Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
...... NEWYDDION CYMREIG.
NEWYDDION CYMREIG. LLANFIHANGEL-Y-PENNANT A'1 HELYNT- ION.—Gan fod Llwynog Cwmsilin yn rhy wan ei olygon i dreiddio oddiar gopa y Graiglas i'r fangre dawel hon, tybiasom mai nid annerbyniol a fyddai ambell i bwt o lith am y fan hon a'i helyntion yn Llais y Wlad. Na ddigied y Llwynog, am wneud cyfeiriad ato. Dichon mai y peth sydd yn tynu mwyaf o sylw i'r fan hon y dyddiau presenol ydyw gweithiad y ffordd haiarn gul (narrow gauge). Mae hon yn cael ei gweithio yn mlaen yn rhagorol yn ol cyn- iluniad yr hyglod beirianydd Mr Wilson, Llundain; a diamheu ydyw y bydd cael y fath beirianwaith yn achos o gynnydd mawr yn masnach y lle.-Masnach yr Anifeiliaid, a masnach y Merched.—Fel braidd bob lie trwy y wlad, felly hefyd y fan hon gyda masnach yr anifeiliaid, sef hynod o farwaidd y dyddiau presennol, yn enwedig gydag anifeiliaid corniog, a'r prisiau lawer yn llai, a lleihad yn y gofyn am danynt. 0, ie, hefyd gyda masnach y merched, braidd na thybiem mai ychydig o ofyn sydd ar y rhai hyn hefyd, oblegyd hysbyswyd ni fod merch ieuangc frech, lied wariog, a thrwyn digon helaeth i i wneud dau, pe cymmerasid gofal digonol gyda'r defnydd, wedi gwneud y fath ym- drech i basio yn ffeiriau Gwyl y Grog yma fel yr aeth gan belled a ffair Llanberis i ddechreu, ffair Beddgelert wedyn, ac yn ddiweddaf oil ffair Penmorfa. Beth a feddyliet ti o ferch a'r fath blwc ynddi, Lwynog Cwmsilin ?—T. LLANIDLOES.- H irhoedledd.- Y mae hen wreigan barchus yn byw yn y dref hon, a'i henw Mrs Margaret Jones, ond yn fwy ad- nabyddus yn y lie wrth yr enw "Margaret Jones, Senter." Ganwyd hi Hydref 24ain, 1775, ac felly os bydd hi fyw i weled Hyd- ref 24ain, 1874, hi fydd yn bedwar ugain a phedair-ar-bymtheg mlwydd oed. Dech- reuodd grefydda gyda'r enwad Annibynol yn y flwyddyn 1805, pan oedd hi yn 30 mlwydd oed, ac felly y mae hi wedi bod yn aelod dichlynaidd a diargyhoedd ers naw a thriugain o flynyddau. Daeth hi a'i gwr Richard Jones, (yr hwn sydd wedi marwtros ddeng mlynedd ar hugain) i fyw yma o Fachynlleth, yn y flwyddyn < 1816, a buont ill dau yn offerynau yn Haw yr Arglwydd i ddechreu yr achos Annibynol yn y dref hon, yn y flwyddyn 1818. Felly priodol iawn y gellir ei hys- tyried a'i galw yn fam Annibyniaeth y lie hwn. Y mae hi yn hynod iachus, a'i chof yn gryf, ond mae ei golwg wedi pallu, a'i eblyw wedi trymhau gryn lawer o fewn cylch y flwyddyn hon.-Cyfarfod Blynydd- ot.-Mercher a Iau, y 23ain a'r 24ain cyn- > fisol, cynnaliodd Bedyddwyr y dref hon eu cyfarfod blynyddol, a gweinyddwyd ynddo gan y Parchn. J. A. Morris, Aberystwyth; 0. W. James (Waldo), Merthyr; R. C. Lloyd (Cenydd), Casbach; a C. Griffiths, Cinderford, (gynt Sion Merthyr). Yr oedd I yr hin yn hyfryd, y pregethau yn sylweddol a gafaelgar, a'r cynnulleidfaoedd yn anar- ? ferol o fawr trwy y cyfarfod.-Angeu di- • i syfyd.