Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

.LLITH MR. PUNCH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLITH MR. PUNCH. FONEDDIGION,-Ar ol pythefnos o ddiogi, a sorri ar fy swydd iel gohebydd, dyma fi yn dechreu d'od "ataf fy hun," a hyny heb i chwi na neb arall ofyn i mi. 0 herwydd, rhwng cromfachau ielly, ni roddwn i ddim catiad o 'baco am yr hwn y rhaid ei gosi," a'i ddwbio gyda sebon meddal, ar ol digio o honoch ef. Na, rho'wch i mi ddyn a ddigio ac na phecho" ar ol digio, ac yna y mae rhyw siawns y gellir cael ychydig o'r Dyn yn hwnw. Hynyrna fei tippyn o apology, dros oedi cyhyd heb anfon llith. Bellach ni a awn yn mlaen i gofnodi y NEWYDDION PWYSICAF A DIWEDD- ARAF 0 BONTNEWYDD A MANAU EREILL. -Bu Mr Stephan mewn ymdrech a physg- odyn mawr, tuag wyth ugain o bwysau ond methodd ei ddal, er fod ganddo drwydded i hyny hefyd. Gwerthir "cig ffres yn y Bontnewydd bob dydd Sadwrn, trwy, y flwyddyn! Ac os nad eir i'w brynu ar "wîb ulw," nis geilir ei gael am bris yn y byd hyd y Sadwrn di- iynol, gan nad oes yma neb yn ei gynnyg ar werth, ond yn unig ar ddydd Sadwrn, fel pe byddai ei fwyttawyr oil yn ymprydio ar y rhan araii o'r wytnnos Mae B- Penlon yn dai i gario yn mlaen ei harfer- iad drwg o ymosod ar ei chymmydogion diniwed, am yr hyn nas gwyr neb ond y hi a'i hewythr o'r Ty Cynnes. Mae gwraig y yn cymmeryd arni ei bod yn myned i'w gwely yn gynnar bob nos, ond, yn lie hyny, yn arfer dirlodd y ganwyll, a myned i ffenestr ei hystafeil- wely, i wylio pawb el heibio yn hwyr, er mwyn cael testyn i "gleccian" ar bobi. Mae y "N. W. N, G. Railway" wedi cychwyn o'r diwedd, ond ofnir y bydd iddynt sefyll etto cyn cyraedd i Fedd- gelert. Mae Barcut Rhostryfan wedi myned yn ddall bost, oddiwrth y dychryn- dod a gafodd yn mis Awst, pan gollodd ei ysglyfaeth yn ymyl yma. Ofnir am ei adferiad i'w swydd. Ond credir y bydd iddo gael y swydd o werthu yr H- C- ar heolydd tref Caernarfon, yn lie y gwrth- odedig, Thomas Jones, aruan! Mae lVloelwynfab yn dechreu gloewi ei "ffidil" tuag at fyned i'w chwareu yn Eisteddfod Pwlllieli yn 1875. Mae Gwas Mr Punch yn debyg o gael pwdin i'w ginio y N adolig nesaf, gan ei fod wedi myned yn ffrind a phawb yma, oherwydd ei wasanaeth gwerthfawr i'r trigolion. Mae rhai o drigolion Mon, "iviain Cymru," wedi diystyru y gwaharddiad hwnw-" Ña theflwch eich gemau o flaen y moch," a'r canlyniad fu i'r moch gyflawni y bygyth- y iad sy'n dilyn hyny, sef eu sathru dan eu traed," a "throi a rhwygo yr esgeuluswyr. Mae cyfiawnder yn gwaeddi ar rai o berchenogion anifeiliaid yn y gymmydog- aeth hon, cedwch eich anifeiiiaid rheibus gartref, ac na adewch iddynt fyned i feusydd a gerddi eich cymmydogion i ddinystrio eu cynnyrch." Bu R— J- yn eistedd ar frigyn coeden i wylio y pysgod yn yr afon islaw; ac erbyn iddo ddyfod i lawr tua chymmydogaeth bon y goeden, pwy oedd yno ond Mr Stewart, y ceidwad, yn eistedd ar gangen o'r un pren, yn eu