Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
i '.-Y DEHEUDIR.
i Y DEHEUDIR. "I1 (ODDIWRTH EIN OOItBBYDD.) Maddeued fy hen gyfaill Dafydd Eppynt a mi am fod cyhyd cyn atteb ei gwestiwn yn ngbylch Matcorn Ych Banog Llan- ddewi Breft-ar y gymmalwst yr oedd y bai. Nid wyf yn gwybod dim beth ddaeth o'r crair hun bum yn ymddiddan ag am- ryw hen bobl yn Llanddewi oedd yn cofio ei weled, ond methais gael dim o'i hanes. Y mae yn bur debyg iddo fyned ar goll pan dynwyd yr hen eglwys i lawr aetb pob dernyn o olion hynafiaethol ar goll yr amser hwnw. Symmudodd Jacki Roderick, tafarnwr yn y pentref y fedydd- ifan, a gwnaeth gafn mochyn ohoni Cirosodwyd careg bedd Idnerth yn Drothwy i dan y drws bach, ac yno y mae hi yn awr. Nid oedd yma un offeiriad yn byw yn y plwyf yr amser hwnw yr oedd y Parch. Samuel Evans, y ficer, yn byw yn Llan- -andreas ar gyffin sir Henffordd. Yr oedd y curadiaid yn byw allan o'r plwyf, ac yn .gweinidogaethu mewn plwyfydd ereill. Y mae yn dda genyf ddywedyd fod amser gwell wedi gwawrio ar Llanddewi Brefi, Nis gallaf hysbysu eich gohebydd Cil- machallt mewn perthynas i'r llyfr y cy- feiria efe ato; nid wyf wedi ei weled o < gwbl. Er nad yw gweithfeydd glo a baiarn Gwent a Morganwg mewn sefyllfa mor ddymunol ag y dymunir, y maent yn myned yn mlaen yn weddol, ac y mae gobaith am adfywiad. Y mae gweithwyr Cwmrhondda i gyd yn gweithio, ac y mae gwaith dur yn Nowlas a Phenycae yu ad- fywio. Nid oes dim son fod Uyfarthfa yn ¡. «ael ei gychwyn. Y mae sefyllfa tai yn y gweithfeydd yma yn arswydus o ffiaidd. Gorlenwir y tai yn mhob man. Nid yw ddim gweled mewn ambell fan deulu o wyth, a dau let- *H tywr yn byw mewn dwy ystafell! Nid » yw yr awdurdodau lleol yn gwneud ne- mawr o ddim i lanhau ffauau lie y megir clefydau. DylaiyLocal Board yn Llun- X dain anfon arolygwr i lawr. Nid yw llawer o berchenogion tai yn hidio dim ond cael eu harian. Gorchymynodd bwrdd iechyd Merthyr i un Mrs Williams barottoi cyf- i; leusderau addas i breswylwyr y tai hyn, yn jnis Ebrill; ond ni wnaethpwyd un sylw Mater. Gwysiodd y bwrdd iechyd Mi's Williams yr wythnos diweddaf, gwell hwyr na hwyrach, am ei hanufudd-dod. ( Siarad am wareiddio: paganiaaJT !-gjwled- .f$dpellenig Yr wyf yn barnu fod angen t afla. wareiddio ein paganiaid cartrefol yn gyntaf. Yr wythnos aeth heibio yr oedd vdwy fehyw yn croesi'r mynydd o Ryraiii i Merthyr pryd yr ymosododd chweeh o ddynion, neu yn fwy priodol, bwystiilod mewn crwyn dynion, ar un wraig weddw. Baeddasant hi yn anifeiiaidd a threisiasant hi; niweidwyd hi yn erwin, ac anfonwyd am feddyg. Y mae y chwech mewn dalfa, a dygwyd hwy oil o flaen Mr De Rutzen yn Merthyr. Ceisiodd cyfreithiwr y carch- arorion brofi nad oedd y fenyw yn un o'r cymmeriadau goreu; os yw hyn yn wir, nid yw yn un rheswm iddi gael ei thrin fel anifail, a gwaeth na hyny. Yr ym yu hoff o fostio am ein moesoldeb a'n crefydd y mae lie i ofni fod mwy o anfoesoldeb yn cael eu gario yn mlaen nag ym yn freudd- wydio. Nid oes dim llawer o amser er pan ymosodwyd ar wraig briod ar yr un mynydd gan rhyw labwst. Y mae llawer o'ch