-Nos Fercher, y 23ain, cynfisol, aeth Mrs Jones, gwraig Mr Thomas Jones, > o'r Angel Inn,y dref hon, i addoldy y Bed- yddwyr, lie yr oedd hi yn aelod dichlyn- aidd, i'r cwrdd mawr oedd yn dechreu yno y noson hono. Bron gyda ei bod yn ei heisteddle, gwelwyd arwyddiono gyfnewid arni, ac aethpwyd a hi allan o'r capel mor fuan ag oedd modd, ac yn ebrwydd ar ol y mynediad i maes bu farw yn y fan heb yngan gair wrth neb. Galwyd Dr. Davies i'r lie, a daeth yn ddiattreg, oher- wydd y mae ef yn byw o fewn tua deg llath o fan y digwyddodd yr amgylchiad, ond cyn ei ddyfodiad yr oedd ei hysbryd wedi ehedeg at Dduw yr hwn a'i rhoes." Felly hi gafodd ei dwyn adref yn farw cyn pen ugain munud ar ol ei mynediad allan yn fyw. Y mae y digwvddiad hwn yn brawf Nais gwyr un dyn o berchen chwyth, Wrth fyn'd o'i nyth trigianol; Na fydd e'n cael yn ddwyn yn by', Yn ol i'w dy jn farwol." Corned Coggia." Darganfyddwyd y gomed neu y seren gynffonog hon gan Mr M. Coggia ar yr 17eg 0 Ebrill diwedd- af, a gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf i ni y Cymry ar y drydedd nos o Orphenaf dilynol i'w darganfyddiad, a bu yn wel- edig yma hyd y igeg o'r un mis. Ym- ddengys mai ar y 15fed o'r mis yr oedd hi agosaf i'r ddaear; a dywedir fod ei llosgwrn, sef ei chynffon, y pryd hwnw yn 25,000,000 o filldiroedd o hyd. Rhyfedd y sylldremu fu arni gan luoedd y lie hwn, a phob un a'i farn a'i reswm am dani. Mynai rhai o honynt mai hon oedd yr achos o'r holl wlybaniaeth a gawsom y gauaf a'r gwanwyn diweddaf. Haerai ereill mai hi oedd yr achos o'r haf sych a gawsom eleni. Taerai ereill y bydd hi yn achos o auaf caled iawn, ac y bydd ynddo lawer iawn o rew ac eira ac ystormydd mawrion fel yn 1811 ac 18 5 7, ac fel y mae yn arfer a bod ar ol ymddang- osiad y ser cynffonog," meddent. Am- ser a brawf eu prophwydoliact.i. Pa beth ser a yw barn y doethawr Solomon Wise, y sylwedydd o'r lie hwn, yr hwn a fu yn sylldremu ami trwy ei ysbienddrych pum modfedd y nos Sul cyntaf ar ol ei hym- ddangosiad i ni? Pan gLli allan ei farn a'i feddwl am dani i berffeithrwyda, caiff darllenwyr Llais y Wlad wybod hyny, oherwydd gallaf eich sicrhau fod barn y doethawr hwnw yn un bwysig iawn, fel pobpeth arall o'i eiddo. Rhag na wyr y sylwedydd hwnw amser ei chylchdro oddiamgylch y North Pole, dywedaf er ei fantais ef a'r darllenydd y daw hi etto yn ei thro ymhen 137 o flynyddoecld, sef yn flwyddyn 2011. Mawr a rhyfedd yw gallu a gweithredoedd yr Hwn sy'n dal y byd ar gledr ei law, yn mesur y nefoedd a'i rychwant, ac yn rhifo rhifedi y ser.— Mynwent St. Idloes.-Rhyw awr ham- ddenol un prydnawn-gwaith yn mis Mehe- fin diweddaf, aethum am dro i'r fynwent hon, ond nid heb gofio y geiriau canlynol o eiddo y bardd Seisnig, Come, then, put off the world and tiead, With serious feet, the city of dead." Wrth edrych a syllu amgylch ogylch mangre preswylwyr y llwch, lie mae pob tawelwch yn teyrnasu, gwelais fod yno gryn lawer o waith wedi ei wneud oddeutu gwyl y Pasg, oherwydd yr oedd y beddau, gan mwyaf ohonynt, wedi eu. glanhau a'u trefnu a blodau ac a choedydd bythol- wyrddion, wedi eu planu ar amryw ohon- ynt, ac ar fynwesau ereill yr oedd ambell i gareg fechan gyda'r ddwy lythyren dorodd rhyw annghelfydd law." Gwelais hefyd amryw o feddfeini newyddion, lied hardd, destlus, a chostus, a Ilawer o'r hen feddfeini wedj eu paentio