Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

NEWYDDION CYMREIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NEWYDDION CYMREIG. AMLWCH.—Nos Lun, Medi 14eg, tra- ddodwyd darlith ragorol ar- "Hunan- ddyrchafiad" gan y Parch. Hugh Hughes, Caergybi, yn nghapel Wesleyaidd y lie uchod. Wedi dechreu trwy fawl a gweddi gan y Parch. Owen Williams, Tre'rgarth, cymmerwyd y gadair lywyddol gan J. W. Paynter, Ysw., Maesllwyn. Yr oedd y ddarlith hon drwyddi yn ddifyrus, buddiol, ac adeiladol, ac ymddangosai pawb wedi eu boddhau yn fawr. Ar ol siarad am yn agos i ddwy awr, eisteddodd i lawr yn nghanol cymmeradwyaeth uchel y gyn- nulleidfa. Wedi talu diolchgarwch i'r darlithydd, ar llywydd. ymadawsom oil wedi ein llwyr foddloni, ac yn hiraethu am glywed darlith gyffelyb etto. Hyd- erwn y ca y darlithydd parchus hir oes i wneuthur daioni, trwy ei ddarlithiau, yn ogystal a phethau ereill. Cafwyd cynnulliad gweddol dda, a buasai yn well mae yn ddiamheu, oni bae fod gan yr "Hen Gorph bregeth yn eu capel yr un noson. Dydd Mawrth canlynol, cyn- naliwyd cyfarfod cenhadol, pryd y cafwyd gweinidogaeth werthfawr y Parchedigion Hugh Hughes, Caergybi, ac Owen Wil- liams, Tre'rgarth. Darllenodd ein parch- us weinidog, y Parch. John Pierce, ranau o'r mynag cenhadol, yr hwn a ddengys fod achos y Gwaredwr mawr, mewn cysylltiad a Wesleyaeth, yn myned rhag- ddo. Dyma gyfarfod hyfryd iawn o'i ddechreu i'w ddiwedd, mae y son am dano yn gyffredinol fel rhyw berarogl yn perarogli yn ddymunol yn y dref a'r wlad oddiamgylch, a phawb yn dyweud gyda Pedr, mae da oedd bod yno. Yr oedd y pregethwyr fel prenau ffrwythlon, odditan ba rai yr oedd y diffygiol yn gorphwys, a'u ffrwyth oedd yn felus i'n genau. Prenau yr Arglwydd ydynt lawn sugn; cedrwydd Libanus y rhai a blanodd efe." I Dduw y byddo'r diolch am ei ddawn annhraethol." Hyderir y bydd 61 y cyfarfod i'w weled mewn amser dyfodol, yn nychweliad Iluaws mawr o bechadur- iaid at Dduw.—Nos Wener, Medi y i8fed, cynnaliwyd cyfarfod mewn cysylltiad i Themlyddiaeth Dda yn Ysgoldy Brytan- aidd y lie uchod, yr areithwyr oeddynt y Parchn. Owen Hughes, Tregele, a Hugh Hughes, Caergybi.-Gohebydd. BLAENAU FFESTINIOG.-Plentyn wedi bodd,i.-Dydd Iau, y i8fed cyfisol, collodd plentyn oddeutu tair a hanner oed yn gynnar yn y prydnawn, a diau iddo fyned i chwaieu at ffrwd o ddwfr sydd yn agos, sef tu ol i Lord-street. Ond fodd bynag aeth teulu y plentyn yn anesmwyth yn ei gylch, ac wedi chwilio bob man, cafwyd hyd i'w gorph yn agos i olwyn ddwfr i ba un y mae y ffos yn myned. Boddwyd dau o blant yn flaenorol yn yr un lie.— Gohebydd. CAERNARFON.-O flaen yr ynadon bwr- deisiol dydd Llun, cyhuddwvd un John Parry o gysgu mewn adeilad perthynol i'r gwaith nwy, a thraddodwyd ef 1 garchar ain saith niwrnod gyda llafur caled.