darllenwyr wedi darllen am John Kyrle, The man of Ross, gwr enwog am ei haelioni a'i ddyngarwch. Y mae yn debyg i'w fantell syrthio ar ys- gwyddau yr ynadon. Dygwyd dwy eneth fach o'u blaen am dynu tywysenau o wenith o gae ffermwr, dim ond gwerth dwy geiniog. Traddododd yr ynadon hwy i sefyll eu prawf, a gwrthodasant eu goll- wng yn rhydd ar feichniafon. Yn Boss hefyd y cyfaneddai Mr Ward hyd yn ddi- weddar, arwr mawr y llafurwyr amaeth- yddol. Yr oedd y gwr hwn yn holf o ddefnyddio ei danfforch yn y Labourer's Chronicle, ond y mae wedi myned yn hollt rhyngddo a Mr Arch a'i Gwmni, y rhai sydd, dan rith o fod yn gyfeillion y llafur- wyr, yn aredig ar eu cefnau. Y mae Dr Basil Jones yn rhoddi bodd- lonrwydd mawr i drigolion Caerfyrddin. Dydd Sul wythnos i'r diweddaf cynnal- iodd ei urddiad yn Eglwys Crist, Gaer- fyrddin, a chyssegrodd Eglwys newydd f 0 yn Llanelli. Pigodd un o heddgeidwaid Cwm Rhon- dda lowr meddw i fynu ar yr heol, a saith bunt ar hugain yn mhoced ei, glos. Gwir yr hen cldihareb, The fool and his money will soon part." Y mae Llechryd, plwyf ar lan Teifl, ar y ffordd i gael ei anfarwoli. Ychydig am- ser. yn ol cyhuddwyd Mr Thomas Harries, peLgwyddog a phen Radical y sir, o saer- niaetV; Mr Evan Mathew Richards o ber- swadio James Hughes, assistant overseer y plwyf, o osod enwau pwyllgor ysgol Llechryd h1: ol i lyfr y dreth gael ei basio gan yr ynalon ar y 3lain o Fawrth, er mwyn troi y ^.ntol yn etholiad y bwrdd ysgol dosbarth L^ngoedmore. Rhoddodd hyn bedwar-ar-byn^iieg o bleidlesiau i'r byrddwyr. Gwnaethl-vycl hwy yn dreth- dalwyr am hen fwthju anghyfannedd. Gwnaethpwyd cynnyg yn arholiad o t" -= IIJ flaen"! yr arolygydd i brofi fod yr enwau wedi cael eu gosod ar lyfr y plwyf cyn Slain o Fawrth. Nid oedd un o'r enwau ar y llyfr ar y 6ed a'r ISeg o Fai! Dy- wed Mr James Hughes yn mhapyr Aber- teifi iddo brynu llyfr newydd yn shop Mrs Jane Thomas cyn etholiad y bwrdd, ac i Mr Tobit Evans wneud y llyfr newydd i fynu, Nid oedd neb yn gwybod pa fodd y terfyna yr ymdrafodaeth hon. Beth ddy- wed y Faner am hyn, wyr ? Pe buasai i'r Toriaid wneud hyn, buasai "Pobman" yno cyn hyn. Gyda Haw, clywais fod u Pob- man yn darlithio i lfaenoriaid y Radicals am beidio addysgu y bobi yn y ffydd Radi- calaidd. Y mae pobl sir Aberteifiyn ddyn- ion call,a gallant farnu drostynteuhunain. Nid oedd dim angen eu dysgu yn 1868 pan ddarfu iddynt ethol Mr Richards. Yr oedd Mr John Bright, Mrs Bright, a Miss Bright, yn bresennol yn arddangosfa amaethyddol Aberystwyth. Y mae yn debyg iddo gael ei foddloni yn fawr pan ar ei hynt trwy'r Deheubarth. Ymwelodd a Chastell Caerffili. Y mae Mr Bright, fel y mae yn heneiddio, yn dyfod yn hoff- ach o hen bethau. Yr oedd ef yn barnu nad oedd llywodraeth gyffelyb i America, ond y mae lie i farnu ei fod ef yn dyfod yn fwy hynafol gyda golwg ar wleidydd- iaeth. Y mae cicio gwragedd yn dyfod yn beth cyffredin yn Nghaerdydd ac Abertawe. Gellir meddwl fod menywod wedi cael eu creu i fod yn bêl droed i ddynion anifeil- aidd i dreio eu hesgidiau a'r hoelion naw, chwedl James Thomas, Tresimwnt. Yr