o'r newydd, a'r oil i gyd o'r pethau hyn yn dangos parch i'r gwrthddrychau y maent yn eu dynodi. Wrth ben dwyreiniol yr eglwys y mae dau ddyn tra nodedig ac enwog wedi eu claddu, y rhai a ystyrir gan rai pobl rhagfarnllyd yn elynion ac erlidwyr Ymneillduaeth, sef y Parchedigion John. Owen, (genedigol o Crywlwmfach, ger y lie hwn, neu yn olrhai, o'r dref hon), ficer Llanfair a Dyneio gerllaw Pwllheli, a. Changhellydd Bangor. Hwn oedd y gwr y daeth Dorti Ddu yma rhyw 80 milldir o ffordd yn ei Hid a'i chynddaredd i faeddu ei fedd, fel pe buasai hyny yn rbyw sarhad. ac anmarch mawr ar ei gymmeriad. Druan o Dorti Ddu Y mae yr argraff- iadau oedd ar wyneb ei feddfaen sydd yn dynodi y lie y claddwyd ef wedi eu treulio ymaith gan amser. Y Hall ydyw y Parch, j Isaac Llwyd, yr hwn a fu yn fieer Eglwys St. Idloes am lawer 0 flynyddoedd. Ar fur yr Eglwys wrth bon ei orweddle y mae beddfaen, ac arni argraffnodion Lladin- aidd. Bu farw y gwr duwiol a gwasan- aethgar hwn, Rhag. 20, 1708, yn 98 mlwydd oed. Er wedi marw y mae yn llefaru etto. Y mae cymmaint o gulni a rhagfarn yn mynwesau rhai personau tuag atto, fel na fynant son am ei enw ond fel gelyn ac erlidiwr yr Ymneilldu- wyr, yr hyn sydd yn gyfeiliornad dybryd iawn, oherwydd nid oedd dim Ymneilldu- wyr yn y lie yn ei amser, ond ychydig o Gwaceriaid. Iclloesyrt. LLANERCHYMEDD. Cynnaliwyd pwyllgor yn George Inn, Llanerchymedd, o Amaethwyr Mon, gyda golwg ar y golled a gafodd J ohnowen ac Evan Griffith, Rhosybol, prif borthmyn moch ein hardal- oedd, pan y penderfynwyd cydymdeimlo a. hwy yn eu colled o 3i4p., fel y mae y rhan fwyaf o Ynys Fon yn gwybod. Pennodwyd lluaws o gaslgyddioa í fyned i gasglu ar eu rhan; gan obeithio fod pawb wedi gwneud ei oreu tuag atynt, bwriedir cau trysorfa y dysteb i ;fynu ddydd Mercher wythnos i'r nesaf, Hydref 14eg.. RHOSLLANERCHRUGOG.— Os yw. yn ddichonadwy, carwn i'r hyn a ganlyn ym- ddangos yn eich newyddiadur clodwiw, fel y caffo'r wlad wybod trwy gyfrwng y Llais treiddgar, nad yw yr Eglwys yn y lie uchod ddim yn cysgu yn gyfangwbl yn llwch diweithgarwch. Nid yw yr achos Eglwysig yn y lie yma ond ieuangc yn gymmhariaetiiol, ac etto mae yn dda genyf eich hysbysu ei fod yn hynod o le- wyrchus mae y cynnulleidfaoedd yn gryf, yn enwedig yr un Gymreig, yr hon sy'n myned ar ei chynnydd yn barhaus. Mae yma ysgolion dyddiol a Sabbothol llewyrchus iawn hefyd. Os na welwch y llith yn myned yn rhy faith, wele res o adroddiadau (reports) yr arolygwyr am yr ysgol ddyddiol, pa rai a ddengys fod llafur boddhaol yn cael ei wneud ynddi mewn addysg grefyddol yn gystal a gwladoL Wele hwynt yn annghyfieithedig, rhag ofn i mi wneud cam a hwynt:—H. M. In- spector's Report, March, 1874 This school has passed a good examination." The Diocesan Inspector's Report, June, 1874 This school has rapidly in- creased in religious knowledge during the past year. The results of the examina- tion are very creditable. Tone and dis- cipline very satisfactory." The results of the drawing examination are as follows —" Four received prizes, and ten received cards of proficiency, while 33 gave satis- factory evidence of having been taught drawing." Gadawaf i'r gweithredoedd siarad drostynt eu hunain.