Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 18, 1874.

AT CRAIG Y FOELALLT.

RHANU YR YSBAIL.

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

Y DIWEDDAR CALEDFRYN.

LLYTHYR LLWYNOG CWMSILIN.

GWEITHIAU CALEDFRYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWEITHIAU CALEDFRYN. MEISTRI GOLYGWYR,-Wythnos nen ddwy yn ol darllenaisgydamawrddyddor- deb, ysgrif odidog eich gohebydd "Math- afarn," mewn pertbynas i ddygiad allan weithiau yr anfarwol Caledfryn. Bum yn rhyfeddu fwy nag unwaith na buasai rhai o wir gyfeillion a chyfoedion y bardd enwog wedi ymaflyd yn y gwaith o ddwyn allan argraphiad hardd o holl gynnyrchion rhyddiaethol yn gystal a barddonol y bardd a'r darllithydd ymadawedig. Dyro- munol fyddai genyf pe ymhelaethai eich gohebydd "Mathafarn" ar destyn ag sydd mor ddyddorol. Byddai dygiad allan ei brif draethodau, yn nghyd a'i brif ddarlithiau yn gaffaeliad nid bychan i'r genedlaeth sydd yn codi, pa rai a duedd- ant i goethi a diwyllio chwaeth yn enwedig ieuengctyd ein cenedl. Hefyd byddai cyhoeddiad rhai o'i bregethau yn drysor anmrhisiadwy i'r wlad. Mae ei ddarlith nodedig ar Gribddeiliaeth yn wir gyn- nwysfawr, hefyd ei ddarlith ar Ryfel a Heddwch sydd rymus ac addysgiadol, yn gymmaint felly fel nas gall yr un dyn diragfarn ei darllen heb deimlo yn ddwys niweidiau, effeitbiau, a galanastra ofnadwy rhyfel, neu o leiaf1 a achosir gan ryfel. Beth ddywed y dysgedig S. R. o barth dygiad allan y fath drysor ? Credwyf mai yn ei law ef y dygid allan y trysor hwn gydag anrhydedd. Gobeithio yr ymeifl rhywun cymmwys yn y gwaith rhagllaw, ac nad adewir i gynnyrchion y fath awawc

. . BETHESDA.