Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

YR HYN A GLYWAIS.

GWRTHDARAWIAD ALAETHUS AR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWRTHDARAWIAD ALAETHUS AR Y RHEILFFORDD. UGAIN 0 BERSONAU WEDI EU LLADD A HANNER CANT WEDI EU CLWYFO. Cymmerodd un o'r damweiniau mwyaf arswydus le nos Iau yn Thorpe, ger Nor- wich, drwy i ddwy gerbydres ddyfod i wrthdarawiad a'u gilydd. Rhuthrodd y ddwy gerbydres i'w gilydd gyda grym ofnadwy, a'r eiliad nesaf yr oedd y dinystr yn annesgrifiadwy. Ymgodai y ddau beiriant bron yn unionsyth, a theflid y cerbydau y naill ar gefn y llall, tra yr oedd amryw o honynt wedi eu hyrddio latheni oddiwrth y llinell. Wrth glywed trwst y gwrthdarawiad rhutbrodd y tref- wyr i'r llanerch, ac yr oedd yr olygfa a'u cyfarfu yn arswydus i'r eithaf. Yr oedd pwys y nwydd-gerbydres drom wedi gyru cerbydres y teithwyr o'i blaen, gan falurio y cerbydau yn ysgyrion. Gydag anhaws- der mawr y gwnaed ymchwiliad i'r crug- Iwyth o ddinystr mewn trefn ifestyn cyn- northwy i'r rhai oeddynt heb gyfarfod a'u hangeu yn ddisvfyd. Yn ebrwydd cafwyd y ddau beirianydd a'r tanwyr wedi ei lladd yn y fan, gan mor sydyn ydoedd y gwrth- darawiad. Gwefrebwyd am gynnorthwy meddygol, ac yn y cyfamser ymdrechai torfeydd o bobl i achub y clwyfedigion. Yr oedd y teithwyr yn gorwedd o dan y malurion, a chanfyddwyd yn fuan fod nifer mawr o honynt wedi eu lladd. Yr oedd yr ysgrechadau am gynnorthwy yn arswydus o dorcalonus, a chyn pen nemawr amser yr oedd pedwar-ar-bym- theg o gyrph meirwon wedi eu darganfod,tra yr oedd nifer mawr wedi eu clwyfo yn dost. Ceid rhai wedi ei dirwasgu mor echryslon fel yr oedd yn angenrheidiol arfer y gofal mwyaf wrth eu symmud. Cyrhaeddodd nifer o feddygon, a thra y gweinyddid cyn- northwy i rai o'r clwyfedigion, cludwyd y gweddill i'r meddygdy. Symmudwyd y rhai ag yr oedd yn beryglus eu cludo i'r meddygdy, i'r annedd-dai eyfagos, lie y gorweddant etto mewn cyflwr peryglus o dan ofal meddygol. Y mae 28 o bersonau ar hyn o bryd yn gorwedd yn y meddyg- dy, a bernir fod o leiaf haner cant wedi eu clwyfo. Pe digwyddasai' y ddamwain tua chan' llath yn agosach i Norwich, buasai i'r cerbydresi gwrdd ar bont goed sydd yn croesi yr afon, a diamheu y profasai y canlyniad yn fwy alaethus fyth. Ym- ddengys ddarfod i'r ddamwain gael ei hachlysuro drwy i un o'r ddwy gerbydres fod ychydig ar ol ei hamser, a chyhuddir y swyddogion o esgeulusdra yn peidio stopio y naill neu y llall o'r cerbydresi, gan fod eu hamser o fewn ychydig o fun- udau i'w gilydd, a'r ddwy yn rhedeg ar yr un llinell sengl i gwrdd eu gilydd. Agor- wyd y trengholiad ddydd Sadwrn, a gohir- iwyd ef am ychydig ddyddiau, pryd y credir y bydd i'r Bwrdd Masnach anfon swyddog i lawr i wylio y gweithrediadau.

[No title]

LLOFFION CYMREIG.

NEWYDDION CYMREIG.

GWEITHIAU CALEDFRYN.