—Ar yr 21ain dydd o Fedi, cynnaliwyd yr wyl de flyn- yddol mewn cyssylltiad ag ysgolion dydd- iol a Sabbothol yr Eglwys. Er fod yr I hin yn anffafriol iawn i'r wyl, yr hyn a'u hamddifadodd o'r orymdaith arferol, daeth pawb yn nghyd i'r ysgoldy yn gryno iawn. Eisteddodd oddeutu 650, rhwng plant a rhai mewn oed, i gyfranogi o ffrwyth y ddeilen Indiaidd a bara brith blasus, a chafodd pawb eu boddloni yn fawr yn y cyfranogiad. Yn yr hwyr caf- wyd cyfarfod o adloniad i'r meddwl, fel diweddglo naturiol i'r wyl, yr hwn a lyw- yddwyd gan Mr E. Evans, Bronwylfa, boneddwr parchus a haelionus yn y lie. Rhoddwyd boddlonrwydd mawr i'r cyn- nulliad lliosog oedd yn bresennol wrth wrando ar yr adroddiadau a'r dadganiad- au, &c., llwyddiannus a gafwyd gan blant yr ysgol ac ereill o gantorion yr Eglwys. Terfynwyd y cyfarfod mewn amser pryd- lon, ac wedi talu y diolchgarweh arferol, ymadawodd pawb i'w cartrefieoedd, gan ddymuno cael llawer o wyliau te etto yn y dyfodol, a'r fath lawenydd a dedwydd- weh yn nglyn a hwynt ag a gafwyd y tro yma.-Deivi Tyclfil. TALYSARN.—Y Gyfrinfa Gymreig.—Da genyf hysbysu fod Temlyddiaeth Dda yn ennill tir yn y lie uchod. Y mae wedi bod yn bur farwaidd ers amrai fisoedd, ond yn bresennol, y mae trigolion yr ar- dal, fel pe byddent wedi cael goleu newydd ar y daioni mawr sydd yn deilliaw ohoni, yn dylifo i mewn yn feibion a merched. Y mae cyfarfodydd campus yn cael eu cynnal ynddi hefyd. Yr wythnos o'r blaen yr oedd yn hyfrydwch mawr genyf wrandaw ar ddarlleniad traethawd ar y "Wraig Rinweddol," yr hwn a gyfansoddwyd gan hen feddwyn diwygiedig, ac yr oedd yn un da odiaith, ac yn dangos bod talent yn yr hwn a'i cyfansoddodd. Cafwyd amryw glees gan Mr R. B. Williams a'i barti. Hefyd cafwyd amryw unawdau ac annerchiadau yn ystod y eyfarfod.-Y Gyfrinfa Seis)tig.Aiia fod yma amryw o Saeson yn ein hardal, codwyd cyfrinfa Seisnig ar eu cyfer. Am fisoedd lawer bu y gyfrinfa uchod fel pe yn dihoeni mewn darfodedigaeth; ond yn awr mae yn ad- fywio yn gyflym ac yn cynnal cyfarfodydd da odiaith. Ceir ynddynt amryw glees, unawdau, annerchiadau, hefyd solos ar y cornet. Gallaf ddyweud yn ddibetrus fod y cyfarfodydd uchod yn fendith annrhaeth- ol yn ein hardal boblogaidd.-Gu,obrait Bacchus.—-Y noswaith o'r blaen, (y boreu ddylaswn ddyweud,) cychwynodd dau o drigolion y gymydogaeth adref o gapel Mr John Heidden, ac yr oedd dylanwad Syr John wedi cael y fath effaith ar eu syn- wyraunesiddynt lwyr anughoifo eu-hunain. W'rth ddyfod adref, meddyliodd y cyfeillion na wnai ychydig nap lawer iawn o ddrwg iddynt, ac felly gorweddasant ar ochr y ffordd a chymmerasant hi yn gysurus; ond y canlyniad fu, daeth un adref wedi colli cas ei watch, a daeth y Hall adref yn droednoeth. Y mae y ddau yn meddwl diwygio, ac yn hwylio uno a'r Temlwyr Da yr wythnos nesaf. Y mae yn dda genyf ddyweud fod gwragedd pen drysau Creigiau Mawr agos wedi llwyr ddiwygio ar ol gweled fy llith yn eich rhifyn di- weddaf. Gan fy mod wedi myned eisoes yn faith, yr wyf yn rhoddi fy ysgrifheibio hyd y tro nesaf.—Llais o'r Nant. -do-
