Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
JVw Ready, PRICE THREEPENCE. THREE HOURS IN THE GLEN OP ABER. A gossiping account of Aber and its attractions, by the author of "A Russian Guost Story," &e. Published by Messrs. Douglas Brothers, Bangor. News-ageuts can obtain supplies on the usual terms. "V5 AT EIN GOHEBWYR. Oherwydd diffyo: gofod bu orfod arnom adael allan ein Crynnodeb Wythnosol, ac amryw ysgrifau pwysig o'r rhifyn hwn. CORFANYDD,-Dlwy ryw anffawd, bu i chwi esgeuluso anfoa i ni y bedwaredd ddalen o'ch llytbyr, Gwnewch y diffyg i fyny, a chaiff ymddangos yn ein nesaf. MEWN LLAW.—J. D. Jones, Sylwedydd, Eisteddfodwr, Meddwyson, Cwmbrefi, JoaneD, Ap Huw, R. Powys, Job yr Ail, Gomer Gwalia, Gwyllt Walia, Ellen C. Wil- liams, Elldeym, &c.. Cofied ein Gohebwyr ysgrifenu ar un tu i'r ddalen yn unig, a bod genym hawl i dalfyru eu hysgrifau. Cyn belled ag y gallwn, bwriadwn gau allan newyddion lleol dibwys, er mwyn gwneud y "Llais" ymhob yatyr yn NEWYDDIADUR CYFFREDINOL a CHENEDLA.ETHOL. Pob gohebiaetbau i'w hanfou erbyn bore Mawrth, neu os gellir yn gynt, a'u cyfeirio, —The Editors, LLAIS Y WLAD, Bangor. TELERAU GWERTHIAD "LLAIS Y WLAD." Pris pob copi unigol yw Un Ddimai, neu un Geiniog gyda'r post. Os bydd rhai o'n derbynwyr yn dewis ei gael trwy y Uythyrdy yn rheolaidd, anfonir ef iddynt bob nos lau am Is 3c y chwarter, os telir ymlaen llaw. Anfonir sypynau i Ddosbarthwyr am bedair cein- iogadimaiy dwsin gyda'r tren,aphumceimog gyda'r post OW Pob taliadau, archebion, &c., i'w cyfeirio at Mr K. W. DOUGLAS, LLAIS Y WLAD Office, Bangor. DOSBARCHWYPv YN EISIEU. Carem glywed gyda throad y post oddiwrth y rhai a ddymunent gael eu pennodi yn ddosbarthwyr LLAIS Y WLAD. Cant yr elw arferol, a chan ein bod wedi DYBLU MAINTIOLI Y PAPYR, y mae hyay, ynghyda'r pris isel yn sicrhau CYLCHREDIAD ARUTHROL. Anfoner yn ddioed at y Parchenog, Mr K. \\7 DOUGLAS, Bangor.
DYDD GWENER, MEDI 25, 1874.