wyf yn methu deall dyfarniad yr ynadon yma,—Twm yr herw-heliwr, yn Nghaer- dydd, yn cael tala deg swllt am faeddu ei wraig, a Sims y Morwr, yn Abertawe, yn cael ei anfon i'r carchar i gamu ar y tread-wheel am. dri mis am yr un troseld. Yr wyf yn credu mai Mr Fowler, Aber- tawe, sydd yn llygad ei le. Ni ddylai un hen swyddog ddangos dim un cydym- deimlad a churwyr gwragedd. Y mae Mr John Winstone, un o aelodau brefog cyngor trefol Caerdydd, yr hwn sydd yn dioddef oddiwrth glefyd y jaw, am orfodi Ardalydd Bute i roddi i fyny un o'i barciau i wneud lie i ymblesera. Os na fydd i'r Ardalydd gyttuno, y mae Mr Winstone am fyned i'r Senedd i'w or- fodi i roddi y pare i fyny. Y mae brwydr y cofrestriad yn cael ei hymladd i'r earn yn sir Forganwg. Flyn- yddoedd yn ol yr oedd y Radicaliaid yn cael eu ffordd eu hunain. Nid oedd neb yn eu gwrthwynebu ond y mae y dydd- iau halyconaidd hyny drosodd. Y mae Ceidwadwyr sir ForgaUWg ar eu gwyliad- wriaeth, ac y maent yn ennill pleidlciaiau yn barhaus. Cerxqfi. rgcant bulling y Rads y'ii Ilyni o ddwyri peth- au ynmlaen. < Yr oeddwn yn meddw} fod gan chwarel- wyr Gogledd Cymru fwy o. synwyr cyff- redin na sefyll allan ond y mae yn ym- ddangos eu bod yn hwylio yn yr un cwch a ni yn y De yma. Yr ym ni wedi llwyr laru ar sefyll allan, ac y mae y gweithwyr eu hunain wedi blino ar y busnes yma, a goreu po gyntaf i chwarelwyr Bethesda olchi eu dwylaw oddiwrth strikes, a pheidio cymmeryd eu cylcharwain gan aflonyddwyr. Bydd i'r sefyll allan eu dinystrio, a'u gwneud yn fegeriaid, a'r masnachwyr yn fethdalwyr. :<,+ I CRAIG Y FOELALLT.
. - YR HYN A GLYWAIS. ,,
YR HYN A GLYWAIS. Clywed fod dosparth-wraig y Blagard Bach yn flin ddychrynllyd am eidj bod chwi yn anfon yma y Llais i ddrygu ei budd hi. Clywed mai pedwar cant a saith ydyw cyfanswm oedran pump o bersonau yn mhlwyf Llanerfyl. Dyna brawf o iachus- rwydcl bryniau a dyffrynoedd Erfyl, onide? Clywed ddarfod i Mr Bright y dydd o'r blaen, pan ar ei ymweiiad ag Aberystwyth, ymweled a'r brifysgol a cbael ei foddio yn fawr. Clywed mai eidion du dwyflwydd oed, o eiddo Mr Vaughan, Sychtyn, ac aiiner o eiddo Mr Yaughan, Hafod, Llanerfyl, a gymmerasant y cynbrisiau yn arddangosfa amaethyddol y Trallwm, swydcl Maldwyn, y dydd o'r blaen. Er fy mawr alar, clywed fod rhai gwrag- edd ac yn wir teuluoedd yn Llanfair yn llygadrythu yn y ffenestri, ac ar ddrysau eu tai,nes y maent yn nuisance i'r neb a el heibio. Diwygiwch, chwi y rhai sydd yn euog o'r hen arferion isel a gwarthus, a cywilyddiwch hefyd. Clywed mai truenus oedd yr olygfa ar un o weinidogion yr A pan syrthiodd yn aberth i'r ffos y noson o'r blaen wrth ddychwelyd o'r cyngherdd. Gwylia dy droed, yr hen gyfaill. Clywed mai triugain pwys o fara britl a fwytawyd y dydd o'r blaen ar agoria ysgol newydd y bwrdd yn Llanerf; Tybed fod un o'r eryrod yno. ERFYI
[No title]
"Ni saethais i aderyn erioed yn fv ebe rhyw un wrth ei gyfaill-yr liwi a I attebai, "Ni saethais i ddim ericed arm aderyn ond W iw er, yr hon ? leddai a chareg,pan y syrthiodd i'r af0!1 aboddol." 1
"'¥M-i AT FEISTRADOEDD A GWEITHWYR.