YMRWYMIADAU ( BONDS ) Y CHWARELWYR.,
YMRWYMIADAU ( BONDS ) Y CHWARELWYR. Gyda golwg ar werth cyfreithiol yr ymrwymiadau hyn, anfonir i ni y dyfyniad- au canlynol o'r achos (case), ac opiniwn Mr R. G. Williams, y bargyfreithiwr enwog o'r enw hwnw, o'r Gylchdaith Ogleddol :— YR ACHOS (CASE). (Copi o Reolau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru). Ymddengys fod nifer o ddynion y pryd hwnw yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn, y mwyafrif o ba rai ydynt aelodau o'r Undeb uchod, ond rhai ohonynt na fedd- ant unrhyw gyssylltiad ag ef, wedi mynecl i a llawnodi Ymrwymiadau ysgrifenedig pennodol gyda'r Undeb i'r pwrpas can- lynol i.-Focl mewn amgylchiad o droad ymaith unrhyw aelod o'r pwyllgor neu swy ddog arallo'r Undeb o'i wasanaeth, oherwydd ei gyssylltiad a'r Undeb, neu oherwydd cymmeryd rhan mewn strike, i bob person a lawnododd y cyfryw am- modau gyfranu punt i drysorfa yr Undeb tuag at wneud darpariaeth ar gyfer y person a drowyd ymaith yn y cyfryw fodd. Dywedwyd nad ydyw cyfrifoldeb y personau a lawnodasant yn y fath fodd yn gyfyngedig i gyfraniad o bunt yn unig, ond fod pob llawnodwr yn rhwym- edig i gyfranu y swm hwnw ar bob cyfryw droad ymaith, fel y cyfeiriwyd atto uchod, felly yn gosod y llawnodwyr o dan gyfrifoldeb terfynedig yn unig gan nifer y rhai a droid ymaith. 2. —Na fydd mewn amgylchiad o strike, o dan awdurdod y pwyllgor, i unrhyw berson a lawnododd yr Ymrwymiadau a nodwyd uchod ddychwelyd at ei waith heb gydsyniad Pwyllgor yr Undeb neu eiddo y pwyllgor a fedd lywodraethiad y strike, ac ar yr achlysur i unrhyw ber- son o'r fath ddychwelyd at ei waith hcb y cyfryw gydsyniad, y bydd iddo achosi dirwyon a fforffedion pennodol. Cedwir y tystysgrifau a lawnodir yn y fath f odd mewn dirgelwch mawr hyd yn nod rhag y dynion a'u llawnodasant eu hunain, ond cyfeirir attynt yn boblogaidd fel Ymrwymiadau yr Undeb. Ystyrir yr Ymrwymiadau a elwir felly heb unrhyw rwymedigaethau gorfodol ac heb allu i'w rhoddi mewn grym. Ond mewn cyfarfodd cyhoeddus di- weddar o'r dynion sydd ar strike, pan y dywedid fod amheuaeth yn cael ei ddatgan gyda golwg ar gyfreithlonrwydd yr Ym- rwymiadau, gofynwyd i'r cadeirydd ddat- gan ei opiniwn yn eu cylch, pryd y gwnaeth yr attebiad gwyliadwrus fod yr Ymrwymiadau oll yn ddiogel, yr hwn attebiad sydd yn ymddangos wedi cael ei ddeall fel sicrhad eu bod yn rhwymo yn ddiogel y personau a'u llawnododd hwynt. Yna dyfyna yr achos (case) benderfyn- iadau diweddai pennodol yn Llys Maine y Frenhines. Dymmunir ar i chwi gyfarwyddo pa un a ydyw unrhywYmrwymiadneuGyttundeb fel a ddesgrifir uchod, neu i'r cyffelyb amcan, neu o'r cyffelyb natur neu effaithr i neu gyda'r Undeb uchod, yn gyfryw ag y gellir ei roddi mewn grym wrth gyfraith mewn unrhyw fodd pa bynag. r OPINIWN. Nis gall fod unrhyw amheuaeth nad ydyw yr Ymrwymiad neu Gyttundeb dan sylw mewn attaliad ar fasnach, ac oni byddai am ddarpariaethau yr Act 34 a 35 Vic., c. 31, byddai yn annhgyfreithlon, ac yn analluadwy i'w roddi mewn grym. Ond er fod y ddeddf yn gwneud y fath gyttundebau yn gyfreithlon, y mae, drwy y 4edd