DYDD GWENER, MEDI 25, 1874. RHANU YR Y SB AIL. Cymhwysir y penawd hwn genym at y gorchwyl hyfryd o ymwneud a gweddill arianol eisteddfodau; ac amcaneinsylwad- au ar y gorplienol ydyw ceisio dwyn oddi- amgylch ddiwygiad yn y dyfodol. Fel rheol y mae pwyllgorau eisteddfodol mor ddoeth yn eu cenedlaeth a'r cyffredin o blant y byd hwn; a chan wybod fod cefnogaeth gwlad yn angenrheidiol er sicrhad llwyddiant eu hanturiaethau, addawant drosglwyddo unrhyw weddill t arianol deilliedig oddiwrth yr eisteddfodau at ryw amcan cenedlaethol. Yn eu tro, ni fu pwyllgor Eisteddfod Freiniol Bangor yn fyr mewn treiddgarwch i ganfod yr angenrheidrwydd am gefnogaeth gyffred- inol; a chan weithredu ar yr egwyddor o gyfrif cywion cyn eu deor," arfaethasant gyfran o'r ysbail i drysorfa Prifysgol Aber- ystwyth, a'r gweddill rhwng Amgueddfa Bangor a Chlafdy Mon ac Arfon. j Llwyddodd y cynllun i ennill cefnogaeth o bob cwr, a chyfranwyd amryw gannoedd o bunnau er mwyn sierhau llwyddiant yr anturiaeth bwysig, yr hon a drodd allan yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr. Cefnogodd y wlad yr eisteddfod, ac hawliai ar fod i'r pwyllgor efelychu ei ffyddlondeb drwy lynu wrth eu haddewidion. Y mae'n wir na rwymwyd y pwyllgor drwy rym cyfraith, ond dibynwyd ar eu hammodau gwirfoddol, mewn hyder fod gair yn cyn- nrychioli gweitbredo danyramgylchiadau. Yn wir, buasai yn ofidus genym ni gym- maint ag awgrymu anymddiried drwy grybwyll am wasanaeth gwyr y gyfraith yn y fath gyssylltiad, oblegid pa beth yw dyn ond ei air," a buasem yn barod, L ychydig wythnosau yn ol, i sicrhau y cyhoedd na phrofasai y pwyllgor yn 11 ai na'u gair. Erbyn hyn, nid ydym yn j gofidio oherwydd na hawliodd unrhyw I amlygiad o anymddiried y fat 11 aberth oddiar eu dwylaw. < Bellach, y mae yr eisteddfod drosodd, y gôa wedi ei llanw hyd yr ymylon, a'r wlad yn gwylaidd ddisgwyl am gyflawniad yr addewidion a ddelid allan yn gyfnewid am ei chefnogaeth. Yn digswyl, meddwn, oblegid nid ydyw cysgod y gweddill arian- ol wedi cwbl dditianu, serch ei fod yn teneuo o ddydd i ddydd yn nwylaw afrad- lonedd. Dichon y carasai y pwyllgor i ni ddefnyddio yr ymadrodd caredigrwydd brawdol yn hytrach nag afradlonedd, ond •' dylent gofio mai ein dyledswydd ni ydyw cyfryngu rhyngddynt a'r cyhoedd, ac nid gwau hugan ariangarwch. Ychydig wythnosau yn ol hysbysid gyda balcn- der fod cynnyrch arianol yr eis- teddfod yn cJrhaedd y swm enfawr o dri chant ar hugain o bunnau, a llawen- ychid cyfeillion y gwahanol sefydliadau yn y rhagolygon am gynnorthwy sylwedd- ol, ond trodd y sylwedd yn gysgod, ac y f mae y cysgod yn prysur dcliflanu-i ba ZD le ? Rbaid ymfoddloni i ddisgwyl am attebiad cyflawn hyd onis rhyngir bodd i'r pwyllgor roddi cyhoeddusrwydd swyddog- ol i'w cyfriflen. Hyd hyny, ymfoddloned y cyhoedd ar gipolwg ar y gweithrediadau tu ol i'r lien. Yr ydym wedi awgrymu eisoes fod boneddigion y pwyllgor, fel Hywel yn yr hen ddiareb adnabyddus, yn hael hyd afradlonedd ar bwrs y wlad, ac y mae yn gorphwys arnom i brofi dilys- rwydd ein haeriad, yr hyn a amcanwn ei wneud yn ddirodres drwy offerynoliaeth ychydig engreifftiau. Yn y lie cyntaf, cydnabyddant lafur beirniaid ychydig fan bamphledau gyda symiau o ddeg punt ac isod yr un, a gwyr y cy- hoedd mai anfynych y gkyelwyd y fath restr hirfaith o feirniaid ar raglen unrhyw eisteddfod. Gydag ychydig eithriadau, pennodid y boneddigion hyny i feirniadu fel mater o gompliment Ileol, ac ni freudd- wydid am eu gwobrwyo a thaledigaeth swyddogol; ond yr oedd yr arian gweddill yn gorphwys fel yr