Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y PRIF FARCHNADOEDD CYMREIG.

[No title]

Y DYN A'R LANTAR,

.-__-_. LLOFFION O'R DEHEUDIR.

Family Notices

CHWAREL Y PENRHYN. 1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

nygiodd y penderfyniad-" Ein bod ni fel gweithwyr yn anghymmeradwyo pob- peth a amcenid i iselhau a thaflu anfri ar gymmeriad ei arglwyddiaeth, yn nghyd- a'i barchus oruchwylwyr, W. Francis, Ysw., J. Francis, Ysw., ac R. Morris, Ysw., yn ngwyddfod y cyhoedd, a ymddangos- odd. yn y wasg ar y pwngc," yr hyn a eiliwyd gan Mr Thomas Knowles, ac a gymmeradwywyd drwy guriad dwylaw. Mr William Jones, Cefnybryniau, a gynnygiodd y penderfyniad nesaf, yn annghymeradwyo ymddygiad-gohebwyr a golygwyr newyddiaduron, a phob dosbarth a ymyrai rbyngom ni fel gweithwyr ar un Haw, ac Arglwydd Penrhyn ar y Haw arall, ac yn dymuno am derfyn buan i gael ei roddi ar y fath ymddygiad iselwael a diangenrhaid. Mr William Jones, Rhiwlas, a eiliai f penderfyniad oberwydd dywedai fod anfri wedi ei daflu arnynt hwy fel gweithwyr, wrth eu galw yn "gaethweision gwynion." Pasiwyd yn unfrydol. Mr Owen Pierce, Penybryn, a gynnyg- iodd y chweched penderfyniad-I I Ein bod ni yn cyflwyno ein diolchiadau i Arglwydd Penrhyn am ei haelioni a'i garedigrwydd gwastadol tuag attom fel ei weithwyr, ac hefyd i'n parchus oruchwylwyr am eu daioni a'u teimlad caredig tuag attom bob amser." Afr Huch Davies, Cilgeraint, a eiliodd y penderfyniad, a pbasiwyd ef gyda brwd- frydedd, a rhoddwyd amryw fanllefau. Wedi pleidlais o ddiolchgarwch i'r cad- eirydd, cafwyd yr antbem Genedlaethol Gymreig gan Eos Idwal, pa un a ganwyd yn deyrngarol i derfynu y gweithrediadau. Fel yr awgrymwyd eisoes, y mae y go- fynion, pa rai sy'n ymddangos fel wedi tyfu i fyny er Gorphenaf, 1870, yn awr wedi eu setlo ar y seiliau a anfonwyd gan Arglwydd Penrhyn o Bournemouth. Hys- byswyd mewn rhai papyrau fod ei ar- glwyddiaeth wedi pennodi cyfarfod rhyngddo ef a'r dynion, a chan ereill ei fod wedi eu cyfarfod. Ni chymmerodd y fath gyfarfod le, ac ni phennodwyd un o gwbl. Setlwyd yr holl achos drwy oruchwyliwr yr etifeddiaeth, Mr Pennant Ll c,,T d. j lysbyswyd mewn papyr perthynol i Lorpwl fod Ileiaf-dhl cyflog wedi ei ben- der fynu arno. Y mae hyn yn anghywir gwrthwynebodd Arglwydd Penrhyn bob amser gydsynio i leiaf-dal, heb sicrwydd boddhaol y eyflawnid swm teg o waith mewn ad-daliad am dano. Noda y Courier fod pwyllgor o weith- wyr wedi eiffurfio yn y chwarel i ym- chwilio i gwynion. Y mae y gweithwyr, wrth gwrs, at eu rhyddid i ffurfio y fath drefniad ag a farnont yn oreu, ond nid oes a fyno Arglwydd Penrhyn ddim a phwyllgor, ac nid yw y trefniadau rhyng- ddo ef a'i weithwyr yn cymmeryd un i mewn.