Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

LLAIS Y WASG.

IY CYHUDDIAD 0 LOFRUDDIAETH…

YMGAIS I LOFRUDDIO.

[No title]

TY-DORIAD YN CAPEL CURIG.

------..---.....--:;¡¡-CYHUDDIAD…

,CYFLAFAN AR Y MOn

Family Notices

[No title]

CRYNNODEB WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Drwy geisio ymgymodi ag ef ei hun, ar 1 ol ei aflwyddiant fel athraw cyunrychiol- wyr y wasg, y mae Mr Bulkeley Hughes wedi llwyddo i gyfia wni y gwrhydri o neidio o'r badell i'r t&n. Yr wythnos o'r blaen awgrymwyd i'r gohebwyr swyddol y buasai eubabsennoldeb yn fwy dymunol na'u presennoldeb, gan fod y bwrdd ar fedr ymdrin a phyngciau o dan y ddeddf newydd, yr hyn oedd, gyda Haw, yn ddim amgen na thwyll. Yn hytrach nag i'r cadeirydd gael mantais i roddi ei fygyth- iad blaenorol mewn gweithrediad, tybiodd cynnrychiolwyr y wasg yn ddoeth ym- neullduo yn wirfoddol. Wedi cau o honynt y drws, aeth y cadeirydd drwy y gorchwyl babanaidd o adrodd ei brofiad yn ngwyneb yr adolygiad a wnaed yn y Vasg ar ei ymddygiadau, ac erfyniai ar i'r bwrdd ddatgan annghymmeradwyaeth 9 n o feiddgarwch ei adolygwyr. Wrth gwrs, cafodd gefnogaeth dau neu dri o gynffon- wyr gwasaidd, ond gwrthodai cyfangorph yr aelodau gydsynio a'i gais hyd onis teimlodd ar ei galon sori deirgwaith ac ymneullduo o'r gadair. Dichon fod rhai o drigolion Llandudno yn credu fod rhyw urddas annirnadwy yn nglyn a'r cynffon- 'lythyrenau A.S.; ond, mewn difrif, dy- munem ofyn a ydynt am. ymostwng yn dawel i adael i'w cynnrychiolwyr, pa rai sydd yn rhwymedig i ddefnyddio eu hamser er lleshau y dref, i droi y bwrdd Ileol yn chwareufwrdd i gecraeth personol a phrangciau babanaidd ? Yn ein tyb ni, dylai y trethdalwyr alw cyfarfod cyboedd- us er gwrthdystio'yn erbyn y fath wastraff ar amser, esgeulusdra o leshad y dref, a r^^pbrangciau gwaradwyddus, heb son am yr, ymosodiadau parhaus ac anwrol ar I y;gynnrychiolwyr diwyd a gonest y wasg yn eu bymgai3 annibynol i wasanaethu cyhoedd. y Ymddengys Mr Watkin Williams, yr aelod dros fwrdeisdrefi Dinbych, fel pe yn cael ei ddirdynu rhwng y gwynt a'r Ilif yn ei ansefydlowgrwydd poenus rhwng Radi- caliaeth a Cheidwadaeth. Yr wythnos ddiweddaf cafodd y fraint o annerch Od- yddion Gwrecsam, ar yr hwn achlysur y oymmerodd fantais i ddatgan ei farn fod carlamiad deddfwrol y Badicaliaid yn y blynyddoedd diweddaf wedi bod yn dra cbyflym a thost, a diolchai am ychydig mwy o gymmedroldeb o dan lywodraeth y Ceidwadwyr. Cydnabyddai nad oedd y senedd-dymhor diweddaf wedi bod yn ddi- ffrwyth, a datganai ei farn yn ddifloesgni ddarfod i gymmaint o ddaioni ag a ellid yn deg a rhesymol ei ddisgwyl gael ei gyn- iiyrchu. Prin y bydd i syniadau mor gymmedrol gael derbyniad gan bleidwyr eithafol