hunllef ar feddwl rhai boneddigion, a thybid ymarfer tipyn ar y rhinwedd o haelioni y modd mwyaf effeith- I iol i sicrhau esmwythad. Yn yr ail le, wele y swm o ddau gant a deugain a pliuinp o bunauwedi en cyfranu rhwng yr ysgrifenyddion a'r arweinwyr canu, neu namyn un haner cant o bunau i bob un. Pe buasai dwylaw y pwyllgor yn eu llog- ellau eu hunain, ni feiddiasem ryfygu dannod eu haelioni; ond yn anffodus y mae eu haddewidion wedi trosglwyddo yr hawl ar linynau y pwrs i raddau i'r wlad, ac nid yw hithau yn digwydd cymmeradwyo afradlonedd ar ei rhan. Drwy gyfres o'r fath weith-, rediadau caredig y mae y ddwy fil a thri chant o bunnau wedi eu graddol lei- hau i tua thri chant, os nad ydym yn camgymmeryd, ac y mae genau y god eto heb eu cau. Modd bynag, dichon mai cynnildeb wedi y cwbl ydyw yr egwyddor ar ba un y gweithredir ac os felly, gellir yn fuan ddisgwyl llwyddo i airbed traul trosglwyddiad unrhyw gyfran o'r gweddill arianol tuagat chwyddo trysorfeydd y sefydliadau hyny sydd yn disewyl pethau gwych i ddyfod." Deallwn fod cyfarfod o'r pwyllgor wedi ei gynnal nos Fawrth, pryd yr ymdrech- wyd, ar gynnygiad Mr Morgan Richards, i sugno pymtheg neu ugain punt, yn ych- wanegol at y deg blaenorol, fel taledigaeth a gwobrwy i Gweirydd ap Rhys. Gwyddem am y bwriad yn mlaen Haw, oblegid llafur- iai un brawd yn egniol dros amrai ddyddiau i sicrhau cefnogaeth aelodau y pwyllgor i'r cynnygiad. Ni warafunem ni weled Gweirydd yn cael ei dystebu gan y rhai sydd yn credu yn ei haeddiant, ond nid gyda'r bwriad hwnw y cyrchodd y miloedd i'r eisteddfod, ac nid iddo ef y tanysgrif- iodd gwladgarwyr. Ond os am lafur y bwriadaiMorgrugyn Machno i'r pwyllgor ei wobrwyo, yr ydym ni yn credu fod y swm o ddeg punt, a ddyfarnwyd iddo eisoes yn llawer mwy na digon am y drafferth o gydfeirniadu ar bum' cyfansoddiad, a gweddai i gefnogwyr y pymtheg neu ugain punt ychwanegol wrido oherwydd eu hyf- dra ar eiddo y cyhoedd. Ond nid yma y terfynai bwriadau haelionus y cyfarfod nos Fawrth, oblegid hysbysir ni ddarfod i gynnygiad gael ei wneud -ar fod i'r pwyll- gor wobrwyo eu hunain a bathodau aur er cof am weddillion arianol Eisteddfod Freiniol Bangor. Arddengys hyn gyn- nydd pwysig yn hyfdra nodweddiadol yr oes, a gallwn yn naturiol ddisgwyl mai y cynnyg nesaf fydd ar fod i'r holl ysbledd- ach gael ei choroni a gwledd bwyllgorawl. Yr ydym yn meiddio llefaru yn groew a dirodres ar y pwngc hwn, nid yn gym- maint er dannod i bwyllgor Bangor eu tueddfryd haelionus, ond yn hytrach gyda'r amcan o ddylanwadu ar bwyllgor- au dyfodol i ymochel rhag eu hefelychu oblegid, os parheir i dori ainmodau a'r wlad am ychydig yn hwy: bydd yn llawn bryd cynnyg gwobr am feddargraff i'r sefydliad eisteddfodol. Yr ydym yn gwbl argyhoeddedig fod ymysg aelodau pwyll- gor Bangor foneddigion meddiannol ar ormod o anrhydedd i gydsynio a'r fath gyfres o weitbrediadau ond yn anffodus, nid ydynt wedi cael eu rhybuddio o ddyddiad y gwahanol gyfarfodydd, fel y Ilesteiriwyd hwynt i wrthdystio yn erbyn yr afradlonedd. Nis gallwn lai na lIiJJ- wenychu fod digon o wroldeb wedi ei amlygu yn y cyfarfod diweddaf i roddi atfcalfa ar y gwastraff hyd onis telir y dyledion cyfreithlon, ac yn mysg y cyfryw gallwn nodi nad yw llafur cynlluniwr y babeli wedi ei ystyried etto. Diammheu fod y pwyllgor yn ceisio lieddychti eu cydwydodau gyda'r syniad o ddechreu yn Jerusalem, trwy dystebu eu gilydd; ond dymunem eu hadgoffa na ddilea hyn eu dyled i'r wlad, gan yr hon y bydd perffaith hawl yn y dyfodol i edliw iddynt eu ham- modau toredig.
