Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 11, 1874.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD GWENER, MEDI 11, 1874. CYMDEITHASFA BANGOR A'R BIFYSGOL. I annghydfod a brad y mae y mwyafrif o symmudiadau Cymreig yn ddyledus am eiddilwch a dinystr; ac er fod ei weddillion yn gorwedd o dan garnedd dirmyg a gwarth, y mae Gwrtheyrn yn llefaru yn hyf a chroew yn ei olafiaid hyd y dydd heddyw. Ac eithro yr eistedd"- fod, nid oes genym un sefydliad yn cael ei gefnogi a'r fath frwdfrydedd a brawd- garwch ag 'ydyw Prifysgol Aberystwyth ond yn anffodus nid yw y sefydliad gwir genedlaethol hwnwbéb orfod arddel olion cilddanedd brad ac annghydfod. Yn ei fabanddd, ac wedi hyny, croesawyd y meddylddrych gan Fdnef Dinbych yn Dig laccio acadglecian Yn sjbwb. mawr dros bob man;" ond, diolch i benderfynolrwydd diwrthdro ei gefnogwyr gwladgarol, y mae y sef- ydliad wedi casglu digon o nerth i allu hyfforddio gwenu yn dosturiol ar gulni sectyddol; a diamheu fod Y Gohebydd, druan, wedi yr holl gablu ac erlid, yn dechreu teimlo ei hun ar uchelfanau'r maes. Mor.bell ag y mae a fynom ni a symmudiadau o'r nodwedd yma, yr ydym yn credu mewn dechreu yn Jerusalem," gan soddi gwleidyddiaeth asectyddiaeth, a seiyll ar lwyfan eang a chyffredin cenedl- igrwydd; ac iry cyfrifhwn yr ydym yn cael ein llanw i balchder .cyfiawn wrth sywiar lwyddiant diamheuol y sefydltad cenedl- aethol yn Aberystwyth, yr hyn sydd yn gyfrifadwy i yni gweithgarol ac unfrydedd penderfynol. Bellach, y mae y sefydiiad wedi cefnu yn orchfygol ar glaiarineb gweinyddiaeth ddiweddar Mr Gladstone, ac ymgais Baner Dinbych i'w secteiddio a chreu rhagfarn yn ei erbyn, a cheir cenedligrwydd wedi cordeddu borieddig a gwreng yn un rhwymyn undebbl o'i blaid. Nid ymfoddlona y rhai mwyaf blaen- llaw ar eiriau yn unig, ond mynant weith- redu a chyfranu o blaid yr achos. Fel un o'r eyfryw, yr oedd yn ddywenydd genym ganfod presennoldeb y gwladgar Mr Hugh Owen, L'undain, yn nghym- deithasfa y Methodistiaid yn Mangor, yr wythnos ddiweddaf. Ymddangosai Mr Owen fel dirprwywr oddiwrth bwyllgor y brifysgol i erfyn ar fod i'r Methodistiaid uno yr enwadau ereill a'r Eglwys Sefydl edig mewn neillduo un Sabboth yn Hydref am y tair blynedd dyfodol er gwneud casgliadau er budd y sefydliad. Eglurodd y dirprwywr fod y colegdy wedi costio y swm o bymtheng mil o bunnau, yr hwn swm ydoedd erbyn hyn wedi ei lwyr dalu. Cyn agoriad y brifysgol, yr oedd y pwyll- gor wedi sicrhau addewidion o chwe mil o bunnau tuag at ddwyn y treulion yn ystod y tair blynedd dilynol. Erbyn hyn yr oedd dwy o'r tair blynedd wedi myned heibio, ac amcan y cydgasgliad cynnyg- iedig ydoedd darparu ar gyfer y treulion yn y dyfodol. Ni fwriadai y pwyilgor yinddibynu ar gardotta yn y dull hwn ond yr oeddynt ar hyn o bryd yn ymdrechu i Ifurfio trysorfa o hanner can mil o bunnau, modd y gallent waddoli y brifysgol uwchlaw angen yn y dyfodol- Nid oedd