"'¥M- AT FEISTRADOEDD A GWEITHWYR. FEISTRIAITI ,—Gan fod eich gwasanaeth- yddion yn ddynion o'r un defnydd, ac o'r un teimlad a chwitbau, bydded i chwi ym" ddwyn yn dirion a theimladwy tuag attynt. Cofiwch nad aJlwch fyw hebddynt,—nad allwch gael cysur, tra ar y ddaear, heb-1 ddynt. Gan fod eu gwaith mor galed n,r! byd y prif-ffyrdd, y caeau, y chwarelau, &c., bydded i chwi ymddwyn yn dirion tuag attynt,—cofiwch eu bod yn dyoddef pwys a gwres y dydd, yn ail i'r anifail di- reswm, drosoch. Dymunwn i chwi, feistr- iaid, ddyfod gyda, fi am dro i ymweled a bwthyn un o'ch gwasanaeth-ddynion, fel y caech gip-olwg ar ei aelwyd oeraidclj ei si^mbr fechan, yn yr hon y mae ei wely caled a llwm, lie y gorwedda ei briod ac yntau, yn nghyda dau o'u hanwyliaid ieu- angaf. Hefyd, caech weled yr un darlun yn ei lofft fechan, He y mae tri o'u plant yn cyd-orwedd. Efallai y byddai golwg ar y dyn hwn yn dyfod adref ambell i nos- waith oddiwrth ei waith, wedi cerdded dwy neu dair milltir trwy wlaw trwm, yn olwg ddieithr iawn i ambell i feistr. Gwel- weh fod ganddo bump o blant bychain i'w bwydo a'u dilladu gyda'r cyflog a dder- bynia gan ei feistr. Cofiwch hefyd fod y dillad gwlybion oedd am dano neithiwryn dyfod oddiwrth ei waith, yn cael eu gwisgo am dano boreu heddyw i fyned at ei waith. Gan mai fel yna mae'n bod gyda'r gweith- iwr tlawd, tosturiweh wrtho, a dodwch iddo gyflog fel y gallo ef a'i blant gael ym- borth maethlon a dillad cynnes am danynt. Na fydded i chwi ymddwyn yn greulon a chaled tuag at eich gwasanaeth-ddynion, —galluogwch hwynt i fod yn llawer uwch na'ch afresymolion gwasanaethgar. Cof- iwch am danynt hwy a'u teuluoedd bychain a mawrion yn misoedd oerion y gauaf, ac am eu caledwaith yn misoedd cras-boeth yr haf. "Y gweision, ufuddhewch yn mhob peth i'ch meistriaid." yVeithwyr,—Cofiwch*hyn, fod yn yr hen fyd hwn er ei ddechreuad, uwch ac is- raddolion,—cyfoethogion a thylodion. Os chwiliwch yr Ysgrythyrau, cewch eich cymhell i barchu eich uwch-radd. Os gwelwch eich bod yn cael cam gan eich meistriaid yn nghylch eich cyflogau, neu unrhyw beth arall, bydded i chwi wneuth- ur appeliad boneddigaidd, mewn yspryd tawel a moesol, i erfyn arno eich cyn- northwyo yn eich cais, ac felly byddwch yn dra thebyg o daro ar ei deimlad, a llwyddo i gael eich dymuniad. Dyna un peth peryglus iawn i wneuthur y gweithiwr tlawd a'i deulu yn annedwydd yn ei sef- yllfa, ydyw gwrando gormod ar ddynion drwg-wybodus, y rhai a hauant hadau terfysg yn eu plith,—hadaii chwerwon Siartiaeth. Bu yn fost genym lawer gwaith mai Cymru oedd y dosbarth mwyaf heddychol o'r Deymas Gyfunol ac ni ofnem gymhariaeth dg un wlad dan haul, o ran moesoJdeb a thawelwch y boblogaeth ond yn awr rhaid i ni guddio ein penau, a sefyll yn fud. Paham ? Ai am fod Cymru wedi dirywio ? Ai am nad ydym etto yr un mor foesol a hedd- ychol ? Nage, ond oherwydd i apostol- ion Siartiaeth lwydclo i lithro in mysg. Ymocheled pawb rhag ysbryd Siartiaeth, fel rhag sarph; y mae yn felldith mewn byd ac eglwys. Y meistriaid, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn." JOB YR AIL.
