Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFFION O'R DEHEUDIR. DAMWAIN DDIFRIFOL YN GOWER ROAD.Boreu dydd Gwener cyn y diweddaf cyfarfyddodd amryw o ddynion, yr rhai oedd yn gweithio ar reilffordd y Great Western, fel platelayers, a damwain gwir dorcalonus. Ymddengys eu bod mewn dau trolley, a bod y cyntaf o honynt wedi dyfod i lawr o Cockett Station i Gower Road, yn myned yn fwy araf, pryd y tarawodd y diweddaf o'r ddau yn y cyntaf gyda force ddychrynllyd. Yr oedd yn myned i lawr incline ar y pryd. Cafodd chwech o'r dynion eu niweidio yn berygl- us. DAMWAIN ARY BRECON AND MERTHYR RAILWAY.—Nos Sadwrn cyn y diweddaf cymmerodd damwain arall le ar linell y Brecon and Merthyr. Pan yr oedd y tren diweddaf ar y ffordd o Aberhonddu i Casnewydd, am chwarter wedi chwech o'r gloch, ac ar gyrhaedd station y Pant, aeth y peiriant, mewn canlyniad i ryw ddiffyg yn y points, neu rywbeth cyffelyb, oddiar y llinelI; ac wedi symudiad cyflym tua'r Dowlais branch, arosodd yn yr un man. Pan welodd y taniwr fod rhywbeth allan o le, rhoddodd naid oddiar y peiriant, neu ynte cafodd ei luchio oddiyno gan yr ysgytwad. Lladdwyd ef yn y fan. John Price .oedd ei enw, yn preswylio yn 26, Dolphin Street, Casnewydd. Cafodd dynes o'r enw Elizabeth J effreis oedd yn y gerbydres niweidiau pwysig. DOWLAIS.-N os Iau diweddaf taflwyd trigolion y lie hwn i gyffro, trwy ledaeniad adroddiad anamheus mewn canlyniad 1 ddarganfyddiad corph plentyn mewn llyn o ddwfr yn Pantsarn. Ymddengys fod dau ddyn ieuaingc yn ymdrochi pan y cawsant gorph bachgen o'r enw Lewis. Yr oedd oddeutu ehwe" mlwydd oed. Dywedir fod y plentyn wedi ei golli o'i gartref er y boreu dydd Sul blaenorol, a synir fod plentyn mor ieuango wedi gallu ymwthio i le mor anghysbell. MAES Y CWMMER.- W edi terfyniad eyngherdd a the party, a gynnaliwyd yn y lie hwn ar yr 20fed cynfisol, yr oedd geneth ieuangc o'r enw Mary Rowlands, boneddiges oddeutu 18 oed, yn cyfeirio ei chamrau tuag adref, yn cael ei dilyn gan ferch fach. Pan yr oeddynt wedi myned beth ffordd ar eu taith ymosodwyd ar Miss Rowlands gan ddau ddyn o'r enwau Wil- liam Gough a Thomas Lewis, y rhai a wnaethant ymgais at ei thaflu i lawr. Yr oedd yr ymrysonfa rhyngddynt yn anynol o galed. Hi a ymladdodd yn ddewr gyda'i hymosodwyr, hyd oni thorwyd ei dillad yn ddarnau; ond trwy ymgais nerthol hi a lwyddodd i sefyll ar ei thraed, pryd y diangodd y ddau ddyn, oherwydd iddynt gael ei dychryn trwy swn dynesiad camrau. Yn ffortunus, yr oedd enwau y dynion yn adnabyddus i Miss Rowlands. Cawsant ei dal nos Wener diweddaf pryd y cafodd i hachos eu ddwyn ger bron, yn llys yr heddgeidwaid. Tk EALAW.—Dydd Mawrth diweddaf, lladdwyd dyn ieuangc o'r enw Edmund Llywelyn, mab i William Glyncoral," yn nglofa Brithwenydd, trwy i mawr syrthio arfio. BLAEN LLECHAU. Dydd Llun diweddaf cynnaliwyd eisteddfod o raddfa eang, mewn pabell helaeth yn un o faesydd agored y lie iachus hwn, o dan lywyddiaeth, D. Davies, Ysw., Maesyffyn- on. Y beirniaid oeddynt Dafydd Morganwg a Mynyddog. Er fod y tywydd yn bob peth ag a allesid ei ddy- muno, nid oedd y cyrchu i'r eisteddfod hon ond bychan. C6r Mr Proser o Treiorci, oedd y buddugol ar ddadganiad yr Halelojah Chorus, y brif wobr. MERTHYR.