Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
LLOFFION O'R DEHEUDIR.
LLOFFION O'R DEHEUDIR. DAMWAIN DDIFRIFOL YN GOWER ROAD.Boreu dydd Gwener cyn y diweddaf cyfarfyddodd amryw o ddynion, yr rhai oedd yn gweithio ar reilffordd y Great Western, fel platelayers, a damwain gwir dorcalonus. Ymddengys eu bod mewn dau trolley, a bod y cyntaf o honynt wedi dyfod i lawr o Cockett Station i Gower Road, yn myned yn fwy araf, pryd y tarawodd y diweddaf o'r ddau yn y cyntaf gyda force ddychrynllyd. Yr oedd yn myned i lawr incline ar y pryd. Cafodd chwech o'r dynion eu niweidio yn berygl- us. DAMWAIN ARY BRECON AND MERTHYR RAILWAY.—Nos Sadwrn cyn y diweddaf cymmerodd damwain arall le ar linell y Brecon and Merthyr. Pan yr oedd y tren diweddaf ar y ffordd o Aberhonddu i Casnewydd, am chwarter wedi chwech o'r gloch, ac ar gyrhaedd station y Pant, aeth y peiriant, mewn canlyniad i ryw ddiffyg yn y points, neu rywbeth cyffelyb, oddiar y llinelI; ac wedi symudiad cyflym tua'r Dowlais branch, arosodd yn yr un man. Pan welodd y taniwr fod rhywbeth allan o le, rhoddodd naid oddiar y peiriant, neu ynte cafodd ei luchio oddiyno gan yr ysgytwad. Lladdwyd ef yn y fan. John Price .oedd ei enw, yn preswylio yn 26, Dolphin Street, Casnewydd. Cafodd dynes o'r enw Elizabeth J effreis oedd yn y gerbydres niweidiau pwysig. DOWLAIS.-N os Iau diweddaf taflwyd trigolion y lie hwn i gyffro, trwy ledaeniad adroddiad anamheus mewn canlyniad 1 ddarganfyddiad corph plentyn mewn llyn o ddwfr yn Pantsarn. Ymddengys fod dau ddyn ieuaingc yn ymdrochi pan y cawsant gorph bachgen o'r enw Lewis. Yr oedd oddeutu ehwe" mlwydd oed. Dywedir fod y plentyn wedi ei golli o'i gartref er y boreu dydd Sul blaenorol, a synir fod plentyn mor ieuango wedi gallu ymwthio i le mor anghysbell. MAES Y CWMMER.- W edi terfyniad eyngherdd a the party, a gynnaliwyd yn y lie hwn ar yr 20fed cynfisol, yr oedd geneth ieuangc o'r enw Mary Rowlands, boneddiges oddeutu 18 oed, yn cyfeirio ei chamrau tuag adref, yn cael ei dilyn gan ferch fach. Pan yr oeddynt wedi myned beth ffordd ar eu taith ymosodwyd ar Miss Rowlands gan ddau ddyn o'r enwau Wil- liam Gough a Thomas Lewis, y rhai a wnaethant ymgais at ei thaflu i lawr. Yr oedd yr ymrysonfa rhyngddynt yn anynol o galed. Hi a ymladdodd yn ddewr gyda'i hymosodwyr, hyd oni thorwyd ei dillad yn ddarnau; ond trwy ymgais nerthol hi a lwyddodd i sefyll ar ei thraed, pryd y diangodd y ddau ddyn, oherwydd iddynt gael ei dychryn trwy swn dynesiad camrau. Yn ffortunus, yr oedd enwau y dynion yn adnabyddus i Miss Rowlands. Cawsant ei dal nos Wener diweddaf pryd y cafodd i hachos eu ddwyn ger bron, yn llys yr heddgeidwaid. Tk EALAW.—Dydd Mawrth diweddaf, lladdwyd dyn ieuangc o'r enw Edmund Llywelyn, mab i William Glyncoral," yn nglofa Brithwenydd, trwy i mawr syrthio arfio. BLAEN LLECHAU. Dydd Llun diweddaf cynnaliwyd eisteddfod o raddfa eang, mewn pabell helaeth yn un o faesydd agored y lie iachus hwn, o dan lywyddiaeth, D. Davies, Ysw., Maesyffyn- on. Y beirniaid oeddynt Dafydd Morganwg a Mynyddog. Er fod y tywydd yn bob peth ag a allesid ei ddy- muno, nid oedd y cyrchu i'r eisteddfod hon ond bychan. C6r Mr Proser o Treiorci, oedd y buddugol ar ddadganiad yr Halelojah Chorus, y brif wobr. MERTHYR.