—Cy- huddwyd Louise Hughes o ymddygiad anweddaidd, a chafodd ei gorchymyn i garchar am fis gyda llafur caled.—Dirwy- wyd Owen Hughes i bum swllt am esgeu- luso anfon ei blentyn i'r ysgol, a bu orfod i John Holt dalu y costau am y cyffelyb drosedd.—Cafodd David Jones, Cwmyglo,. hen bregethwr Methodistaidd, ei ddirwyo i hanner coron a'r costau am feddwi.—Ar y cyhuddiad o ladratta dwy wns o fyglys perthynol i John Martin, cafodd David Edwards ei draddodi i garchar am byth- efnos. CAERSWS.—Tua phum' mlynedd yn ol, adeiladwyd capel anwes (chapel of ease) perthynol i blwyf Llanwenog, yn y cor- dref hon, er mantais a chyfleusdra i Eg- Iwyswyr y lie i addoli. Dydd gwyl Sant Bartholomeus, sef Iau, Awst 24ain, 1871, cyssegrwyd ac agorwyd y capel hwnw at wasanaeth dwyfol ac eleni, fel arfer, cynnhaliwyd cyfarfod blynyddol er cof am agoriad y ty. Cymmerodd hyn le ddydd Iau, Medi iofed. Yn y boreu darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. D. Parry, B.A., y ficer, a phregethodd y Parch. G. Cuthbert, B.A., rector Aber- hafesb. Yn y prydnawn darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. G. Cuthbert, B.A., Aberhafesb, a phregethodd y Parch. W. Rees, curad Llanidloes. Yn yr hwyr dechreuwyd trwy ddarllen y gwasanaeth arweiniol gan y Parch. Morgan Jones, ficer Carho yna pregethodd y Parch. R. H. Jones, A.C. (Quellyn), ebrwyad parchus Llanidloes, mewn modd godidog o dda ac effeithiol iawn, i gynnulliad lliosog o wrandawyr astud a difrifol. Yr oedd y tywydd yn dra anffafriol yn hwyr y dydd, trwy ei bod yn ystorm o fellt a tharanau ynghyda gwlawogydd trymion. Da genyf allu mynegi fod golwg lewyrch- us iawn ar yr achos Eglwysig yn y lie hwn yn bresennol, er fod tair o gyfun- draethau yn milwrio yn ei herbyn, sef y Bedyddwyr, y Methodistiaid Calfinaidd, a'r Wesleyaid, pa rai sydd yn adeiladu addoldy newydd yma y flwyddyn hon.- Cilmachallt. CAPEL CURIG. Pontycyfyng.-Pryd- nawn Iau, Medi I7eg, gosodwyd i lawr gareg sylfaen eglwys neu mission chapel j: newydd yn Mhontycyfyng, ger Capel Curig, gan Mrs Thomas, priod parchus offeiriad y plwyf, gyda'r rhwysg a'r sere- moniau arferol ar gyfryw achlysuron. Ar yr awr bennodedig, wedi i garedigion ac ewyllyswyr da yr Eglwys ymgynnull ynghyd, darllenodd y Parch. H. E. Wil- liams, ficer Dolwyddelen, Psalm 127, 87, a 122, ac offrymodd y Parch. D. Thomas, Capel Curig, weddiau priodol ar ran yr adeilad a'r adeiladwyr. Yna canodd cor yr eglwys, dan arweiniad medrus Mr John Williams, yr emyn, Un sylfaen fawr yr Eglwys," &c., yn swynol iawn. Rhoddodd Mr Thomas annerchiad byr a phwrpasol i'r achlysur. Cyflwynodd W. S. Parry, Ysw., Chwarel