Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDD GWENER, MEDI 25, 1874.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYDD GWENER, MEDI 25, 1874. RHANU YR Y SB AIL. Cymhwysir y penawd hwn genym at y gorchwyl hyfryd o ymwneud a gweddill arianol eisteddfodau; ac amcaneinsylwad- au ar y gorplienol ydyw ceisio dwyn oddi- amgylch ddiwygiad yn y dyfodol. Fel rheol y mae pwyllgorau eisteddfodol mor ddoeth yn eu cenedlaeth a'r cyffredin o blant y byd hwn; a chan wybod fod cefnogaeth gwlad yn angenrheidiol er sicrhad llwyddiant eu hanturiaethau, addawant drosglwyddo unrhyw weddill t arianol deilliedig oddiwrth yr eisteddfodau at ryw amcan cenedlaethol. Yn eu tro, ni fu pwyllgor Eisteddfod Freiniol Bangor yn fyr mewn treiddgarwch i ganfod yr angenrheidrwydd am gefnogaeth gyffred- inol; a chan weithredu ar yr egwyddor o gyfrif cywion cyn eu deor," arfaethasant gyfran o'r ysbail i drysorfa Prifysgol Aber- ystwyth, a'r gweddill rhwng Amgueddfa Bangor a Chlafdy Mon ac Arfon. j Llwyddodd y cynllun i ennill cefnogaeth o bob cwr, a chyfranwyd amryw gannoedd o bunnau er mwyn sierhau llwyddiant yr anturiaeth bwysig, yr hon a drodd allan yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr. Cefnogodd y wlad yr eisteddfod, ac hawliai ar fod i'r pwyllgor efelychu ei ffyddlondeb drwy lynu wrth eu haddewidion. Y mae'n wir na rwymwyd y pwyllgor drwy rym cyfraith, ond dibynwyd ar eu hammodau gwirfoddol, mewn hyder fod gair yn cyn- nrychioli gweitbredo danyramgylchiadau. Yn wir, buasai yn ofidus genym ni gym- maint ag awgrymu anymddiried drwy grybwyll am wasanaeth gwyr y gyfraith yn y fath gyssylltiad, oblegid pa beth yw dyn ond ei air," a buasem yn barod, L ychydig wythnosau yn ol, i sicrhau y cyhoedd na phrofasai y pwyllgor yn 11 ai na'u gair. Erbyn hyn, nid ydym yn j gofidio oherwydd na hawliodd unrhyw I amlygiad o anymddiried y fat 11 aberth oddiar eu dwylaw. < Bellach, y mae yr eisteddfod drosodd, y gôa wedi ei llanw hyd yr ymylon, a'r wlad yn gwylaidd ddisgwyl am gyflawniad yr addewidion a ddelid allan yn gyfnewid am ei chefnogaeth. Yn digswyl, meddwn, oblegid nid ydyw cysgod y gweddill arian- ol wedi cwbl dditianu, serch ei fod yn teneuo o ddydd i ddydd yn nwylaw afrad- lonedd. Dichon y carasai y pwyllgor i ni ddefnyddio yr ymadrodd caredigrwydd brawdol yn hytrach nag afradlonedd, ond •' dylent gofio mai ein dyledswydd ni ydyw cyfryngu rhyngddynt a'r cyhoedd, ac nid gwau hugan ariangarwch. Ychydig wythnosau yn ol hysbysid gyda balcn- der fod cynnyrch arianol yr eis- teddfod yn cJrhaedd y swm enfawr o dri chant ar hugain o bunnau, a llawen- ychid cyfeillion y gwahanol sefydliadau yn y rhagolygon am gynnorthwy sylwedd- ol, ond trodd y sylwedd yn gysgod, ac y f mae y cysgod yn prysur dcliflanu-i ba ZD le ? Rbaid ymfoddloni i ddisgwyl am attebiad cyflawn hyd onis rhyngir bodd i'r pwyllgor roddi cyhoeddusrwydd swyddog- ol i'w cyfriflen. Hyd hyny, ymfoddloned y cyhoedd ar gipolwg ar y gweithrediadau tu ol i'r lien. Yr ydym wedi awgrymu eisoes fod boneddigion y pwyllgor, fel Hywel yn yr hen ddiareb adnabyddus, yn hael hyd afradlonedd ar bwrs y wlad, ac y mae yn gorphwys arnom i brofi dilys- rwydd ein haeriad, yr hyn a amcanwn ei wneud yn ddirodres drwy offerynoliaeth ychydig engreifftiau. Yn y lie cyntaf, cydnabyddant lafur beirniaid ychydig fan bamphledau gyda symiau o ddeg punt ac isod yr un, a gwyr y cy- hoedd mai anfynych y gkyelwyd y fath restr hirfaith o feirniaid ar raglen unrhyw eisteddfod. Gydag ychydig eithriadau, pennodid y boneddigion hyny i feirniadu fel mater o gompliment Ileol, ac ni freudd- wydid am eu gwobrwyo a thaledigaeth swyddogol; ond yr oedd yr arian gweddill yn gorphwys fel yr hunllef ar feddwl