-Yn. llys yr heddgeidwaid dydd Sadwrn cyn y diweddaf, o flaen Mr de Rutsen, a Mr T. Williams, cyhuddwyd 1 un John Parker, platelayer, o wneuthur ymosodiad miniog ar James Preston, yn Mountain Ash. Ymddangosodd Mr Stephens dros y diffynydd. Dywedodd y cyhuddwr yn ystod ei dystiolaeth, fod y carcharor wedi ei drywanu o dan ei ddau lygad gyda chyllell. Cadarnhawyd ei dystiolaeth gan y meddyg. Ar gais yr heddgeidwaid gohiriwyd yr achos hyd ryw amser etto. ABERSYCHAN.—Am ganiatau meddw- dod ac afreolaeth yn ei dy, cafodd Edwart Evans, Buck's Head, o'r lie hwn ei ddirywio i ddwy bunt a'r costau gan ynad- on Pontypridd, dydd Sadwrn cyn y diweddaf. Y DDAMWAIN DDIFRIFOL YN GOWER ROAD.—Wedi ysgrifenu yr ucbod, y mae y newydd am y gwrthdrawiad dychrynliyd yn agos i Gower Road Station, wedi ei ganlyn gan farwolaeth dau o'r dynion, fhomas Griffith a James Lambert. Symudwyd y blaenaf o honynt i'w dy a chymmerwyd yr olaf gyda dau ddyn arall fr clafdy. Bu farw Lambert yn mhen ychydig wedi cyrhaedd y clafdy, a Griffiths a fu farw yn fuan wedi i'r ddamwain dor- calonus gymmeryd lie. Y mae dau o'r dyn- ion ereill a dderbyniodd niweidiau mewn sefyllfa amheus. Cynnaliwyd trengoliad ar gyrph y ddau ddyn a gawsant ei lladd, o flaen y crwner Mr Edwart Strick, a dychwelwyd rheithfarn o farwolaeth ddam- weiniol. Y MEISTRI A'R GWEITHWYR.—Nid oes amheuaeth nad drychfeddwl hapus oedd cael cynadledd rhwng cynyrchiolwyr y cyfa-laf a llafur ar yr adeg wasgedig bre- sennol at fasnach, ac yn gam yn yr iawn gyfeiriad. Cymmerodd y gynaaledd hon le dydd Mercher diweddafya Nghaerdydd, a chariwyd yr oil allan mewn ysbryd rhagorol, yr unig benderlyniadau y daeth- pwyd iddynt oedd, na fyddai i ostyngiad pellach gymmeryd lie y flwyddyn hon os derbynid y gostyngiad presenol ar un- waith gan y gweithwyr, ac y byddai i gyfarfod tebyg i'r un presenol gael ei alw I:ly er cydymgyngori cyn y rhoddid allan rybydd oostyngiad pellach. Y mae Mr Hailiday yr hwn oedd yn bresenol yn y gynadledd, am gyngori yr undebwyr i dderbyn y gostyngiad ar yr amodau hyn Boed felly y bo. BWLCHBYCHAN, LLANWENOG.—Ych- ydig ddyddiau yn ol cynnaliwyd oazaar ardderchog yn y palasdy uchod, o dan nawdd Mr a Mrs Vaughan Pryse, i'r dyben o chwyddo trysorfa adgyweinad- 01 Eglwys blwyfol Liandysul, yr hon a ailagorwyd ychydig amser yn ol. Y mae yn dda genyf hysbysu iddynt hvyddo l wneud yn agos i 40p. yn rhwydd, tuag at y drysorfa, ac felly fe drodd yr antur- taeth allan yn mhell uwchlaw eu dysgwyl- iadau. Pob llwydd iddynt i wneuthur daioni yn ychwanegol. TRO AN ONEST.-Gwerthodd amaethwr, nid can milldir o Llanwenog, oen i gigydd, gyda'r ddealltwriaeth ei fod i brynu un chwarter o'r cig yn ol ar ol iddo gael ei ladd. Cododd y cigydd bris y farchnad am y chwarter, a chafodd yr amaethwr fod y chwarter cig yn werth mwy na'r oen byw. IEUAN AWST.
BRASNODION 0 LANDUDNO.