CHWAREL Y PENRHYN.
CHWAREL Y PENRHYN. Yn ein rhifyn diweddaf, digwyddodd camgymeriad bychan yn ein cyfieithiad o'r ohebiaeth yn nglyn a'r anghydweled- iad yn y chwarel uchod. Digwyddodd y camgymeriad drwy adael allan yn ddam- weiniol y frawddeg fel y byddo amgylch- iadau yn caniattau o'r rhif 4 o attebion Mr Pennant Lloyd i'r gweithwyr. Yn gyflawn dylai fod fel hyn :—4. Dynion a bechgyn yn ol 10s yn y bunt.—Bydd i'rcyf- ryw ddynion gael eu cymmeryd i mewn yn y chwarel i fysg cymmerwyr bargeinion, fel y byddo amgylchiadau yn caniattau, ond y mae yn anmhosibl caniattau ar fod iddynt gael eu rhoddi i weithio ar graig ddifudd mewn rhanau o'r chwarel a fwr- iedir adael o'r neulldu.
TANAU MAWRION.
TANAU MAWRION. Torodd tan mawr allan foreu dydd Llun mewn gweithfa olew yn Staleybridge, perthynol i Mr Bagshaw.—Nos Lun cym- merodd tan dychrynllyd le yn Llundain, gan achosi cwbl ddinystr ystorfa gyfan- werthol, a niweidiau pwysig i gynbreswyl- fod Syr Christopher Wren, archadeilad- ydd. Yr oedd y tan o fewn tua hanner cant o latheni i'r fan lie y dywed traddod- iad i Dan Mawr Llundain gynt dori allan.
DAMWAIN ANGEUOL I ■FARCH-OGWR.
DAMWAIN ANGEUOL I FARCH- OGWR. Boreu ddydd Llun, taflwyd Mr C. W. Lyon, o Silverhall, ger Burton-on-Trent, oddiar ei farch, a lladdwyd ef yn y fan. Yr oedd y trancedig yn uchel sirydd swydd Stafford am 1871.
. TAN MAWR YN AMERICA.
TAN MAWR YN AMERICA. Hysbysa brysgenadwri o New York ddarfod i dan dychrynllyd dori allan mewn melin ger Fall River. Lladdwyd | naw ar hugain o bersonau, a chafodd tros ddeg ar hugain eu anafu yn dost.
TAN DIFAOL YN FROSTBURG, AMERICA.