rhai boneddigion, a thybid ymarfer tipyn ar y rhinwedd o haelioni y modd mwyaf effeith- I iol i sicrhau esmwythad. Yn yr ail le, wele y swm o ddau gant a deugain a pliuinp o bunauwedi en cyfranu rhwng yr ysgrifenyddion a'r arweinwyr canu, neu namyn un haner cant o bunau i bob un. Pe buasai dwylaw y pwyllgor yn eu llog- ellau eu hunain, ni feiddiasem ryfygu dannod eu haelioni; ond yn anffodus y mae eu haddewidion wedi trosglwyddo yr hawl ar linynau y pwrs i raddau i'r wlad, ac nid yw hithau yn digwydd cymmeradwyo afradlonedd ar ei rhan. Drwy gyfres o'r fath weith-, rediadau caredig y mae y ddwy fil a thri chant o bunnau wedi eu graddol lei- hau i tua thri chant, os nad ydym yn camgymmeryd, ac y mae genau y god eto heb eu cau. Modd bynag, dichon mai cynnildeb wedi y cwbl ydyw yr egwyddor ar ba un y gweithredir ac os felly, gellir yn fuan ddisgwyl llwyddo i airbed traul trosglwyddiad unrhyw gyfran o'r gweddill arianol tuagat chwyddo trysorfeydd y sefydliadau hyny sydd yn disewyl pethau gwych i ddyfod." Deallwn fod cyfarfod o'r pwyllgor wedi ei gynnal nos Fawrth, pryd yr ymdrech- wyd, ar gynnygiad Mr Morgan Richards, i sugno pymtheg neu ugain punt, yn ych- wanegol at y deg blaenorol, fel taledigaeth a gwobrwy i Gweirydd ap Rhys. Gwyddem am y bwriad yn mlaen Haw, oblegid llafur- iai un brawd yn egniol dros amrai ddyddiau i sicrhau cefnogaeth aelodau y pwyllgor i'r cynnygiad. Ni warafunem ni weled Gweirydd yn cael ei dystebu gan y rhai sydd yn credu yn ei haeddiant, ond nid gyda'r bwriad hwnw y cyrchodd y miloedd i'r eisteddfod, ac nid iddo ef y tanysgrif- iodd gwladgarwyr. Ond os am lafur y bwriadaiMorgrugyn Machno i'r pwyllgor ei wobrwyo, yr ydym ni yn credu fod y swm o ddeg punt, a ddyfarnwyd iddo eisoes yn llawer mwy na digon am y drafferth o gydfeirniadu ar bum' cyfansoddiad, a gweddai i gefnogwyr y pymtheg neu ugain punt ychwanegol wrido oherwydd eu hyf- dra ar eiddo y cyhoedd. Ond nid yma y terfynai bwriadau haelionus y cyfarfod nos Fawrth, oblegid hysbysir ni ddarfod i gynnygiad gael ei wneud -ar fod i'r pwyll- gor wobrwyo eu hunain a bathodau aur er cof am weddillion arianol Eisteddfod Freiniol Bangor. Arddengys hyn gyn- nydd pwysig yn hyfdra nodweddiadol yr oes, a gallwn yn naturiol ddisgwyl mai y cynnyg nesaf fydd ar fod i'r holl ysbledd- ach gael ei choroni a gwledd bwyllgorawl. Yr ydym yn meiddio llefaru yn groew a dirodres ar y pwngc hwn, nid yn gym- maint er dannod i bwyllgor Bangor eu tueddfryd haelionus, ond yn hytrach gyda'r amcan o ddylanwadu ar bwyllgor- au dyfodol i ymochel rhag eu hefelychu oblegid, os parheir i dori ainmodau a'r wlad am ychydig yn hwy: bydd yn llawn bryd cynnyg gwobr am feddargraff i'r sefydliad eisteddfodol. Yr ydym yn gwbl argyhoeddedig fod ymysg aelodau pwyll- gor Bangor foneddigion meddiannol ar ormod o anrhydedd i gydsynio a'r fath gyfres o weitbrediadau ond yn anffodus, nid ydynt wedi cael eu rhybuddio o ddyddiad y gwahanol gyfarfodydd, fel y Ilesteiriwyd hwynt i wrthdystio yn erbyn yr afradlonedd. Nis gallwn lai na lIiJJ- wenychu fod digon o wroldeb wedi ei amlygu yn y cyfarfod diweddaf i roddi atfcalfa ar y gwastraff hyd onis telir y dyledion cyfreithlon, ac yn mysg y cyfryw gallwn nodi nad yw llafur cynlluniwr y babeli wedi ei ystyried etto. Diammheu fod y pwyllgor yn ceisio lieddychti eu cydwydodau gyda'r syniad o ddechreu yn Jerusalem, trwy dystebu eu gilydd; ond dymunem eu hadgoffa na ddilea hyn eu dyled i'r wlad, gan yr hon y bydd perffaith hawl yn y dyfodol i edliw iddynt eu ham- modau toredig.

CHWAREL Y PENRHYN.

TANAU MAWRION.

DAMWAIN ANGEUOL I ■FARCH-OGWR.

. TAN MAWR YN AMERICA.

TAN DIFAOL YN FROSTBURG, AMERICA.

ADNEWYDDIAD YR ANNGHYDFOD…

[No title]