BRASNODION 0 LANDUDNO. Gwyddoch yn eithaf da, foneddigion, nad ydyw orodorion Llandudao yn cael digon o hamdden i gymmeryd eu gwynt attynt er gwahaniaethu rhwng Sul, gwyl, a gwaith yi-i ystod y tymhor haf; a phe buasai cysgod amheuaeth ar y pwngc, gallaswn nodi y ffaith eu bod mor brysur fel ag i fethu hebgor amser i gynnal cyfarfod y Feibl Gymdeithas heblaw ar nawn Sabbath. Yr ydym ni yma yn unfarn mai penbwl noeth oedd y cler- fardd hwnw a ganodd,—"0! na chawn farw yn yr haf," oblegid nis gallwn ni hyfforddio seibiant i grefydda a noddi Jacks pregethwrol oddigerth yn y gauaf. Os oes mewn bwrlad gan ryw frawd o falerdwr ddwyn y gan hono i'r dref hon, Doed iddo ofalu am ei chyfnewid i-" 0! na chawn farw yn y gauaj," a chaiff werth- iant rhwydd iddi.—Erbyn hyn y mae olwynion ymfflamychol prysurdeb yn dechreu arafu, a dydd Llun credodd amryw o gocosyddion urddasoiaf y dref hyfforddio hawnt i bererindodi ar feirch am y tro cyntaf. Y cyfeillion hyn. oeddynt-ond gweil eu harbed am y tro hwn, rhag ofn iddynt droi yn ddisgyblion Baalam.-Y pwngc sydd yn bawlio mwyaf o sylw yma ar hyn e bryd ydyw y ffordd newydd y bwriedir ei gwneud o amgylch Pen Gogarth; ao y mae yn dda genyf weled fod pob tebygolrwydd y bydd i'r auturiaeth fawr gael ei chychwyn cyn pen nemawr wythnosau.. Deallaf fod Arglwyddes Augusta Mostyn, yr hon gyda'i meibion sydd yn awr yn y lie, wedi cymmeryd gwerth mil o bunnau o gyfranau yn y cwmni yn ychwanegol at y swm a gym- merasai o'r blaen, ac y mae Ricnard ETans, Haydock Colliery, yr hwn bydd yn trigo yn ein plith, wedi gwneud yr yehwanegiad yn ei gyfranau.-Yeiiydig ddyddiau yn ol gwnaed dargaufyddiad tra rhyfedd yma, nid amgen dyfud o hyd i gorph baban cynamserol wedi ei adodi mewn potel. Caiwyd ef gan lachgen o'r gymydogaeth yr hwn a'i trosgiwyduodd i P.S. Jones, yn ngofal yr hwn y mae etto. N OB Sadwrn cyrfrowyd y lie yn ddirfawr drwy y newydd fodcwrwgl wedi dyfod i'r lan yn mau Conwy gyda dillad boneddwr ynddo. Aethpwyd allan gyda chwch a dygwyd y cwrwgl i'r lan, pryd y cafwyd ynddo holl ddillad boneddwr, ac ar un dilledyn yr oedd yr enw," Darbishire." Yr oedd yn hawdd casglu fod y boneddwr wedi ymddiosg er ymdrochi, ond teimlid cryn bryder gyda golwg ar yr hyn a allasai fod ei dynged. Gwyddem am deulu parchus y Darbishires, Pendyffryn, Pen- maenmawr, ac yn naturiol anfonwyd brysgenadwri attynt yn nghylch yr amgyichiad. Cyn pen nemawr amser daeth y boneddwr ieuangc drosodd ei hun, a chafwyd cyfrif am y digwyddiad. Yr oedd wedi myned i ymdrochi, ond tra y nofiai, aeth y cwrwgl ymaith gyda'r llif a'r gwynt. Nofiodd ar ei ol am gryn bellder, ond canfu fod ei ymdrech yn oter, a chyfeiriodd am y lan, yr hwn a gyrhaedd- odd yn ddiogel.—Pwngc sydd yn tynu llawer o sylw yma ar hyn o bryd ydyw ymddygiad babanaidd Mr Bulkeley Huges, cadeirydd y bwrdd lleol, yr hwn sydd mewn dwfr poeth oherwydd amcanu ohono gau allan gynrychiolydd y wasg. Ceisiai gael gan y bwrdd gondemnio gwaith y wasg yn trin tippyn ar ei gyflwr ond rywfodd daeth y gath allan o'r cwd, ac yn y gwahanol bapurau am ddydd Sadwrn diweddaf, cafodd ddigon o halen ar ei fri wiau drachefn. Gwarchod fi! y bonedd- wr o'r Plascoch, gwyliwch rhag cicio nyth cacwn y wasg, neu byddant o gwmpas eich pen iel pJ.a'r Alpht. Pan gaf hamauen, rhoddaf i chwi frasluniau doniol o rai o brif gyuffonwyr y bwrdd, yn gyflwynedig i Mr Darwin; ac nyd byny byadwcii wycn. CLOO YR EGLWYS.