TAN DIFAOL YN FROSTBURG, AMERICA. Hysbysa Mr Tbos. E. Jones yn y wasg Americanaidd fod y rhan fasnachol fwyaf o dref Frostburg yn awr yn gydwastad a'r llawr Ymddengys i'r tan ddechreu yn1 ystordy Beal a Koch, Main street, oddeutu un o'r gloch prydnawa Sadwrn diweddaf, ac mewn llai nag awr, yr oedd yr holl adeilad mawr a enwyd yn wenfflam ddych- rynllyd. Cymmerodd yr adeiladau am- gylchynol dan yn ebrwydd, nes ymestyn yn mlaen ac ol hyd i ystor Hitchins a'i Frodyr, ar un pen, ac hyd i Broadway ar y pen arall. Daeth yr amrywiol adeiladau sydd o'r tu cefn i'r brif heol a enwyd i gyffyrddiad buan a'r elfen ddinystriol, nes eu llosgi yn lludw; ac yn eu plith gartref Mr Jones, ond dywed iddo ddiogelu ei eiddo rywfodd, a cbafodd ef a'i briod hawddgar a'i blant ymlochesu a chartrefu ar gronglwyd ac aelwyd ddymunol y caredig Mr a Mrs Morgan Rees. Yr oedd colled Beal a Koch yn 35,000 o ddoleri. Cyrhaeddodd y tan y Porter's Hall a'r ystor, nes eu dinystrio'n llwyr, a gwneyd colled o 15,000 o ddoleri. Cyr- haeddodd hefyd at y Franklin Hotel, nes ei difodi hithau, a gwneyd colled o 15,000 o ddoleri. Ysgubodd y fflamau gyfran o Water-street liefyd, a llawer o'r tai oedd ar yr ochr orllewinol iddi, nes cyrhaedd yr Eglwys Lutheraidd. Hwn oedd yr unig^ddoldy a losgwyd, ond diamheu y buasai yr Eglwys Bresbyteraidd, oedd yn ymyl, wedi llosgi hefyd, oni b'ai ymdrech- ion dihafal ei charedigion a gwroniaid Cymreig. Dywedir fod y Cymry ar y blaen i'r oil mewn gwroldeb, deheurwydd, ac yni par- haus i ddiffodd y tan, helpu anffodusion, a hyrwyddo diangfa i fywydau ac eiddo. Y maent yn teilyngu clod am eu dewrder priodol mewn achos o galedi a chythrwfl fel hwn. Dywedir befyd y buasai y tan wedi dinystrio ychwaneg o lawer ani bai i beiriannau dwfr Cumberland ddyfod yno mewn pryd. Gan fod cymmaint o geryg adeiladu da ymhob man oddeutu Frost- burg, gresyn na welai y Cymry sydd allan o waitli y priodoldeb o weithio man chwar- elau yma ac acw, i'r dyben o roi annog- aeth i'r adeiladwyr ddefnyddio cerig hardd, yn lie coed peryglus, ac i'r dyben o lesoli gweithwyr sydd yn brin o waith. Hyder- wn y cymmer amryw o Gymry yr awgrym i bwrpas.
ADNEWYDDIAD YR ANNGHYDFOD…
ADNEWYDDIAD YR ANNGHYDFOD YN CHWAREL Y PENRHYN. Gyda galar yr ydym yn gorfod cofnodi y ffaith fod annghydwelediad newydd wedi tori allan yn Chwarel y Penrhyn. Wedi adferiad pethau i drefn ar y telerau a gyn- nygiwyd gan ei arglwyddiaeth drwy Mr Pennant Lloyd, dechreuwyd gosod bar- geinion yn y chwarel ddydd Iau, ac elid yn mlaen gyda'r gorehwyl foreu Gwener, pan y dechreuodd rhai o'r cymmerwyr gwyno oherwydd anwastadrwydd yn y drefn o osod. Yn fuan wedi naw o'r gloch yn y boreu, cyrhaeddodd y teimlad i'r fath bwynt fel y taflodd fr oil o'r gweithwyr eu harfau i lawr; ac wedi cynnal cyfarfod cyffredinol penderfyn- asant ail sefyll allan hyd onis ceir telerau gwahanol: Cyflwynasant eu cwynion i'r goruchwylwyr, pa rai a ymwelsant gydag Arglwydd Penrhyn, yr hwn a ddymunodd ar fod i'r bobl gyflwyno eu cwynion i Mr Arthur Wyatt. Mewn canlyniad i hyn cymmerodd amryw gyfarfodydd le rhwng y boneddwr hwnw a dirprwyaeth y chwarelwyr, ond pan yr ydym ar fin myned i'r wasg, nid ydym yn deall fod unrhyw benderfyniad boddhaol wedi dyfod iddo. Cwyn y bobl ydyw nad oedd y gor- uchwylwyr yn cario allan delerau a dy- muniadau ei arglwyddiaeth wrth osod y bargeinion.
