Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL, YMA AC ACW.

ARIAN GWEDDILL EISTEDDFOD…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARIAN GWEDDILL EISTEDDFOD BANGOE. FONEDDIGION,-Mae yn ofidus genyf ddeall fod pwyllgor Eisteddfod Bangor wedi gweled yn ddoeth efelychu ym- ddygiad eu blaenoriaid, drwy gamarfer yr arian gweddill. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i nad yw yn ddyledswydd ar bwyllgorau yr eisteddfodau gyhoeddi y cyfansoddiadau buddugol. Cam a'r wlad, a cham a'r ymgeiswyrydyw iddynt syrthio i ebargofiant, neu adael eu cyhoeddiad yn llaw yr awdwyr. Mae cylchrediad cyfyng- edig llyfrau Cymreig, ac anfoddlonrvvydd eyhoeddwyr Cymreig i anturio, yn rhwystr mawr ar ffordd y cyfansoddiadau buddugol i ddyfod i'r golwg. Yn sicr ddigon, os ydynt yn deiiwng o wobr, a'r ganmoliaetii uchel a roddir gan y beirn- iaid yn ami, dylid eu cyhoeddi. Syrth y ddyledswydd hon yn ami ar y pwyligorau. Prif amcanion yr eisteddfod ydynt dwyn athrylith i'r golwg a chyfoetnogi llen- yddiaeth Gymreig. A chan mai o dan nawdd arbenig beirdd a llenorion y cyn- nelir yr eisteddfodau yn gyffredin, nwynt- hwy, a llenyddiaeth drwyddynt liwy, a ddylent dderbyn y gydnabyddiaeth sylweddol gyntaf o arian gweddill pob eisteddfod. Mae clafdai, a llyfrgelloedd i'r gweithwyr yn sefydliadau gwir deiiwng ynddynt ei hunain, ac yn haeddu pob cefnogaeth, ond meiddiaf awgrymu mai cam a lienyddiaeth, a gwyriad hoilol o amcanion yr eisteddfod, ydyw rhanu rhyngddynt hwy a sefydliadau eyffelyb yr arian sydd wedi eu derbyn o dan y dybiaeth y llesolid Uenyddiaeth a hwy. Os teimla y pwyllgorau fod yn ormod o anturiaeth iddynt hwy ymgymeryd a hi, bydded iddynt drosglwyddo yr arian gweddill i ryw gymdeithas sefydledig, sydd a'i hamcanion yn gyffelyb i'r eis- teddfod, dyweder Cymmrodorion Llundain er engraifit. Carwn yn fawr weled eich gohebwyr galluog yn cymmeryd y pwngc i fyny, fel y caffem ddiwygiad yn y cyf- eiriad hwn.—Yr eiddoch yn ddittuant, ERASMUS JONES. Llundain, Medi 21ain.

------HYSBYSIAD.,

MR KENYON YN NGWRECSAM.j

Y DYN A'R LANTAR, NEU WELEDIGAETHAU…

Family Notices

[No title]