y Rhos, ar ran y pwyllgor drywel arian a morthwyl gwych i Mrs Thomas, yr hon a gyflawnodd ei gorch- wyl yn ddeheuig yn enw'r Drindod Sanct- aidd, gan gyflwyno yr adeiliad gyssegr- edig i St. loan Fedyddiwr. Rhoddwyd costrel yn ngwagle'r maen, ac ynddi parchment yn cynnwys enwau'r ymddir- iedolwyi, y pwyllgor, y tanysgrifwyr, a'r adeiladydd, a neillduolion ereill, i'w cadw i'r oes a ddel. Amgauwyd hefyd y Cyf- aill Eglwysig am y mis. Ar ol gosod y conglfaen yn ei le, canwyd yr emyn can- lynol ar y don "Meirionydd ":—- Mewn ffydd, 0 Arglwyddjrhoddwn Y sylfaen hon i lawr," &c. Ar ol i'r Parch. D. Thomas ddadgan y fendith Apostolaidd, aed yn mlaen gyda'r ail ran o'r seremoni, sef pennod yr an- nerchiadau. Siaradodd y Parch. H. E. Williams, Dolwyddelan, ar ragolygon addawol yr Eglwys yn Nghymru, a chan- molodd Charles Iiurtz, Ysw., Coed-y-celyn a Lerpwl, fawr sel, diwydrwydd, a haelioni tra chanmoladwy y chwarelwyr gyda'r Eglwys newydd-sylfaenedig. Annogodd R.R. Williams, Ysw., Bwlch, Dolwyddelan, y gwyddfodolion i roddi maen ychwanegol yn y mur trwy fwrw eu rhoddion ar y pen- conglfaen. Bwriwyd yma hatling y weddw a phenaduron y cyfoethog yn driphlith draphlith i'r swm o wyth bunt a throsodd. Cafwyd annerchiad difrifpl a chynnwys- fawr gan y Parch. Mr Hort, caplan milwr- ol yn Gosport, yr hwn a ddadganai ypleser a'r hyfrydwch ag oedd y gyfryw olygfa yn nghanol gwyllt fynyddau Cymru yn ei roddi iddo; a dymunai o eigion calon gynnes, Duw yn rhwydd" i'r praidd bychan a'u bugaii ffyddlon. Ar ol canu yr hen emyn Dau dy fendith wrth ymadael," &c. aeth pawb i'w fan. Gogoniant penaf yr olygfa darawiadol hon oedd y nifer o feibion llafur ag oedd yn bresennol. Os yw Eglwys y Cymry am lwyddo, rhaid iddi gynnull y dosbarth pwysig hwn i'w chorlan. Hwynt-hwy yw nerth a bywyd Eglwys a gwladwriaeth wedi'r cyfan. Gweithwyr ydynt brifysgogwyr a chyfran- wyr y symmudiad hwn yn Mhontycyfyng. Hwynt-hwy yw corph y pwyllgor, a gweithiasant yn ardderchog, o dan lyw- yddiad y cadeirydd parchedig, Mr Thomas, i ddwyn eu hamcan i ben. Y trysoryd yw Mr Jones, Swallow Falls Hotel, a'r ysgrif- enyddion Mr Parry, Ehos Quarry, a'r ffraeth fardd Rhychwyn. Ymddiriedolwyr y mission-chapel ydynt, y Parch. D. Thomas, Mri. Parry Jones, Pierce Davies, Bryngefailiau; John Williams, Ty'nycoed; a H. Curr, Ysw., goruchwyliwr etifedd- iaeth Gwydyr. Rhoddwyd y tir yn rhad ac am ddim gan Arglwyddes Willoughby De Eresby. Deallwn fod Mrs Hey wood a Mr Kurtz wedi tanysgrifio'n helaeth, a'r gymdeithas yn Mangor yr un modd. Yr adeiladydd yw Mr J. Hughes, Bethesda. Saif yr Eglwys ar lecyn prydferth a rhamantus yn ngolwg ffordd Lundain," neu Gaergybi a'r Amwythig" fel y gelwir hi weithiau. Bydd Eglwys St. loan Fedyddiwr o ran ei harchadeilad- waith yn addurn i'r fan a swn ei chloch yn newydd-beth i'r fro. CKICCIETH.