Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

.LLITH MR. PUNCH.

TAN TANDDAEAROL YN SHEFFIELD.

EISTEDDFOD LLANDYSSUL.

YMLID YSBRYD YN NGWRECSAM.

[No title]

LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS YN LLUNDAIN. Mewn cymmydogaeth isel'a adnabyddir fel Francis-row, Llundain, cyflawnwyd cyflafan arswydus foreu Sul diweddaf. Yr oedd dyn a dynes o'r enwau William Bishop a Mary Anne Ford yn cyd fyw ers tua phum mlynedd, ac yn fynych yn ymrafaelio a'u gilydd. Wedi ymfeddwi ohonynt nos Sadwrn, cyrhaeddasant eu Hetty yn gynar foreu Sul, pryd y cymmer- odd ymrafael le yn nghylch swm p arian, yr hyn a arweiniodd i ymladdfa ffyrnig rhwng y ddau. Rhedodd y ddynes am nawdd i dy cyfagos, ônd daeth Bishop ar ei hoi, llusgodd hi allan, a baeddodd hi yn arswydus. Wedi cyrhaedd ohonynt drachefn i'r lletty adferwyd distawrwydd, ac ni chlybywyd mwy yn eu cylch hyd tua chwech o'r gloch foreu Sul, pan aeth Bishop, gan dybio fod rhywbeth o'i le gydai gydymaith, i chwilio am chwaer iddi. Wedi i bobl ereill a lettyent yn yr un ty ddyfod i mewn gyda meddyg, yr oedd y druanes yn gwbl farw, ac yn ol pob tebygoltwydd wedi trengu ers rhai oriau. Ni cheisiodd Bishop ddiangc, ond rhoddodd ei hun i fyny yn dawel i'r hedd- geidwaid, a chymmerwyd ef i'r carchar, lie y cyhuddwyd ef o lofruddio y drangc- edig.

LLOFFION CYMREIG.