Mr Williams; ac yn wir, rhaid i ninnau gydnabod ein syndod ddarfod iddo ryfygurhoddi datganiad iddynt. Ond- diamheu nad yw efe heb ddeall a4heimlo i ba gyfeiriad y mae y gwynt yn cbwythu, ac nid rhyfedd os ydyw yn bradychu awyddfryd am aberthu cyssondeb ar allor llwyddiant. Drwy fwyafrif o ychydig bleidleisiau, llwyddodd i gael mynedfa i St. Stephan yn y frwydr ddiweddaf, ac os parha i ddiwygio mor gyflym yn y dyfodol, ni syrid ni ronyn pe gwelid Mr Watkin Williams yn yr etholiad nesaf yn ymgeisio am eisteddle seneddol fel Ceidwadwr trwyadl. Drwy y mwyafrif prin o ddeg-ar-hngain o bleidlesiau y llwyddodd y Radicaliad yn mwrdeisdrefi Dinbych i sicrhau dychwel- iad eu hymgeisydd, yn erbyn yr An- rhydeddus G. T. Kenyon, yr hwn a ym- laddodd frwydr y Ceidwadwyr gyda'r fath wroldeb a phenderfyniad. Byth oddiar hyny, teimlwyd fod yn ddyledswydd cyd- nabod ei wasanaeth pwysig i'r blaid gyfan- soddiadol, a dydd Mawrth ymgycnullodd miloedd o'i gefnogwyr selog yn Cefn Park, ger Gwrecsam, i'r dyben o dalu teyrnged o barch, a gwneud cyflwyniad iddo. Yr oedd yr holl drefniadau ar raddfa eang, ac am- lygai.y cynnulliad enfawr y brwdfrydedd mwyaf. Tra yn dychwelyd ei ddiolch- garwch; addawodd y boneddwr poblogaidd y byddai iddo eu harwain i'r frwydr etto pa bryd bynag y gelwid am ei wasanaeth; a chan fod Ceidwadaeth yn oynnyddu mor gyflym yn y bwrdeisdrefi nid oes ynom unrhyw ammbeuaeth na ddaw allan yn fwy na choncwerwr. Tra yr ydym yn ysgrifenu, tywyllwch sydd yn amdoi sefyllfa pethau yn ardal Bethesda. Cyrhaeddodd ei arglwyddiaeth i'r castell nos Fawrth, a deallid y byddai iddo dderbyn dirprwyaeth o'r chwarelwyr ddydd Me^cher; ond hyd yn hyn nis gwyddom a ddaethpwyd i ryw ddealltwr- iaeth derfynol. Yr ydym yn tueddu i gredu na ddaethpwyd, gan fod ymchwil- iad trwyadl a swyddogol yn cael ei wneud i gyhuddiadau y gweithwyr yn erbyn rhai o'r goruchwylwyr, modd y gallo ei ar- glwyddiaeth ymddwyn attynt yn ol eu haeddiant. Gyda golwg ar y ffeithiau a b ae ti c> ddygwyd i'r golwg yn yr ymchwiliad, gweli genym beidio ymddiried mewn sibrwd, gan ddewis aras am hysbysrwydd s'wydd- dgol. Yr ydym- ni yn gwbl hyderus y dygir jt achos i derfyniad boddhaolcyn, nad allesid dwyn hyny oddiamgylch yn gynt, gan fod colli cbwech wythnos o am- ser yn golled fawr nid yn unig.i'r gweith- wyr, ond hefyd i fasnach y gymydogaeth. -Y Ceisiwyd taenu chwedl ychydig ddyddiau yn ol ddarfod i ymgais gael ei wneud er tanio ty un o'r dynion sydd yn parhau i weithio yn y chwarel, ond da genym dde- all nad oes sail i'r fath gyhuddiad. Yn wir, mor bell ag yr ydym ni yn deall, y mae y dynion wedi ymddwyn yn dra gweddaidd, ac yn deilwng o'r sefyllfa uchel y mae chwarelwyr Cymru wedi ei hennill yn mharch y cyhoedd.