—Yn unol a'm haddewid, ceisiaf anfon ychydig eiriau i'ch newydd- iadur poblogaidd (yr wyf yn dyweud pobl- ogaidd, am fy mod yn ei ystyried felly yma). Yr ydym ni yma yn teimlo dy- ddordeb neillduol yn Eisteddfod Pwllheli, ac yn dymuno iddynt bob llwyddiant yn eu hymdrechiadau tuag at wneud ea. heisteddfod y fwyaf poblogaidd a gynnal- iwyd yn Nghymru. Diolch i enwogion Conwy am encilio o'r maes er rhoddi lie i'r rhai oedd ar y rhestr gyntaf. Yr yd- ym yn deall fod swn yn mrig y morwydd fod yn mwriad Ileriorion a gwladgarwyr Criccieth gael eisteddfod yma, ac iddi gael ei chyhoeddi yn Pwllheli yn ol rhybudd o un dydd a blwyddyn, ac i gael ei galw yn Eisteddfod Gadeiriol Eryri am y flwyddyn 1876. Dymunem gael clywed llais ein heisteddfodwyr ar y matter. Gyda llaw, beth a feddylia y doniol Alltud Eilion o'r peth ? Credwn fod pawb ag sydd yn gwybod am y lie yn barod i dystio, ei fod yn bobpeth a allesid ddisgwyl mewn trefn i gynnal eisteddfod. Bydded i garwyr llenyddiaeth eu gwlad yn y lie daro atti i ddwyn yr achos o flaen boneddigion yr ardal, o dan nawdd a chefnogaeth pa rai y gellir disgwyl sicrhad ei llwyddiant.— Tivrib Certh, a gwledd Mr a Mrs Watkin Williams, Mur iau.—Y mae y brawd hwn ■ • j r c. yn gosod allan yn ei adroddiad o'r wledd j ddanteithiol a roddodd y boneddwr hael- ionus uchod a'i briod i 450 o drigolion Criccieth—fod yma ddwy ysgol, pryd nad oes dim ond un yn bresennol. Feallai mai dau ysgoldy oedd y brawd yn ei feddwi. Pa un bynag am hyny, y ffaith yw fod yr ysgol Genhedlaethol wedi ei thori i fyny, a'r ysgol feistr wedi ymadael. Pe buasai T. C. yn dyweud ddarfod i'r bon- eddwr roddi gwledd i'r Eglwyswyr yn gys- tal a'r Ymneillduwyr, buasai yn agos i'w le. Yr ydym yn ystyried Mr Watkins yn foneddwr hollol ddiduedd yn y cyfeiriad hwn bob amser, ac yn caru lies pawb yn ddiwahaniaeth, a chaffed ef a'i briod hael- ionus hir oes i wneud llawer etto yn ffordd y tlawd.-Nos Fercher diweddaf cynnal- iwyd cyngherdd yn nghapel yTrefnyddion Wesleyaidd, fo dan lywyddiaeth fedrus W. Watkins, Ysw.,Muriau. Prif arwr y cyng- herdd ydoedd Mynyddog, yr hwn a gan- odd amryw weithiau gyda chymmeradwy- aeth. Cafodd cor y Ile, dan arweiniad Mr W. Griffiths, gymmeradwyaeth mawr. Mr W. Evans (Eos Eifion), a ganodd amryw weithiau yn ei ddull swynol a dirodres. Cafwyd cyngherdd doniol iawn, a deallwn iddynt gael elw da oddiwrtho at ddiddy- ledu eu capel.—Ren Frodor. CRICCIETH.