LLANIDAN.
LLANIDAN. GwawxiQdu y dydd arnom yn ei holl ogoniaat. Yr oedd yr hyn a ddymunem. Allan o'i babelt ya bybyr,—cawraidd Gwruwctx cynon awyr, Daw'r haul ac aiaui y gyr Nos Jblrebus o'r wyoyr." Drwg i'r wybr, ei lwybr ya lia-hynawmaidd I gyiiheou Auiau; Ei Uioeli aur deryll, eirian, Nawn y dydd ennyua'n dao. Cyfeiriasom ein camrau yn weddol fore tu PHLAS LLANIDAN. Fel yr awn i waered a'r hyd y rhodfeydd troellog a chysgodoi rhyngom ar iianerch hynod a neuliduedig hon, Y cdr piuog cy weirianfc Fawi i Ner, t'i ioli waaut; Gyddtau in&n yu organu Oroiau cerdd i'r Ion cn," Bu unwaith yn nghanol y coedwigoedd byn "praidd bychan" yn cyflwyno mawl di-dor, ddydd a nos iddo ef, yr hwn a. wrendy weddi'rjgwan, ac a gyflenwa aagen- ion ei ddewisedig bobl a "defaid ei boria." Bu, meddwn, ond daeth heibio y blaidd ysglyfaethus a gwasgarodd y praidd. Syrthiodd y fan a fu yn lloches i rinwedd, yn feithrinfa i wybodau, ao yn noddfa i'r angenog, yn aberth i wangc y gormesdeyrn a'r cyssegr yspeilydd. Ac yn mhen ych- ydig funudau cawn weled anrhaith dost Cynghoriaid y King Harri." Wele ni yn muarth y Plas." Y mae pobpeth yma megys yn mreiohiau owsg. Nid oes undyn byw bedyddiol i'w ganfod eto o gylch y lie--oddigeitla y garddwr. lAwn yn ei gwmni dyddau ef drwy yr ardd, y rhodfeydd dymunol o gylch y Plas, y Llan adfeiliedig, a'r fynwent ddistaw fwsoglyd. Pwy iyth a ddisgwyliasai daraw ar egl wys a -chladdfa mewn mangle mor neuliduedig ? Ond yma y mae Llan Idan yn ymguddio megys, yn nghanol llwyn 0 dderi cauadfrig, mewn unigedd dwys. Dyma arfer yr henahaid This sober ilhade Lets fall a serious gloom upon the mind, Tiiat cliecke but not appals. Such are the haunts Religion loves, a meek and humble maid, Whose tender eye bearis not the bIde of day." Awn i'r ardd ffrwytblawn: Mae ynddi llawer byd 0 ff- wythau, daii, a liysiau, a blodau o bob lliw; Eu øawyr peraidd ewjhui hyiryda'r galon friw." Awn yn mlaen i'r uchel-rodfa (terrace) ddifyr yn ftrynt y plas. Oddiarni cawn olygfa ysplenydd ar Afon Menai,-Ilougau by chain a mawrion, yn gwau ol a blaen ar ei glas wyneb, a/u gwynion hwyUau aor led yn yr awelon, A'u gleieion 4nwaufn uwch b« Cawn oddiyma olygfa wech ar ororaa Arfon a chreigiau'r Eryri. Y mae y golyg- feydd cylcbynol mewn cydgordiad per- ffaith a. thawelwch y He. 1:) Here dwells eternal peace, eternal rest, In shades like these to live is to be blest." Ond llawer math o olygfeydd a welwyd o dro i dro yn y rhandir hon. Bu y fro yn lloches a ehartref i'r Derwyddoa gynt. Trigasant yma mewn tangnefed-d a dyogel- wch dros oesau lawer, nos y daeth Sue- tonuis PaulinuB a'i fileinig osgordd drosodd a chario diatryw ao anrhaith drwy'r Ynyg. Mwydwyd y meusydd eang hyn a rhudd- waed y Brython. "Maes Hirgad" a "Caer-oer-waed" a adgoffant ini yr helynt hon hyd y dydd hwn. Yn O.G 58, gwei- wyd eilwaith y Brytlioniaid, diuain, yn ffoi megys defaid o fiaen cwn, rhag llid a dialedd Agricola, yr hwn a gwblhaodd y gwaith a ddechreawyd gan Suetonius. O.G. 78, trachefn sahgwyd y gwastad-tir meill- ionog hwn gan gedyrn fyddinoedd Iorwerth Goeshir. Bu coch glanau y Fenai gan waed calon y Sais, pan