Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

— LLOFFION CYMREIG. 1

NEWYDDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMREIG. TALYSARN.—Diamheu gennyf fod llawer o ddarllenwyr lluosog Llais y Wlad wedi clywed llawer gwaith am yr hen air, sef dyfais merched sir Gaernarfon." Y tro presennol rhoddaf engraifft o'r hen air i'r lluaws darllenwyr ag sydd oddiallan i sir Gaernarfon, o dan y penawd-" Pender- fyniad gwraig i sobri ei gwr.Heb fod yn nebpell o chwarel Talysarn, y mae gwr a gwraig yn byw, ac y mae y gwr, yr hwn sydd yn gweithio yn y chwarel uchod, yn un bur hoff o drwyth Mr John Heidden. Yehydigwythnosau yn ol aeth y cyfaill crybwylledig at ei waith, ac wedi i ychydig o oriau fyned heibio, daeth i'w feddwl mai nid annheg fuasai iddo roddi y gweddill o ddiwrnod i wasanaeth ei eilun Bacchus, ac felly y gwnaeth. Ond nid oedd y cyfaill yn foddlon i'w wasanaethu am y darn- diwrnod yn unig, ond aeth atti bob boreu yn olynol, er fod ei wraig dan orfodaeth 1.W anfon i'r chwarel bob dydd; ond mor fuan ftg y byddai y wraig o'i olwg, byddai yntau o olwg y chwarel. O'r diwedd blin- odd y wraig ei hebrwng i'r chwarel, a phenclerfynodd gymmeryd llwybr arall i'w gobri. Boreu dranoeth, sef dydd Sadwrn, cyfododd y wraig yn foreuaeh nag arferol, a ffwrdd a hi gan gymmeryd gyda hi ei holl ddillad, ac ymaith y bu hyd yn hwyr y noson hono. Yn mhen ychydig ennyd wedi iddi.gychwyn, daeth yn amser iddo yntau ymysgwyd o'i orweddfa. O'r diwedd, er ei fod bron a ffaelu a symmud gan sal- wch, ac mewn syched ofnadwy, ymgripiodd i lawr y llofft, a dyna He y bu am amser maith yn chwilio am ei ddillad, ac yna am ei wraig; ond y canlyniad a fu, gorfod arno aros yn y ty trwy gydol y dydd, heb ddim i'w amddiffyn rhag oerni. Yr wyf yn gobeithio y cymmer gwyr a llangciau leuaingc Talysarn fawr ofal rhag dilyn y q 9 fath esiampl a'r hwn a grybwyllwyd yn yr hanesyn uchod.-Darothy. BLAENAU FFESTINIOG.—Cyjarfoc[ ymad- awol y Parch. Hugh Hughes.—Nos Fawrth, Mecli 1, yn Ebenezer, capel y esleyaid, cynnaliwyd cyfarfod ymadawol i'r gwr uchod. Cymmerwyd y gadair gan Gutyn Ebrill, a chymmerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Maistri 0. Thomas, Morgan Jones, Jean Glan Prysor, D. Jones, Ysw., (Epydd ¡- Min-y-don) C. Jones, R. Price, Robert Roberts, a llawer ereill. Bu Mr Hughes yn llafurio am ddwy flynedd ar y gylch- daith, ac y mae yn awr yn myned i Gaer, gybi, ac y mae ei olynydd wedi gafael yn ei swydd, sef y Parch. Moses Roberts.— Damweiniau — Y mae yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn hynod am ei damweiniau, ond nid oes neb wedi cyfarfod a'i ddiwedd, trwy drugaredd.—Y mae pwyllgor cyfarfod llenyddol chwarel Mr Holland wedi llwyddo i gael gwasanaeth y cerddor talentog Isalaw. Cynnelir eu cyfarfod y mis nesaf. Drwg genym glywed fod B. J. Howells (Ystwythian,) yn ymadael a'fi gwlad, oblegid y mae efe yn lienor gwych. -Rhywitn. LLANDDONA.—Dydd Mercher, yr 2fed cyfisol, oedd ddiwrnod ag yr edrychid yn mlaen tuag ato gyda llawenydd a hyfryd- wch gan ddeiliaid Ysgol Sul Eglwys Llan- ddona. Ar y diwrnod hwnw y bwriedid rhoddi gwledd i gorph a meddwl yr ysgol uchod yn nhref brydferth Llandudno. Yn foreu dydd Mercher cyfeiriasom ein cam- rau tua Beaumaris, am y bwriadem wneud y daith ar fwrdd y Fairy, ond o herwydd gerwinder y tywydd ar yr adeg hono o'r dydd, dycbwelodd yr agerlong i Bont Menai yn ol, a gorf i ninau aros yn Beau- maris. Trwy garedigrwydd y Dr. Brisco OWED, Y yaer, cafwydd benthyg y Town Hall am y dydd. Hefyd cafwyd caniattad caredig y Cadben Bulkeley i fwynhau ein hunain o fewn muriau castell henafol y dref. Ganol dydd cafwyd einiaw yn y Town Hall, a the a bara brith yn y pryd- nawn, a digon o chwareu yn y castell. Yn wir, yr oedd y plant yn eu llawn hwyliau. Yr oedd cryn lawer o drafferth i ddiwallu angenrheidiau y cwmni fel hyn oddi car- tref, ond cafwyd gwasanaeth gwerthfawr Mrs Jones, Tanygraig; Miss Jones, Hafod- wen; Miss Jones, Goddefi Miss Roberts, Tywyn a Miss Hughes, Tanygryddyn. Yn mrig yr hwyr dychwelasom adref wedi mwynhau diwrnod hyfryd iawn.—Go- hebydd.

EISTEDDFOD FREINIOL A CHENEDL…

Advertising

AT AELOD 0 BWYLLGOR CONWY.

PROPHWYDOLIAETH Y RADI.CALIAID.

GWAITH OLEW WEDI EI DANIO…

CYNHWRF ARALL MEWN ADDOLDY…

FFRWYDRIAD ANGEUOL YN LERPWL.