wylio yntau Anfonir llythyrau dienw at bersonau cyhoeddus, yn yr ardal hon, oddiwrth bersonau diegwyddor, er mwyn ceisio pysgotta galwadau," er cael arian i'w llogellau, a hyny ar draul darostwng cymmeriadau y rhai nad ydynt yn holloi glir oddiwrth y pechod o bysgotta pysgod mawr heb drwydded. Hefyd, gwneir twrf yn nghylch pysgodyn mawr" a fu yn iodgio mewn perllan afalau am un noson, er's amser maith, ond sydd erbyn hyn wedi ei hen dreulio (digested) yn ngrhombil 19 rhywun neu rywrai; ac am hyny i ba ddyben yr ant i faeddu baw" yn ei gyich, bellach Y mae hyny mor afres- ymol ag ydoedd dywediad "Wil Fron- heulog," er's talm, yr hwn, pan yn cerdd- ed gyda glan yr afon, yn nghwmni y rhai oeddynt yn hoff o bysgotta, a waeddai, duar anwyl! fuo dest i mi weled pysg- odyn mawr gynddeiriog yr wan!" Mae yr hen felinydd wedi "cyfansoddi" englyn i bont newydd Mr J. Ll. Jones. Dodwn ef yn y llith, gan fawr obeithio na bydd i'r Archfardd godi cynhwrf oblegid fod ynddo efelychiad o'i arddull ef 0 farddoni." Dyma fo PcDtioewydd'splenydd yw hon—i gario ltbyw gewri tips afon, Llirxhod y weilgi fel milgi, Odd'ytoa i'r mor heli! RHEN FELINYDD." "Y BYD YN ERBYN Y Gwir, TRA- MOR TRA- BR.YTHON/' &c.—Bydded hysbys i bobol 'Lloegr, Cymru, Llanrwst, ac Ynys Enlli, y cynnelir eisteddfod fawr- eddog a brexihinol yn Llanbidynodyn, pan fo'r haul yn Haw natur, a'r stingy wedi ei newid ei standing, pryd y cyfrwyir y rhai salaf ar y testynau canlynol: — 1. Atbrod, ar helyntion boreu oes y dyn hwnw na chlywodd neb erioed son am ei gyffelyb. Gwobr, tair ffiolaid o gnau Ffraingc, a phwys o flacking. 2. Awdl Farwnad er coiiadwriaeth am y diweddar Miss Liberal, yr hon a fu farw o'r decline, ac a gladdwyd yn meddrod ei phriod Mr Humbug. Gwobr, Tanki," a blychaid o'r addewidion goreu erioed, y rhai a roddir gan ei charedigion sy'n galaru ar ei hoi! 3. Tri englyn (talcen sgwar) i'r creadur 1 rhyddfryc-tig hwnw" sydd yn amcanu myned yn "fawr," ar draul rhwbio a dwbio gwynebau ei ffrindiau a sebon meddal, a'u sychu gyda thowal wedi ei wau o'r hyn a elwir ffilsyn ffalsach," a hunan-les. Gwobr, nothing at all. 4. Can ddesgrifiadol o'r helyntion hyny fyddont yn destyn ymddiddan'gwragedd wrth yfed te, ynte ?" Gwobr, footless stocking ivithout a leg, b.y., ",Dim byd," yn ol R. S. P. Cyhoeddir y gweddill o'r testynan ar ol i'r eisteddfod fyned heibio, pryd y ceir hysbysrwydd pwy fydd y beirn- iaid, &c. JOHN SIR GAERNARFON JONES, (0004) Ysg. Mwgwdol. Wel, rhaid terfynu y llith. Dyma dwrw Dalydd yn dyfod i lawr yr allt oddiwrth Llanwnda, ac efe a fydd heibio yma yn chwap gyda hyn, a gwae i ni os byddwn hanner eiliad ar ol yr amser iddo ef gael gafael yn y bag, canys efe a'i melltena gyda chyflymdra o tua dwy filldir yr awr oddiyma i Gaernarfon, yr hyn sy'n ei wneud yn ddychryn i'r holl gymmydog- aeth Ac, wrth gwrs, rhaid i bawb roddi darn go dda o'r ffordd iddo, onide efe a faluria y cyfan yn grybibion ulw! Cofiwch fi at dd—1 y w-g, a dy- wedwch wrtho am fod yn ofalus wrth gylchio y llith bresennol, rhag ofn iddo ei chracio a cholli y nocld (meddwl) sydd ynddi; ac efe a gaiff Christmas box genym. GWAS MR PUNCH. O.Y.