Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

SYLWADAU 0 FANGOR.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

SYLWADAU 0 FANGOR. 1. Cynffon cath gynd leiriog sydd megys procer; ond diod y doeth ydyw glasdwr. 2. Gan nad pa incr amlwg y bendithion a ddeilliant i gymdeith^s oddiwrth ryddid y wasg, amlyced a hyny yw fod y rhyddid hwnw yn rhy aml yn oaol oymmeryd man- tais arno, yn cael ei drenio er amcanion isel ac annheilwng, a thrwy hyny y mae yr hyn a amcenid yn gyfrwng i agor meddwl ac ymeangu syniadau y lJiaws- sef y wasg,-yn cael ei drawsffurfio yn offeryn difriaeth a chenfigen bersonol. Pell oddiwrthyf fydded y syniad fod y rhyddid hwn yn gondemniadwy. Na, ystyriaf mai y dydd y dattodwyd rhwymau caethiwed ei gwasg, oedd y dydd y gadaw- odd Prydain diriogaeth gwyll y nos, y cefnodd ar anwariaeth a gormes, ac yr anadlodd gyntaf wir anadl einioes. Eithr nis gallwn lai na gofidio yn ddirfawr yu herwydd y fantais a gymmerir ary rhyddid hwnw gan rai, yn enwedig y dyddiau hyn, yn Nghymru, i geisio, megys, ag un ergyd, foddloni eu malais a'u cenfigen, ac hefyd ennill iddynt eu hunain seddau yn nheml anfarwoldeb. Ac nid y lleiaf o'r testynau gofid cyssylltiedig a hyn yw fod y dosbarth hwn o ysgrifenwyr yn derbyn cefnogaeth gan ddosbarth cyfattebol o ddarllenwyr. Rhagflaenaf ddamcaniaethau rhai efallai, pan y dywedaf nad teimlad o falchder clwyfedig sydd yn fy nhueddu i ysgrifenu hyn, ond gwir deimlad o eiddigedd dros ein llenyddiaeth newyddiadurol. Cofier nad wyf yn amcanu yn erbyn ysgrifau o nodwedd ddigrifol (yn wir arfaethaf-ac os da yn ngolwg y golygwyr, dygaf fy mwriad i weithrediad-anturio ychydig yn y cyfeiriad hwnw fy hun); ond y mae genyf wrthwynebiad greddfol i bobpeth o nodwedd ddifriol a bustlaidd. Ymddengys i ddadblygiad newydd o'r cymmeriad awgrymedig gynnyg ei hun i sylw y byd llenyddol ar faes yr Herald yr wythnosau diweddaf hyn, a pha le namyn Bangor yw mangre magwrfa y dadblygiad. Dysguba dawn athrylithgar ac awen befr yr Ulysses hwn bob rhagfur hunanfeddiant a gwedd- eidd-dra a allem fod yn feddianol arnynt, a llamwn mal hyrddod blwydd o weled y fath ymgorphoriad o deithi meddwl a thrig ei breswyl yn yr un ddinas a ni. 0, dduw. iau! Eich nawdd, modd yr ymgynnal- iwyf! 3. Dywedir fod yn mryd E-- C gyhoeddi llyfr yn fuan ar y berthynas rhwng Athroniaeth y drychfeddyliau "a Phwdin Gwaed. 4. A mi yn araf gyfeirio tua phongciau y Garth ar fin hwyr un Sabboth yn ddi- weddar, pan oedd brenin y gwawl yn cusanu min y gorwel yn y gorllewin, a chysgodion nos yn prysur ymlwybro o gelloedd y dwyrain, gan adael caddug du- dew yn eu llwybr, a holl natur megys pe yn ymgrymu mewn myg addoliant-dig- wyddodd i mi anffawd dra hynod. Yr oeddwn o dan yr amgylchiadau manteis- iol hyn, wedi ymgodi ar adenydd fy nghrebwyll a saethu yn wyllt i diriog- aethau estronol o'r byd hwn—allan i'r anfeidredd mawr; ond o ganol y perlewyg hwn, o uchder fy ehediadau, tynwyd fy svlw yn ol at gnawdolrwydd byd gan ddadwrdd aneglur a rhyfedd yn dyfod o gyfeiriad porth cyfagos (yr oeddwn yn nghae Mr Hughes, Porkshop). Prysurais tuag yno; ac erbyn agoshau ychydig, er fy mawr syndod, gwelwn ddynes, fer o gorpholaeth, yn ddewrwych yn ymladd a'r cilbost, tra yn byrlymu rhegfeydd a mell- dithion yn erbyn y gelyn. Yr oedd y cyf- newidiad i mi mor ddisymmwth a hollol fel y bfim am beth amser mewn cyflwr o ddyryswch meddyliol, ond nid yn hir. Mor ystwyth yw meddwl dyn i addasu