yr oedd Trott yn casglu mush- rooms ar y fferm, a gorchymynodd Morgan iddo fyned allan o'r cae. Tyn- nodd Trott ei gyllell, a thrywanodd Morgan yn ei goes. Dygwyd ef o flaen ynadon Casnewydd dydd Sadwrn a thra- ddodwyd ef i sefyll ei brawf. Yr un diwrnod, cyhuddwyd Dafydd Jones, tin- man, Rhiwderin, am drywanu John Jones, yn Tydu, a. chyllell. Gohiriwyd yr achos hwn.—Yn sicr ddigon yr ydym yn myned yn waeth, waeth, er cymmaint o fanteision sydd genym. Y mae mwy o ddrygau anfad yn cael eu cyflawni yn awr nag a fu erioed. Un hwyrnos yr wythnos ddiweddaf, fel yr oedd boneddigesieuangc (Miss Rowlands, o Faesycymmre, sir Fynwy), yn myned adref o'r bazaar oedd yn cael ei chynnal er budd ty cwrdd y Bedyddwyr yn y lie uchod, gyda merch fechan, ymosododd dau ddyn, neu ddau anghenfil mewn crwyn dynion, arni a gwnaethant gynnyg i'w threisio. Ymladd- odd am fywyd a hwy, a thorwyd ei dillad yn gareiau am dani. Tynnodd ei hysgrechfeydd ac ysgrechfeydd y plentyn sylw personau oedd yn myned heibio; a diangodd y ddau filain, ond y maent yn awr mewn dalfa, ac hyderwn y bydd iddynt gael y gosp ag y maent yn deil- yngu. Y Parch. Dafydd Williams, Llanwrtyd. —Y mae un arall o bregethwyr ymneill- duedig yr hen ffasiwn wedi myned i ffordd pob cnawd, yn ei 96 mlwydd oed. Yr wyf yn cofio am dano yn eithaf da, pan oeddwn yn blentyn. Yr oedd yn arfer gwisgo botasau a chlos penglin, a het wen, yr hyn oedd yn beth hynod mewn pre- gethwr. Y mae yn ddiamheu y cewch y manylion am y dyn rhyfedd hwn gan Datydd Eppynt. Y mae Gibbs y lloirudd wedi myned i fyd arall a chelwydd ar ei wefusau. Nid yn .ami y bu cymmaint o gyffro trwy'r wlaa mewn cyssylliad a dienyddiad un dyn ag oedd foreu Llun, pan gafodd James Gibbs, llofrudd ei wraig, ei ddienyddio yn Brynbyga. Gibbs oedd ar flaentafod pawb. Treuliodd nos Sul yn afionydd iawn, cododdyn weddol foreu a bwytta- odd ei frecwast, ac yn fuan ar ol iddo ei orphen, daeth y swyddogion a'r dienydd- wr i fewn. Cymmerodd ymdrech galed le rhyngddo a'r dienyddwr. Gorfu i'r warders ei lusgo o'r cell. Ysgrechai yn arswydus, ac appeliai yn dosturiol am iddynt achub ei fywyd. Yr oedd braidd yn anmhossibl clywed y capian yn darllen y gwasanaeth: wylai Gibbs fel plentyn. Aeth Mr Crawshay Bailey, y sirydd ymlaen, ac ar eiolyr is-sirydd Dr Boulton, Milwriad Millman, a Cadben Herbert-yn bennoetb, a'r caplan yn ei wenwisg, a'r Llyfr Gweddi yn ei law. Rhwng dau warder yr oedd Gibbs yn gruddfan yn ar- swydus a'i ben i lawr. O'r tu ol yr oedd y dienyddwr yn ei wthio yn araf ymlaen. Pan gyrhaeddodd yr adyn y crogbren, neidiodd yn ei ol mewn dychryn ac ys- grechodd yn dorcalonus. Oni buasai fed y ddau warder yn ei ddal, diangasai yn