—Ar ol anfon ein llith ddiweddaf, daeth "telegram" attorn o D. T. yn hys- bysu fod "Yr Hen Gorph" wedi esgeu- luso cyflawni ei ddyledswydd a'i addewid o fyned i dy tlawd i gadw wylnos," lie yr oedd plentyn wedi marw. Dywedir mai yr achlysur o'r oediad ydoedd fod y brethyn llawr (floor-cloth) wedi ei godi. Hefyd, hysbysir fod y gweinidog wedi peidio myned yno i godi'r corph." Os yw yr uchod yn ffaith, gwrided Shoiz.- Ynfydion-o bob dosbarth a berthyn i'r hil ddynol, dyma y dosbarth anhawddaf ei oddef mewn cymdeithas. Daethom i gyfarfyddiad ag un o'r cyfryw yn ddi- weddar mewn ty cyhoeddus yn y gym- mydogaeth lie yr ydym yn trigo. Ac, ar 01 bod yn ei gwmni am tua dau funyd. deallasom i ba ddosbarth y perthynai, a'i fod newydd gael ei daraw y tu ol i'w ganolbwynt a dyrnaid o soig neu, mewn geiriau ereill, wedi cael smell fach o'r ddiod frag, yr hyn oedd wedi naturioli yr olwg arno i'r fath raddau nes ydoedd efe yn edrych yn hollol fel efe ei hun—yn ynfyd Ond os oedd yr olwg arno yn ynfyd yr oedd ei ymadroddion yn profi ei fod felly mewn gwirionedd, "canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau." Ond nid awn i ail adrodd ei chwedlau di- flas. Digon yw dyweyd mai ei unig am- can ydoedd ceisio dyrchafu ei hun ar draul darostwng ereill. Ymffrostiai lawer yn ei Saesneg; ond yr oedd ei holl eng- reifftiau o'i allu i siarad Saesneg yn profi ar unwaith mai ymffrost wag ydoedd, canys yr oedd yn rhoddi ei droed ynddi bron bob yn ail gair A phan ofynwyd iddo dewi a gwneud swn drwg felly, yn nghlyw pobl, gwrthodai, ac ed- liwiai nad oedd yno neb yn deall Saesneg yn well nag ef! Hefyd, ymffrostiai ei fod yn llenor a bardd, ac mai ei enw barddonol ydoedd Dwl-ynfyd Langc o Lanfair;" ac, yn wir, i'n tyb ni, efe a ddewisodd enw pur briodol am dano ei hun, canys cafwyd allan y tro hwn ei fod yn cyfatteb yn hollol i'r ddau ansoddair sydd yn yr enw, sef "dwl" ac ynfyd," beth bynag am y rhan ddiweddaf o'r enw. Efe ei hun a wyr pa un ai llangc o Lan- fair ydyw, ai ynte rhywbeth arall oddi- yno. Ac wrth feddwl am dano daeth y llinellau canlynol i'n meddwl If Dwl-ynfyd langc o Lanfa'r Sy'n waeth ei swn na begar Ar ol cael smell o'r ddiod gref Fe wna l'hyw lef aflafar Pan bydd o mewn cwmpeitii, Uwchben y pot a'r bieci, Mae am i bawb o fewn y lie Ei 'styried e' a'istoii. Er iddo fod mor benwan Ag adrodd stori drwstan All neb woeud cynlibn mwy na phen 0 honi, o'i ben o'i hunan Wei, bydded iddo weithiau Ymdrechu ciu ei boprau A pheidio bod (tel nod i saetb), Yn waeth nay ef ei hunan. GWAS MR. PUNCH.

TAN TANDDAEAROL YN SHEFFIELD.

EISTEDDFOD LLANDYSSUL.

YMLID YSBRYD YN NGWRECSAM.

[No title]

LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS YN…

LLOFFION CYMREIG.