—Ar yr i6eg cyfisol, bu Mynyddog yn cynnal cyngherdd yn nghapel Salem y lie uchod. Etholwyd William Watkin, Ysw., yn llywydd—ac aeth trwy ei waith yn hynod o foddhaol. Cynnorthwywyd hefyd gan gor Mr William Griffith, yr ysgolfeistr, I a chan- asant yn wir dda, yn mhell uwchlaw ein disgwyliadau. Canodd Eos Eifion yn hynod [swynol, a bu Druisyn o was- anaeth nid bychan trwy greu englynion beth dirifedi, a'u hadrodd i'r gynnulleidfa. Y farn gyffredin yw fod Mynyddog wedi gwneuthur gwerth ei gyflog. Y mae ef o wasanaeth neullduol yn Eifionydd y dyddiau yma. Wedi talu y diolchiadau arferol aeth pawb adref wedi eu llwyr foddloni. —Criccierthyn. EGLWYS] LANIDAN, MON.—Yr wyfyn caru hysbysu fod cyfarfod diolchgarwch wedi cael ei gynnal am wahanol ffrwythau y maes yn yr Eglwys uchod, ar y pym- thegfed dydd o'r mis hwn, am 7 o'r gloch yn yr hwyr, pryd y darllenwyd y wasanaeth gan y Parch. H. H. Jones, ficer y plwyf, ac y pregethodd y Parch' Evan Jones, Llanrug, Caernarfon, yn well nac arferol, medd y gwrandawyr. Cafwyd cynnulleidfa go liosog ac ystyried fod y tywydd mor wlyb a gwyntiog, a'r ffyrdd yn fudron. Y mae clod i lawer o deulu y capelau am fod mor Gristionogol a myned i wrando eu brodyr Eglwysig.—Gohebydd. GWALCHMAI.—Dydd Gwener, y 1Sfed cyfisol, cynnaliwyd gwasanaethau yn Eglwys y plwyf uchod i ddiolch i Dad y trugareddau am y cynhauaf eleni. Am' 10 o'r gloch y boreu, gweinyddwyd y Cymmun Bendigaid gan y Parch. H. S. Priestley, gweinidog y plwyf. Dau o'r gloch prydnawn darllenwyd y Litani gan y Parch. R. H. Williams, Bodwrog; a phregethodd y Parch. P. Williams, Llan- gefni, yn addysgiadol iawn oddiar St. Luc, xi. 3.—Am 7 o'r gloch yn yr hwyr dar- llenodd y Parch. H. S. Priestley y gwasr anaeth brydnawnol, a'r Parch. R. H. Williams, y llithoedd; ac wedi hyny cawsom bregeth rymus ac adeiliadol gan y Parch. 0. Davies, Bodedern, oddiar Psalm xxxiv. 8.—Yr oedd y cynnulliadau yn lluosog ar hyd y dydd yn enwedig yn yr hwyr, pryd yr oedd yr Eglwys yn orlawn. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn syml ond yn ddestlus gan Mrs Priestley a Mr William Parry. Yr oedd y canu yn dda, ac effeithiol—J. Jones. LLANIDLOES.—-Damwain.—Dydd Sa- dwrn, y I2fed cyfisol, cyfarfu Mr Owen Williams, mab y Cadben W. Williams, Greenfield Hall, goruchwyliwr gwaith mwn y Fan, ger y dref hon, a damwain a allasai fod o niwed mawr iddo. Cwymp- odd i lawr un o shafiftiau y gwaith a enw- wyd, uchder o tua 25 Hath, a disgynodd ar ei draed, fel yr oedd goreu yr hap ac er fod ei gwymp yn fawr, ni dderbyniodd gymmaint o niwed ag a allasem ddisgwyl. Y mae ef yn gwellhau yn gyflym, a bydd ymhen ychydig yn all Tight.-Dmnwain arall.—Dydd Gwener, y ISfed cyfisol, digwyddodd damwain alaethus i ddyn ieu- angc o'r enw John Lloyd, wrth orsaf rheilffordd y lie hwn. Cafodd ei wasgu yn erwin gan buffers y wageni pan oedd- ynt yn shuntio. Er fod y gwasgiad yn un calco, nid ydoedd mor niweidiol, oher- wydd coleddir gobaith hyd yma y bydd iddo gael adferiad yn lied fuan i'w gyn- nefin iechyd etto.