Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

— LLOFFION CYMREIG. 1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

— LLOFFION CYMREIG. 1 Ddydd Llun syrthiodd dyn yn mhorth- ladd Caernarfon, drwy yr hyn y derbyn- iodd niweidiau pwysig. Y dydd o'r blaen cafodd Mr Mathews, ffermwr, a dau blentyn, eu niweidio yn dost gan felt, yn St. Fagan, D. C, Dywedir y bydd i briodas Mr Murray Gladstone a'r Anrhydeddus Miss Emily Wynne, mereh Arglwydd Newborough, gymmeryd lie ynMbenmaenmawr ddiwedd y mis hwn. Gofidia un gohebydd oherwydd mai drwy fwyafrif o un neu ddau yn unig y llwyddwyd i ethol Mr. Awstin Jones yn aelod o gor Bangor nos Lun. Hysbysir fod nceriaeth St. Dcwi, Ffest- iniog, wedi ei hychwanegu i 115p. y flwyddyn. Bwriedir gosod conglfeini neuadd drefol newydd yn Rhyl yn yr ail wythnos o'r mis nesaf. 0 flaen ynadon y Bala, cafwyd dyn o'r enw Edward Roberts yn euog o herwhela, a dirwywyd ef i ddwy bunt a'r costau. Y mae chwarel setts y Penmaen Bach newydd ei hagor, a'r rhagolygon mor addawol fel y mae y cwmni yn parottoi gogyfer ag adeiladu pont ddrudfawr dros y rheilffordd. Ymddengys fod gobaith am gyd-ddeall- twriaeth rhwng pwyllgorau Eisteddfod Conwy a Phwllheli, gan fod y blaenaf yn foddlawn i ohirio yr eisteddfod ar delerau rhesymol. Sibrydir fod mewn bwriad. gan Mr Assheton Smith adeiladu dociau eang yn Nantporth, Bangor, ar gyfer llwytho liechi o chwarel Dinorwic. Dydd Sul diweddaf pregethodd Esgob. Bangor yn yr Eglwys Gadeiriol, pryd y gwnaed casgliad er budd Clafdy Mon. Heria Cymdeithas Gorawl Gwalia, Ler- pwl, gor enwog Caernarfon i ail ymgys- tadlu a hwynt yn Lerpwl; ond gwrthyd blaenor yr olaf yr her gyda;r dirmyg a gyfiawn haedda. Ymddangosodd darlun obabellEistcdd- fodol Bangor yn y Graphic. Hysbysir fod Mr Gladstone wedi ym- adael â Phenmaenmawr am Benarlag. Cyfarfyddodd hen wr 70 mlwydd oed, o'r enw Griffith Lloyd, Brynteg, a'i angeu yn dra ddisymwth, trwy syrthio oddiar ei farch yn Mhorthmadoc. Hyfryd genym ddeall fod yr hen lenor patriarchaidd o'r Waenfawr yn graddol wella ar ol y ddamwain ofidus a'i cyfar- fyddodd yn ddiweddar. Adroddir fod pwngc addysg yn creu cryn annghydfod y dyddiau hyn yn mhlwyf Aberf.rraw. Deallwn fod Mr Joseph Parry (Pencerdd America) wedi ymsefydlu fel athraw cerddorol yn mhrifysgol Aberystwyth.

NEWYDDION CYMREIG.

EISTEDDFOD FREINIOL A CHENEDL…

Advertising

AT AELOD 0 BWYLLGOR CONWY.

PROPHWYDOLIAETH Y RADI.CALIAID.

GWAITH OLEW WEDI EI DANIO…

CYNHWRF ARALL MEWN ADDOLDY…

FFRWYDRIAD ANGEUOL YN LERPWL.