[No title]
Am fod mewn meddiant o bwysau an- nghywir, dirwywyd un Thomas Cooke gan ynadon Dinbych. Llwyddodd un Robert Ellis, Drws-y- nant i drafaelio ar reilffordd y Cambrian o Dolgellau i Arthog, a gorfyddwyd iddo dalu dirwy o ddwy bunt a'r costau yn llys yr ynadon. Ddydd Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, cyrhaeddodd Ardalydd Bute y 27 mlwydd o'i oedran, a dathlwyd yr amgylchiacl gyda rhialtwch mawr yn Nghaerdydd. Wedi diogi ohono am dri mis ar bwys cardotta, cafodd cerddedwr i £ r enw Helium f ei ddedfrydu i lafurio n galed yn ngharchar Llandaff am yr ysbaid o ddeng. niwrnod. 0 ddiffyg gorchwyl pwysicach, y mae nifer o bobl yn Mlaenafon yn ymgynhyrfu am sefydlu bwrdd ysgol. Oherwydd esgeuluso trwyddedu o hono ei geffyl a'i gi, cafodd George Jones, Dry- brook, ei ddirwyo i chwe phunt a choron. Wrth groesi y rheilffordd yn Dowlais tarawyd labrwr gan y peiriant, a darn- iwyd ei gorph mor arswydus fel y bu farw yn y fan. Ysgubir lluaws o blant ymaith yn ddyddiol yn Mountain Ash gan y frech goch. Y mae Mr Henry Taylor, ar fedr cael ei bennodi yn gwnstabl dirprwyol Castell Fflint. Hysbysir fod yr Anrhydeddus Sauvage Mostyn wedi ei ddyrchafu i radd milwriad yn y Royal Welsh Fusiliers. Ymddengys nad ydyw hen langciau Caernarfon yn foddlawn ar yr estyniad yn oriau y fasnach feddwol, oblegid hys- bysir fod tua haner dwsin o honynt yn ymdyru at eu gilydd yn nosawl i ymlythu ac ymfeddwi, gan aflonyddu ar heddweh y gymmydogaeth hyd bedwar o'r gloch y boreu. Dywedir fod yif eu mysg wr priod o nod, i'r hwn y gweddai cymdeithas ei deulu yn llawer gwell na'r fath ysbledd- ach. Fel goruchwyliwr Radicaliaid Arfon, cyrhaeddodd Mr William John Parry gam yn nes i anfarwoldeb ddydd Llun drwy wrthodiad haner cant o'i wrthwynebiadau i etholwyr Ceidwadol yn nosbarth Conwy- Cynnaliwyd cyfarfod o bwyllgor Eis- teddfod ddiweddar Corwen nos Wener, pryd yr hysbyswyd fod yn ngweddill wedi talu yr Holl dreulion y swm o 180p. pa un a gyflwynwyd i'r drysorfa er diddyledu ysgol Frytanaidd y lie. Cychwynwyd papur dyddiol o dan y teitl Evening Expressyn Abertawe, ond terfynodd ei yrfa y dycld o'r blaen wedi bodoli am ddeuddeng wythnos. Yr Esgob Basil* Jones ydoedd Y chweched a welodd y Canon Richardson yn cael ei orseddu yn Esgobaeth Ty- ddewi. Hysbysir y bydd i Mr Beales, Caer- grawnt, a Mr Homersbam Cox gyfnewid eu cylchdeithiau barnol am y mis nesaf. Dywedodd gwr blin wrth ei wraig, gan nas gallent gyttuno a'u gilydd, fod yn rhaid iddynt ranu y ty. O'r goreu, meddai hithau, gellwch chwi gymmeryd y tu allan!" LLANFROTHEN.-Te Parti. Prydnawn ddydd Sadwrn, y 19eg cyfisol, trwy hael- ioni gwladgarol Mr a Mrs Jones, Ynysfor, darparwyd te a bara brith i blant Ysgol Sul St. Catherine. Cyfranogodd oddeutu pedwar ugain o'r dandeithion. Ar ol 1 bawb gael eu gwala a'u gweddill, ymddi- fyrodd y plant mewn chwareuon diniwed- Oddeutu saith o'r gloch ymadawodd pavrb yn dra siriol a diolchgar am. y fatb groesaw a dderbyniasant gan' y teuln caredig.—Z. I