-Yn. llys yr heddgeidwaid dydd Sadwrn cyn y diweddaf, o flaen Mr de Rutsen, a Mr T. Williams, cyhuddwyd 1 un John Parker, platelayer, o wneuthur ymosodiad miniog ar James Preston, yn Mountain Ash. Ymddangosodd Mr Stephens dros y diffynydd. Dywedodd y cyhuddwr yn ystod ei dystiolaeth, fod y carcharor wedi ei drywanu o dan ei ddau lygad gyda chyllell. Cadarnhawyd ei dystiolaeth gan y meddyg. Ar gais yr heddgeidwaid gohiriwyd yr achos hyd ryw amser etto. ABERSYCHAN.—Am ganiatau meddw- dod ac afreolaeth yn ei dy, cafodd Edwart Evans, Buck's Head, o'r lie hwn ei ddirywio i ddwy bunt a'r costau gan ynad- on Pontypridd, dydd Sadwrn cyn y diweddaf. Y DDAMWAIN DDIFRIFOL YN GOWER ROAD.—Wedi ysgrifenu yr ucbod, y mae y newydd am y gwrthdrawiad dychrynliyd yn agos i Gower Road Station, wedi ei ganlyn gan farwolaeth dau o'r dynion, fhomas Griffith a James Lambert. Symudwyd y blaenaf o honynt i'w dy a chymmerwyd yr olaf gyda dau ddyn arall fr clafdy. Bu farw Lambert yn mhen ychydig wedi cyrhaedd y clafdy, a Griffiths a fu farw yn fuan wedi i'r ddamwain dor- calonus gymmeryd lie. Y mae dau o'r dyn- ion ereill a dderbyniodd niweidiau mewn sefyllfa amheus. Cynnaliwyd trengoliad ar gyrph y ddau ddyn a gawsant ei lladd, o flaen y crwner Mr Edwart Strick, a dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddam- weiniol. Y MEISTRI A'R GWEITHWYR.—Nid oes amheuaeth nad drychfeddwl hapus oedd cael cynadledd rhwng cynyrchiolwyr y cyfa-laf a llafur ar yr adeg wasgedig bre- sennol at fasnach, ac yn gam yn yr iawn gyfeiriad. Cymmerodd y gynaaledd hon le dydd Mercher diweddafya Nghaerdydd, a chariwyd yr oil allan mewn ysbryd rhagorol, yr unig benderlyniadau y daeth- pwyd iddynt oedd, na fyddai i ostyngiad pellach gymmeryd lie y flwyddyn hon os derbynid y gostyngiad presenol ar un- waith gan y gweithwyr, ac y byddai i gyfarfod tebyg i'r un presenol gael ei alw I:ly er cydymgyngori cyn y rhoddid allan rybydd oostyngiad pellach. Y mae Mr Hailiday yr hwn oedd yn bresenol yn y gynadledd, am gyngori yr undebwyr i dderbyn y gostyngiad ar yr amodau hyn Boed felly y bo. BWLCHBYCHAN, LLANWENOG.—Ych- ydig ddyddiau yn ol cynnaliwyd oazaar ardderchog yn y palasdy uchod, o dan nawdd Mr a Mrs Vaughan Pryse, i'r dyben o chwyddo trysorfa adgyweinad- 01 Eglwys blwyfol Liandysul, yr hon a ailagorwyd ychydig amser yn ol. Y mae yn dda genyf hysbysu iddynt hvyddo l wneud yn agos i 40p. yn rhwydd, tuag at y drysorfa, ac felly fe drodd yr antur- taeth allan yn mhell uwchlaw eu dysgwyl- iadau. Pob llwydd iddynt i wneuthur daioni yn ychwanegol. TRO AN ONEST.-Gwerthodd amaethwr, nid can milldir o Llanwenog, oen i gigydd, gyda'r ddealltwriaeth ei fod i brynu un chwarter o'r cig yn ol ar ol iddo gael ei ladd. Cododd y cigydd bris y farchnad am y chwarter, a chafodd yr amaethwr fod y chwarter cig yn werth mwy na'r oen byw. IEUAN AWST.

BRASNODION 0 LANDUDNO.

LLANIDAN.

TRYWANU YN NORTH SHIELDS.

YMLADDFA MEWN ADDOLDY.

[No title]

LLITH DAFYDD EPPYNT.