angen am i Mr Owen ddefnyddio rheswm cryfach na bod y brifysgol yn sefydliad cenedlaethol, er sicrhau cefnog- aeth y gymdeithasfa, a llawen genym ddeall ddarfod i'r meddylddrych gael ei fabwysiadu. c, Ond nid ydyw Mr Hugh Owen yn dig- wydd bod yn dal cysylltiad a'r enwad y meiddiodd ei annerch ac wedi iddo droi ei gefn, llwyddodd Mr Richard Davies, yr aelod dros sir Fon, i gasglu digon o wrol- deb er dannod iddo hyn yn y dull mwysf llwfr a dialw-am-dano. Ffuantai ofid na .buasai Mr Owen yn bresennol, oblegid gofynasai iddo paham na fuasai yn dwyn y cais yn y lie cyntaf at yr enwad o ba un yr oedd yn aelod. Yn ol adroddiad ein gohebydd, yr oedd y gwr urddasol yn bre- sennol yn ystod y drafodaeth, ac yn meddu yr un. hawl ag ereill i ddatgan ei syniadau ar y pwngc ond oherwyddrhytf reswm nad oes ynom ni awydd i'w ddir- nad, dewisodd lefaru ynnghefn yn hytracb lla gwyneb y gwladgarwr twymngalon o Lundain. Nid oes genym ni un gwrth- wynebiad i Mr Davies chwythu udgorn ei hunan-glod, ac ni fynem warafun iddo ymffrostio byth ac befyd yn y tippyn ceiniogach a gyfranoddo bryd i bryd tuag at amcanion enwad ol oiidv meddwn Y gwrthwynebiad mwyaf pendant iddo ddef- nyddio urddas ei safle sectol 6ii taflu dwfr oer ar sefydliad mor gy. ffredinol ae eang ei amcanion a'r brif-ysgol. Rhaid i ni gyd- nabod nad ydym yn gwybod fod y bonedd, wr hwn sydd sydd yn tingcian ei symbal wedi cyfranu cymmaint ,acheiniog tuag ai I' y sefydliad; ac os felly, gweddai iddo efelychu Aaron. Dichon hefyd y dyleifl ei adgoffa fod ei gydaelod dros y Monwys* ion, sef. Mr Morgan Lloyd, yn ddyledus y am ei eisteddle i'r ffaith ei fod wedi ara- modi i gefnogi y brif-ysgol hyd eithaf ei allu, drwy yr byn y llwyddodd i ennill cefnogaeth yr hen bendefig o'r Baron Hill. Efallai fod yr aelod anrhydeddus yn llochesu y syniad cyfeiliornus y gall, yn ei fawreddogrwydd sectol,-hyfforddio diystyru dymuniadau ei etholwyr gwladgar yn Mon; ac os ydyw, gallwn hyfforddio go- hirio ei argyhoeddiad hyd yr ethollad nesaf, pryd y gwastatteir y cyfrifon. Hyfryd genym sylwi nad ydyw Method- istiaeth Cymru wedi ei chrynhoi i logell Mr Davies, ac nad ydoedd yn y gymdeith- asfa yn datgan syniadau yr enwad o gwbl, fel y profwyd yn ddiymwad yn yr unfryd- edd gyda pha un y derbyniwyd awgryu1 Mr Hugh Owen. Hyfrydwch hefyd ydyw cael y cyfleustra i droi oddiwrth 9tilui sectol at haelfrydedd diarhebol Mr Davies, Llandinam, Nid ydym yn mecida-gradd o gydymdeimlad ag eithafrwydd politic- aidd Mr Davies ond gallwn hyfforddio bwrw hyny o'r neilldu mewn edmvgedd o'i wladgarwch a'i haelfrydedd. Deallwn fod yr aelod dros sir Aberttjifi wedi cyfranu aO addaw eisoes pump neu chwe' mil o bun- nau, a phe caem ychydig foneddigion cy- foethog, rhydd oddiwrthy gwahànglwyf sectol, yn feddiannol ar y cyffelyb genedl- igrwydd 'ac haelfrydedd, buan y gwelid Prifysgol Aberystwyth wedi ei gosod ar sylfeini cedyrn am y dyfodol.

CRYNNODEB WYTHNOSOL.