ei hun at amgylchiadau a gwrthddrychau mor wahanol mewn amser mor fyr. Wedi i'm deall adymorseddu, anturiais tuag atti, er yn grynedig, gyda'r am can ei bar- gyhoeddi o gyfeiliorni ei ffyrdd. Pan y daetbum yn ddigon agos, cyfeichais hi fel hyn Sut rydach chi heno ?" Nid cynt y gwelodd fi nag y rhoddodd ysgrech anuaearol; yna crochlefodd, Rw titha yn un o honyn nhw," a rhuthrodd arnaf fel blaidd; ond meddyliais mai discretion oedd y better part of valour," a chym- merais y goes, a hithau ar fy ol. Yr oeddwn yn gyflymach na hi, a buaswn yn fuan allan o berygl oni buasai am fradwr- iaeth yn y gwersyll. Ymddengys i mi fod fv holl fottymau wedi ymgyngreino a'r gelyn yn fy erbyn, oblegid pan ar fedr cyhoeddi buddugoliaeth, wele yr holl fot- tymau hyny yn cyhoeddi strike, ac yn ys- gar oddiwrthvf. 0! ddyhirod, pe cawswn aiael arnoeh/gwmwn chwi yn dynach nag erioed. Wedi yr anffawd hon, rhoddais fy hun i fyny mewn anobaith, a meddyliais nad oedd dim ond gorchfygiad yn fy aros. Ond penderfynais wneud un ymdrech ychwanegol am ddiogelwch, a cheisiais redeg, ond cefais fod rhedeg o dan y fath amgylchiadau yn haws ei ddyeliymygu na'i weithredu. Erbyn hyn yr oedd y gelyn ar fy ngwarthaf, ac fel pe yn derbyn nertli adnewyddol wrth e u-ycu ar fy nhrueni. Ond trwy rhyw gyfryngiad rhagluniaethol o eiddo y duwiau, pan ar y weithred o estyn ei Haw i afael yuof, daeth troed yr ymlidiwr i gyffYl cld i:;d sydyn a thywarchen, yr hyn barodd i sefyllfaoedd daearyddol ei phen a'i thraed gyfnewid yn hollol, gan i'w thraed gael eu meddiannu ag awydd anorchfygol i gyfarch y ser, a'i phen a'r unrhyw duedd i argyhoeddi pridd y ddaear o'i galedwch. I lawr yr aeth, ac ar lawr yr ymfoddlon- odd. Wedi cyrhaeddyd pen y cae (canys i fyny yr oeddwn yn rhedeg), troais i gael trem ar faes y gwaed ac wrth edrych ar y clwyfedigion, nis gallwn lai na theimlo yn ddwys dros hil syrthiedig Adda. Fe- allai y tybia rhai nad effeithiodd y prof- iadau hyn ar fy nhueddiadau barddonol. Camgymmeriad, gyfaill-hyny yw, dippyn bach. Mae yn bossibl bod dan berthyn- asau mwy manteisiol er tyfiant awen na bod ar ffd o flaen dynes feddw. 5. Pa le y trig doethineb ? a pha le y mae trigfan deall ? Atteb. Yn nghoryn D-- M- 6. Cyfarfyddodd W-- 1\1-- ag an- ffawd drychinebus y dydd o'r blaen— golchwyd ei wyneb gan y gwlaw. Da genym ddeall ei fod yn gwella, a bod go- baith adferiad iddo drachefn. Tystiai ei fam fod y digwyddiad wedi effeithio y fath gyfnewidiad arno fel nas adnabu ef am beth amser. Moes-wers-golched pawb ei wyneb ei hun. 7. A myfi yn tremio ar ddwy gath ffyrnig-wyllt yn egniol gystadlu am lawryf buddugoliaeth, syrthiodd ysbrydoliaeth y duwiau cocosaidd arnaf, a chenais yn y cyhydeddau fel a ganlyn iddynt:— Ymgynddeirioga'r cathod anwar, gwyllt, Mal cedyrn arwyr mewn rhyfelgyrch ffr6oh Rhegfeydd taranllyd a ckableddau tost Mal chwyrn raiadrau ruthrant dros eu mant; Gan faint eu Hid gwreichionawg flamau gwyrdd O'u llygaid saethant megys tanllvd seirph Dwfn blauant eu hewinedd miniawg, llym, Yn nghnawd eu gilydd mewn digllonedd erch. Fe benderfyna'r naill lofrucldio'r llall, A thynu gwarth cachgiaeth ar ei phen Ond ha heddychwyd hwynt gan chwanen goch. U'i! Oian meddai'r iar, a'r mochyn tew, Y brain a'r llygod dd'wedant oil "Amen." 8. Tynu camel trwy grai nodwydd ddur sydd megys dysgu moesgarwch i bobl Kyffin Square; ond coryn het Gwyddel sydd megys dim byd. Y MARCH.

TLODI A DYSGEIDIAETH,

LLITH DAFYDD EPPYNT.