wnaed eu brad a'u galanas gan y Cymry twymngalon dan lywyddiad y dewr Risiart ap Walwyn, O.C. 1282. Nid ymladd a thywallt gwaed yn unig fu yma na gwelwyd golygfeydd mwy dymunol ar y fan ar lie. Tua'r flwyddyn O.C. 616, sylfaenodd un sant de- fosiynol ei (I gell" yma yn mysg adfeilion hen grefydd ei wlad cynnyddodd y "gell" yn arafaidd i faintioli t. priordy" nid an- enwog. Dyma'r llwybrau a droediodd y dewr Dywysog Owain Gwynedd, lawer tro pan oedd ei lys yn Llanidan. Ami i hen fonach dysgedig a myfyrgar fu yn tor- heulo uwch ei femrwn melyn ar hyd y llethrau hyn, ar dde ac aswy. Llawer cenhedlaeth ar wawr a gosper, wrth wys a gwahawdd cloch y Llan," a ddylifodd hyd y llwybrau a'r croesffyrdd cylchynol i Dy Gweddiac yn awr wele'r hen frod- orion syml a chywirgalon yn gorphwyso yn mhell 0 "swny boen sy yn y byd," wrth seiliau'r Llan fawreddog unwaith, ond y sydd weithian yn prysur falurio, megys hwynthwythau. Ar hyd y rhod- feydd graiauog hyn yr lymddifyrai "Llwydiaid y Plas," ond heddyw y bedd yw eu cartref, un ac oil, ac nid oes prin goffa am danynt. Daeth y gwehelyth Irby o estronol ach i'r fan, ond nis arbed angeu y pendefig urddasol mwy na'r yswain gwledig, ac y mae eisoes amryw o'r Ar- glwyddi Boston wedi myned o'r tir i "lawr eu cul seler." Ac yma, gan gofio, bu'r millionaire enwog, Williams, Llanidan," yn cartrefu dros amser, a bu ei gorph yn gorphwys am dymmor yn y fynwent ger- 11 aw.
TRYWANU YN NORTH SHIELDS.
TRYWANU YN NORTH SHIELDS. Tua deg o'r gloch nos Lun cyflawnwyd gwelthred lofruddiog yn North Shields. Ymddengys fod dyn o'r enw John Law- son yn ymrafaelio a'i wraig, a chan ei fod yn ymddangos ar fedr ei tharaw, safwyd rhyngddynt gan un Andras Erickson, morwr tramorol, yr hwn a lettyai gyda hwynt. Ar hyn tynodd Lawson gyllell o'i logell, a thrywanodd y morwr yn ei wyneb, gan dynu yr erfyn ar draws ei focb gan wneud archoll arswydus. Daeth Erickson yn ddideimlad yn ebiwydd drwy golli gwaed, ac y mae yn gorwedd mewn cyflwr tra pheryglus. Cymmerwyd Law- son i'r ddalfa yn uniongyrchol.
YMLADDFA MEWN ADDOLDY.
YMLADDFA MEWN ADDOLDY. Hysbysa un o'r newyddiaduron Seisnig ddarfod i gynhwrf afreolus gymmeryd lie yn nghapel Methodistaidd Soar, RhoRfawr, Mon. Ymddengys fod un o'r aelodau yn sefyll ei brawf ar y cyhuddiad 0 ymddwyn yn afreolus, yr hwn a ddygwyd yn ddi- weddar ger bron yr ynadon. Yn y cyfar- fod a gynnelid er trafod yr achos, cynnyg- iwyd penderfyniad ar fod i'r "brawd" gael ei ddiarddel, ond cyfarfydwyd hyn gan benderfyniad gwrthwynebol gan gyfeillion y troseddwr, pa rai oeddynt wedi ym- gasglu mewn cryn nerth. Wedi gwas. traffu cryn swm o eiriau celyd, esgorodd yr ymrafael ar ymladdfa warthus a chy- ffredinol. Defnyddid yr iaith fryntaf, dygwyd dyrnau i weithrediad, ac yn yr ymladdfa dywedir i un ferch ieuangc gael ei brathu mor dost fel y mae o dan law y meddyg. Dywedir fod y Parch. Mr Davies, Moelfre, yr hwn a geisiai dawelu y cy. thrwfl, wedi dyfod i mewn am ran helaeth o'r driniaeth chwerw, ac hysbysir fod amryw wysiadau wedi eu dwyn allan yn erbyn gwahanol bersonau. Hyderwn nad ydoedd yr achos mor warthus ag y dang- osir ef allan.