LLANIDAN. ^
LLANIDAN. IV.' J Taflwn weithian ryw gipolwg dros "Erw y Sant neu y Fynwent." Cawn rhwng muriau hon nifer fawr o feddfeini a thwys- geA o englynion beddargraphyddol, clog- yrnaivM ar y Cyfan. Y mae yma un gwyddlam 0iygus « er cof am" jolm Gooamau, i^w,, Porthamel, yr hwn a fu farw Medi 19, i789? yn 39 mlwydd oed a Margaret Goodnnilj a anwyd Hydref 17, 1757, ac a fu fanv Medi 27, 1819." Gerllaw mae beddfaen henafoi an n,i-nn -vr argrayh hon:- _w- He:e lyeth ye body of Ellin Lewis, nurse t) ye Rev. Hugh Evans, Rector of Landov, &'s brother John Evans, of Tre- farthin; who died ye 31st day of March, in ye jaar 1759 aged 90." Teb'gol mai un o webelyth Lewys Moryf o Blas Llanfaglan, ydoedd y fam- maet Ellin Lewis. Os felly, yr oeddyn chwar i Hugh Lewis o.Lanfaglan, yr hwn a biododd Ellen, merch Hugh Evans o Dreirthin, a chwaer i'r Parch. Hugh Evfis, Landow, a John Evans, Ysw., IVarthin. Gelwir Lewys Morys o Lan- fylan yn 'Lewys Morys o Drefartliin, pn, yn Nghyff Beuno, t.d. 99. Ar feddfaen cyfagos cawn a ganlyn yn sgrifenedig ;•— J Underneath lieth the remains of Ann, wife of ltichard Hughes, clerk, and only daughter and heiress of Evan Hughes, of Givydryii, in this parish. She died the 26th day of April, 1812, aged 38 years. She has left six children deeply sensible of the loss that has been sustained by the death of a most affectionate wife, and one of the best of mothers. This tomb in grate- ful remembrance of sincere affection is erected." Ar feddfaEm y diweddar Thomas Hughes. o Dyddyn Adda a'i briod, taid a nain y tenant presennol, o'r un enw, cawn y pedair llinell syml hyn Bu' rhai'n dyner iawn eu broo, 0 galon i'm diogalu Hyn sydd er cof am dad a man Yn anwyl fu'n fy magu." Mae llechfaen ar bwys mur Gorllewinol y gladdfa ac arn- i Here lyeth ye body of Lowry Williams, who died November ye 15th day, 1758; aged 19. Gwel fedd oeredd werydd,-llawr heddweb, Lle rhodded btla hyfryd; CofiwD, daw llef a'i cyfryd ri* I'r olaf farn yn'r ail fyd. Daw dydd ar gynnydd i'r gwaith—-i m cyichu O'r carchar IIWH ymaith; Gwybydd drwy Grist fod gobaith I ganfod inwg gwynfyd maith." Ar fy medd na ryfeddwch,—rai ifainc, Er afiaeth a thristweh; Diau buau y deuwch A I'r llawr yn gydradd i'r llwch." Cawn ar fedd gwr a gwraig yr englyn hwn, Gwedi anwyl gyd-dynu-eu hainmod, Maent yma'n cyd-bydru; Cant cyn hir o'r dyfndir du Gydfwyuaidd godi i fynu." I Ar fedd baban, Bloileuyn cyn gwyneb-leda-a wywocid, Uw 0 fel y darfu Ei wedd deg yn y bedd du I'wy edrych arno'n pydru Ar fedroddau ereill gwelsom ynmysg niferi y ddau englyn isod :— Mae gobaith helaeth o hyd-daw Iegu Gwir D'wysog y Bywyd A gwyia faen ein gweryd, A n dwyn i iyw i'r ail fyd." liboddwyd AIm eirian i orwedd,-3welwch, Er galar i'w chyd-wedd Cyfyd i'r lan o'i hannedd 1 wlad bur u waelod bedd." Gwelsom ddernyn Seisnig pur deim- ladwy a, thlws mewn un cwr o'r gladdfa a dyma fe :— Death soul and body parts Not from their Saviour's love: The pilgrim left below, The Saint is gone above. HE to this dust its spirit will restore Wheu piuus friends shall meet and part no m ire.
