Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW. MEISTRI GLYGWRS,—Dydd Sadwrn dy- weutha, tarodd yn y mhen i y baswn i'n leicio mynd am dro tua hen ddinas Ban- gor, a bant a fi miawn mynyd, dim lol ond mynd rhag blaun. Yn mysg peth y 0 wmbrath o ragoriaetha sy'n pyrthyn i nghiarictor i ma decision yn un o hony nhw, a pheth neis ofnadwy miawn ciaric- tor ydi hwnw hefyd. Ma Cymry yn bur gyffredin yn colli yn hyn. Ond rhoswch chi, lie roddwn i rwan ? 0 ie, ar y ffordd i Fangor, ynte. Wei, mi gyrhyddis yno erbyn tua pump o'r gloch y prynawn, a ddylis i fod no ryw fath o ffair, a lot o foys yn canu bwledi; ond erbyn sylwi dipin yn fanylach, nid canu bwledi odd y gwaeddi, ond rhai o gymitti Steddfod Bangor yn cega Berth esgyrn i pena, rw- beth yn debyg i hyn Hoi, hoi, hoi, gwryndewch, boys, oes gin ryw un o hon- och chi fil yn erbyn cymitti'r Steddfod ? Os oes, i fiawn a fo, a gnewch o'n un iawn, ma na ddigon o arian yn spar, ac ydan ni am dalu i bawb ac i'n gilydd yn fendigedig rwan. Be ydi Coleg Aberyst- wyth, y Museum, a'r Infirmari i ni-tw, dim byd. Odd o neitba roi rwbath fel na o flaun y wlad er mwyn trio hudo'r bobol i'r 'Steddfod a ehaul i hariannhw rywsut; ond wedi caul nhw fyddan yn ffyliad, os na ranwn i nhw bob dima yn mysg yn hunin. Ma'n siwr i chi na chawn i byth chance am ffasiwn godad ytto.) | Mau ma lawar o honon ni yn ffondiach o lawar math o ddiod na dwr, a hwrach ryw wano mwy am betha felly na ddylan ni, wedyn mau o'n charity i ni gaul cimin allwn i o'r arian gweddill ma i neud i fyny. Matter of busnas ydi 'Steddfod, a chan fod y busnas wedi troi yn llwyddianus, ein motto ni ydi, ac y dylai fod, llenwn bycedi'n gilydd, waeth be ddeudo neb. Eith y peth drosodd ninion deg, a be ydi'r odds os gneith pobol siarad tipyn ?" Felly wir, aeloda phwyllgor Steddfod Bangor, ai dyma'r ffordd rydach chi am gario'n mlaun ? Gybeithio medda i fod na rai dynion yn ych plith chi sy ddigon gonast, cydwybodol, a phenderfynol i roi stop ar broceedings gwradwyddus fel hyn. Rhoi dau gant a hannar o buna rhwng ych Bc,rifenyddion a'r musical directors, rhwng 0 .2z pump o ddynion A ydach chi ych hun- in ddim yn teimlo fed hyn yn ormod o'r hannar ? Ar ba dir y ma gynoch chi 'r gwynabgledwch i drio cyfiawnhau ffasiwn oeth ? A odd y sgryfenyddion -yn ych gwasanath chi yn gyfan gwbl^ta oddan nhw yn dilyn i gorchwyiion ? Fe ddy- wedir i mi fod pob un o'r pump y rhanwyd y dau cant a hannar o buua rhyngddyn nhw yn dilyn i gylwedigaeth yn rheoladd, ac y rydach chitha wedi talu iddy nhw braiid ddigon iddi nhw fod yn weision i chi yn gwbl. Mi wn fy hun am ddau os nad tri o'r pump nad oeddan nhw 'n dis- gwl chwartar y rhyn ydach chi am, ne wedi roi iddy nhw. Basant yn berffaith fodlon ar bymthag punt, a phaham y rhaid i chi tybad gramio 'r arian i lawr i gyddfa nhw, a phaham y rydach chi am roi i Gweirydd gimin bum waith ac y dyla fo gaul ? Od oes arnoch isio tretio Gweirydd, gnewcb gasgliad yn mhlith ych gilydd, ne yn y ddinas. Cofiwch ma nid ych eiddo chi i neud fel jfynnoch chi a nhw ydi 'r arian gweddill. Nid oes gynnoch chi ddim