[No title]
— i< RHYL.- Y Neuadd Drefol Newydd.— Yn mwrdd lleol y dref hon ddydd Llun, mynegwyd fod Mr Gladstone ae Arglwydd Richard Grosvenorwedigwrthod cymmer- yd rhan yn ngosod conglfeini y Neuadd Drefol sydd ar fedr gael ei hadeiladu; ond yr oedd Arglwydd Raglaw sir Fflint, H. R. Hughes, Ysw., Kinmel, wedi addaw gosod un o'r meini, a gosodir y gweddill gan y Parch. Dr. Butterton, Y.H. Mr Ellis Eyton, A.S.; a Mr Taylor, cadeir- ydd y bwrdd lleol. Bydd yr amgylohiad yn un o lawenydd cyffredinol yn y dref, a ehjmmer le yn yr ail wythnos o'r mig J3«0ftf,
LLITH DAFYDD EPPYNT.
Trefgaron, a'u golwg ar werthu gwlan a phrynu defaid, a thrwy Pont-y-gwr-drwg. Pan uwchben safn y rhaiadr aruthrol, dy- chrynadwy, y berw-lif hwn, darfu i Ddafydd Eppynt, yn ei ddull dihefolydd ef, osod allan hanes y bont, sef ddarfod i'r gwr drwg wneud y bont ar yr ammod iddo gael y peth cyntaf a elai drosti, gan feddwl cael yn filain dan y dant rhyw fynach tew, blonegog, neu wr o lefarwr yn myned, druan, ar ol ei gyhoeddiad, (a'r degwm cilddwrn, ebe'r Byr, dan ei ddannedd o,) ac fel y gwnawd ffwl o Satan gan hen wraig o berfedd gwlad, Ar hyny gwelid y Bardd Crwydredig mewn cyffro, ac yn ys- gwyd fel Ilosg-fynydd mewn gwewyr. Mae yr awen wedi disgyn arno. Efe a safodd i fyny yn wyllt orph wyllog, a chan estyn ei law yn nghyfeiriad y bont, ebe fe yn chwimwtb, Pont-y-gwr-drwg, Huppynt byr gadwynog,—impromptu:— "Un dydd anffodus crwydrodd bllwch rhyw wraig, Ac wedi chwilio'r ardal trwyddi'n gron, Fe'i canfu er ei braw ar gopa'r graig Tuhwnt i'r agen fawr, yn pori'r fron. Pan mewn pen bleth a syn feddyliau gant, Boneddwr mawr a safai ger y Hi, Gan gynnyg tafia pont ar draws y nant Oa cai y cyntaf un ai drosti hi. Cyttuno wnaed a'r adeiladydd gwych 0 graig i graig estynai'r bout mewn dim Draw drosti taflodd Sian ei chrystyn sych A'i chorgi bach aeth ar ei ol yn chwim. Fel hyu hen wreigan drop o berfedd gwlad Yn esmwyth iawn aeth dros gynllwyniad diafl A pban ganfyddodd Nic y twyll a'r brad, Troi ymaith waaeth a'i gynffon yn ei aft," Dodwn fan yma heddyw y ffidil yn y tô, gan ddodi ar Ddafydd Pantyclochydd fyned ar 61 yr hen fedyddfan, gan ym- gynghori a'r cloehydd mwyn, ufydd o hyd, nid amgen Thomas William Daniel, ar y mater; canys gyda golwg ar bobl Rhydd- lan, deallir mai sectyddion chwilboeth feddw ydynt hwy, ac fel y cyfryw yn hollol amddifad o chwaeth at greiriau Eglwysig ac hynafiaethol, a thuag at pob celfyddyd arall namynymswyddoca a thynu gwyneb hir. DAFYDD EPPYNT.