Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

AT BWYLLGOR EISTEDDFOD : FFESTINIOG.

-_..____.-_-----YR HYN A GLYWAIS.

----__-___-------LLITH LLYGADOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLITH LLYGADOG. FONEDDIGION,-YR w .f,er's cryn amser bellach heb ymddangos mewn ffram lith- yddol ar ddalenau Llais y Wlad, a'r rheswm am hyny ydyw fy mod ers am- ryw wythnosau bellach yn mwynhau holidays yn awelon iachus bryniau Doly- ddelen. Yn ol fy arfer ymwelais ag ysgol- dy Dolyddelen, yr hon sydd dan ofal Mr E. Thomas, yn cael ei gynnorthwyo gan Mrs Thomas a Mr J. M. Hughes, Bettws- ycoed. Y mae yr ysgol mewn sefyllfa foddhaol iawn, yn anrhydedd i'r managers, ac yn glod uchel i'r athraw a'i gynnorth- wywyr. Cofier nad wyf fi, mewn un modd, yn gwenieithio i neb wrth ddywedyd byn, ond yr wyf yn selio hyn oddiar report J. Rhys, Ysw., M.A., arolygydd ysgolion dros ei Mawrhydi, yr hwn a ddaeth i law ers ychydig ddyddiau yn ol, a'r hwn sydr] fel y canlyn This school is progressing rapidly." Dyna ef, air yn air ac onid yw yn llefaru yn uchel am sefyllfa yr ysgo, ac am fedrusrwydd a gallu yr ysgolfeistr i gyflawni y swydd bwysig sydd wedi ei hymddiried i'w ofal? Hefyd, dymunwn alw sylw y rhieni at hyn, gan adgoffa iddynt eu dyledswydd tuag at y plant a'u mheistr, trwy eu hanfon yn gysson i'r ysgol. Byddent trwy hyny yn cynnal breichiau yr athraw, modd y gall ddyrch- afu yr ysgol i safon uwch eto y flwyddyn nesaf. Yr oedd y grants a ennillwyd yn 69p. 5s. Oc., neu yn fwy o 27p. na'r flwydd- yn flaenorol. Dyma ffaith eto yn profi llwyddiant yr ysgol; a phan y nodaf yn mhellach fod yr ysgol wedi pasio yn ol 89 y cant, a. bod y 1st class wedi pasio yn Uwyddianus yr arholiad yn algebra, ac hefyd fod y pupil teachers, sef y Meistri H. M. Williams a J. M. Hughes, wedi myned trwy eu harholiad yn Ilwyddianus, y mae yn ddiainheu genyf fod yr oil ffeith- iau hyn yn rhwym o ennill cefnogaeth rhieni y plant, a phawb sydd yn teimlo ddyddordeb mewn addysg. Yn bresennol symmudaf yn mlaen i grybwyll am yr anrheg o de a bara brith a roddwyd gan foneddigion yr ardal i'r plant ar y 3ydd cyfisol. Yr oedd y byrdd- a u wedi eu parottoi yn yr ysgol, gan foneddigesau yr ardal. Ffurfiwyd y plant yn ddwy adran ar lawnt yr ysgol, er eu hannerch, yr hyn a wnaethpwyd yn foddhaol iawn yn nghanol banllefau byddarol. Wedi clirio y byrddau, ffurfiwyd gorymdaith i Brynbedd, He y rhoddwyd y plant i gystadlu am wobrwyon gwerthfawr, mewn gwahanol gampau diniwed, dan gyfarwyddyd De Wolfe, Ysw., y Parch. H. E. Williams, ficar; D. Thomas, Capel Curig; ac R. G. Ogden, Bettwsycoed; a'r Dr. Maclaire, principal King's College, Llundain a'r Meistri R. R. Williams, Bwlch; E. Thomas, C.M.; W. Roberts, P.C.; J. M. Hughes, pupil teacher, a "Llygadog," eich gohebydd. Aeth y plant trwy eu chwareuon yn foddhaol iawn ac ennillwyd gwobrau yn amrywio o 4s. i 5s. ganddynt. Wedi ohoni hwyrhau, ffurfiwyd ail orymdaith i'r ysgoldy, lie y rhanwyd y certificates i'r ysgolorion Uwyddianus yn y gwahanol ddosparth- gan y Dr. Ma claire, yr hwn a an- nerchodd y plant a'r gwyddfodolion yn gampus, ar fedrusrwydd yr athraw, a sef- yllfa yr ysgol. Ac wedi y diolchiadau arferol terfynwyd y diwrnod mwyaf difyr a dreuliais erioed, yn nghanol mor o leis- iau cerddorol, a tharawiadaia per a swynol dant y delyn. LLYGADOG.

-=" ! IOAN MALDWYN A PLEIDIWR…

PENBLETH PRIODASOL.

DAMWAIN ALARUS AR Y RHEILFFORDD.

FFRWYDRIAD ANGEUOL. :