ol. Yr oedd yn hollol analluog i symud pan oedd y caplan yn darllen y geiriau Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw." Gwaeddai Gibbs yn wanaidd, Arglwydd, trugarha wrthyf." Gorfu i'r warders a'r dienyddwr ei godi i fyny, gwrthwynebai hyny hyd y gallai, bob modfedd o'r ffordd. Yr oedd bron yn ei ddauddwbl. Lleftii "'dim ond hanner munyd." Deisyfai ar y dienyddwr am achub ei fywyd pan oedd yn gosod y y rhaff am ei wddf. Rhedai y dagrau i lawr ei wyneb fel pys, ysgrechai a chi iii fel plentyn, ac ymdrechai, er yn wanaidd, ddiangc o afael yzual ders, ond yn oter. Gwaeddai, Duw a wyr," Duw a Meddai y llywodraethwr wrtho, "Aoes genych chwi rywbeth i'w rl c,Iyd?" "Duw a faddeuo am hyn a'r j1 bechod- au sydd wedi myned heibio—.Duw a wyr. j Y mae yn beth dedwydd i mi (LI W yn ddl- euog." Rhoddodd y dienyddwr y rhaff am ei wddf a'r cap dros ei wyneb. Dy- wedold, Yr wyf yn hapus wrth feddwi fy mod yn ddieuog, yr wyf yn marw yn ddieuog. Ffarwel i chwi oll-Duw a'ch bendithio. O'r anwyl! o'ranwyl!" Gosod- odd y dienyddwr y straps am ei goesau, a phan oedd pob peth yn barod gwaeddodd Ffarwel i chwi oil; ffarwel, ffarwel, fy anwyl rieni. Yr oedd y warders yn ei ddal i fyny yn ei breichiau yr holl amser, ac yr oedd yn crynu fel dail yr aethnen. n Gobeithio y cwrddwn oil yn y nefoedd-ffarwel oil, yr wyf yn ddieuog 0 0 Dyna ei eriau olaf, a chyn pen ychydig funydau yr oedd yn hongian yn gelain. Bll farw yn union, heb deimlo dim poen, oblegid torodd ei wddf. d-adaw- odd y swyddogion y lie, a chodwyd y faner ddu i fyny a'r gair CYFIAWNDER arni. Cynnaliwyd rhaithchwiliad ar y corph o flaen Mr Bath, a chladdwyd ef o fewn muriau y carchar. Dywedodd un ag oedd yn wyddfodol, ac wedi sefyll lawer gwaith o'r blaen i weled dynion yn cael eu crogi, na welol ddim gyffelyb i'r olygfa yn Brynbyga. Y dienyddwr oedd William Marwood, crydd o Hardcastle, Lincoln, tua 50 oed. Y mae y dyn hwn yn hoffi ac yn ymfalchio yn ei waith. Yr oedd dynion yn edrych yn ddrwgdybus ar bob dyn oedd yn teithio tua Brynbyga. Mary Jo)tes.-Pryduawn dydd Sul ys- grifenodd Gibbs lythyr at Mary Jones, yr hon oedd ef ar bwynt ei phriodi, a deisyf- odd ar y warder ei gofio atti. Yr oedd yn ddrwg ganddo iddo ddwyn cymmaint o an- fri arni. Pan oedd ef yn y carchar ys- grifenodd lawer o lythyrau a hanes ei fywyd, cant ymddangos oil yr wythnos nesaf. Tafla yr holl fai ar ei wraig, ac iddi ei briodi o'i anfodd. Pa fodd y gallai briodi o'ianfodd? Awgrymoddmairhywun arall ddarfu ei lladd. Appeliodd chwaer Mrs Gibbs atto i addef ei euogrwydd, ond yn ofer. Cewch yr holl ohebiaeth ryfedd yma yr wythnos nesaf. CRAIG Y FOELALLT.

LLITH DAFYDD EPPYNT.

GOHEBYDD GWIBIOL Y DE.