adran, yn darparu yn bendant na alluoga dim yn yr Act unrhyw Lys i gyd- nabod unrhyw erlyniadau cyfreithiol a gych- wynirgyda'rbwriad o roddi mewn grym neu adgaffael yn uniongyrchol iawndaliadau am doriad (yn eu mysg) unrhyw gyt- tundeb am daliad gan unrhyw berson o unrhyw danysgriftad neu ddirwy i undeb masnachol," yr hyn yw nodwedd yr ymrwymiad neu gyttundeb dan sylw. Y mae yr Ymrwymiad neu Gyttundeb dan sylw, felly, er nad yn anghyfreithlon, yn analluadwy i'w roddi mewn grym wrth gyfraith mewn unrhyw ffordd pa bynag, gyda golwg ar y ddarpariaeth gyntaf a'r ail o hono, a byddai unrhyw gyttundeb i'r cyffelyb effaith yn yr un sefyllfa. Effaith ymarferol yr Act ydyw gwneud cyttundebau mewn attaliad ar fasnach nid yn anghyf- reithlon, ond ar yr un pryd yn analluadwy eu rhoddi mewn grym mewn unrhyw lys. R. G. WILLIAMS. Library Chambers, Temple, Medi 24ain, 1874. I'r darllenydd anghyfarwydd, dichon yr ymddengys yn groesddywediad ddes- grifio ymrwymiad neu gyttundeb fel yn gyfreithlon, ac ar yr un pryd fel yn an- alluadwy i'w roddi mewn grym. Yr eglurhad, yr ydym yn deall, yw hyn,—- Gynt yr oedd personau a elent i'r fath ymrwymiad neu gyttundeb yn agored i gael eu cospi yn droseddol, am gydfrad- wriaeth i attal masnach yn awr, drwy y ddeddf uchod, gwneir y fath ymrwymiad- au neu gyttundebau yn gyfreithlon mor bell ag i ryddhau personau a elant iddynt oddiwrth gospedigaeth droseddol, ond amddifadir hwynt o bob gweithred- iad, grym, neu effaith cyfreithiol.
.. I MARGARET THOMAS ETTO.
MARGARET THOMAS ETTO. Ymddengys nad oes derfyn ar anfifod- ion Margaret Thomas, yr hon, fel y cofia y darllenydd, a gyhuddwyd beth amser yn ol o lofruddio boneddwr yn Rhyl. Ychydig ddyddiau yn ol cyhuddwyd hi yn Rhyl o ladratta hanner sofren, eiddo un Elizabeth Saunders, Steam Mill Street, Caer. Yr erlynes, gwraig briod, a ddywedai ddarfod iddi gyfarfod y gar- chares yn Foregate-street, yr hon a ofyn- odd iddi a allai ei chyfeirio i gael Hetty. Dywedodd yr erlynes y gallai ddyfod gyda hi gartref i gael cwppanaid o de. Tra yn yfed te, aeth yr erlynes o'r neilldu, gan adael ei phwrs ar y bwrdd, yn cyn- nwys tair ceiniog a hanner sofren. Pan ddychwelodd sylwodd fod y pwrs wedi ei symmud, ac wedi ei agor canfu fod yr hanner sofren wedi ei chymmeryd ymaith. Yna cyhuddodd y garchares o'i lladratta, ond gwadai yn bendant, gan ddyweyd ei bod yn barod i gymmeryd ei chwilio. Yn ganlynol cafwyd y dernyn yn ei hesgid. Dywedai y garchares ddarfod iddi gyfar- fod boneddwr, yr hwn a ofynodd iddi ddyfod gydag ef am dio, yr hyn a wnaeth, ac iddo roddi hanner sofren a han- ner coron iddi. Yr oedd ganddi, meddai, bum' swllt yn flaenorol i hyny. Yr oedd gan y boneddwr botelaid o wirod gydag ef, o ba un yr yfodd y garchares mor hel- aeth nes teimlo ei hun yn dra swrth, ac y rhoddodd yr hanner sofren yn ei hesgid. Traddodwyd hi i sefyll ei phrawf yn y brawdlys nesaf.
[No title]
HEB YR UN PEN.—Pan oedd mab i dad hoff yn myned i ryfel, efe a addawodd ddwyn yn ol gydag ef ben un o'r gelynion. Attebodd ei dad ef.—"Byddai yn dda genyf dy weled yn dyfod adref heb yr un. pen, os deui yn ol yn ddiogel."