Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 18, 1874.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD GWENER, MEDI 18, 1874. fi; Y DDWY OCHR I'R DDALEN. Hen ddywediad cySredin ydyw fod dwy ochr i bob ddalen, a chan y eredwn y gellir ei gymmhwyso at achos y BarnwrVaughan Williams, goddefer i ni amcanu gwneud hyny. Yr ydym wedi cael mantais i ym- gydnabyddu ag arferion y boneddwr hwn, cyn dyfod o hono yn ymgeisydd am an- farwoldeb drwy gyfres o ymddygiadau ag ydynt wedi eyffroi y wlad. Yn y blynydd- oedd a aethant heibio, rhaid cydnabod na nodweddid ei ymddygiad a dim anymunol namyn yehydig brinder amynedd, ac o ganlyniad y mae yn anhawdd rhoddi cyf- rif am y cyfnewidiad llwyr sydd wedi dy- fod drosto yn ystod yr ychydig fisoedd diweddaf heb gydnabod ei fod yn dioddef oddiwrth rhyw anhwylder. Nis gall neb gyfiawnhau ei weinyddiad llawdrwm o awdurdod a dybiai yn ei feddiant; a naturiol ddigon i ddigofaint y wlad gael ei ennyn i'r graddau eithaf gan garchariad yr hen yriedydd parchus o Rhyl. Fel yr esboniodd Mr Watkin Williams yr adran o'r gyfraith, ni chynnysgaeddir barnwyr ag awdurdod i garcharu ond i'r dyben o Bicrhau heddwch a gweddeidd-dra yn eu llysoedd; ac y mae bygwth traddodi cyf- reithwyr parchus i garchar yn rhywbeth mwy na digon. Etto, dyna y cwrs y mae Mr Vaughan Williams wedi tybio yn ddoeth ei fabwysiadu mewn amrywiol lys- oedd diweddar ac yn ein tyb ni yr oedd yn llawn bryd cymmeryd mesurau effeith- iol er rhoddi terfyn uniongyrchol ar yr hyn yr ymddangosai yn draha anyoddefol. Yr oedd gweithrediadau y cyfarfod pwysig a gynnaliwyd yn Rhyl yr wythnos ddi- weddaf yn cael eu nodweddu a'r holl ddif- rifoldeb a weddai i'r achos yr ymdrinid ag ef, ac ymgadwai y gwahanol lefarwyr o fewn terfynau cymmedroldeb tra yn cyffwrdd ag ymddygiadau rhyfedd Mr Vaughan Williams. Rhoddid ystyriaeth ddyladwy i'r syniad y gallasai, y barnwr fod yn dyoddef oddiwrth rhyw anhwyl- der; ond a chaniattau hyny, yr ydym yn gorfod cydsynio ag un o'r llefarwyr pan y dywedai fod cyfrifol- deb mawr yn gorwedd ar ysgwyddau ei feddyg a'i berthynasau. Tueddir ni i gredu ddarfod i'r cyfnewidiad eglur yn ymddygiad Mr Williams gael ei gyn- nhyrchu gan anhwylder; ond, tra yn cydymdeimlo ag ef o dan y fath amgylch- iadau, nis gallwn feio y wlad am wrthod ymgymmodi a'r driniaeth a dderbyniai yn ddiweddar oddiar ei law. Nid amcan y cyfarfod ydoedd erlid na diraiygu y bamwr o gwbl, ond ystyried y moddion goreu er sicrhau gweinyddiad cyfiawnder yn deg a didramgwydd ac os gorfydd- odd cyndynrwydd i'r wlad gymmeryd y flaenoriaeth yn yr achos, wrth ddrws Mr Williams neu ei berthynasau, dyledswydd eglur pa rai ydoedd pwyso arno i ymddi- swyddo, y gorwedd yr holl gyfrifoldeb. Hysbysir bellach fod y barnwr wedi ym- ddiswyddo; ond carasem ni weled y cyfryw gwrs doeth yn cael ei fabwysiadu cyn i'r wlad orfod penderfynu dwyn yr achos gerbron yr Arglwydd Ganghellydd, yr hyn a leiha y gobaith- am flwydd-dal. Modd bynag, os yw yr achos heb ei anfon i fyny yn ffurfiol, carem weled ein cyd- wladwyr yn arfer pob gochelgarwch a chymmedroldeb mewn achos ag y dylid ymdrin ag ef gyda graddau helaeth o dynerwch. Nis gall neb sydd wedi arfer mynychu y llysoedd yn ystod y blynydd- au diweddar lai na chydnabod fod y Barnwr Williams yn feddiannol ar ddysg, gallu, ac annibyniaeth digonol i gyflawni ei ddyledswyddau pwysig gydag effeith- iolrwydd boddhaol; ac os ydyw ei anallu presennol yn tarddu o'r ffynnonell a awgrymwyd, y mae yn wrthddrych tos- turi a chydymdeimlad yn hytrach na gwawd ac erledigaeth. Os ydyw y rhybudd o'i ymddiswyddiad eisoes yn nwylaw yr Arglwydd Ganghellydd, dichon mai afreidiol fyddai i'r cyhoedd weith- redu ymhellach yn yr achos ond os gwelir yn ddoeth anfon deiseb i fyny, credwn y gellid ar yr un pryd annog rhoddi blwydd-dal i'r barnwr, pan yr ystyrir yn deg a diragfarn y ddwy ochr i'r ddalen.

AT CRAIG Y FOELALLT.

RHANU YR YSBAIL.

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

Y DIWEDDAR CALEDFRYN.

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN.

GWEITHIAU CALEDFRYN.

. . BETHESDA.