-Iafl-leisiaeth Gymreig. —Talodd Mr Owen Jones, y tafl-leisiwr enwog o sir Gaernarfon, ymweliad a'r dref hon ddydd Sadwrn, igeg cyfisol; ac yn hwyr y dydd, yn neuadd y dref, aeth trwy gyfres o'i amrywiol weithrediadau yn anrhydeddus mewn tafl-leisio a dyn- wared, o dan y cymmeriadau canlynol:— Robin Roberts, Gruftydd Elis, Lowri Ro- berts, Mari Bach, a llawer o bethau ereill o'r cyffelyb natur. Hefyd, fe ddifyrodd y gwyddfodolion ag adroddiadau ystumiol o amryw nodweddion, ac ymddengys iddo roddi cry n foddlonrwydd i'r presennolion. Cyfarfod JDirwestol. Prydnawn ddydd Llun, yr 21ain cyfisol, yn llysdy y dref hon, o dan lywyddiaeth D. Davies, Ysw., A.S. o bwrdeisdrefi Maldwyn, traddodwyd un o'r areithiau mwyaf grymus a glywsom erioed, ar niweidiau y diodydd meddwol, gan yr Anrhydeddus Gadfridog Neil Dow, Portland, Unol Daleithiau America, fel dirprwywr yr United Kingdom Alliance." Hefyd, traddodwyd areithiau galluog ar yr un achos gan y Parchn. J. Edwards (B.), D. Ll. Jones, A.C. (T.C.), ac R. Jones (A.), ynghyda'r Cadben O. M. Crewe-Reade, R.N., Llandim Hall; T. F. Roberts, Ysw., Dolenog; ac E. Cleaton, Ysw., Y.H., Vaenor Park, y lie hwn. Yr oedd y cynnulliad yn fawr neillduol.-Idloesyn. LLANLLECHID.—Cynnaliwyd cymmanfa flynyddol yn Eglwys y lie uchod, ar y 15feda'r 16egcyfisol. NosFawrth am saith darllenwyd y gwasanaeth gan yr Hybarch Archddiacon Evans, a phregethodd y Parch. G. Jones, Ganllwyd, oddiar Heb. iv. 16. Am ddeg boreu ddydd Mercher darllenwyd y gwasanaeth gan yr Hybarch Archddiacon Evans, a'r llith gyntaf gan y Parch. Mr Morgans, Penrhyndeudraeth, a'r ail lith gan J. Jenkins, Glanogwen, a phregethodd y Parch. G. Jones, Ganllwyd, oddiar 1 Cor. xv. 35.-Gohebydd. RHOSYBOL.—Nos Wener diweddaf cyn- nhaliwyd cyngherdd difyrus yn Ysgoldy Brytanaidd y lie uchod, pryd y llywyddid gan J.,Mathews, Ysw., N. P. Bank, Am- lwch. Wedi annerchiad byr a phwrpasol gan y llywydd, galwodd ar y personau can- lynol i gymmeryd rhan yn y cyfarfod Mr W. D. Evans a Mrs Evans, Rose Hill; Mr R. Roberts, Miss M. C. Roberts (Yr Eos), Mri. J. R. Hughes, Richard Thomas, Robert Owen, Llanerchymedd; Richard Griffith, Miss Evans, Amlwch, ynghyda'r Bethesda Glee Society, dan arweiniad medrus Mr Robert Roberts. Gellir dy- weyd am y cor hwn y deil i'w gymmharu ag unrhyw gor yn sir Fon, ac fe ddylai pobl Amlwch fod yn falch o hono. Hefyd, y mae Miss M. C. Roberts (Yr Eos) yn debyg o fod yn un o'r ser disgleiriaf yn ffurfafen cerddoriaeth ein gwlad, a llwyddiant iddi ddyfod ymlaen yn fwy i sylw y byd cerddorol. Ar ddiwedd y cyfarfod talwyd