hawl i fynd a'r un ddi- ma. a ddyla 'n gyfiawn a -theg fynd i'r syfydliada a enwyd. Y mau yn ymddug- iad gwarthus, ac rydw i yn enw'r wlad yn gyffredinol, yn appelio at bob un o aeloda mwya parchus y pwyllgor, i ofyn a ydyn nhw yn pleidio'r fath ymddygiad, sef yn mhlith erill, Vicar Price, Archdeacon Evans, Dr Ellis, Dr Williams, Mri. T. T. Parry, Griffith Davies, T. Richards, Mr Jones, curad, R. Evans, Llandudno, Mr Johnson, T. Jones, printer, &c., &c. Ydach chi yn eymmeradwyo, ne yn an- ghymeradwyo y squandro ma? Y ma 'r wlad yn disgwl caul clywad pa run, a hyny yn ddioed—guilty or not guilty ? Boed hysbys i Aelod o Bwyllgor Conwy a apeliodd atta i yn ych papyr wsnos ne ddwy 'n ol, y bydd gin i air i ddeud yn fuan ar y pwngc hwnw. Rydw i'n gweld oddiwrthy papyra fod Conwy wedi ymddwyn yn foneddigadd at Bwll- heli, ond ma 'n amheus ddyawn a dder- byniwyd cynygiad Conwy yn foneddigadd gan Bwyllgor Pwllheli. Peth od ynte, na fasa rhai o'r pypyra wedi cyhoeddi 'r llythyr a dderbyniwyd o Gonwy er mwyn i erill fel y fina gael manias i famu. Faswn i ar bob cyfri yn cynghori p-pinl Conwy i gyhoeddi 'r ohebiath. Caul llythyr y mynyd ma fod na feeting i fod yn Nghonwy dy Sadwrn i styriad y pwngc. Gofalad un o'r aeloda am yru'r hanas i mi yn brydlon, ne toes dim posib i mi ddeud y marn ar y pwne heb wybod rwbath am dano fo. Clywad hiddiw fod hi yn bwrw glaw yn Ffestiniog, rhyfadd iawn, ynte ? Clywad hyfyd fod R. I. Jones, Yswain, Portmadoc, wedi settlo efo cympeini'r Market Hall, ac ma diwadd y little difference odd i'r dywadedig R. 1. Jones, Yswain, gaul i brysantio a cheque o swm go dda. Wir ma rhai pobol yn ddoniol am hel arian. Frodyr bach, mi gawn bills ac ynglynion priodi a chladdu am yspaid ytto. Clywad fod Money-dog yn ffond iawn o fynd i Bwllheli, ond pa gysylltiad sy rhwng hyny a chaul digon o champagne wrth agor gorsadd a supportio steddfod ? Dim, 0 frenin. Clywad fod y prif fardd loan Ar- fon wedi prynu'r llyfr chwech a gynlyn English Made Easy." Bobol bach, fe fydd yr elocutionist digyffelyb hwn yn airio i Sasnag hyd y wlad yn fUeto. Drigol- ion Cynarfon, confiniwch i Gymraeg er mwyn pob dioni, ma Sylum Dimbach yn llawn yn barod. Clywad fod Crachal- fardd yn ddig ofnadwy am na chau o i ffordd i hun i gid yn mhwyllgor Steddfod Pwllheli, a fod Money-dog a fynta, wrth fynd mraich yn mraich i'r station yn gofyn i gilydd, Be na Cymru oni bau ni '11 dau ?" a'r gwynt yn whistlo attebiad heibio'r Gimlat Rock, 0, bod yn llawn mor respectable." Wir fydda'n iechyd i'r ddau ma fynd am drip i Gyrlanau Ynys Madagasgar. Meistri Glygwrs, ydach chi 'n cofio dipin o amsar 'n ol i mi yru hanas ryw fasnachwr yn prysantio capel Meth- adus Llandudno efo .chiarpat, &c. Clywad heddiw fod ryw drafeiliwr yn Nghynarfon yn mynd i roi prysant o gushions i'r pul- put yn un o'r cypeiydd Sasnag yno, ac na ddyla neb ond blaenor, ne ryw un iso mynd yn un neud hyny. Hwrach wir, be ddyliach chi ? ROBIN SPONC.

ARIAN GWEDDILL EISTEDDFOD…

------HYSBYSIAD.,

MR KENYON YN NGWRECSAM.j

Y DYN A'R LANTAR, NEU WELEDIGAETHAU…

Family Notices

[No title]