LLITH LLYGADOG.
LLITH LLYGADOG. FONEDDIGION,-Rhyw dippyn o ddiogi ,I a syrthni meddwl sydd wedi ymaflyd ynwyf y dyddiau hyn, a dyna'r achos fy mod mor annyben gyda'm llithoedd. Ac un achos arall ydyw fy mod yn methu a llygadu yr un testyn wrth fy modd y dyddiau terfysglyd presennol-hyny yw, a fyddai yn unol a chwaeth goethedig darllenwyr Llais y WLad, er y gallaswn gael lionaid trwmbel mawr o stwlf gwag- saw rhigymau dieuaid y papyrau Radi- calaidd, bob wythnos, a'u hanfon i chwi o ran hyny. Ond pa les fyddai hyny ? Credaf fod eu sawyr yn afiach ddigon, a bod ond yn yr un gymmydogaeth a hwy yn annioddefol. Diau mai bendith fawr i'r egwan rai yn y ffydd a fyddai fturfio cymdeithas er llwyr ymwrthod a hwy. M eddy li wyf mai dyna'r unig feddyginiaetb. rhag pob gau athrawiaeth, heresi, a sism, ie, a rhag y dirgel fradwriaethau, y C> gwrthryfelgarwch, a'r terfysgoedd sydd wedi meddiannu Cymru grefyddol a. goleuedig yn y ganrif genfigenllyd a hunanol hon. Tra y mae y Bethesdiaid yn eu cyfyngder, cawsom ninnau yn y rhanbarth hwn o'r greadigaeth y fraint o ddiolch i Dad y trugareddau am iddo o'i fawr drugaredd ein diwallu a bara beu- nyddiol eleni etto. Neillduwyd yr I leg dydd o'r mis hwn i gynnal eu gwyl o ddiolchgarwch yn Eglwys Trefdraeth ac er fod y tywydd yn anffafriol, cawsaut gynnulliad lliosog, a gwleddoedd pregeth- wrol mewn gwirionedd. Ymddangosai pawb fel pe wrth eu bodd, ac nis gallaf lai na meddwl yn bendant fod y gair "diolch- garwch" yn argraffedig ar wen pob un o'r gynnulleidfa; ac yr oedd hithau, yr "hen fam," fel pe wedi adnewyddu ei hysbrydoedd. Gwneid casgliadau ar ddiwedd pob un o'r cyfarfodydd. er bucld trysorfa y Bangor Church Extension So- ciety. Cofier nad ydym ninnau tua. Malltraeth yma yn fodau anniolchgar, nac ych waith wedi ein hesgymmuno o dir rheswm a moesoldeb, fel na wyddom ein dyledswyddau fel creaduriaid dibynol ar ryw Fod goruwchnaturiol. Na, bu i ni gyssegru y i8fed cynfisol yn gyfangwbl i offrwm ein mawl a'n diolchgarwch i Roddwr pob daioni. Yr oedd y tywydd yn hynod rfafriol, a chawsom gynnulleid- faoedd lliosog. Pregethwyd yn rymus ac effeithiol gan y Parchedigion D. 0. Da- vies, Porthdinorwig; Mr Harries, Llan- geinwen a Mr Jenkins, Bryngwran. Darllenwyd y gwasanaeth yn yr amryw- iol gyfarfodydd gan y Parchedigion B. Williams, curad, Trefdraeth, a Mr J. Owens, is-ddiacon y lie. Darllenwyd y llithoedd gan y Meistri H. Owens, yssfol- feistr, Trefdraeth, ac A. Evans, Malltraeth. Casglwyd at ddybenion lleol ar ddiwedd y cyfarfodydd. Caraswn daflu cipdreni. ar sefyllfa pethau yn y gymmydogaetli hon ers rhai blynyddoedd yu ol, a'r llwyddiant sydd wedi dilyn yr achos lwysig yn y He, oni bai ofn eich blino "Vi meithder; a chan hyny, gadawaf heibio hyd ryw dro etto pan y caf fwy o ham- dden, — ,.1. LLVGADOG. Bryngolwg, nawn Sadwrn.