Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

LLOFFION O'R DEHEUDIR.

BRASNODION 0 LANDUDNO.

LLANIDAN.

TRYWANU YN NORTH SHIELDS.

YMLADDFA MEWN ADDOLDY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMLADDFA MEWN ADDOLDY. Hysbysa un o'r newyddiaduron Seisnig ddarfod i gynhwrf afreolus gymmeryd lie yn nghapel Methodistaidd Soar, RhoRfawr, Mon. Ymddengys fod un o'r aelodau yn sefyll ei brawf ar y cyhuddiad 0 ymddwyn yn afreolus, yr hwn a ddygwyd yn ddi- weddar ger bron yr ynadon. Yn y cyfar- fod a gynnelid er trafod yr achos, cynnyg- iwyd penderfyniad ar fod i'r "brawd" gael ei ddiarddel, ond cyfarfydwyd hyn gan benderfyniad gwrthwynebol gan gyfeillion y troseddwr, pa rai oeddynt wedi ym- gasglu mewn cryn nerth. Wedi gwas. traffu cryn swm o eiriau celyd, esgorodd yr ymrafael ar ymladdfa warthus a chy- ffredinol. Defnyddid yr iaith fryntaf, dygwyd dyrnau i weithrediad, ac yn yr ymladdfa dywedir i un ferch ieuangc gael ei brathu mor dost fel y mae o dan law y meddyg. Dywedir fod y Parch. Mr Davies, Moelfre, yr hwn a geisiai dawelu y cy. thrwfl, wedi dyfod i mewn am ran helaeth o'r driniaeth chwerw, ac hysbysir fod amryw wysiadau wedi eu dwyn allan yn erbyn gwahanol bersonau. Hyderwn nad ydoedd yr achos mor warthus ag y dang- osir ef allan.

[No title]

LLITH DAFYDD EPPYNT.