diolchgarwch i bawb a gymmerodd ran ynddo, ac ymwahanodd pawb wedi eu llwyr foddloni, o'r hyn lleiaf-Dallhuan Corsybol. TREFEGLWYS. Gwyl De yr Ysgol Genedlaethol. Dydd Gwener yr lleg cyfisol ydoedd diwrnod a fawr ddisgwylid gan blant yr ysgol hon. Yn y prydnawn daethant yn nghyd, un ac oil. Yr ydoedd yr Ysgoldy wedi ei addurno yn brydferth ar gyfer yr amgylchiad, gan Miss Tudor, Miss Ashton, ac ereill; a'r byrddau wedi eu hulio yn ehelaeth a'r hyn oedd ddymunol i'r archwaeth yn gystal ag i'r golwg, gan y boneddigesau canlynolMrs Williams, Ficerdy Mrs Sauvage, Bodeioch; Mrs Ceiriog Hughes, Station; a Mrs Tudor, Brynllwyn House. Dymunol ydoedd edrych ar y fintai ieu- angc yn talu gwarogaeth i'r arlwy a barottoisid ar eu cyfer; acarol i'r oil o honynt gael eu diwallu, ymneillduasant i roddi lie i ereill. Yna eisteddodd nifer nid bychan o'r rhieni a chyfefllion ereill i'r Ysgol i gyfranogi o'r hyn a weddill- asid. Trodd yr hin yn rhy anffafriol i'r rhai ieuaingc fyned allan i'r maes i fwyn- hau eu hunain a'u chwareuaethau yno. Am hyny treuliwyd gweddill y prydnawn yn hynod foddhaol yn yr Ysgoldy, tan arweiniad y Parch. W. S. Williams, y ficer, a Miss Ashton, yr ysgolfeistres, mewn difyrwch adloniadol i'r corph ac i'r meddwl. Cyn gwasgaru, tahvyd diolchgarwch gwresoglawn i'r Doneddigesau am eu haelfrydedd. Da genym weled yr Ysgol er cymmaint o anfanteision sydd yn milwrio yn erbyn ei llwyddiant, yn cyn- nyddu mewn'rhifedi ac effeithiolrwydd. LLANBEULAN.—Cynnaliwyd cyfres o gy- farfodydd diolchgarwch am a cynhauaf toreithiog eleni yn.Eglwys y plwyf uchod, yn nghyd ag eiddo Llajifaelog a Llech- yched (Bryngwran), y rhai sydd yn gys- sylltiedig ag ef. Dechreuwyd yn Eglwys Bryngwran ar ddydd Mercher, y 16eg cyf- isol, a pharhawyd y ddau ddydd canlynol yn Llanfaelog a Llanbeulan. Pregeth- wyd ar yr achlysur gan y Parelledigion D. 0. Davies, Llandinorwig; D. Jones, Gelli, Llandegai; Eleazer Williams, person Edern; a H. T. Edwards, ficer Caernar- fon. Yr oedd yr addoliadau drwyddynt yn fywiog a gwresog-y canu o dan ar- weiniad Mr Richard Williams, Treban, yn Bryngwran a Llanbeulan, ac eiddo Miss Williams, y Persondy, yn Llan- faelog, gyda'r berdoneg, yn fedrus a choethedig. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn lluosog, yn enwedig yn yr hwyr, pan yr oedd y gwahanol Eglwysi, y rhai oeddynt wedi eu haddurno yn ddestlus, yn orlawn. Yr oedd y pregethau yn hynod o byawdl ac effeithiol, ac hyderir y bydd 61 y cyfar- fodydd llwyddianus hyn er daioni i lawer oedd yn bresennol ynddynt. Rhennir y casgliadau a wnaed ar yr achlysur rhwng y Gymdeithas er Adeiladu ac Adgyweirio Eglwysi yn Esgobaeth Bangor, ac Infir- mari neu Ysbytty'r CleifionMon ac Arfon.