Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YMHEBGBRAETH YR EHANGDEE.…

LLANIDAN.

-.------------.."__._"-----.-_-DAMWAIN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAMWAIN AR Y RT-IEILFFODD GER ABERGELE. Nos Iau, wythnos i'r diweddaf, cym- t y merodd damwam le ar y rheilffordd ger Abergele, o fewn ychydig-latheni i't llan- erci, lie y digwyddodd y ddamwain hir- gofiadwy yn 1868, pryd y cyfarfyddodd 33 o bersonau a'u hangeu. Ymddengys fod nifer o platelayers yn cyweirio y rheil- iau yn agos i'r troad yn y llinell, ac yr oedd un o'r rheiliau wedi ei thynu ymaith pan ddaeth y gerbydres o gyfeiriad Ban- gor drwodd ar ei ffordd i Rhyl. Yn an- fiodus ni ddangoswyd yr arwydd o berygl yn brydlon, a chyrhaeddodd y gerbydres y llanerch, pan aeth y peiriant a thair neu bedair o gerbydau dros y rheiliau, gan wneud cryn ddinystr ar eiddo. Methai y teithwyr ddeall .yr achos o'r ysgyttiad, a rhuthrent allan yn frawychus gan ysgrechian. Yn ffodus ni anafwyd neb, ac yn gynnar yn y dydd gwnaed pobpeth i fyny er adfer trafnidiaeth* e. l 5 '4 >• v ■"